AT Y CYNG R.MEIRION JONES AC AELODAU PWYLLGOR GWAITH CYNGOR YNYS MÔN
Copi - Rhun ap Iorwerth AC Ynys Môn
Annwyl Gyfeillion
Ysgrifennaf, ar ran Grwp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith, o flaen y cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith Ddydd Llun nesaf (30/4) pryd y bydd argymhelliad swyddogion o'ch blaen chi naill ai i gau Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir a sefydlu ysgol newydd yn eu lle a allai hefyd fod â safle yn Ysgol bresennol Henblas , neu i gau'r 3 ysgol a rhoi un ysgol yn eu lle. Hefyd o'ch blaen y bydd y cynnig wedi ei wella gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i ohirio penderfyniad ar y mater hwn hyd nes cyhoeddi'r canllawiau newydd gan Lywodraeth ganolog yn yr hydref, ac mae'r canllawiau hyn yn debyg o gynnwys rhagdyb o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor. Ynghlwm wrth y canllawiau newydd y mae rhestr drafft o "ysgolion gwledig" - Bodffordd a Henblas yw rhifau 1 ac 8 ar y rhestr o 200+ o ysgolion trwy Gymru !
Fel Cymdeithas, gofynnwn i chi gefnogi gwelliant y Pwyllgor Sgriwtini - a gytunwyd wedi trafodaeth hir - a defnyddio'r ychydig fisoedd nesaf i geisio cytundeb gyda'r grwpiau brwd o rieni a chymunedau yn Llangristiolus, Bodffordd, Talwrn a Llangefni i geisio cytundeb am y ffordd ymlaen. Yn y nodion hyn, fe geisiwn eich argyhoeddi'n gryno mai chwithig iawn fyddai i chi benderfynu cau ysgolion ar y rhestr ychydig fisoedd cyn i ganllawiau newydd ddod i rym a allent eu hachub. Ceisiwn eich gohirio nad oes dim i'w golli o aros i weld y cyd-destun newydd a phopeth i'w ennill o ran dod at gasgliad teg am dynged ysgolion sy wedi gwasanaethu eu cymunedau Cymraeg mor hir.
Yr ydym yn siomedig, wedi cynnig rhai miloedd o eiriau mewn ymateb i'r ymgynghoriad, fod y swyddogion wedi penderfynu adrodd ond 4 brawddeg gwta o'n safbwynt wrthych, ac wedi gadael nifer o'n cwestiynau a'n hargymhellion heb eu hateb. Er enghraifft, dywedwyd wrthych nad oes dim o'r ymatebion wedi cyfeirio at yr angen i godi safonau addysgol yn yr ysgolion. O dan adran (4) ar dudalen cyntaf ein hymateb, yr ymdriniwn â'r mater hwn gan gasglu "O ran profiadau ac adnoddau addysgol, does dim byd y gellid ei gyflawni mewn ysgol ganolog na ellid ei gyflawni trwy lywodraethu'r ysgolion fel ffederasiwn mewn uned addysgol gref". Mewn adrannau eraill yr ydym wedi manylu ar y gwahanol fodelau posibl o ffederasiynau neu ysgolion aml-safle. Nid oes cyfeiriad at, nac ymatebion i, y pwyntiau hyn yn adroddiad y swyddogion. Atodwn ein hymateb llawn.
Crynhown yma y rhesymau dros ohirio penderfyniad nes cyhoeddi'r canllawiau newydd -
(1) Byrbwyll iawn fyddai penderfynu ar dynged yr ysgolion hyn ac yngroes i benderfyniad mewn cyfarfod blaenorol am dynged ysgolion eraill. Gellid gweld penderfyniad fel hwn, ychydig wythnosau cyn cyhoeddiad y Gweinidog, yn ymgais i danseilio ei chyfeiriad strategol newydd hi ac mae angen cydweithrediad llywodraeth ganolog wrth symud ymlaen.
(2) Ni ellid derbyn fod y Cyngor yn dilyn prosesau cywir wrth dderbyn argymhellion swyddogion yn yr achos hwn. Dylai unrhyw gynnig newydd fynd at ymgynghoriad anffurfiol yn gyntaf cyn mynd at ymgynghoriad statudol, ac mae un o'r ddau opsiwn o'ch blaen chi (ysgol aml-safle) yn opsiwn nad ymddangosodd yn unman mewn ymgynghoriad anffurfiol nac yn nogfen yr ymgynghoriad statudol. Nid yw'n dderbyniol ceisio "tynnu cwningod o'r het" yng ngham olaf y broses o benderfynu ar dynged ysgol a chymuned heb fod rhieni a phobl leol wedi cael cyfle i fynegi barn ar yr opsiwn.
