Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas (Gweinyddol)

04/03/2023 - 10:30

10.30, dydd Sadwrn, 4 Mawrth 2023

Cyfarfod yn Aberystwyth - lleoliad i'w gadarnhau

Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn (darllenwch fwy yma), ond mae gan bob aelod o'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio). 

Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Weinyddol fydd cyfarfod mis Mawrth yn canolbwyntio ar waith gweinyddol, codi arian, aelodaeth, ac ati.

Byddai'n braf gweld cymaint o aelodau â phosib yno.

Noder: 

  • Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.

  • Gall swyddogion y Senedd gynnig lifftiau o nifer o leoedd yn y wlad.

  • Os yw costau trafnidiaeth neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl. Rydym ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi rannu trafnidiaeth gyda swyddogion eraill.     

  • Cysylltwch â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 neu post@cymdeithas.cymru cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.

  • Byddwn yn trefnu cinio syml yn ystod cyfarfodydd sy'n para trwy'r dydd – croesewir cyfraniadau yn ôl gallu'r unigolyn i dalu.