Addysg: Gwerth Astudiaethau Cymunedol fel sylfan i Addysg a dealltwriaeth ar gyfer Democratiaeth.

Trwy astudio cysyniadau haniaethol yng nghyd-destun y gymuned leol, daw myfyrwyr i ddeall yn rhwyddach weithrediad y byd ehangach. Mae Astudiaethau Cymunedol o'r herwydd yn syniad sylfaenol allblyg, nid un plwyfol . Caiff yr Astudiaethau eu gwreiddo yn y gymuned, ond ni fyddant wedi eu cyfyngu ynddi:

GWERTH ASTUDIAETHAU CYMUNEDOL FEL SYLFAEN I ADDYSG A DEALLTWRIAETH AR GYFER DEMOCRATIAETH

  • Trwy astudio'r economi leol daw astudiaethau o ddeinameg economeg yn gyffredinol
  • Trwy gymharu gwahanol agweddau at bwnc gwleidyddol lleol, daw astudiaethau cynyddol o gysyniadau gwleidyddol sylfaenol.

O dan y system bresennol mae perygl 'cuddio'r goedwig oherwydd y coed i gyd' - sef trwytho myfyrwyr gyda chymaint o ffeithiau a manylion fel na welant eu harwyddoc’d Trwy ddilyn llwybr Astudiaethau Cymunedol gellir datrys llawer o'r broblem hon.

1. Astudiaethau Cymunedol - SYLFAEN I ADDYSG

Gall Astudiaethau Cymunedol fel rhan o'r cwricwiwm gynnig agweddau hollol allgenrheidiol i addysg pob plentyn neu ddisgybl. Dylai adnabod a deall y gymuned y mae'n ynddi fod yn rhan o addysg pob plentyn, gan fod ar yr un pryd yn gyfrwng i ddatblygu sgiliau allweddol fel llythrenedd, rhifedd ayyb. Byddai hyn yn arwain at astudiaethau pellach yn cysylltu'r gymuned leol i'r gymuned o gymunedau sy'n ffurfio Cymru ac yn arwain oddi yno at Brydain, Ewrop a'r byd. Byddai Astudiaethau Cymunedol wedi ei sylfaenu ar yr egwyddorion canlynol:

  • Gwybod - ffeithiau am y gymuned /syniadau am y gymuned.
  • Ymholi - casglu a chyflwyno gwybodaeth /darganfod gwybodaeth am y gymuned
  • Dehongli - y gallu i ddehongli ac i werthuso elfennau o'r gymuned /dadansoddi a deall rhyng-berthnasau.
  • Gwerthuso - pwyso a mesur gwahaniaethau barn.

Yn naturiol ddigon yn draddodiadol buasai hyn yn atwain at gynnwys y pwnc ac at faes llafur a ddatblygir o amgylch y cars. Fodd bynnag nid dyma wiz arwyddocad y teitl Astudiaethau Cymunedol. Nid cynnwys yr addysg fel y cyfryw sydd yn allweddol ond y eroses o ddysgu, y modd y mae unigolyn yn casglu gwybodaeth, yn ymholi ac yn dod i ddeall ac i werthuso. Wrth gyfeirio at gynnwys pwnc o'r lath yma yn y cwricwlwm dylid cyfeirio yn benodol at y prosesau dysgu yn hytrach na phenawdau megis poblogaeth, datblygiad economaidd a thraddodiadau a diwylliant. Yn wir buasai llawer o sefydliadau addysg yn cyfeirio at y ffaith fod llawer o gynnwys o'r fath yma eisioes yn rhan o'r cwricwlwm mewn pynciau megis Astudiaethau Bro.

Cyfeiria 'prosesau dysgu' at amcanion amgenach na gwybodaeth am y gymuned.
Dylid cyfeirio felly at benawdau megis y canlynol:

  • Dysgu trwy brofiad
  • Ymateb i broblemau
  • Gwneud penderfyniadau
  • Defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu
  • Cyfathrebu a chydweithio gydag eraill
  • Hyder cymdeithasol a gwleidyddol
  • Ymateb i wrthdaro ac i wahaniaethau barn
  • Gwerthuso ceisiadau am newid ac am ryddid
  • Darganfod posibiliadau newid Creu a dychmygu

