03/12/2022 - 10:30
10.30, dydd Sadwrn, 3 Rhagfyr 2022
Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn (darllenwch fwy yma), ond mae gan bob aelod o'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio).
Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Ymgyrchoedd fydd cyfarfod mis Rhagfyr yn canolbwyntio ar waith y grwpiau ymgyrchu.
Byddai'n braf gweld cymaint o aelodau â phosib yno. Cysylltwch os ydych yn bwriadu dod (hyn yn bwysig oherwydd trefniadau bwyd).