Addysg: Trefniadaeth Ysgolion yn Ardal Pencader

TYSTIOLAETH I GYNGOR SIR CAERFYRDDIN AC I'R GWEINIDOG ADDYSG JANE DAVIDSON AR RAN LLYWODRAETHWYR YSGOL GYNRADD WIRFODDOL LLANFIHANGEL-AR-ARTH - MEWN CYDWEITHREDIAD A GRWP ADDYSG CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG.

1. Y BROSES YMGYNGHOROL

1.1 Cyflwynwn y dystiolaeth hon fel rhan oír broses ymgynghorol ar ddyfodol addysg gynradd yn yr ardal hon.

1.2 Gofynodd ein Llywodraethwyr am amser ychwanegol i drafod yr opsiynau (ac rydym yn ddiolchgar iír Awdurdod am ganiatau y mis ychwanegol), oherwydd bod y broses yn un mor gymleth : mae gennym 5 ysgol yn yr ardal - sef Llanfihangel-ar-Arth, Llanllwni, New Inn, Caeír Felin ac Alltwalis - ac maeír berthynas rhyngddynt yn gymleth; mae dwy oír ysgolion yn ysgolion gwirfoddol Eglwysig mewn dau blwyf gwahanol. Hefyd maeír Awdurdod wedi gofyn i ni ystyried 4 opsiwn yn arbennig (a chynnig eraill os dymunwn), ac mae dau oír opsiyne yn rhai na ellir eu gweithredu hyd yn oed ar ol dau fis oíu hystyried (gweler y rhestr opsiynau isod).

1.3 Nid ydym yn hapus o bell ffordd fod archwilio llawn wedi bod oír holl bosibiliadau. Gall fod yn beth da o safbwynt yr Awdurdod eu bod yn dangos eu bod yn gwrando ar farn pobl leol - ond ar ei waethaf, gall hyn fod yn esgus dros beidio rhoi arweiniad. Rydym yn ddiolchgar iír Swyddogion am eu parodrwydd i ddod mas i siarad ’ phobl yn eu cymunedau ac am fod mor hygyrch a hawdd cysylltu ’ nhw; ond maeín wir dweud hefyd bod pob symbyliad ac ìinitiativeî wedi dod oddi wrth Llanfihangel aír ysgolion eu hunain. Dywed Swyddog ar ran Jane Davidson :

ìIn particular she will want to see evidence that imaginative alternatives to closure have been fully exploredÖ.î

Ac eto, yn nogfen y Cynulliad dywedant y byddant yn sylwi

ìwhether alternatives to closure have been actively considered, in particular whether federation, clustering or collaboration with other schools have been looked at ÖÖî

Bu dwy flynedd oddi ar iír Cynllun Trefniadaeth Ysgolion gael ei lunio pryd y gofynwyd i ysgolion drafod y posibiliadau, ond er enghraifft, dim ond eleni y cawsom wybod na fyddai ffedereiddio y 5 ysgol yn bosibl gan nad ywín bosibl ffedereiddio ysgolion Eglwys gydag ysgolion y Cyngor Sir. Rydym wedi cysylltu yn gyson ’ír Awdurdod yn gofyn am arweiniad ynglyn ’ chael yr ysgolion i gydweithredu mewn nifer o feysydd, ond does dim arweiniad wedi dod.
Gobeithio fod yr Awdurdod yn gwerthfawrogi nad yw Ysgol Llanfihangel am aros fel y mae, ond teimlwn fod pob ìinitiativeî wedi dod oddi wrth Llanfihangel ei hunan, ac nid wrth yr Awdurdod Addysg.E.e Gan fod yna ddwy ysgol ffedereiddiedig eisoes yn y sir - a mwy mewn rhannau eraill o Gymru a Lloegr pam nad yw Swyddogion y Cyngor Sir wedi gwneud asesiad o sut y maeír rhain yn gweithredu a pha fesur o lwyddiant sydd iddynt , a pha wersi dylid eu dysgu aíu pasio ymlaen i ardaloedd eraill sydd am wybod mwy am ffedereiddio? Pam nad oes gan y Cyngor Sir bolisi pendant ar fater ffedereiddio a chanllawiau i gynorthwyo ardaloedd fel ein hardal ni? Rydym wedi gorfod ceisio datblyguír ysgol fel canolfan iír gymuned, a goresgyn nifer o broblemau, heb unrhyw help nac arweiniad oddi wrth yr Awdurdod. Rydym wedi sefydlu Pwyllgor Clystyru rhwng y 5 ysgol, ac er i hwnnw esgor ar rai prosiectau o gydweithio, nifer o ìone-offsî oeddynt; ac er iír Cyfarwyddwr ysgrifennu atom a dweud ei fod yn ìgalonogol i glywed am eich gwaith wrth dynnu nifer o ysgolion at ei gilydd i gydweithio er lles y gymuned gyfanî, ein teimlad llethol oedd bod yr ewyllys yn ein pentrefi ond bod angen arweiniad oír canol.

