10.30, dydd Sadwrn, 11 Ionawr 2025
Aberystwyth – lleoliad i'w gadarnhau (rydym yn gobeithio y bydd cyfle i ymuno arlein hefyd)
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn (darllenwch fwy yma), ond mae gan bob aelod o'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio).
Mae'r Senedd bellach yn cyfarfod bob yn ail mis – bydd un cyfarfod yn canolbwyntio ar yr ymgyrchoedd a gwaith y rhanbarthau a'r llall yn canolbwyntio ar yr ymgyrchoedd ac ochr weinyddol gwaith y Gymdeithas (sy'n cynnwys cyfathrebu, codi arian, dysgwyr, materion rhyngwladol, ac ati). Senedd Ymgyrchoedd a Gweinyddol fydd ym mis Ionawr.
Byddai'n braf gweld cymaint o aelodau â phosib yno. Cysylltwch os am fynychu neu os am wybodaeth bellach. Rydym yn gobeithio y bydd y cyfarfod yn un hybrid, ond mae hyn yn dibynnu ar sicrhau lleoliad addas.
Noder hefyd:
-
Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.
-
Gall swyddogion y Gymdeithas gynnig lifft o nifer o leoedd yn y wlad.
-
Os yw costau teithio, bwyd neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl.
-
Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall. Byddwn ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi gael lifft.
-
Darllenwch y Polisi Treuliau ar gyfer Gwirfoddolwyr am fwy o fanylion.