Mae llawer iawn o'r uchod yn rhan o brofiad dysgu ar hyn o bryd ac yn ymddangos o dan bennawd amryw o bynciau ond nid ydynt yn ganolbwynt i'r dysgu - nid yw'r addysg yn troi o gwmpas y prosesau yma. Ond os yw addysg yn y cyfeiriadau yma i lwyddo rhaid gosod sylfeini'r addysg yma yn gadarn iawn ym mywydau ac ym mhrofiad yr unigolyn a thrwy hynny wneud y prosesau yn berthnasol. Dyna ystyr ac arwyddocad arbennig 'Astudiaethau Cymunedol': gwreiddio'r prosesau addysg a nodwyd uchod ym mhrofiad yr unigolion - nid eu gadael yn amherthnasol ac anelwig fel atodiad i amcanion eraill addysg ond yn hytrach eu troi'n brosesau gyda'u gwreiddiau yn y gymuned. Yn wir dyma'r unig ffordd i sicrhau llwyddiant addysg o'r fath Gwerth arbennig a rhesymeg cynnwys Astudiaethau Cymunedol yn y cwricwlwm craidd yw fod addysg o'r fath yn hollol drawsgwricwlar ac yn berthnasol i bob oed Yn bwysicach na hynny mae'r cynnydd yn ymwybyddiaeth addysgwyr o bwysigrwydd ''proses'' mewn addysg yn arwain at ymgais i gael sylfaen yn y cwricwlwm sydd yn canolbwyntio ar hyn - rhywbeth sydd ar goll yn y Cwricwlwm Cenedlaethol gyda'r gor-bwyslais ar gorff o wybodaeth. Buasai gosod sylfaen trawsgwriciwlar o'r fath yma yn sylfaen a Fyddai'n gefn i bob rhan arall o'r cwricwiwm ac ar yr un pryd yn cadarnhau'r rhyngberthnasau cwriciwlar a all fod yn hollbwysig i ddatblygiad ymwybyddiaeth o anghenion ecolegol y gymuned a'r blaned.

Ar hyn o bryd nid oes dim yng nghwricwlwm ysgolion sydd yn pontio rhwng dyniaethau a'r gwyddorau, ieithoedd a'r sgiliau. Gall ymarferiad sy'n ymateb i sefyllfa real y gymuned, er enghraifft, wneud y pontio allweddol yma.
Canlyniadau:

  • Dylai Astudiaethau Cymunedol fod yn rhan o Gwriciwiwm Craidd ysgolion oherwydd y pwyslais a roddir yn y pwnc yma ar y prosesau dysgu.
  • Byddai profiad addysgol o'r fath yma yn effeithio ar bob rhan o'r cwricwlwm ac yn sylfaenol i bob pwnc - hynny yw yn drawsgwricwlaidd.
  • Nid oes unrhywbeth yn y Cwricwlwm Craidd arfaethedig sydd yn awgrymu sylfaen mor effeithiol i addysgu prosesau. Mae Astudiaethau Cymunedol, fel y diffiniwyd uchod yn cynnig profiadau addysgu holl bwysig nas cyflwynir mewn gwirionedd yn y cwricwiwm ar hyn o bryd. Dyna pam y cynigir Astudiaethau Cymunedol fel rhan o'r Cwricwlwm Craidd.
  • 2. Cynnwys yr Astudiaethau - ASTUDIAETH ENGHREIHTIOL BENODOL O ECONOMI UN ARDAL

CYFLWYNIAD

Symudwn 'nawr at gynnwys yr Astudiaethau. Yn yr adran nesaf rhown amlinelliad o nifer o'r meysydd a ddylai dderbyn sylw. Yn yr adran hon (fodd bynnag rhown engraifft fanylach o un elfen sef economi'r gymuned. Ceisiwn ddisgrifio sut y gellir cynnal astudiaeth mewn un ardal arbennig. Cymerir cymuned yng Ngwynedd fel esiampl ar gyfer y drafodaeth hon, ond mae'r egwyddorion addysgol yr un mor berthnasol i gymunedau ladled Cymru a thu draw. Y gymuned enghreifftiol yw ardal Llanberis, Llanrug a Llanddeiniolen yn Arfon, sef talgylch Ysgol Uwchradd Brynrefail.

AMCANION

Holl amcan astudio economi'r gymuned yw galluogi disgyblion i ddeall y drefn economaidd a'u lle nhw y tu fewn i'r drefn honno. Gall hyn eu galluogi i chwarae rhan bositif yn natblygiad economi'r gymuned.

NODIADAU

  • Astudio hanes datblygiad economaidd y gymuned er mwyn deall economi'r gymuned heddiw
  • Astudio cwmniau a marchnadoedd lleol: deall prif gysyniadau a phrosesau economeg.
  • Adeiladu model syml i ddangos hanfod prosesau economaidd y gymuned ac yna cymhwyso'r model i ddeall hanfodion economaidd cymunedau eraill yng Nghymru, Ewrop a'r byd.
  • Astudio'r berthynas rhwng sylfaen economaidd y gymuned ac agweddau eraill o'r gymuned, megis ei gwleidyddiaeth, ei ideoleg, ei diwylliant a'i hieithoedd.

DULLIAU DYSGU

Peth dysgu ''traddodiadol'' ond gyda'r pwyslais ar arwain disgyblion, yn unigol ac mewn grwpiau, i ymchwilio i'r economi leol eu hunain. Byddai hyn yn golygu ffurfio cysylltiadau rhwng yr ysgol a diwydiannau'r areal e.e. y Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog, Swyddfa Datblygiad Economaidd Cyngor Sir Gwynedd, ffatrioedd cynhyrchu'r ardal a chwmniau adwerthol y gymuned.

