03/07/2021 - 10:30
10.30, dydd Sadwrn, 3 Gorffennaf 2021
Lleoliad i'w gadarnhau
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion, gyda gwahanol gyfrifoldebau, i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn. Mae rhagor o fanylion yma.
Cofiwch fod gan bob un o aelodau'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio) – a byddai'n braf iawn gweld cynifer o aelodau â phosib yno.
Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Ranbarthau fydd cyfarfod mis Gorffennaf ac yn gyfle i glywed am waith y Gymdeithas ar lefel leol.