Tynged yr Iaith Sir Gâr: Iechyd a Gofal yn Gymraeg

29/04/2017 - 10:00

Bydd Iola Wyn yn agor cyfarfod agored i drafod gwasanethau iechyd Cymraeg.
Bydd Dr Llinos Roberts yn cadeirio, Manon Elin o Gymdeithas yr Iaith ac Enfys williams o Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn siarad.

Grwpiau trafod ar bynciau amrywiol fydd prif ran y cyfarfod. Bydd yr Aelod Cynulliad Dr Dai Lloyd, y Seicotherapydd Dr Dilys Davies ac Awen Iorwerth o ysgol feddygol Caerdydd yn arwain y grwpiau.

Byddwn ni'n casglu gwybodaeth am brofiadau pobl o flaen llaw ac yn ystod y cyfarfod gyda'r bwriad o weld beth all gael ei wneud i Gymreigio'r gwasanaeth.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch - bethan@cymdeithas.cymru