CYNLLUN GWAITH

A) Hanfodion Economeg
Dysgir nifer o brif gysyniadau a phrosesau economeg drwy astudio economi'r gymuned:

  • Ffactorau Cynhyrchu - tir, cyfalaf, menter a llafur e.e. astudiaeth o ffynhonellau'r ffactorau cynhyrchu hyn yn natblygiad diwydiant llechi'r ardal. Patrymau perchnogaeth cyfoes, cyfalaf preifat lleol (busnesau bychain megis Rheilffordd Llyn Padarn), cyfalaf preifat o'r tu allan Rheilffordd yr Wyddfa) a chyfalaf cyhoeddus (Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog, Gorsaf Dinorwig.
  • iMudoledd cyfalaf a llafur e.e. astudiaeth o batrwm buddsoddi yn yr ardal heddiw a'r patrwm allfudo a mewnfudo.
  • Cystadleuaeth a chydweithrediad economaidd e.e. astudiaeth o hanes busnesau bychain a chwmniau cydweithredol lleol megis siopau preifat a chydweithredol a mentrau preifat a rhai cydweithredol diweddar (e.e. gweisg lleol).
  • Hanfodion cynhyrchu economaidd, effeithlonrwydd a chynhyrchedd llafur elw, incwm, a buddsoddiad. Gellid cyfiwyno'r cysyniadau hyn drwy astudio unrhyw rai o gwmniau cynhyrchu'r ardal e.e. cwmni Ferado yng Nghaernarfon.
  • Canoli a datganoli economaidd e.e. astudiaeth o'r tueddiadau ardal megis tafarndai a gwestai.
  • Gwariant preifat a chyhoeddus e.e. astudiaeth o ddatblygiad gwasanaeth iechyd yr ardal dros y ganrif hon.
  • Gwariant preifat a'r economi leol e.e. astudiaeth o ddatblygiadau economaidd cyfoes yn yr ardal megis cynlluniau twristiaeth Seiont Manor, Brynafon a Glynrhonwy.
  • Dosbarthiad incwm a chyfoeth e.e. astudiaeth o incwm yn Ùl gwaith rhyw a pherchnogaeth tir a chyfalaf yn yr ardal iv) Marchnad rhydd a chynllunio economaidd e.e. astudiaeth o batrymau darpariaeth tai yn yr ardal v Economy cartref - gan astudio swyddogaeth y ferch.

B) Persbectifau Hanesyddol

Yr economi Geltaidd yn yr ardal e.e. portread o hanes economaidd caer dinas Dinorwig. Yr economi Rufeinig e.e. portread o'r ffyrdd Rhufeinig a phwysigrwydd mwynau copr a haearn / yr economi cyn ac ar Ùl 1282 e.e. portread o'r hanes economaidd sydd yn gysylltiedig ’ chestyll Dolbadarn a Chaernarfon / Economi'r oesoedd canol yn yr ardal e.e. astudiaeth o berchnogaeth defnydd tir / y chwyldro amaethyddol e.e. astudiaeth o hanes cau tiroedd comin plwyf Llanddeiniolon / y Chwyldro) diwydiannol e.e. sefydlu'r chwareli llechi a'r diwydiannau cysylltiedig / Llanw a thrai chwarelydda e.e. hanes economaidd chwarel Dinorwig i'r cyfnod presennol. ( y newid ym mhatrwm amaethyddiaeth i'r cyfnod presennol e.e. drwy astudiaeth o brofiad ac atgofion ffermwyr y fro. / Y wladwriaeth, ganol a lleol, a'r economi leol hyd heddiw e.e. datblygiad polisiau rhanbarthol ers yr ail ryfel byd. / Yr economi cyfoes e.e. patrymau cyflogaeth cyfoes yn Ùl sector economaidd, oed a rhyw / Twf twristiaeth.

C) Modelu'r Economi

Er mwyn deall hanfodion y drefn economaidd byddai modd gwneud model economaidd o'r diwydiant cynhyrchu llechi. Yna dylid edrych ar berthnasedd y model i gymunedau heddiw yn lleol drwy Gymru a thu draw. Buasai modd gwneud model mwy cyflawn o economi'r gymuned fel ag yr oedd ar droad y ganrif ddiwethaf a'i gymharu gyda'r sefyllfa heddiw gan ganolbwyntio ar y broses gynhyrchu, y strwythyr dosbarth a'r rhaniad llafur. Buasai'r model o ddatblygiad economi'r gymuned yn sail i werthfawrogi hanfodion economaidd cymunedau eraill led-led y byd.

MODEL O DDATBLYGIAD ECONOMI'R GYMUNED:

Y BROSES CYNHYRCHUYn aros yr un fath Cylchdro cynhyrchu. Er mwyn gwneud elw mae cwmniau'n prynu cyfryngau cynhyrchu a chyflogi gweithwyr, trefnu a rheoli'r broses gynhyrchu a gwerthu'r cynnyrch.Yn newid: Drwy grynhoad cyfalaf mae graddfa a dulliau cynhyrchu a'r cynhyrchion yn newid.

STRWYTHUR DOSBARTH
Yn aros yr un fath: Cyfalaf sy'n berchen cwmniau ac yn cael yr elw. Nid yw'r dosbarth gweithiol yn berchen ar gyfryngau cynhyrchu. Rhaid i'r gweithiwr werthu ei lafur i gyfalaf, gan weithio a byw ar y cyflog.Yn newid: Cwmniau'n tyfu. Canoli a chrynhoi diwydiant. Perchnogaeth cyfalaf yn ehangu. Cyfansoddiad y dosbarth gweithiol yn newid.

RHANIAD LIAFUR
Yn aros yr un fath: Drwy gyfnewid rhwng cwnniau a rhwng cwmniau a chartrefi Drwy reolaeth fewnol cwmniau. Drwy arferiad a chytundeb o fewn y cartref.Yn newid: Wrth i gwmniau dyfu ac uno, gynhyrchu pethau newydd a chymryd drosodd gynhyrchu o fewn y cartref. Newidiadau technegol drwy'r amser. Hen sgiliau yn darfod a rhai newydd yn codi.

CH) Yr Economi a'r Gymdeithas

Astudiaeth o'r berthynas rhwng newidiadau yn sylfaen economaidd yr ardal ac amryfal agweddau o'r gymdeithas megis mudoledd pobl, y strwythyr dosbarth, rÙl economaidd merched, agweddau gwleidyddol, gweithgareddau diwylliannol a phatrwm ieithyddol yr ardal.

ASESIAD
Diau bod modd asesu'r math o addysg yn rhannol drwy arholiad ond y ffordd amlwg yw i'r myfyrwyr gyflawni prosiectau ymchwil.

ADNODDAU
Drwodd a thro mae diwydiannau a sefydliadau lleol yn barod iawn i helpu ysgolion a hybu addysg berthnasol. Yn ogystal gellir cael help gan gymdeithasau lleol megis cymdeithasau hanes lleol ac unigolion sydd ’'u gwreiddiau yn lleol.

Mae cwrs sylfaenol Y Brifysgol Agored (D l 02) yn tywys myfyrwyr i fodelu'r economi ac mae hwn yn batrwm i'w addasu i'r gymuned leol. Unwaith y dechreuir chwilio mae'n syndod yr amrywiol ddefnyddiau y gellir eu casglu a'u defnyddio e.e. tapiau o raglenni ar y chwareli, llyfrau ac erthyglau ar gau'r tiroedd comin ac ar y chwareli, y porthladdoedd, y diwydiant llongau ac yn y blaen.

Yr adnoddau pwysicaf yw athrawon goleuedig. i gynhyrchu'r rhain rhaid claddu'r holl syniad o 'hyfforddi' athrawon. Mae hyfforddi llewod neu fwncwns mewn syrcas yn ddigon drwg, ond mae hyfforddi athrawon yn fwy gwrthun fyth. Dyna sut y cynhyrchir athrawon taeog, ofnus, blin, awdurdodol, a diddychymyg. Rhaid wrth addysg uwch ymchwilgar, honest, a dilechdidol i fagu athrawon hyderus sy'n medru meddwl drostynt eu hunain.

3. Cynnwys yr Astudiaethau - AMLINELLIAD O'R MEYSYDD ERAILL I'W TRIN

A) RHAGYMADRODD

Yn dilyn yr Astudiaeth pur fanwl yn yr adran diwethaf o sut y gellid gweithredu un o elfennau Astudiaethau Cymunedol mown cyd-destun arbennig, trown yn awr at weddill yr elfennau posibl o ran cynnwys Astudiaethau Cymunedol, gan roi ychydig o nodiadau rhagarweiniol am bob elfen.

B) LLYWODRAETH A GWLEIDYDDIAETH YN Y GYMUNED

Yr amcanion yma fyddai hybu astudiaethau o weithrediad Llywodraeth a'r drefn wleidyddol ac hefyd i hybu'r arfer o gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd a chyfrannu felly at y gymuned. O ran cynnwys byddai nifer o elfennau presennol pynciau fel hanes, materion cyfoes ac ati, a byddai unrhyw astudiaeth o'r drefn wleidyddol o reidrwydd yn glynu ag elfennau araill hefyd o Astudiaethau Cymunedol e.e. economi'r gymuned, gweithrediad y cyfryngau ac ati. Byddai'r astudiaeth a'r ymdrafod ei hunain hefyd wedi ei wreiddio yn y gymuned. O'r oedran cynharaf dylai myfyrwyr ysgol wynebu pynciau lleol a'r gwahanol agweddau atynt a thrwy hyn dod i ddeall cysyniadau gwleidyddol a fydd o gymorth iddynt ddeall materion cenedlaethol a chydwladol hefyd. Dylid cael ystod eang o garfannau o'r gymuned i mewn i'r addysg i roi safbwynt a hybu ymdrafod fel na add y myfyrwyr yn debygt o gael eu twyllo gan unrhyw rai yn nes ymlaen yn eu bywydau. Dylai fod ymweliadau cyson a Siambr y Cyngor lleol ac astudiaeth o adroddiadau gan y cyfryngau torfol.

