10.30, dydd Sadwrn, 2 Rhagfyr 2023
Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir yr amryw swyddogion swydd sy'n aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn. Mae rhagor o fanylion yma.
Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Weinyddol fydd y cyfarfod hwn yn canolbwyntio ar faterion gweinyddol, codi arian, aelodaeth, cyfathrebu, ac ati.
Cofiwch fod gan bob un o aelodau'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio) – a byddai'n braf iawn gweld cynifer o aelodau â phosib yno.
Noder hefyd:
-
Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.
-
Gall swyddogion y Gymdeithas gynnig lifft o nifer o leoedd yn y wlad.
-
Os yw costau teithio, bwyd neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl.
-
Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall. Byddwn ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi gael lifft.
-
Darllenwch y Polisi Treuliau ar gyfer Gwirfoddolwyr am fwy o fanylion.
Ebostiwch os am wybodaeth bellach.