06/08/2022 - 14:00
Fel rhan o'r gweithgareddau i ddathlu 60 mlynedd o fodolaeth Cymdeithas yr Iaith, cynhelir sesiwn arbennig i siaradwyr Cymraeg newydd ar Faes D, Eisteddfod Ceredigion 2022 ar ddydd Sadwrn, 6 Awst.
Sesiwn rhyngweithiol fydd hwn, rhwng 2.00 a 2.40, i gyflwyno hanes y Gymdeithas a chyfle i holi'r Cadeirydd, Mabli Siriol.