Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas (Gweinyddol)

10/06/2023 - 10:30

10.30, dydd Sadwrn, 10 Mehefin 2023

Cyfarfod dros Zoom

Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir yr amryw swyddogion swydd sy'n aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn. Mae rhagor o fanylion yma.

Cofiwch fod gan bob un o aelodau'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio) – a byddai'n braf iawn gweld cynifer o aelodau â phosib yno.

Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Weinyddol fydd cyfarfod mis Mehefin yn canolbwyntio ar faterion gweinyddol, codi arian, aelodaeth, ac ati.

Ebostiwch os am wybodaeth bellach neu i gael dolen i ymuno â'r cyfarfod.