Trwy ddulliau chwyldro…? Hanner can mlynedd o ymgyrchu iaith - cynhadledd

16/11/2012 - 09:00

Trwy ddulliau Chwyldro...? Hanner can mlynedd o ymgyrchu iaith

Dyma gynhadledd a fydd yn cynnig cyfle i gloriannu’n feirniadol effaith a dylanwad yr ymgyrchu a welwyd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg dros yr hanner canrif diwethaf ar fywyd gwleidyddol a diwylliannol Cymru. Fe’i trefnir ar y cyd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth.

Dyddiad: 16-17 Tachwedd

Lleoliad: Neuadd Reichel, Safle Ffriddoedd, Prifysgol Bangor

Yn ogystal â dwy brif ddarlith gan Yr Athro Jane Aaron a Ned Thomas, bydd paneli a phapurau byr yn trafod y pynciau isod:
• Astudiaethau sy’n cloriannu agweddau ar ymgyrch yr iaith

• Ymgyrch yr iaith mewn cyd-destun cymharol

• Dylanwad neu ymateb i ymgyrchoedd yr iaith mewn gweithgarwch diwylliannol 
• Ymgyrch yr iaith a chwestiynau cyfoes

Papurau/Cyfraniadau gan: Yr Athro Gerwyn Wiliams, Dr Einir Young, Yr Athro Tudur Hallam, Elin Haf Gruffydd Jones, Dr Elin Royles, Dr Gwenllian Lansdown, Dr Elain Price, Dr Craig Owen Jones, Menna Machreth, Rowan O'Neill, Enrique Uribe Jongbloed, Sel Williams, Dr Huw Lewis, Dr Angharad Price, Rhodri ap Dyfrig, Steve Eaves, Dr Rhys Llwyd.

Cliciwch yma am raglen lawn y gynhadledd.

Cofrestru

Ni chodir tal am fynychu’r gynhadledd. Fodd bynnag, gofynnir i’r sawl sy’n dymuno mynychu i gofrestru o flaen llaw.

Er mwyn cofrestru dylid e-bostio cynhadledd50@gmail.com, gan nodi 'r canlynol:
• eich enw;
• eich sefydliad (os yn berthnasol);
• y dyddiau y byddwch yn mynychu'r gynhadledd (16/17 Tachwedd);
• a ydych yn dymuno archebu cinio, ac os felly ar gyfer pa ddyddiau (codir £10 y pen am ginio a bydd angen talu wrth gyrraedd y gynhadledd).

Trefnir gan: Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor: bangor.ac.uk/ysgolygymraeg/ a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth: sgc.iwp@aber.ac.uk  
Dymuna trefnwyr y gynhadledd gydnabod y gefnogaeth ariannol hael a dderbyniwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol trwy gyfrwng ei Chronfa Grantiau Bach.