Ad-drefnu ffiniau etholaethol Seneddol - ymateb

Annwyl Syr/Madam
 
Cred Cymdeithas yr Iaith fod y cynlluniau presennol i ad-drefnu ffiniau etholaethol seneddol yn gam a fydd yn tanseilio democratiaeth i Gymru. Credwn fod y penderfyniadau gorau yn cael eu gwneud pan fo grym yn agosach i'n cymunedau. Byddai'r adrefniant fel y mae'n cael ei chynnig yn rhoi llawer llai o lais i Gymru, ac yn sgil hynny, llai o lais i'r Gymraeg.

Mae llai o rymoedd gan Lywodraeth Cymru o gymharu â llywodraethau'r gwledydd datganoledig eraill o fewn y DG. Byddai crebachu'r nifer o etholaethau yn ychwanegu i'r diffyg democratiaeth a llais sydd i Gymru sydd eisoes yn bodoli.

Ofnwn y byddai toriad dramatig o 40 Aelod Seneddol i 29 aelod yn tanseilio ymdeimlad o gymunedau lleol, daearyddiaeth ac awdurdodau, gan godi gryn gymhlethdod. Nid ydym yn cytuno mai dyma yw'r ffordd orau i gynrychioli pobl Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae'r argymhellion hefyd yn gweld cynrychiolaeth etholaethau hanesyddol balch megis Maldwyn a Môn, a fodolai ers y 16eg Ganrif yn dod i ben. Rydym yn gwrthwynebu ffiniau etholaethol sy'n torri ar draws ffiniau ieithyddol naturiol. Yn benodol, gwrthwynebwn greu etholaeth Gogledd Clwyd a Gwynedd ac ymestyn etholaeth Ceredigion mor bell i Ddwyrain Powys gan eu bod yn torri ar draws ffiniau ieithyddol naturiol ac yn grwpio cymunedau Cymraeg naturiol gyda chymunedau lle mae'r Gymraeg yn cael ei ddefnyddio'n llai aml. Credwn felly y byddai'r ffiniau arfaethedig yn yr achos penodol yma yn cael effaith ieithyddol negyddol, gan wanhau llais cymunedau Cymraeg a newid etholaethau o fod yn rhai lle yr oedd mwyafrif yn siarad Cymraeg i rai lle mae siaradwyr Cymraeg yn lleiafrif.

Galwn ar Lywodraeth San Steffan i wrthod y cynlluniau presennol a datganoli mwy o rymoedd i Gymru er mwyn diogelu'r Gymraeg a chymunedau Cymru.  Os gorfodir y cynlluniau presennol ar Gymru, galwn ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli grymoedd yn llawnach i Gymru fel y gall penderfyniadau gael eu gwneud yn nes at y bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau hyn. Pwysleisiwn yn yr achos hwn hefyd y dylid gweithio er mwyn sicrhau i'r newid ffiniau barchu ffiniau awdurdodau lleol, cymunedau Cymraeg eu hiaith naturiol, a daearyddiaeth yn y modd mwyaf effeithiol a synhwyrol phosib.

Nodwn hefyd y byddai newid ffiniau etholaethol yn gyfle euraidd i fabwysiadu enw Cymraeg fel prif enw ar gyfer yr holl etholaethau yng Nghymru, nid yn unig y 5 (sef Ynys Môn ac Arfon, Gogledd Clwyd a Gwynedd, De Clwyd a Gogledd Sir Faldwyn, Caerfyrddin, Ceredigion a Gogledd Sir Benfro) a chaiff eu rhestru yn adroddiad cychwynnol y Comisiwn Ffiniau.

Yn gywir,

Tamsin Davies

Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymraeg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg