21/01/2017 - 14:00
2yp, dydd Sadwrn, 21ain Ionawr 2017
Pontio, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor LL57 2TQ
Sianel Pedwar Pwy? Datganolwn Ddarlledu - Lansiad
Mae Llywodraeth Prydain yn cynnal adolygiad o S4C yn 2017. Dewch i leisio barn am yr ymgyrch i ddatganoli darlledu a beth fydd rôl S4C fel darlledwr datganoledig.
A ddylai Awdurdod S4C droi yn “Gorfforaeth Darlledu” cyffredinol i Gymru? A ddylai fod yn gyfrifol am ddarlledu ym mhob iaith? Ac ar bob platfform? A ddylai S4C neu gorff arall fod yn gyfrifol am ail a thrydedd sianel deledu a gorsafoedd radio Cymraeg?
Croeso i bawb, cofrestrwch yn rhad ac am ddim ar gyfer y digwyddiad Hacio'r Iaith yma: https://tocyn.cymru/cy/event/2d429cdb-8401-4bc5-9c00-ba4b84c8709f