Fforwm Cyhoeddus Tynged yr Iaith – Dyfodol ein Cymunedau Gwledig Cymraeg

27/09/2025 - 10:00

Fforwm Cyhoeddus Tynged yr Iaith yn Sir Gâr 2025  Dyfodol ein Cymunedau Gwledig Cymraeg

10.00-12.30, dydd Sadwrn, 27 Medi

Llyfrgell Caerfyrddin (9 Stryd Sant Pedr, Caerfyrddin SA31 1LN)

Yn ystod yn degawd diwethaf, mae strategaethau datblygu economaidd wedi canolbwyntio ar ardaloedd trefol poblog – yn genedlaethol ac yn rhanbarthol. Yn Sir Gaerfyrddin, canolbwynt y sylw fu trefi Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman, a hyd yn oed wrth gyflwyno Cynlluniau’r Ddeg Tref Farchnad, bu canolbwyntio ar ganol y trefi hyn yn hytrach na’r cysylltedd rhyngddynt a’r ardaloedd gwledig o’u cwmpas. 

Mae gwasanaethau ein cymunedau gwledig yn diflannu yn gynyddol, ac allfudiad pobl ifainc o ddiffyg cyfleon gwaith, cartrefi fforddiadwy, gwasanaethau a chyfleon hamdden, na hyd yn oed ddulliau o deithio i fanteisio ar gyfleusterau yn y trefi yn cyfrannu at hynny. Ar ben hyn y mae bygythiadau i amaethwyr wrth i dir gael ei glustnodi at beilonau a dibenion eraill o fudd i gorfforaethau preifat.

Dydy hi ddim yn amlwg bod unrhyw strategaethau’n bodoli i ddiogelu ac adfywio ein cymunedau gwledig heblaw am gynlluniau cyffredinol iawn nad ydynt yn gysylltiedig â datblygiadau ymarferol ac nad ydynt yn denu llawer o fuddsoddiad cyhoeddus.

Yn fforwm Dyfodol ein Cymunedau Gwledig Cymraeg, bydd Wynfford James yn amlinellu achos Cymdeithas yr Iaith ac yn holi pa bolisïau a rhaglenni sydd angen eu rhoi mewn lle yn y dyfodol.
Bydd cyflwyniadau a chyfle i holi:

  • Cyng Darren Price – Arweinydd Cyngor Sir Gâr
  • Cyng Carys Jones – Deiliad Portffolio Materion Gwledig y Cyngor Sir
  • Cyng Linda Evans – Deiliad portffolio Tai y Cyngor Sir
  • Chris Newcombe – Swyddog Polisi Iaith y Cyngor Sir

Bydd hefyd gyfle i bawb leisio barn mewn tri chylch trafod. Bydd y stafell yn agored am de a choffi o 9.30 ymlaen. 

Am ragor o wybodaeth neu i gadarnhau eich presenoldeb cysylltwch â bethan@cymdeithas.cymru