10.30, dydd Sadwrn, 6 Mehefin 2023
Lleoliad i'w gadarnhau
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir yr amryw swyddogion swydd sy'n aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn. Mae rhagor o fanylion yma.
Cofiwch fod gan bob un o aelodau'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio) – a byddai'n braf iawn gweld cynifer o aelodau â phosib yno. Rhowch wybod os ydych yn bwriadu dod (hyn yn bwysig oherwydd trefniadau bwyd).
Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Weinyddol fydd cyfarfod mis Mehefin yn canolbwyntio ar faterion gweinyddol, codi arian, aelodaeth, ac ati.
Cofiwch hefyd:
-
Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.
-
Os yw costau trafnidiaeth neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl. Cysylltwch yn gyntaf cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.
-
Darperir cinio ysgafn mewn cyfarfodydd sy'n para drwy'r dydd.