Yr Hawl i Siarad Cymraeg - Stondin Stryd Pwllheli

26/10/2019 - 11:30

11:30yb, dydd Sadwrn, 26ain Hydref

Y Stryd Fawr, Pwllheli

Rydym yn cynnal stondin stryd ym Mhwllheli ddydd Sadwrn yma i godi ymwybyddiaeth pobl am eu hawliau cyfreithiol i siarad Cymraeg ym mhob agwedd o fywyd, gan gynnwys yn y gweithle.

Rydym wedi derbyn nifer o gwynion gan weithwyr eleni yn cael eu gwahardd rhag siarad Cymraeg, yn enwedig yng Ngwynedd. Nid yw pawb yn gwybod fod hyn yn anghyfreithlon.

Ar ôl yr holl helynt diweddar yn y 'Factory Shop' ym Mhwllheli, rydym wedi penderfynu cynnal y stondin ar y Stryd Fawr yn y dref.

Byddwn yn cyfarfod yno am 11:30yb i ddosbarthu taflenni er mwyn codi ymwybyddiaeth pobl am eu hawliau i siarad Cymraeg.