Trwy astudio cysyniadau haniaethol yng nghyd-destun y gymuned leol, daw myfyrwyr i ddeall yn rhwyddach weithrediad y byd ehangach. Mae Astudiaethau Cymunedol o'r herwydd yn syniad sylfaenol allblyg, nid un plwyfol . Caiff yr Astudiaethau eu gwreiddo yn y gymuned, ond ni fyddant wedi eu cyfyngu ynddi:
GWERTH ASTUDIAETHAU CYMUNEDOL FEL SYLFAEN I ADDYSG A DEALLTWRIAETH AR GYFER DEMOCRATIAETH
O dan y system bresennol mae perygl 'cuddio'r goedwig oherwydd y coed i gyd' - sef trwytho myfyrwyr gyda chymaint o ffeithiau a manylion fel na welant eu harwyddoc’d Trwy ddilyn llwybr Astudiaethau Cymunedol gellir datrys llawer o'r broblem hon. 1. Astudiaethau Cymunedol - SYLFAEN I ADDYSG Gall Astudiaethau Cymunedol fel rhan o'r cwricwiwm gynnig agweddau hollol allgenrheidiol i addysg pob plentyn neu ddisgybl. Dylai adnabod a deall y gymuned y mae'n ynddi fod yn rhan o addysg pob plentyn, gan fod ar yr un pryd yn gyfrwng i ddatblygu sgiliau allweddol fel llythrenedd, rhifedd ayyb. Byddai hyn yn arwain at astudiaethau pellach yn cysylltu'r gymuned leol i'r gymuned o gymunedau sy'n ffurfio Cymru ac yn arwain oddi yno at Brydain, Ewrop a'r byd. Byddai Astudiaethau Cymunedol wedi ei sylfaenu ar yr egwyddorion canlynol:
Yn naturiol ddigon yn draddodiadol buasai hyn yn atwain at gynnwys y pwnc ac at faes llafur a ddatblygir o amgylch y cars. Fodd bynnag nid dyma wiz arwyddocad y teitl Astudiaethau Cymunedol. Nid cynnwys yr addysg fel y cyfryw sydd yn allweddol ond y eroses o ddysgu, y modd y mae unigolyn yn casglu gwybodaeth, yn ymholi ac yn dod i ddeall ac i werthuso. Wrth gyfeirio at gynnwys pwnc o'r lath yma yn y cwricwlwm dylid cyfeirio yn benodol at y prosesau dysgu yn hytrach na phenawdau megis poblogaeth, datblygiad economaidd a thraddodiadau a diwylliant. Yn wir buasai llawer o sefydliadau addysg yn cyfeirio at y ffaith fod llawer o gynnwys o'r fath yma eisioes yn rhan o'r cwricwlwm mewn pynciau megis Astudiaethau Bro. Cyfeiria 'prosesau dysgu' at amcanion amgenach na gwybodaeth am y gymuned.
Mae llawer iawn o'r uchod yn rhan o brofiad dysgu ar hyn o bryd ac yn ymddangos o dan bennawd amryw o bynciau ond nid ydynt yn ganolbwynt i'r dysgu - nid yw'r addysg yn troi o gwmpas y prosesau yma. Ond os yw addysg yn y cyfeiriadau yma i lwyddo rhaid gosod sylfeini'r addysg yma yn gadarn iawn ym mywydau ac ym mhrofiad yr unigolyn a thrwy hynny wneud y prosesau yn berthnasol. Dyna ystyr ac arwyddocad arbennig 'Astudiaethau Cymunedol': gwreiddio'r prosesau addysg a nodwyd uchod ym mhrofiad yr unigolion - nid eu gadael yn amherthnasol ac anelwig fel atodiad i amcanion eraill addysg ond yn hytrach eu troi'n brosesau gyda'u gwreiddiau yn y gymuned. Yn wir dyma'r unig ffordd i sicrhau llwyddiant addysg o'r fath Gwerth arbennig a rhesymeg cynnwys Astudiaethau Cymunedol yn y cwricwlwm craidd yw fod addysg o'r fath yn hollol drawsgwricwlar ac yn berthnasol i bob oed Yn bwysicach na hynny mae'r cynnydd yn ymwybyddiaeth addysgwyr o bwysigrwydd ''proses'' mewn addysg yn arwain at ymgais i gael sylfaen yn y cwricwlwm sydd yn canolbwyntio ar hyn - rhywbeth sydd ar goll yn y Cwricwlwm Cenedlaethol gyda'r gor-bwyslais ar gorff o wybodaeth. Buasai gosod sylfaen trawsgwriciwlar o'r fath yma yn sylfaen a Fyddai'n gefn i bob rhan arall o'r cwricwiwm ac ar yr un pryd yn cadarnhau'r rhyngberthnasau cwriciwlar a all fod yn hollbwysig i ddatblygiad ymwybyddiaeth o anghenion ecolegol y gymuned a'r blaned. Ar hyn o bryd nid oes dim yng nghwricwlwm ysgolion sydd yn pontio rhwng dyniaethau a'r gwyddorau, ieithoedd a'r sgiliau. Gall ymarferiad sy'n ymateb i sefyllfa real y gymuned, er enghraifft, wneud y pontio allweddol yma.
2. Cynnwys yr Astudiaethau - ASTUDIAETH ENGHREIHTIOL BENODOL O ECONOMI UN ARDAL CYFLWYNIAD Symudwn 'nawr at gynnwys yr Astudiaethau. Yn yr adran nesaf rhown amlinelliad o nifer o'r meysydd a ddylai dderbyn sylw. Yn yr adran hon (fodd bynnag rhown engraifft fanylach o un elfen sef economi'r gymuned. Ceisiwn ddisgrifio sut y gellir cynnal astudiaeth mewn un ardal arbennig. Cymerir cymuned yng Ngwynedd fel esiampl ar gyfer y drafodaeth hon, ond mae'r egwyddorion addysgol yr un mor berthnasol i gymunedau ladled Cymru a thu draw. Y gymuned enghreifftiol yw ardal Llanberis, Llanrug a Llanddeiniolen yn Arfon, sef talgylch Ysgol Uwchradd Brynrefail. AMCANION Holl amcan astudio economi'r gymuned yw galluogi disgyblion i ddeall y drefn economaidd a'u lle nhw y tu fewn i'r drefn honno. Gall hyn eu galluogi i chwarae rhan bositif yn natblygiad economi'r gymuned. NODIADAU
DULLIAU DYSGU Peth dysgu ''traddodiadol'' ond gyda'r pwyslais ar arwain disgyblion, yn unigol ac mewn grwpiau, i ymchwilio i'r economi leol eu hunain. Byddai hyn yn golygu ffurfio cysylltiadau rhwng yr ysgol a diwydiannau'r areal e.e. y Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog, Swyddfa Datblygiad Economaidd Cyngor Sir Gwynedd, ffatrioedd cynhyrchu'r ardal a chwmniau adwerthol y gymuned. CYNLLUN GWAITH A) Hanfodion Economeg
B) Persbectifau Hanesyddol Yr economi Geltaidd yn yr ardal e.e. portread o hanes economaidd caer dinas Dinorwig. Yr economi Rufeinig e.e. portread o'r ffyrdd Rhufeinig a phwysigrwydd mwynau copr a haearn / yr economi cyn ac ar Ùl 1282 e.e. portread o'r hanes economaidd sydd yn gysylltiedig ’ chestyll Dolbadarn a Chaernarfon / Economi'r oesoedd canol yn yr ardal e.e. astudiaeth o berchnogaeth defnydd tir / y chwyldro amaethyddol e.e. astudiaeth o hanes cau tiroedd comin plwyf Llanddeiniolon / y Chwyldro) diwydiannol e.e. sefydlu'r chwareli llechi a'r diwydiannau cysylltiedig / Llanw a thrai chwarelydda e.e. hanes economaidd chwarel Dinorwig i'r cyfnod presennol. ( y newid ym mhatrwm amaethyddiaeth i'r cyfnod presennol e.e. drwy astudiaeth o brofiad ac atgofion ffermwyr y fro. / Y wladwriaeth, ganol a lleol, a'r economi leol hyd heddiw e.e. datblygiad polisiau rhanbarthol ers yr ail ryfel byd. / Yr economi cyfoes e.e. patrymau cyflogaeth cyfoes yn Ùl sector economaidd, oed a rhyw / Twf twristiaeth. C) Modelu'r Economi Er mwyn deall hanfodion y drefn economaidd byddai modd gwneud model economaidd o'r diwydiant cynhyrchu llechi. Yna dylid edrych ar berthnasedd y model i gymunedau heddiw yn lleol drwy Gymru a thu draw. Buasai modd gwneud model mwy cyflawn o economi'r gymuned fel ag yr oedd ar droad y ganrif ddiwethaf a'i gymharu gyda'r sefyllfa heddiw gan ganolbwyntio ar y broses gynhyrchu, y strwythyr dosbarth a'r rhaniad llafur. Buasai'r model o ddatblygiad economi'r gymuned yn sail i werthfawrogi hanfodion economaidd cymunedau eraill led-led y byd. MODEL O DDATBLYGIAD ECONOMI'R GYMUNED: Y BROSES CYNHYRCHUYn aros yr un fath Cylchdro cynhyrchu. Er mwyn gwneud elw mae cwmniau'n prynu cyfryngau cynhyrchu a chyflogi gweithwyr, trefnu a rheoli'r broses gynhyrchu a gwerthu'r cynnyrch.Yn newid: Drwy grynhoad cyfalaf mae graddfa a dulliau cynhyrchu a'r cynhyrchion yn newid. STRWYTHUR DOSBARTH RHANIAD LIAFUR CH) Yr Economi a'r Gymdeithas Astudiaeth o'r berthynas rhwng newidiadau yn sylfaen economaidd yr ardal ac amryfal agweddau o'r gymdeithas megis mudoledd pobl, y strwythyr dosbarth, rÙl economaidd merched, agweddau gwleidyddol, gweithgareddau diwylliannol a phatrwm ieithyddol yr ardal. ASESIAD ADNODDAU Mae cwrs sylfaenol Y Brifysgol Agored (D l 02) yn tywys myfyrwyr i fodelu'r economi ac mae hwn yn batrwm i'w addasu i'r gymuned leol. Unwaith y dechreuir chwilio mae'n syndod yr amrywiol ddefnyddiau y gellir eu casglu a'u defnyddio e.e. tapiau o raglenni ar y chwareli, llyfrau ac erthyglau ar gau'r tiroedd comin ac ar y chwareli, y porthladdoedd, y diwydiant llongau ac yn y blaen. Yr adnoddau pwysicaf yw athrawon goleuedig. i gynhyrchu'r rhain rhaid claddu'r holl syniad o 'hyfforddi' athrawon. Mae hyfforddi llewod neu fwncwns mewn syrcas yn ddigon drwg, ond mae hyfforddi athrawon yn fwy gwrthun fyth. Dyna sut y cynhyrchir athrawon taeog, ofnus, blin, awdurdodol, a diddychymyg. Rhaid wrth addysg uwch ymchwilgar, honest, a dilechdidol i fagu athrawon hyderus sy'n medru meddwl drostynt eu hunain. 3. Cynnwys yr Astudiaethau - AMLINELLIAD O'R MEYSYDD ERAILL I'W TRIN A) RHAGYMADRODD Yn dilyn yr Astudiaeth pur fanwl yn yr adran diwethaf o sut y gellid gweithredu un o elfennau Astudiaethau Cymunedol mown cyd-destun arbennig, trown yn awr at weddill yr elfennau posibl o ran cynnwys Astudiaethau Cymunedol, gan roi ychydig o nodiadau rhagarweiniol am bob elfen. B) LLYWODRAETH A GWLEIDYDDIAETH YN Y GYMUNED Yr amcanion yma fyddai hybu astudiaethau o weithrediad Llywodraeth a'r drefn wleidyddol ac hefyd i hybu'r arfer o gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd a chyfrannu felly at y gymuned. O ran cynnwys byddai nifer o elfennau presennol pynciau fel hanes, materion cyfoes ac ati, a byddai unrhyw astudiaeth o'r drefn wleidyddol o reidrwydd yn glynu ag elfennau araill hefyd o Astudiaethau Cymunedol e.e. economi'r gymuned, gweithrediad y cyfryngau ac ati. Byddai'r astudiaeth a'r ymdrafod ei hunain hefyd wedi ei wreiddio yn y gymuned. O'r oedran cynharaf dylai myfyrwyr ysgol wynebu pynciau lleol a'r gwahanol agweddau atynt a thrwy hyn dod i ddeall cysyniadau gwleidyddol a fydd o gymorth iddynt ddeall materion cenedlaethol a chydwladol hefyd. Dylid cael ystod eang o garfannau o'r gymuned i mewn i'r addysg i roi safbwynt a hybu ymdrafod fel na add y myfyrwyr yn debygt o gael eu twyllo gan unrhyw rai yn nes ymlaen yn eu bywydau. Dylai fod ymweliadau cyson a Siambr y Cyngor lleol ac astudiaeth o adroddiadau gan y cyfryngau torfol. Yn bwysig iawn hefys dylai'r myfyrwyr ddysgu trwy weithredu. Argymhellwn fel rhan bwysig o'r addysg fod sefydlu undebau myfyrwyr ysgol mewn ysgolion a thrwyddynt hybu ymhel ’ gwleidyddiaeth. Dylai'r undeb fod ’ chyfrifoldeb dros drafod a threfnu materion yn ymwneud ag adloniant, lles y myfyrwyr a materion cymdeithasol eraill. Ond dylent hefyd gael cyfle i drafod yr addysg a gynigir iddynt o safbwynt ieuenctid, a chael cynrychiolydd ar fwrdd y Llywodraethwyr yn yr ysgol i gynnig eu hymateb. Dylid eu sbarduno hefyd i wneud sylwadau mewn gohebiaeth a chynghorau lleol ar bynciau lleol o bwys. Os cawn ein cyhuddo o fynnu cyflwyno gwleidyddiaeth i ysgolion, gofynnwn mewn ymateb pwy mewn difrif sydd am wrthwynebu hyn. Pwy sydd am wadu'r angen am bobl effro, wybodus, a pharod i herio, ond hefyd gydag ymdeimlad o gyfrifoldeb cymdeithasol? Pwy sydd yn barod i wadu na ddylai hyn fod yn rhan allweddol o unrhyw gwricwlwm addysg? C) Y BROSES GYNLLUNIO LLEOL Dyma elfen amlwg mewn unrhyw astudiaeth cymunedol oherwydd trwy'r broses hon i raddau helaeth y mae cynllunio ar ddyfodol cymuned leol. Mae'n hanfodol felly bod myfyrwyr yn dod i ddeall gweithrediad y broses gynllunio a rhan cynghorau cymuned, dosbarth a sirol a Llywodraeth ganolog yn ogystal ’ deall ymyraeth gan fyrddau cyhoeddus a grwpiau pwyso. Dylent astudio penderfyniadau sy'n ymwneud ’ defnydd tir ar gyfer tai newydd, gweithgarwch economaidd (yn cynnwys amaethyddiaeth, twristiaeth, mwyngloddio ac ati), trafnidiaeth, ynghyd ag effeithiau ar yr amgylchedd amaterion cymdeithasol fel symudiadau demograffig a newidiadau diwylliannol. Nid yn unig y dylai myfyrwyr ddeall hanes datblygu y system gynllunio a deall natur y eroses ymgynghori ond dylent ddysgu hefyd cymryd rhan yn y broses honno o'r oedran gynharaf y gallant. - dysgu trwy weithredu trwy wneud penderfyniadau e.e. CH) ECOLEG Y GYMUNED Bydd Astudiaethau Cymunedol yn seiliedig ar y broses o ddysgu ac ar roi ystod o sgiliau i bobl ifanc, yn yr achos yma i'w galluogi i ddeall, dehongli a gwerthuso eu hamgylchfyd a phroblemau yn ymwneud ag e. Dylai unrhyw astudiaeth o ecoleg felly o fewn fframwaith Astudiaethau Cymunedol gynnwys dealltwriaeth o'r prif gysyniadau ecoleg sef:
Effaith hyn fyddai:
Dylid dod i ddeall y cysyniadau uchod trwy brofiad ymarferol o astudio a dehongli cynefinoedd lleol e.e., waliau, coedlannau, lawntiau, traethau, mynydd-dir, dwr croyw ac yn y blaen. Da o beth fyddai i bob ysgol gael cynefin i astudio ac i ofalu amdano.Drwy astudio uniongyrchol gellid cyfiwyno technegau astudio ecolegol a'r defnydd o dechnoleg ble gellir gweld gwir angen amdanynt, ble maent yn berthnasol ac yn ddefnyddiol (e.e. symud asesiadau gorddrychol o organebau mewn cynefin i asesiad gwrthrychol rhifyddol. Casglu data a'i storio a'i brosesu ar gyfrifadur. Dylid dysgu mewn dull sy'n rhoi pwyslais ar brosesau dysgu a sgiliau sy'n galluogi'r disgybl i ddehongli'r amgylchfyd o lefel lleol i fyd dang. Dylid defnyddio a chryfhau ar yr hyn a ddysgwyd drwy edrych ar y problemau ecolegol sy'n wynebu'r gymuned leol a'r byd ehangach e.e. yng nghyd-destun Gwynedd:
Ac mewn cyd-destun ehangach:
Fel y gwelir nid yw'r problemau uchod yn rai sydd yn hawdd eu datrys, gydag atebion syml. Nid ydynt ychwaith yn broblemau 'ecolegol' yn unig - dylai unrhyw ymdriniaeth ’ hwy ymestyn i fyd daearyddiaeth, gwleidyddiaeth ac economeg. Dyma un o gryfderau cyflwyno ecoleg fel elfen o astudiaethau cymunedol: mae yma gyfle i gydblethu'r disgyblaethau sy'n draddodiadol ranedig mewn modd sy'n gymwys i'r disgybl ac i'r maes, mewn modd gwirioneddol berthnasol. Gyda dyfodiad y cwricwiwm craidd, bydd athrawon prysur a phrin eu hamser yn troi eu hegni at ddysgu yr hyn a nodier yn y cwricwiwm craidd. Yn gyntaf felly mae'n hanfodol fod lle i ecoleg o fewn Astudiaethau Cymunedol yn y cwricwlwm craidd. HYFFORDDIANT i) CYNRADD. Mae yma esioes bwyslais ar y prosesau dysgu mewn cyrsiau hyfforddi athrawon. Yma mae angen sicrhau bod uned ar ecoleg yn rhan o gwrs hyfforddiant pob athro a bod cyrsiau mewn swydd ar gael i athrawon profiadol er mwyn iddynt ennill hyder a gwybodaeth yn y maes. ii) UWCHRADD. Bydd athrawon ymhob ysgol gyda'r wybodaeth arbenigol angenrheidiol. Bydd angen trefnu gweithdai a chyrsiau mewn swydd er mwyn meithrin dull o ddysgu sy'n rhoi pwyslais ar brosesau ac ar gydweithredu ar draws y cwricwiwm gydag athrawon o ddisgyblaethau eraill. Dylai Astudiaethau Cymunedol fod yn ran o gyrsiau hyfforddi athrawon. D) DATBLYGIAD DIWYLLIANT Y GYMUNED Dylid astudio diwylliant sydd yn codi o'r gymuned gan sylwi unwaith eto ar y cydgysylltiad gydag elfennau eraill o Astudiaethau Cymunedol e.s. effeithiau economeg ar y diwylliant, a symudiadau demograffig, dylanwad y cyfryngau ac ati. Gellid dadansoddi data fel ffigyrau'r cyfrifiad. Gellid gwneud arolwg o ardal yn gyson, o ran eu hadnoddau cymdeithasol, ystod y bywyd cymdeithasol ffurfiol, symudiadau cymdeithasol anffurfiol ac adloniant, bodolaeth carfannau arbennig yn y gymuned a'u hanghenion. Gellid astudio hefyd ddiwylliant y gwahanol genedlaethau o bobl yn y gymuned ac astudio'r resymau am y gwahaniaethau rhyngddynt. Maes astudiaeth arall Fyddai delwedd y cyfryngau o ddiwylliant a'r gwahaniaeth rhwng y ddelwedd hon a'r diwylliant y gymuned ei hunan. Unwaith eto gellid dysgu trwy weithredu e.e. i) trwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau am y gymuned trwy gerdd a drama. Bydd yr elfen hon o Astudiaethau Cymunedol yn cynnwys elfennau o'r Cwricwlwn presennol sydd dan bwysau ar hyn o bryd e.e. addysg bersonol, celfyddydau creadigol ac ati. Efallai fod modd ymdrin ’'r materion yma yng nghyd-destun Astudiaethau Cymunedol. DD) ASTUDIAETH O SWYDDOGAETH Y CYFRYNGAU Ystyr cymuned yw pobl yn ymwneud ’'i gilydd, a chan fod y cyfryngau'n ddull pwysig o gyfathrebu mae'n bwysig astudio'r elfen hon o fywyd y gymuned hefyd - trwy ddysgu gwybodaeth, trwy drafodaeth, a thrwy brosiectau gweithredol. Byddai angen cyflwyno gwybodaeth ffeithiol am hanes datblygiad y cyfryngau, am eu ffurf, eu rheolaeth /perchnogaeth /ffynhonellau ariannol ac am eu dylanwad. Byddai eisiau cymharu hefyd ddiwylliant y gymuned gyda diwylliant y cyfryngau ac astudio cwestiynau (ar sail tystiolaeth o raglenni a phapurau penodol) fel pa newyddion a ddewisir i'w hadrodd a pham, sut trafodir y newyddion