Addysg: Addysg Berthnasol - Cwricwlwm Cyflawn i Gymru.

 

Bydd y mwyafrif o Addysgwyr yn ystyried ein galwad am ailolwg ar ein system addysg gyda'r un brwdfrydedd a dilynwyr peldroed Cymru yn mynd i Bortiwgal os na fyddwn drwodd o'r gemau ail-gyfle i Euro 2004! Boddwyd addysg yng Nghymru o dan lif o ddiwygiadau ers degawd a hanner.

Eto, dadleuwn ni i'r diwygiadau hyn gael eu cyfyngu i ystyried strwythur a dulliau asesu. Haerwn fod y dydd wedi dod yn y cyfnod cyffrous hwn yn hanes Cymru i ofyn cwestiynau sylfaenol ynglyn ’ holl bwrpas a nod yr addysg, i ofyn ar gyfer pwy y'i bwriadwyd ac os ydyw'n paratoi yn ddigonol ein pobl ifanc ar gyfer bywyd yng Nghymru. Wedi setlo'r cwestiynau sylfaenol, gallwn ystyried yn haws pa strwythurau a pha fath o gwricwlwm fydd fwyaf tebygol o gyrraedd y nod y cytunwyd arno.

Dyma rai cwestiynau sylfaenol na fu'n ganolog yn y gorffennol i'r ymyrraeth yn y system addysg :-

  • Pam fod y cwricwlwm ysgol sylfaenol mor debyg yn ei hanfod i'r hyn ydoedd ganrif yn Ùl?
  • A yw cwricwlwm sydd wediíi drymlwytho gyda gormod o wybodaeth yn rwystr i ddatblygu rhai sgiliau allweddol?
  • A roddwyd yr un ystyriaeth i'r dull o gyflwyno cwricwlwm ag i'w gynnwys?
  • Beth yw'r rhesymeg y tu Ùl i'r rhaniad rhwng oed cynradd ag uwchradd?
  • Pam fod yn rhaid cyflwyno addysg bron yn llwyr y tu mewn i furiau sefydliadau, ac a yw hyn yn symboleiddio'r gagendor rhwng ysgolion/colegau a chymdeithas?
  • Pa fewnbwn sydd gan ddisgyblion a myfyrwyr wrth ffurfio polisiau addysgiadol, a pha mor ryngweithiol yw addysg?
  • Pa fath o lefydd ddylai'n colegau a'n hysgoion fod?
  • Pam fod mathau arbennig o ddeallusrwydd (yn y Celfyddydau a'r Gwyddorau traddodiadol) yn cael ffafriaeth dros eraill (fel y'u hamlygir mewn chwaraeon, celf a sgiliau gweithio)?
  • Oes rhaid i addysg gael ei gyfyngu i unigolion yn hytrach nag ar gyfer cymunedau, a beth a olygir gan Cymunedau Dysgu?
  • Gallwn fod yn sicr o un peth - a barnu oddi wrth dystiolaeth gan ddisgyblion a chan y Comisiwn Etholiadol - sef bod y system bresennol yn methu a pharatoi ein pobl ifanc ar gyfer realiti bywyd yn ein cymunedau. Mae'n bendant yn system sy'n methu.

Mae ein traddodiad ein hunain yn ein caethiwo yma yng Nghymru. Ystyriwyd addysg mewn llawer i ardal ddi-freintiedig fel y cyfrwng i alluogi eu plant i ddianc o'r gymuned yn hytrach nac yn fodd i'w cymhwyso i adeiladu dyfodol i'r gymuned honno. Roedd y ffaith fod y cwricwlwm a than yn ddiweddar hefyd y cyfrwng, yn estron i realiti eu bywyd bob dydd yn cadarnhau y gred hon.

Hwyrach mai'r enghraifft fwyaf trawiadol o'r modd yr ysgarwyd ein system addysg oddiwrth realaeth - a'i gydnabod felly - yw'r cysylltiadau negyddol sydd i'r gair "academig". Os canfyddir fod rhywbeth o ddiddordeb academaidd yn unig, fe'i ystyrir fel rhywbeth amherthnasol i'r byd real. Dadleuwn ni mai ein gwaith yng Nghymru fydd creu System Addysg fydd yn paratoi ein pobl ar gyfer her bywyd.

Cynhwyswn yn ein Atodiadau nifer o'n dogfennau poisi dros y blynyddoedd sy'n amlinellu ein cynigion. Byddaf yn trin yma yr egwyddorion cyffredinol yn unig a pham ein bod o'r farn fod dydd y cysyniad yma wedi cyrraedd.

Mae cysyniad Addysg Berthnasol yn cynnwys nid yn unig y cwricwlwm cyflawn, ond hefyd y dull o addysgu ac asesu a hefyd natur y strwythurau. Canolbwyntiwn heddi ar y cwricwlwm ei hunan a dull ei gyflwyno. Rhaid ystyried y ddeubeth gyda'i gilydd. Os nad ystyrrir ei bwrpas a dull ei gyflwyno, fe fydd y cwricwlwm yn dwmpath di-fywyd o wybodaeth heb unrhyw berthnasedd neilltuol.

Mae'r cysyniad o'r Cwricwlwm Cyflawn i Gymru yn llorweddol ac unionsyth ar yr un pryd. Dylai fod yn ddigon eang i gynnwys yr holl feysydd astudio sy'n hanfodol ar gyfer deall natur bywyd yn ein cymunedau. Dylai hefyd gynnwys yr elfen o barh’d gyda'r rhesymeg yn llifo o'r cyfnod Cychwynol drwyddo i'r pellach, uwch ac addysg oedolion. Er na ddiffinir y Cwricwlwm Cenedlaethol yn y cyswllt hwn, does dim rheswm pam na all ein Cynulliad Cenedlaethol ehangu ei orwelion i sicrhau nodau cyson ym mhob maes addysgol sydd o dan ei ddylanwad.

Ni ddylem isfarnu'r rhwystredigaeth a deimlir gan nifer o bobl ifanc gyda'r cwricwlwm, sydd fel petae am eu cadw mewn anwybodaeth ynglyn ’'r prosesau cyhoeddus hollbwysig sy'n effeithio ar fywyd eu cymunedau, prosesau y gallen nhw fod yn rhan ohonynt petae ganddynt y wybodaeth berthnasol.

Carem bwysleisio, serch hynny, nad proses wleidyddol i wella cyfranogi mewn democratiaeth mo hwn yn unig, ond ymarfer addysgiadol gwerthfawr yn ei rinwedd ei hun. Ni ddylem danbrisio y gwerth addysgiadol o wneud hanes, daearyddiaeth, llenyddiaeth, economeg a gwyddoniaeth yn berthnasol i union amgylchedd a phrofiad y disgybl. Wrth ddangos y perthnasedd i brofiad y disgybl, gellir yn haws meithrin y sgiliau megis casglu a dadansoddi gwybodaeth, gwerthuso, gwneud penderfyniadau a gwaith tim. Yn fwy na dim, mae'r disgybl yn dysgu sut i addasu'r wybodaeth aír sgiliau a ddysgir at sefyllfaoedd bywyd go-iawn.

Dylai'r awydd i gymhwyso ein pobl gyda'r wybodaeth a'r sgiliau ar gyfer cyfranogi ym mywyd cyhoeddus a'r broses ddemocrataidd ein huno ni i gyd, beth bynnag yw ein man cychwynnol a beth bynnag yw ein dyheadau unigol. Yng Nghymdeithas yr Iaith, dysgwyd y gwersi hyn i ni gan brofiad ein hymgyrchoedd. Rydym wedi gweld sut y mae'r prosesau cynllunio yn cael effaith ar hyfywedd y cymunedau Cymraeg ac eto nid yw'n pobl yn deall fawr ddim am sut y gallant gyfranogi yn y prosesau hyn. Rydym wedi gweld sut y mae natur dameidiog y ddarpariaeth addysg a'r cyllido addysg wedi rhwystro datblygu ysgolion pentrefol yn asedau gwerthfawr i adfywio cymunedau eu pentrefi. Yn bennaf oll, gwelsom nad oedd creu rhwydwaith o addysg cyfrwng Gymraeg ynddo'i hun yn creu cymunedau Cymraeg. Mae fel petae y byd addysg cyfrwng Gymraeg yn gweithredu mewn rhyw fath o ffug-realaeth arwahan i'r byd "real" sydd yn defnyddio'r Saesneg fel cyfrwng. Nid ceisio bychanu llwyddiant yr Ysgolion Cymraeg yw dweud hyn - maent hefyd ar y cyfan yn cynnig addysg ragorol - ond y mae'n arwydd i ni fod ein system Addysg fel cyfanwaith wedi'i ysgaru oddi wrth realiti ac heb gael ei gynllunio i baratoi pobl ar gyfer y byd "go iawn". Gall nifer ohonom ddod i'r un casgliad er ein bod yn cychwyn o fannau gwahanol.

Y mae angen brys i ail-integreiddio ein hysgolion a'n colegau i brif ffrwd ein bywyd cymunedol. Nid cynnwys y cwricwlwm yn unig ddylai fod yn fwy perthnasol ond dylem hefyd integreiddio y sefydliadau eu hunain ym mywyd ein cymunedau a rhoi iddynt - a'u myfyrwyr - bwrpas newydd. Gallaiír colegau a hyd yn oed ysgolion ddod yn ganolfannau ymchwil ar gyfer Awdurdodau Lleol a chymunedau lleol. Dylid cyflwynoír Cwricwlwm drwy weithredu prosiectau yn y cymunedau yn ogystal a thrwy waith dosbarth. Fel hyn, byddai myfyrwyr a disgyblion yn cymhwyso eu gwybodaeth aíu sgiliau ac yn gosod sylfaen iddynt eu hunain o fewn eu cymunedau. Byddai cymunedau cyfan hefyd yn dwyn budd oíu gwaith. Byddai disgyblion a myfyrwyr yn fwy tebygol i barhau aíu hymrwymiad iíw cymunedau wrth dyfuín hyn ac i ddefnyddioír sefydliadau addysg. Mae gwerth y colegauín gweithio dros y gymuned yn weddol hunan-amlwg, ond gallwn hefyd nodi rhai camau y gellid eu cymryd o fewn ysgolion mewn oed cynharach -

  • Dylai Cynghorau Ysgolion drafod pynciauín ymwneud ’ír gymuned yn hytrach na chyfyngu i faterion mewnol gweddol ddiniwed.
  • Dylai Awdurdodau Cynllunio orfod ymgynghori gyda Cynghorau Ysgolion ynglyn ’ Cynlluniau Datblygu a Strategaethau Cymunedol.
  • Dylai Cyfryngau Lleol gael eu hannog i roi colofn neu le rheolaidd i safbwyntiau Myfyrwyr Ysgol.
  • Prosiectau Cymunedol wediíu symbylu gan Fyfyrwyr Ysgol.

Byddai dulliau fel hyn nid yn unig yn dysgu myfyrwyr am ddemocratiaeth, ond yn dysgu drwy weithred a phrofiad uniongyrchol. Yma, fe geir hanfod ffordd gwbl wahanol o gyflwyno cwricwlwm sydd yn rhyddhau ac yn grymuso yn hytrach naín caethiwo.

Er mwyn gweithredu newidiadau oír fath, byddai angen agwedd newydd tuag at y sefydliadau addysg yn ogystal a thuag at y cwricwlwm ei hun. Y ffordd orau i sefydlu swyddogaeth newydd y sefydliadau fyddai drwy gyfres o glchoedd consentrig. Dylid sefydlu Cylchoedd Addysgiadol ar sail sirol a fyddaiín cynnwys y sefydliad addysg pellach/uwch, ysgolion eilradd aír ysgolion cynradd gan eu gwasanaethu ynghyd ’ír adnoddau addysg cymunedol eraill. Dylai fod gan yr Awdurdod Addysg Lleol ran arweiniol yn integreiddioír ddarpariaeth addysg drwy ar y naill law gydlynu rÙl y sefydliadau unigol ac hefyd eu gwaith o fewn y gymuned. Dylid hefyd cydlynuír ddarpariaeth ar lefel Dalgylchoedd Ysgolion Eilradd gyda phenodi Cydlynydd Prosiectau/Astudiaethau Cymunedol ym mhob dalgylch i facsimeiddio darpariaeth yr ysgol uwchradd aír ysgolion cynradd syím ei bwydo. Ar lefel y gymuned leol hefyd dylem ymchwilio i sut y gall Ysgolion Pentrefol a Cymunedol wasanaethu eu cymuned gyfan. Mewn ardaloedd trefol, byddai achos gref dros ysgolion ar nifer o safleoedd gyda phresenoldeb corfforol ym mhob cymdogaeth - cysyniad sydd yn gyfangwbl groes iír tuedd cyfoes o resymoli negyddol.

Gan ddychwelyd at yr cwricwlwm ei hun, credwn fod yr amser wedi dod ar gyfer camau breision ymlaen i greu cwricwlwm cyflawn a gaiff ei gyflwyno mewn ffordd berthnasol. Cyfeiriwn eich sylw at ATODIAD A Gwerth Astudiaethau Cymunedol fel Sylfaen i Addysg a Dealltwriaeth ar gyfer Democratiaeth. Mae hwn yn fersiwn a adolygwyd oín Papurau Polisi gwreiddiol a gyflwynwyd yn y 1980au hwyr iír cyn Cyngor Cwricwlwm Cymru yn galw am gyflwyno Astudiaethau Cymunedol fel thema croes-gwricwlaidd. Yn y papur hwn, nodwn nifer o feysydd gwybodaeth nad sydd o bwysigrwydd canolog iír cwricwlwm cyfredol e.e. deall yr economi, y systemau gwleidyddol a chynllunio, y cyfrynau torfol na chwaith astudiaethau oír themau allweddol megis mudo poblogaeth, diweithdra, newidiadau diwylliannol a chymdeithasol, Datblygiad Byd, a chyfleoedd i ddylanwadu trwy ddemocratiaeth. Rydym yn cwestiynu a ywír cwricwlwm cyfredol yn datblyguín ddigonol sgiliau allweddol megis casglu, dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth, cymryd penderfyniadau a gwaith tim. Awgrymwn hefyd fod y gagendor enfawr rhwng beth syín digwydd yn yr ysgol a realiti y byd tu fas yn tanseilio yn ddifrifol y profiad addysgol ei hun.

Mewn ymateb, fe sefydlodd Cyngor Cwricwlwm Cymru brosiect ymchwil i ffurfio canllawiau ar gyfer ìDealltwriaeth Gymunedolî. Derbyniwyd hyn fel un oír themau croes-gwricwlaidd allweddol yng Nghymru oíi gyferbynu ’ ìDinasyddiaethî yn Lloegr. Gwelodd Cymdeithas yr Iaith arwyddocad mawr yn y gwahaniaeth hwn oedd yn dynodi gwahaniaeth diwyllainnol rhwng y ddwy wlad. Tra bod y thema yn Cwricwlwm Lloegr yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng yr unigolyn ’ír Wladwriaeth, roedd pwyslais y cwricwlwm yng Nghymru ar ein perthynas gydaín gilydd o fewn ein cymunedau. Ond daeth hyn yn ìacademigî - a defnyddioír gair yna eto - yn ystod y nawdegau pan is-raddiwyd yr holl gysyniad o themau croes-gwricwlaidd. Gweithredodd y sefydliad newydd A.C.C.A.C . Adolygiad Cwricwlwm cyfyngedig ar ddiwedd y nawdegau a arweiniodd, yn ein barn ni, at gamau bychain cadarnhaol ymlaen.

Ein dadl ni yw fod Cymru yn awr yn barod ar gyfer cam pwysig ymlaen. Fe ddaeth yr amser drwy fod :

  • Bwriedir Adolygiad Cwricwlwm mwy radical ar gyfer y Gwanwyn. Ein gobaith yw y bydd ein Fforwm ni yn gosod y naws ar gyfer y broses adolygu.
  • Gyda sefydlu y Cynulliad Cenedlaethol, mae gennym bellach ddemocratyiaeth newydd ac mae angen cymhwyso ein pobl ar gyfer cyfranogiad llawn.
  • Rhoddodd y Ddeddf Addysg 2002 (Rhan 7/Cymal 100(1)) yr hawl aír dyletswydd iír Cynulliad Cenedlaethol i ffurfio rhannau helaeth oír Cwricwlwm ar gyfer Cymru. Maeír cymalau dilynol hefyd yn amlygu cyfrifoldebau Awdurdodau Lleol, Penaethiaid Ysgolion a Llywodraethwyr. Rydym yn hynod filch fod cynrychiolwyr oír sectorau hyn i gyd yma i rhoi eu hymatebion.

