60 mlynedd o ymgyrchu - Beth sydd wedi newid?

Yn gynharach eleni gwrthododd Toni Schiavone dalu dirwy barcio a gafodd mewn maes parcio yn Llangrannog am fod y ddirwy a'r holl ohebiaeth ddilynol yn uniaith Saesneg. Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y maes parcio hwnnw bellach yn erlyn Arwyn Groe trwy gwmni hawlio dyledion am yr un rheswm.

Dywedodd Tamsin Davies, is-gadeirydd cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'n amlwg nad oes tamaid o barch na diddordeb gan berchennog y maes parcio na'r cwmni dirwyon i'r Gymraeg. Mae un ymgyrchydd wedi bod i'r llys wedi iddo wrthod talu dirwy uniaith Saesneg, a'r cwmni wedi penderfynu peidio gwrando.
"Does dim rheidrwydd i gwmnïau preifat fel hyn i gynnig unrhyw ddarpariaeth Gymraeg felly dydyn nhw ddim. Mae archfarchnadoedd a banciau wedi dweud wrthon ni droeon yn y gorffennol na fyddan nhw'n cynnig gwasanaethau Cymraeg nes bod rheidrwydd arnyn nhw i wneud. Mae'r ateb yn amlwg felly - mae angen ehangu'r Mesur Iaith i gynnwys cwmnïau preifat. Ac mae'n hen bryd gwneud. Mae dros ddeng mlynedd ers creu Mesur y Gymraeg erbyn hyn."

Mae dirwy Arwyn Groe wedi ei throsglwyddo i gwmni hawlio dyled a'r cwmni hwnnw bellach yn bygwth galw yn ei gartref teuluol.

Dywedodd Arwyn Groe, sydd wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd dros addysg Gymraeg ym Mhowys:

"Yn yr achos yma'n benodol, mae'n amlwg nad ydi'r cwmni dan sylw wedi dysgu o safiad Tony Schiavone, ac yn parhau i ddangos diffyg parch i bobl Cymru er y dyle' nhw erbyn hyn fod yn gwybod yn well. Does ganddyn nhw bellach ddim yr esgus o allu cuddio tu ôl i len o anwybodaeth am y sefyllfa.
"O'm rhan i, mi fydde ildio i'w gofynion a'u bygythiade uniaith Saesneg yn dangos diffyg parch i safiad cynharach Toni, ac yn gyrru neges i'r cwmni ein bod ni fel Cymry yn barod i gydymffurfio a derbyn eu haerllugrwydd imperialaidd yn llawen. Dydw i ddim yn barod i 'neud hynny."

Wrth i Gymdeithas yr Iaith dathlu chwedeg mlwyddiant eleni, mae Tamsin Davies wedi gofyn beth sydd wedi newid ers sefydlu'r mudiad:
"Rydyn ni'n dathlu nifer o lwyddiannau a ddaeth trwy ymgyrchu dros y degawdau wrth gwrs, ond mae achosion fel hyn yn atgoffa rhywun o frwydr y Beasleys, a wrthododd dalu treth y cyngor a chael eu herlyn gan y beilïaid, ac yn ein hatgoffa ein bod ni'n dal i orfod brwydro dros bethau a ddylai fod wedi eu hen ennill. Felly mae brwydr y Gymraeg ymhell o fod ar ben."