PRIFDDINAS BLE? Y GYMRAEG A CHYNLLUNIO YNG NGHAERDYDD
Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DG, a'r
Cyngor wedi datgan ei fwriad i ddatblygu'r ddinas ymhellach.
Ond pa le sydd i'r Gymraeg a chymunedau'r ddinas yn y cynlluniau hyn?
Sut gallwn ymwrthod â boneddigeiddio? Ydy rhagor o swyddfeydd a
fflatiau drud, di-enaid yn mynd i gyfrannu at ffyniant diwylliannau
lleol hyfyw Cymreig a Chymraeg? A pha risg sydd i Gaerdydd efelychu
Llundain, trwy dynnu'r holl fuddsoddiad a phobl ifanc i'r brifddinas?
Dewch i drafod sut gallwn greu prifddinas gall Cymru oll fod yn falch
ohoni.
Cadeirydd : Mabli Jones
Siaradwyr:
Dylan Foster Evans
Tamsin Davies
Cynghorydd Phil Bale
Ani Saunders
Cynhelir y drafodaeth yn y babell 'Byw yn y ddinas' am 11:30yb, fore dydd Sul, 1 o Orffennaf
https://www.facebook.com/events/653362911685379/?notif_t=event_calendar_create¬if_id=1529422175778837