Yn bwysig iawn hefys dylai'r myfyrwyr ddysgu trwy weithredu. Argymhellwn fel rhan bwysig o'r addysg fod sefydlu undebau myfyrwyr ysgol mewn ysgolion a thrwyddynt hybu ymhel ’ gwleidyddiaeth. Dylai'r undeb fod ’ chyfrifoldeb dros drafod a threfnu materion yn ymwneud ag adloniant, lles y myfyrwyr a materion cymdeithasol eraill. Ond dylent hefyd gael cyfle i drafod yr addysg a gynigir iddynt o safbwynt ieuenctid, a chael cynrychiolydd ar fwrdd y Llywodraethwyr yn yr ysgol i gynnig eu hymateb. Dylid eu sbarduno hefyd i wneud sylwadau mewn gohebiaeth a chynghorau lleol ar bynciau lleol o bwys.

Os cawn ein cyhuddo o fynnu cyflwyno gwleidyddiaeth i ysgolion, gofynnwn mewn ymateb pwy mewn difrif sydd am wrthwynebu hyn. Pwy sydd am wadu'r angen am bobl effro, wybodus, a pharod i herio, ond hefyd gydag ymdeimlad o gyfrifoldeb cymdeithasol? Pwy sydd yn barod i wadu na ddylai hyn fod yn rhan allweddol o unrhyw gwricwlwm addysg?

C) Y BROSES GYNLLUNIO LLEOL

Dyma elfen amlwg mewn unrhyw astudiaeth cymunedol oherwydd trwy'r broses hon i raddau helaeth y mae cynllunio ar ddyfodol cymuned leol. Mae'n hanfodol felly bod myfyrwyr yn dod i ddeall gweithrediad y broses gynllunio a rhan cynghorau cymuned, dosbarth a sirol a Llywodraeth ganolog yn ogystal ’ deall ymyraeth gan fyrddau cyhoeddus a grwpiau pwyso. Dylent astudio penderfyniadau sy'n ymwneud ’ defnydd tir ar gyfer tai newydd, gweithgarwch economaidd (yn cynnwys amaethyddiaeth, twristiaeth, mwyngloddio ac ati), trafnidiaeth, ynghyd ag effeithiau ar yr amgylchedd amaterion cymdeithasol fel symudiadau demograffig a newidiadau diwylliannol.

Nid yn unig y dylai myfyrwyr ddeall hanes datblygu y system gynllunio a deall natur y eroses ymgynghori ond dylent ddysgu hefyd cymryd rhan yn y broses honno o'r oedran gynharaf y gallant. - dysgu trwy weithredu trwy wneud penderfyniadau e.e.
cynllunio parc, pentref, llunio mapiau ac ati. Yn nes ymlaen dylent astudio cynllunio fframwaith a chynlluniau lleol, dilyn trafodaethau arnynt gan gynnig gwelliannau a sylwadau gan gymryd eu rhan llawn yn y broses ymgynghori.

CH) ECOLEG Y GYMUNED

Bydd Astudiaethau Cymunedol yn seiliedig ar y broses o ddysgu ac ar roi ystod o sgiliau i bobl ifanc, yn yr achos yma i'w galluogi i ddeall, dehongli a gwerthuso eu hamgylchfyd a phroblemau yn ymwneud ag e. Dylai unrhyw astudiaeth o ecoleg felly o fewn fframwaith Astudiaethau Cymunedol gynnwys dealltwriaeth o'r prif gysyniadau ecoleg sef:

  • perthynas ffactorau biotig (byw) a ffactorau abiotic (anfyw).
  • Cylchfaoedd
  • Olyniad
  • Addasiad
  • lefelau troffig
  • rhyngberthynas pethau byw a'i gilydd

Effaith hyn fyddai:

  • gwneud cysyniadau'n rhai real a
  • galluogi disgyblion i ddeall ac adnabod eu hamgylchhrd lleol

Dylid dod i ddeall y cysyniadau uchod trwy brofiad ymarferol o astudio a dehongli cynefinoedd lleol e.e., waliau, coedlannau, lawntiau, traethau, mynydd-dir, dwr croyw ac yn y blaen. Da o beth fyddai i bob ysgol gael cynefin i astudio ac i ofalu amdano.Drwy astudio uniongyrchol gellid cyfiwyno technegau astudio ecolegol a'r defnydd o dechnoleg ble gellir gweld gwir angen amdanynt, ble maent yn berthnasol ac yn ddefnyddiol (e.e. symud asesiadau gorddrychol o organebau mewn cynefin i asesiad gwrthrychol rhifyddol. Casglu data a'i storio a'i brosesu ar gyfrifadur.

Dylid dysgu mewn dull sy'n rhoi pwyslais ar brosesau dysgu a sgiliau sy'n galluogi'r disgybl i ddehongli'r amgylchfyd o lefel lleol i fyd dang. Dylid defnyddio a chryfhau ar yr hyn a ddysgwyd drwy edrych ar y problemau ecolegol sy'n wynebu'r gymuned leol a'r byd ehangach e.e. yng nghyd-destun Gwynedd:

  • Y ddadl fforestydd/mynydd-dir - beth yw effaith fforestydd ar fywyd gwyllt?. ... ar y cyflenwad dwr?.... ar y cymunedau lleol?
  • effaith nitradau ar gynnyrch ffermio ac ar y cyflenwad dwr ac ar gynefinoedd dwr croyw
  • effeithiolrwydd y system trin carthion, effaith mewnlifiad a thwristiaeth ar y systemau yma, effaith llygredd carthion ar gynefinoedd lleol ac yn y blaen.

Ac mewn cyd-destun ehangach:

  • effaith diwydiant a llosgi tanwydd ar grynodiad CO2 yn yr atmosffer a'r effaith ty gwydr
  • glaw asid
  • llygru'r moroedd
  • distrywio'r oson ayyb.

Fel y gwelir nid yw'r problemau uchod yn rai sydd yn hawdd eu datrys, gydag atebion syml. Nid ydynt ychwaith yn broblemau 'ecolegol' yn unig - dylai unrhyw ymdriniaeth ’ hwy ymestyn i fyd daearyddiaeth, gwleidyddiaeth ac economeg. Dyma un o gryfderau cyflwyno ecoleg fel elfen o astudiaethau cymunedol: mae yma gyfle i gydblethu'r disgyblaethau sy'n draddodiadol ranedig mewn modd sy'n gymwys i'r disgybl ac i'r maes, mewn modd gwirioneddol berthnasol. Gyda dyfodiad y cwricwiwm craidd, bydd athrawon prysur a phrin eu hamser yn troi eu hegni at ddysgu yr hyn a nodier yn y cwricwiwm craidd. Yn gyntaf felly mae'n hanfodol fod lle i ecoleg o fewn Astudiaethau Cymunedol yn y cwricwlwm craidd.

HYFFORDDIANT

i) CYNRADD. Mae yma esioes bwyslais ar y prosesau dysgu mewn cyrsiau hyfforddi athrawon. Yma mae angen sicrhau bod uned ar ecoleg yn rhan o gwrs hyfforddiant pob athro a bod cyrsiau mewn swydd ar gael i athrawon profiadol er mwyn iddynt ennill hyder a gwybodaeth yn y maes.

ii) UWCHRADD. Bydd athrawon ymhob ysgol gyda'r wybodaeth arbenigol angenrheidiol. Bydd angen trefnu gweithdai a chyrsiau mewn swydd er mwyn meithrin dull o ddysgu sy'n rhoi pwyslais ar brosesau ac ar gydweithredu ar draws y cwricwiwm gydag athrawon o ddisgyblaethau eraill. Dylai Astudiaethau Cymunedol fod yn ran o gyrsiau hyfforddi athrawon.

D) DATBLYGIAD DIWYLLIANT Y GYMUNED

Dylid astudio diwylliant sydd yn codi o'r gymuned gan sylwi unwaith eto ar y cydgysylltiad gydag elfennau eraill o Astudiaethau Cymunedol e.s. effeithiau economeg ar y diwylliant, a symudiadau demograffig, dylanwad y cyfryngau ac ati.

Gellid dadansoddi data fel ffigyrau'r cyfrifiad. Gellid gwneud arolwg o ardal yn gyson, o ran eu hadnoddau cymdeithasol, ystod y bywyd cymdeithasol ffurfiol, symudiadau cymdeithasol anffurfiol ac adloniant, bodolaeth carfannau arbennig yn y gymuned a'u hanghenion. Gellid astudio hefyd ddiwylliant y gwahanol genedlaethau o bobl yn y gymuned ac astudio'r resymau am y gwahaniaethau rhyngddynt. Maes astudiaeth arall Fyddai delwedd y cyfryngau o ddiwylliant a'r gwahaniaeth rhwng y ddelwedd hon a'r diwylliant y gymuned ei hunan. Unwaith eto gellid dysgu trwy weithredu e.e.

i) trwy gyflwyno gwybodaeth a syniadau am y gymuned trwy gerdd a drama.
ii) trwy waith cymdeithasol.
iii) trwy bod yr Undeb yn trefnu gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol.

Bydd yr elfen hon o Astudiaethau Cymunedol yn cynnwys elfennau o'r Cwricwlwn presennol sydd dan bwysau ar hyn o bryd e.e. addysg bersonol, celfyddydau creadigol ac ati. Efallai fod modd ymdrin ’'r materion yma yng nghyd-destun Astudiaethau Cymunedol.

DD) ASTUDIAETH O SWYDDOGAETH Y CYFRYNGAU

Ystyr cymuned yw pobl yn ymwneud ’'i gilydd, a chan fod y cyfryngau'n ddull pwysig o gyfathrebu mae'n bwysig astudio'r elfen hon o fywyd y gymuned hefyd - trwy ddysgu gwybodaeth, trwy drafodaeth, a thrwy brosiectau gweithredol. Byddai angen cyflwyno gwybodaeth ffeithiol am hanes datblygiad y cyfryngau, am eu ffurf, eu rheolaeth /perchnogaeth /ffynhonellau ariannol ac am eu dylanwad.

