Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas (Gweinyddol)

02/12/2023 - 10:30

10.30, dydd Sadwrn, 2 Rhagfyr 2023

Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth

Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir yr amryw swyddogion swydd sy'n aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn. Mae rhagor o fanylion yma.

Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Senedd Weinyddol fydd y cyfarfod hwn yn canolbwyntio ar faterion gweinyddol, codi arian, aelodaeth, cyfathrebu, ac ati.

Cofiwch fod gan bob un o aelodau'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio) – a byddai'n braf iawn gweld cynifer o aelodau â phosib yno.

Noder hefyd:

  • Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.

  • Gall swyddogion y Gymdeithas gynnig lifft o nifer o leoedd yn y wlad.

  • Os yw costau teithio, bwyd neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl.   

  • Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall. Byddwn ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi gael lifft.   

  • Darllenwch y Polisi Treuliau ar gyfer Gwirfoddolwyr am fwy o fanylion.

Ebostiwch os am wybodaeth bellach.