Addysg: Dysgu ar gyfer Datblygiad Cymuned

Yn ei thymor cyntaf rhoddodd Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol bwyslais ar ddatblygiad cymuned yn ei pholisiau yn ymwneud ’ thlodi, adferiad cymunedol, y Gymraeg, addysg gydol oes, cynaliadwyaeth, cynllunio cymunedol a sawl maes arall. Cynhyrchwyd sawl dogfen strategaeth yn y meysydd hyn. Un enghraifft yw ëCymunedauín Gyntafí, sef cynllun i hyrwyddo ymdrechion trigolion ein cymunedau mwyaf difreintiedig i ddatrys rhywfaint ar eu problemau economaidd a chymdeithasol.

Bellach mae geiriau ac ymadroddion megis ymrymuso, partneriaethau, hwyluso, adferiad cymunedol, cynyddu gallu, a hyd yn oed cynllunio ieithyddol, ynghyd ’ gweddill ieithwedd datblygu cymunedol yn britho dogfennau polisi Llywodraeth Cymru. Pwysleisir meddwl yn integredig ( joined up thinking ) a gweithreduín gyfannol. Dymaír rhethreg newydd, ond nid ar chwarae bach y newidir realitiír hen drefn ranedig o lywodraethu.

Yn ei hymwneud ’ chymunedau nid yw llywodraeth, ganol na lleol, yn llwyddo cydgordio gwasanaethau gwahanol adrannau llywodraeth. Er enghraifft, yn achos y Cynulliad adrannau digyswllt syín gyfrifol am gynlluniau ëCymunedauín Gyntafí, cymunedau cynaladwy ac addysg yn y gymuned. Yn yr un modd nodweddir diwylliant y cynghorau sir gan;-

ìY rhemp sydd i lawír dadelfennwr,
A gyll, rhwng ei fysedd, fyd.î

Ystyrir yr amgylchedd, economi, cynllunio, gwaith cymdeithasol, iaith a diwylliant, ysgolion, addysg oedolion ac yn y blaen gan adrannau arwahan. Yng nghyd-destun realitiír hen ddiwylliant llywodraethol hwn yr ydym yn gorfod ystyried addysg gymunedol a dysgu ar gyfer datblygiad ein cymunedau. Yr un aflwydd syín nodwedduír cwricwlwm cenedlaethol presennol; disgyblaethau a phynciau mewn bocsys arwahan. Pen drawír linell gynhyrchu hon yw arbenigwyr syín gwybod llawer am risgl ambell goeden ond heb fawr ddim syniad ynglyn ’ siap y goedwig.

Dychmyger y gwrthwyneb iír sefyllfa bresennol; y math o addysg gymunedol y maeín bosib ei chreu yng Nghymru, hyd yn oed gyda hynny o hunan lywodraeth sydd gandddom heddiw. Cymerer ardal Dyffryn Peris yng Ngwynedd, fel enghraifft oír hyn sydd ganddom mewn golwg. Yn ysgolion y gymuned, Ysgol Uwchradd Brynrefail yn Llanrug ac ysgolion cynradd y dalgylch, tameidiog a digynllun ywír ychydig a ddysgir am hanes, daearyddiaeth a diwylliant y fro. Dysgir nemor ddim am economi, swyddi, cymdeithas, llywodraeth a gwleidyddiaeth y gymuned. Prif bwrpas y cwricwlwm ëcenedlaetholí a orfodir ar yr ysgolion yw dadwreiddioír plant aíu paratoi i wasanaethu cyfalaf ble bynnag y boír angen. Pe buasem yn diffinio cenedlaethol mewn modd Cymreig yna buasaiín cwricwlwm cenedlaethol ni yn edrych yn dra gwahanol. Buasaiín gwricwlwm ar gyfer datblygiad cymuned a chymuned o gymunedau yn hytrach na chwricwlwm gwladwriaethol i ateb gofynion cyfyng cyfalaf.

Gydag anogaeth a chefnogaeth o duír Cynulliad mater cymharol syml, a difyr, fuasai llunio a chyflwyno maes llafur cymunedol ar gyfer Dyffryn Peris. Gorchwyl i athrawon mewn ymgynghoriad a thrigolion y fro fuasai gweithio allan be ddylai plant ei wybod aíi ddeall ar wahanol adegau yn ystod ac ar derfyn eu gyrfa ysgol ym meysydd daearyddiaeth, hanes, amgylchedd, economi, cymdeithas, diwylliant, llywodraeth a gwleidyddiaeth eu cymuned. Oíi wneud yn iawn nid plwyfoldeb fuasai hyn. Yn hytrach, dechrau wrth ein traed er mwyn deall ein byd. Nid oes modd deall natur economi, cymdeithas a diwylliant Dyffryn Peris heddiw heb ei weld, yn rhannol o leiaf, fel mynegiant lleol oír grymoedd trawswladol syín gynyddol yn siapioín ffawd. Drwy newid pwrpas y cwricwlwm newidir nid yn unig be syín cael ei ddysgu ond hefyd sut maeín cael ei ddysgu. Cauir rhywfaint ar y bwlch rhwng ysgol a chymuned, rhwng plant a labelir ar hyn o bryd yn alluog a llai galluog, rhwng plant ac oedolion a rhwng addysg plant ac addysg gydol oes.

Er bod rhai addysgwyr yn trafod dysgu gydol oes fel petai pobl ar hyd y canrifoedd ddim wedi bod yn dysgu trwyíu bywydau y maeín amlwg bod gofynion modern yn golygu bod angen trefn i ni ddysguín barhaol. Yng nghwricwlwm cymunedol Dyffryn Peris, a phob ardal arall, buasaiír nod o ddysgu ar gyfer datblygiad cymuned yn gyffredin i addysg plant ac addysg oedolion.

Beth am gynnwys cwricwlwm cymunedol Dyffryn Peris? Amlinellir yma, fel esiampl, syniadau bras ynglyn ag un elfen greiddiol i ddeall y gymuned, sef natur yr economi. Er bod plant ac oedolion y Dyffryn yn gyfarwydd ’ pheth o hanes economaidd a chymdeithasol eu hardal chwarelyddol rhanedig a digynllun ywír darlun a gyflwynir yn yr ysgolion. Fe ddylai maes yr economi yn y cwricwlwm cymunedol ymdrin ’ gwybodaeth diriaethol mewn ffordd a fuasaiín creu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth haniaethol o gysyniadau megis natur perchnogaeth tir a chyfalaf, ffiwdaliaeth, cyfalafiaeth cynnar a chyfoes, cylchdro cynhyrchu, globaleiddio, dosbarth cymdeithasol, patrymau mudo, perthynas economi ac amgylchedd, cymdeithas, diwylliant ac iaith ac yn y blaen. Hynny yw, addysg yn seiliedig ar realitiír ardal a bywydau ein pobl ddoe a heddiw. Addysg iín galluogi i ddeall ein cymuned a fuasai, ar yr un pryd, yn rhoi fframwaith deallusol i ni werthfawrogiír prosesau syín creu, cynnal a newid cymunedau ar hyd a lled y byd.

Fel y soniwyd eisoes, y mae angen cynllunio a chydlynnu effeithiol i greu a chyflwyno cwricwlwm cymunedol. Tasg i athrawon yw hyn yn bennaf, ond maent angen cyfeiriad, anogaeth a chefnogaeth gan y llywodraeth. Yn lle hualauír cwricwlwm presennol rydym angen y rhyddid aír cyfle i lunio addysg ar gyfer deall a datblygu ein cymunedau.

Hydref 2003