Byddai eisiau cymharu hefyd ddiwylliant y gymuned gyda diwylliant y cyfryngau ac astudio cwestiynau (ar sail tystiolaeth o raglenni a phapurau penodol) fel pa newyddion a ddewisir i'w hadrodd a pham, sut trafodir y newyddion hyn, pa werthoedd a delweddau a gyfleir gan y cyfryngau, ac i ba garfannau y mae'r cyfryngau'n agored. Buddiol yw cymharu cynnwys ac ymagweddion gwahanol gyfryngau. Daw'r astudiaethau o natur y cyfryngau yn gliriach o gyd-dysylltu'r wybodaeth hon gyda gwybodaeth sy'n deillio o elfennau araill o Astudiaethau Cymunedol e.e. Trwy ddeall y drefn economaidd gellid trafod y cwestiwn i ba raddau y mae llais y wlad a llais y cyfryngau yn caul eu trin yn debyg, Unwaith eto gellid dysgu trwy weithredu trwy ddadansoddi fideos a thapiau rhaglenni, papurau a chylchgronau, ond hefyd trwy fod dosbarthiadau yn ceisio cynnal cylchgronau a rhaglenni eu hunain gan orfod wynebu yr un dewisiadau a phobl proffesiynol y cyfryngau o ran cynnwys a thriniaeth a defnydd cyllideb.

4. Oblygiadau i'r Drefn Addysg

A) RHAGYMADRODD
Daw'n fwy fwy amlwg fod cyfiwyno set o Astudiaethau fel Astudiaethau Cymunedol gydag oblygiadau pendant i bob rhan o'r system addysg yng Nghymru a byddai'n rhoi sbardun i ddatblygiadau cyfochrog yn y system ei hunan.

B) DULLIAU DYSGU
Daeth yn amlwg dro ar Ùl tro y byddai swyddogaeth yr athro yn newid rhywfaint, ynghyd ’ swyddogaeth yr ysgol ei hun ac fe ymdrinir i'r materion hyn yn yr adrannau dilynol. Byddai pwyslais newydd hefyd ar ddulliau dysgu gwahanol fel trafod, dadlau, cyweithiau, a phrosiectau. Ond yr elfen newydd a ddaeth i'r amlwg dro ar Ùl tro yn ein trafodaethau ar Astudiaethau Cymunedol yw'r cysyniad o ddysgu trwy weithredu. Crynhown fan hyn y gwahanol ffyrdd y daeth hyn i'r amlwg:

i) Sefydlu Undeb Myfyrwyr Ysgol o fewn yr ysgol gyda chyfrifoldebau cymdeithasol, adloniadol a lles. Byddent yn trafod cynnwys yr addysg o bersbectif ieuenctid ac yn cael cynrychiolydd ar y Bwrdd Llywodraethol. Byddent yn trafod hefyd bynciau o bwys i'r gymuned leol a gallent roi eu syniadau gerbron yr Awdurdodau Lleol.
ii) Sefydlu cylchgronau a llunio rhaglenni radio.
iii) Sefydlu mentrau economaidd cydweithredol.
iv) Cyfrannu at y broses gynllunio lleol trwy roi sylwadau a gwelliannau ar gynlluniau fframaith lleol a cheisiadau am ganiatad cynllunio.
v) Gallent wneud arolwg o fywyd diwyllianno] y gymuned a threfnu gweithgareddau diwylliannol a gwaith cymdeithasol.
vi) Gallent sefydlu grwpiau drama, cerddoriaeth a llenyddiaeth er mwyn cyfleu gwybodaeth yn y gymuned
vii) Gallent fod yn flaengar o ran ymchwil i anghenion y gymuned (byddwn yn dychwelyd at y syniad o ysgolion fel canolfannau ymchwil i'r gymuned).