Ein haeriad beiddgar yw y byddai Cwricwlwm Cyflawn ar gyfer Cymuned a Democratiaeth yn ogystal ’ chyfoethogi profiadau addysgiadol myfyrwyr hefyd yn cryfhau a bywiogi ein democratiaeth. Mae ATODIAD B - Dysgu ar gyfer Datblygiad Cymuned - yn waith (15 mlynedd ymlaen) yr un awdur ’ír sampl o Cwricwlwm Cymuned ar gyfer Dyffryn Peris a amlinellir yn yr Atodiad cyntaf. Yn yr ail ddarn hwn, maeín delio gyda sut y gallai datblygiad oír fath mewn Cwricwlwm hyrwyddoír amcanion a argymhellir gan Lywodraeth y Cynulliad a bywiogi ein democratiaeth. Mae ein cwricwlwm cyfredol wediíi seilio ar bynciaua, thrwy ddiffiniad, yn milwrio yn erbyn y cysyniad o feddylfryd gydlynus syín gymaint ran o rethreg y Llywodraeth os nad ei gweithredoedd.Cymerwn y mater o bynciau etholiadol. Mae llawer oír pynciau potensial tra yn gwneud synnwyr perffaith ynddynt eu hunain yn galluín ymarferol gwrthdaro ’íi gilydd e.e. nifer o geisiadau canmoladwy a gwahanol ar gyllideb gyfyngedig, balansioír dyheadau canmoladwy (ond o bosib gwrthdrawiadol) i gynnal cymunedau ar y naill law gyda rhyddid symudiadau ar y llaw arall, balansio anghenion yr economi gydag anghenion yr amgylchedd. Hanfod democratiaeth yw gwerthuso y gwahanol ofyniadau a chreu cyfanwaith cydlynus. Dymaín union NAD yw ein cwricwlwm tameidiog pynciol yn ein dysgu i wneud. Mae hefyd angen ar ein busnesau bach sgiliau holistaidd aír gallu i dafoliír opsiynau i gyd - syín hollol wahanol iír arbenigedd sydd ei angen ar gorfforaethau mawr ac Adrannau Llywodraeth Ganolog y crewyd y cwricwlwm, maeín debyg, ar eu cyfer.

Maeír Atodiad B yma yn dangos sut y gall Cwricwlwm Cymunedol annog hyd yn oed ddisgyblion ysgolion cynradd i ystyried pynciau mewn ffordd holistaidd a gweld perthnasedd yr addysg iíw bywydau. Gobeithiwn y bydd y Gweithdai y prynhawn ëma yn ein galluogi i hyrwyddo mewn termau diriaethol y syniad o gyflwyno ìAddysg ar gyfer Democratiaethî i bob sector trwy gyfres o gamau ymarferol.

Addysg Gynradd lle mae cyfle i gwricwlwm fod o nature fwy thematig, gan gynnwys ystod eang o ddulliau dysgu. Byddai gwreiddio profiad addysgol y plentyn yn ei union amgylchedd cymdeithasol yn sicr o gynyddu ei hyder. Dylem gydnabod y camau ymlaen a gymerwyd gan Lywodraeth y Cynulliad yn eu canllawiau ar gyfer y Cyfnod Cychwynol.

Addysg Uwchradd lle y dylai disgyblion ddechrau ymarfer chwarae rÙl o gyfrifoldeb o fewn eu cymuned. Rhaid i ni ystyried pa newidiadau cwricwlaidd a strwythurol sydd eu hangen i hyrwyddo Addysg sr gyfer Democratiaeth.

Addysg 16+ - a ddylsai fod yn ein barn ni wediíi integreiddio i fewn i gwricwlwm cyflawn. Dymaír sector a gysylltir yn bennaf ’ hyfforddiant ar gyfer gwasanaethau yn y gymuned ac maeír angen cyfatebol yn fwy iír colegau hynny gyfrannu i fywyd eu cymunedau. Mae gennym bryderon arbennig yn y maes hwn. Sut y gellir hyrwyddo Addysg ar gyfer Democratiaeth mewn addysg Ùl-16 pan fod y cyfrifoldeb am y sector hwnnw wediíi gymryd oddi wrth rheolaeth ddemocrataidd yr Awdurdodau Lleol? Ymddengys mai ei nature dameidiog ywír elfen allweddol mewn arholi a chwricwlwm. Ymddengys fod Sgiliau Allweddol wedi cael eu mewnforio gydag odid dim sylw i anghenion Cymru e.e. nid ywír sgiliau Cyfathrebu yn ystried natur ddwyieithog nifer o gymunedau yng Nghymru.

Mae Ail Ran ein cyflwyniad - gan Dafydd Rhys - yn ymdrin yn benodol gydag Addysg 16+ er mwyn pwysleisio ein bod yn gweld hyn fel rhan oír cysyniad o ìCwricwlwm Cyflawn i Gymruî. Maeír pwyslais yma ar Addysg Alwedigaethol aír angen iíw wneud yn berthnasol i wlad ddwyieithog. Mae hyn yn rhan oír mater ehangach o sut i sicrhau fod sefydliadau Addysg Pellach, Uwch ac Oedolion yn gwasanaethu yn well y cymunedau lle yíu lleolir a bod hyrwyddo gwasanaeth a chyfrifoldeb cymdeithasol yn nÙd addysgolyr un mor ddilys ag yw hyrwyddo cystadlu ac uchelgais unigol. Dyma, yn ein barn ni, yw hanfod Addysg ar gyfer Democratiaeth a ddylsai fod yn broses ryngweithiol a thrwy gydol ein hoes.

Hydref 2003