hyn, pa werthoedd a delweddau a gyfleir gan y cyfryngau, ac i ba garfannau y mae'r cyfryngau'n agored. Buddiol yw cymharu cynnwys ac ymagweddion gwahanol gyfryngau. Daw'r astudiaethau o natur y cyfryngau yn gliriach o gyd-dysylltu'r wybodaeth hon gyda gwybodaeth sy'n deillio o elfennau araill o Astudiaethau Cymunedol e.e. Trwy ddeall y drefn economaidd gellid trafod y cwestiwn i ba raddau y mae llais y wlad a llais y cyfryngau yn caul eu trin yn debyg, Unwaith eto gellid dysgu trwy weithredu trwy ddadansoddi fideos a thapiau rhaglenni, papurau a chylchgronau, ond hefyd trwy fod dosbarthiadau yn ceisio cynnal cylchgronau a rhaglenni eu hunain gan orfod wynebu yr un dewisiadau a phobl proffesiynol y cyfryngau o ran cynnwys a thriniaeth a defnydd cyllideb. 4. Oblygiadau i'r Drefn Addysg A) RHAGYMADRODD B) DULLIAU DYSGU i) Sefydlu Undeb Myfyrwyr Ysgol o fewn yr ysgol gyda chyfrifoldebau cymdeithasol, adloniadol a lles. Byddent yn trafod cynnwys yr addysg o bersbectif ieuenctid ac yn cael cynrychiolydd ar y Bwrdd Llywodraethol. Byddent yn trafod hefyd bynciau o bwys i'r gymuned leol a gallent roi eu syniadau gerbron yr Awdurdodau Lleol. C) DULLIAU ASESU CH) STRWYTHYR Y DREFN ADDYSG i) Byddai'r myfyrwyr yn dysgu yn eu cymuned yn ogystal a thu fewn i'r ysgol. Gallwn ychwanegu yn y fan hon bolisiau pellach sydd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ynghylch strwythyr y drefn addysg. Er nad oes rhaid aros nes ail-wampio'r drefn addysg cyn cyflwyno Astudiaethau Cymunedol i'r cwricwlwm mae'n werth ystyried yr argymhellion hynny yn y fan hon. Ein polisi yw i geisio integreiddio sefydliadau addysg gyda'i gilydd ac i mewn i'r gymuned. I'r perwyl hwn cynigiwn gylchoedd addysg. Byddai 'cylch' yn cynnwys coleg trydyddol (neu drefniant arall), yr ysgolion uwchradd sy'n ei bwydo, yr ysgolion cynradd sy'n eu bwydo hwythau ynghyd i'r ysgolion meithrin sydd yn eu tro yn bwydo'r ysgolion cynradd - o un pen y spectrwm addysg hyd at y pen arall. Dylid cynllunio addysg ar gyfer y cylchoedd hyn yn eu cyfanrwydd, ac i hyrwyddo hyn byddai'n ofynnol i Bwyllgorau Addysg Lleol ffurfio ''Cynllun Fframwaith'' ar gyfer addysg yn y cylch dros y pymtheg mlynedd canlynol gan geisio ymateb yr athrawon, rhieni, a myfyrwyr i'r canllawiau hyn. Gellid cael hyblygrwydd oddi fewn i'r sefydliadau yn Ùl anghenion y gymuned Gan ddychwelyd at bwnc gwreiddiol y nodiadau hyn, byddai Arolygwyr Astudiaethau Cymunedol ar gyfer pob cylch a Fyddai'n hwyluso cyflwyno Astudiaethau Cymunedol i'r cwricwiwm. D) HYFFORDDI ATHRAWON Byddai llawer o'r wybodaeth anghenrheidiol ym meddiant gwahanol athrawon yn barod a byddai cyfnodau cymharol fyr o hyfforddiant mewn swydd yn ddigon i'w galluogi i ddechreu cyflwyno Astudiaethau Cymunedol fel tim a 'dysgu trwy ddysgu'. Gallai llawer o'r hyfforddiant gymryd ffurf cylchoedd trafod ac ymchwil yr athrawon eu hunain gan gyfarwyddo ynghylch ffynhonellau gwybodgeth lleol a hybu sgiliau trafod, dadansoddi a gwerthuso. Hydref 2003 - (Diwygiad o Bapur Polisi gan Gymdeithas yr Iaith 1988) |