C) DULLIAU ASESU
Mae'n amlwg y byddai'r system bresennol - sef y tueddiad i ystyried pasio arholiadau yn nod ynddo'i hun - yn ddull hynod aneffeithiol o asesu cynydd y myfyrwyr mewn Astudiaethau Cymunedol. Byddai dulliau araill o asesu fel asesiad parhaol a hyd yn oed asesiad annibynnol a thrafodaethau dosbarth yn fwy addas yn y cyd-destun hwn. Ond mae angen i ni ddal ar y cyfle i holi o'r newydd pa fath o asesiad sydd yn addas a beth yw swyddogaeth yr asesu. Gallwn symud trwy'r camau canlynol. Mae gwerth mewn asesiad cyffredinol er mwyn mesur llwyddiant yr astudiaethau newydd hyn. Ond mae angen asesu yn unigol yn ogystal ac asesu ysgol a dosbarth er mwyn y myfyriwr unigol ei hunain. Dylai'r asesiad fod yn gadarnhaol, yn gyflawn ac yn barhaol yn hytrach nac yn radd syml, gan ddilyn canllawiau catalog. Ni welwn lawer o werth mewn arholiadau yn rhan o'r broses ond derbyniwn y byddant yn parhau yn y dyfodol gweladwy ac yn rhan o'r asesiad terfynol. Byddai angen canllawiau catalog ar gyfer yr asesiad cyflawnach. Mae'n ddigon ymarferol cael canllawiau catalog o ran y cysyniadau a gyflwynir er y byddai'r enghreifftiau diriaethol yn amrywio o ardal i ardal. Byddai'r asesiad parhaol yn cael ei gyflawni gan yr athrawon a byddai ganddynt fewnbwn sylweddol i'r asesiad terfynnol, tra byddai'r canlyniadau terfynol yn cael eu harolygu a'u cysoni gan aseswyr annibynnol.

CH) STRWYTHYR Y DREFN ADDYSG
Mae Addysg Cymunedol yn golygu nid yn unig fod myfyrwyr ysgol yn astudio'r gymuned ond hefyd bod lleihau ar y gwahaniaeth rhwng y gymuned a'r sefydliad addysgiadol e.e.

i) Byddai'r myfyrwyr yn dysgu yn eu cymuned yn ogystal a thu fewn i'r ysgol.
ii) Byddai carfannau o'r gymuned yn caul mynediad i'r ysgol i rannu y broses o ddysgu.
iii) Byddai llawer mwy o ddefnydd cymunedol o adeilad yr ysgol.
iv) Byddai ysgolion yn datblygu fel canolfannau ymchwil ac addysg i'r gymuned gyfan gydag addysg oedolion ac o bosibl gwasanaethau llyfrgell yn cael eu canoli yma hefyd.

Gallwn ychwanegu yn y fan hon bolisiau pellach sydd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ynghylch strwythyr y drefn addysg. Er nad oes rhaid aros nes ail-wampio'r drefn addysg cyn cyflwyno Astudiaethau Cymunedol i'r cwricwlwm mae'n werth ystyried yr argymhellion hynny yn y fan hon. Ein polisi yw i geisio integreiddio sefydliadau addysg gyda'i gilydd ac i mewn i'r gymuned. I'r perwyl hwn cynigiwn gylchoedd addysg. Byddai 'cylch' yn cynnwys coleg trydyddol (neu drefniant arall), yr ysgolion uwchradd sy'n ei bwydo, yr ysgolion cynradd sy'n eu bwydo hwythau ynghyd i'r ysgolion meithrin sydd yn eu tro yn bwydo'r ysgolion cynradd - o un pen y spectrwm addysg hyd at y pen arall. Dylid cynllunio addysg ar gyfer y cylchoedd hyn yn eu cyfanrwydd, ac i hyrwyddo hyn byddai'n ofynnol i Bwyllgorau Addysg Lleol ffurfio ''Cynllun Fframwaith'' ar gyfer addysg yn y cylch dros y pymtheg mlynedd canlynol gan geisio ymateb yr athrawon, rhieni, a myfyrwyr i'r canllawiau hyn. Gellid cael hyblygrwydd oddi fewn i'r sefydliadau yn Ùl anghenion y gymuned Gan ddychwelyd at bwnc gwreiddiol y nodiadau hyn, byddai Arolygwyr Astudiaethau Cymunedol ar gyfer pob cylch a Fyddai'n hwyluso cyflwyno Astudiaethau Cymunedol i'r cwricwiwm.

D) HYFFORDDI ATHRAWON
Fel y dywedwyd eisioes byddai swyddogaeth yr athrawon yn ddatblygol o dan y cynlluniau hyn. Byddent yn dod fwy fwy'n ganolwyr gan hybu trafodaeth ymhlith dosbarth o fyrwyr, yn hytrach na phlismona plant: eu gwaith byddai hybu ymchwil a thrafodaeth. Mae pobl ifainc wrth reddf yn ymchwilgar, a dylid manteisio ar hyn. Byddai athrawon yn datblygu'n gyfarwyddwyr ymchwil gyda rÙl bwysig o fewn y gymuned a byddai'r ysgolion yn dod yn ganolfannau ymchwil i'r ardal.

Byddai llawer o'r wybodaeth anghenrheidiol ym meddiant gwahanol athrawon yn barod a byddai cyfnodau cymharol fyr o hyfforddiant mewn swydd yn ddigon i'w galluogi i ddechreu cyflwyno Astudiaethau Cymunedol fel tim a 'dysgu trwy ddysgu'. Gallai llawer o'r hyfforddiant gymryd ffurf cylchoedd trafod ac ymchwil yr athrawon eu hunain gan gyfarwyddo ynghylch ffynhonellau gwybodgeth lleol a hybu sgiliau trafod, dadansoddi a gwerthuso.

Hydref 2003 - (Diwygiad o Bapur Polisi gan Gymdeithas yr Iaith 1988)