(3) Mae hyd yn oed y côd trefniadaeth presennol yn mynnu fod chwilio pob opsiwn arall cyn bod cynnig cau ysgol. Yn y gorffennol, ymarferiad "ticflwch" fu hwn, ond bydd y côd newydd yn sefydlu rhagdyb O BLAID cadw ysgolion gwledig a rhaid felly fyddai sefydlu achos eithriadol dros eu cau ac asesu'n llawn yr opsiynau amgen. Er enghraiff, yn ein tystiolaeth fe gynigion ni fodle cyffrous o "Ffederasiwn Cefni" a fyddai'n golygu llywodraethu'r ysgol uwchradd, ysgol(ion) cynradd tre Llangefni, ac ysgolion Bodffordd, Henblas a Thalwrn fel un uned addysgol gref - gan rannu adnoddau addysgol a dynol, rhesymoli gweinyddu ar y cyd, osgoi dyblygu adnoddau, hybu datblygiad o'r cynradd i'r uwchradd etc. O ran sefydlu trefn gyffrous o'r fath (sy'n ticio holl flychau'r llywodraeth), byddai tebygolrwydd mawr i lwyddiant cais am gyllid o'r gronfa arbennig a sefydlwyd gan y llywodraeth i hybu cydweithio a chreu ffederasiynau gan y byddai hwn yn gynllun peilot. Nid gofyn i chi dderbyn yr wythnos nesaf model fel hwn ydyn ni, ond cyfeirio ato fel model nas cafwyd unrhyw ystyriaeth o gwbl yn yr ymgynghoriad.
(4) Mae gan y Cyngor amcan gorfforaethol o hybu'r iaith a chymunedau Cymraeg. Mae tynnu gwasanaeth sylfaenol fel ysgol o rai o'n cymunedau Cymreiciaf yn ei gwneud yn anochel y bydd llai o deuluoedd ifainc lleol yn ymgartefu ynddynt yn y dyfodol ac y byddant yn dirywio.
(5) Yn olaf, A GAWN NI DRIN Y MATER SYDD TU ÔL I'R BRYS AM GAEL PENDERFYNIAD I GAU YSGOLION. Mynegwyd pryder gan swyddogion y byddai Cyngor Ynys Môn yn colli cyllid potensial i adeiladu ysgol newydd petai unrhyw ohirio, ac na byddai swyddogion y Cynulliad sy'n dosbarthu Cronfa Ysgolion y 21g yn debyg o roi cyllid ar gyfer ysgol newydd oni chynhwyswyd strategaeth "ad-drefnu", sef euphemism am gau ysgolion. Yn sicr, dyna OEDD yr arwydd a ddanfonwyd gan swyddogion addysg y llywodraeth yn y gorffennol, a dyna fu'n gyfrifol yng Ngwynedd am gau ysgolion cynradd fel Y Parc, Carmel a'r Fron (er bod y Cyngor ar y pryd yn hapus o ran yr addysg ynyr ysgolion hyn. OND bydd y rhagdyb newydd o blaid cadw ysgolion gwledig yn newid yr aferion cyllido at y dyfodol. Yr ydym wedi pwyntio allan i'r Gweinidog Addysg fod un set o'i swyddogion yn ymarferol yn defnyddio'u rheolaeth ar gyllid Ysgolion 21g i gau ysgolion gwledig tra bo set arall o'i swyddogion yn gweithio ar fanylion y canllawiau newydd i'w hachub. Ni bydd yn bosibl i swyddogion y llywodraeth fynnu hyn yn y dyfodol, ac yr wyf wedi copio yr AC lleol Rhun ap Iorwerth fel y gall ymyrryd i osgoi rhagfarnu ymarferol yn erbyn ysgolion gwledig fel hyn gan rai o swyddogion y Cynulliad. Yr ydym yn derbyn eich bod chwi wedi sefydlu achos fod angen adeilad newydd mwy o faint ar gyfer disgyblion tre Llangefni. Awgrymwn y dylid gwneud cais am gyllid am adeilad felly gyda'r bwriad y bydd yr ysgol mewn ffurf ar ffederasiwn (i'w benderfynu) gydag ysgolion eraill yr ardal. Anodd iawn fyddai i'r llywodraeth wrthod cais o'r fath heb wneud eu holl ganllawiau newydd yn destun gwawd cyn cychwyn.
Ased prin yw cefnogaeth frwd rhieni a chymunedau lleol i addysg y plant, a gofynnwn i chi ddefnyddio'r amser tan yr hydref yn trafod yn gadarnhaol gyda'r bobl hyn sydd wedi ymgyrchu mor galed, yn hytrach na'u siomi a chreu ansefydlogrwydd eto trwy fynd yn ôl ar argymhelliad y Pwyllgor Sgriwtini. Dyma'r agwedd cadarnhaol newydd a ddisgwylir gan y weinyddiaeth gyharol newydd yn Ynys Môn. Gofynnwn i chi roi arweiniad yn y mater hwn yn hytrach na dilyn yn gaeth arferion y gorffennol.
Gan ddymuno bendith a rhwydd hynt i'ch trafodaethau
Ffred Ffransis
ar ran Grwp Ymgyrch Addysg, Cymdeithas yr Iaith