Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas (Ymgyrchoedd a Rhanbarthau)

02/11/2024 - 10:30

10.30, dydd Sadwrn, 2 Tachwedd 2024

Ystafell Leri, Neuadd Rhydypennau, Bow Street (SY24 5BQ) – gyda chyfle i ymuno arlein hefyd)

Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn (darllenwch fwy yma), ond mae gan bob aelod o'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio). 

Mae'r Senedd bellach yn cyfarfod bob yn ail mis - bydd un cyfarfod yn canolbwyntio ar yr ymgyrchoedd a gwaith y rhanbarthau a''r llall yn canolbwyntio ar yr ymgyrchoedd ac ochr weinyddol gwaith y Gymdeithas (sy'n cynnwys cyfathrebu, codi arian, dysgwyr, materion rhyngwladol, ac ati). Senedd Ymgyrchoedd a Rhanbarthau fydd ym mis Tachwedd.

Byddai'n braf gweld cymaint o aelodau â phosib yno - yn enwedig wyneb yn wyneb. Mi fydd y cyfarfod yn un hybrid felly os yw'n gwbl amhosib i chi fynychu mewn person, mae croeso i chi fynychu arlein. Cysylltwch os am ddolen i fynychu neu os am wybodaeth bellach.

Noder hefyd:

  • Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.

  • Gall swyddogion y Gymdeithas gynnig lifft o nifer o leoedd yn y wlad.

  • Os yw costau teithio, bwyd neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl.

  • Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall. Byddwn ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi gael lifft.  

  • Darllenwch y Polisi Treuliau ar gyfer Gwirfoddolwyr am fwy o fanylion.