Taith Gerdded Tyddewi i Dydrath i ymuno â Rali Sir Benfro: Nid yw Cymru ar Werth
Mae criw o Sir Benfro yn cerdded ar hyd llwybr yr arfordir yn ystod y dyddiau cyn Rali Nid yw Cymru ar Werth Sir Benfro (23 Hydref). Mae croeso cynnes i chi ymuno gyda ni am ran, neu’r holl, daith ond mae’n llwybr anodd llafurus – gall y trac (ffyrdd gwledig a llwybrau arfordir) fod yn serth, yn arw ac yn anwastad.
Taith 3 diwrnod
- 21/10/21: Tyddewi i Drefin (tua 23km): dechrau wrth y Groes Celtaidd, sgwâr Tyddewi am 10:00
- 22/10/21: Trefin i Wdig (tua 18km): dechrau yng nghanol Trefin am 10:00
- 23/10/21: Abergwaun i Drefdraeth (tua 16km): dechrau sgwâr Abergwaun am 08:00 i gyrraedd y rali erbyn 1yh
Ar hyn o bryd mae 4 llety ar gael yn Nhrefin am £25 y noson, gan gynnwys brecwast. Bydd angen i chi archebu a thalu trwy Ailinor (manylion isod).
Dewch â'ch lluniaeth eich hun, dillad ac esgidiau addas a pheidiwch ag ymuno os nad ydych yn ddigon ffit neu'n dangos unrhyw symptomau Cofid.
Chi sy'n gyfrifol am eich iechyd a diogelwch eich hunain ar y daith.
Mwy o wybodaeth: ailinor@hotmail.com / 07807 836572 / 01239 621190