Wrth benderfynu ar ddyfodol ein cymunedau mae angen iír Cyngor Sir ddangos arweiniad; mae angen bod yn gadarnhaol i ddatblygu ein hasedau ac nid eu dinistrio.

1.4 Nid ydym ni fel llywodraethwyr Ysgol Llanfihangel yn teimlo fod y posibiliadau i gyd wedi eu harchwilio yn drwyadl oherwydd buín amhosibl i ni gynnal trafodaeth gyda Llywodraethwyr Ysgol Llanllwni.
Wedi i Lywodraethwyr Ysgol Llanfihangel benderfynu ein bod am ffedereiddio gydag Ysgol Llanllwni fe gysylltwyd ’ nhw i ofyn am gyfarfod ym mis Mehefin. Mewn cyfarfod o Lywodraethwyr Ysgol Llanllwni ar Fehefin 4ydd penderfynwyd eu bod yn gyntaf am gael barn yr Awdurdod ar fater ffedereiddio.

Wedi i Swyddogion y Cyngor Sir ffurfio eu 4 (nid 3 fel y dywedwyd wrth y wasg yn wreiddiol) opsiwn at yr ysgolion ñ yn cynnwys yr un penodol o ffedereiddio rhwng Ysgolion Llanfihangel a Llanllwni ñ fe gynhaliwyd Cyfarfod Brys o Lywodraethwyr Ysgol Llanfihangel ar Fedi 19 pryd y penderfynwyd ìgofyn am gyfarfod anffurfiol gyda Llanllwni i drafod ffedareleiddio.î Cysylltwyd ag ysgol Llanllwni, a dywedwyd wrthym ar lafar fod ar y Llywodraethwyr angen mwy o wybodaeth am yr hyn oedd ym mwriad Llywodraethwyr Ysgol Llanfihangel. Paratowyd dogfen yn amlinellu ein safbwynt (amgaeedig), aíi ddanfon at Lywodraethwyr Ysgol Llanllwni gan ofyn iddynt ei roi gerbron eu cyfarfod ac am gyfarfod rhyngddom iíw drafod.

Yr ymateb nesaf a ddaeth oddi wrth Llywodraethwyr Ysgol Llanllwni oedd ar
Hydref 17 yn ein hysbysu y byddent yn barod ar gyfer trafodaeth bellach ìwedi sefydluî sefyllfa ysgol Llanllwni. Esboniwyd wrthynt fod y cyfnod ymgynghorol yn dod i ben ar Ragfyr 1af a bod dim pwrpas o gwbl i drafodaeth ar ol hynny.

Roedd ymateb Llywodraethwyr Ysgol Llanllwni yn gosod mwy fyth o amodau ar unrhyw drafod, sef (Hydref 29) :

ìbod unrhyw drafodaethau pellach rhwng Cadeiryddion Llywodraethwyr, Swyddogion yr Awdurdod Addysg a Chynrychiolwyr Bwrdd Addysg yr Esgobaeth ’ír ddogfennaeth gyflawn, briodol oín blaenau ar gyfer pob dewis a fydd dan ystyriaeth.î

Yn dilyn yr ymateb hwn, fe aeth Llywodraethwyr Ysgol Llanfihangel ati i drefnu Cyfarfod yn Llanfihangel gyda Mr. Aled Evans Prifathro Ysgol ffedereiddiedig Carreg Hirfaen gan wahodd Staff, Llywodraethwyr a Rhieni Ysgol Llanllwni ñ yn unig er mwyn gwrando a chael gwybodaeth am brofiad ysgol sydd wediíi ffedereiddio , ac nid er mwyn trafodaeth a fyddaiín groes iíw hewyllys. Buín gyfnod rhwystredig iawn, aín teimlad ni fel Llywodraethwyr Ysgol Llanfihangel unwaith eto yw y dylai Swyddogion y Cyngor Sir fod wedi trefnu cyfarfod oír fath yn union ar gychwyn y broses ymgynghori - yn arbennig gan fod ffurfio ffederasiynau yn un o opsiynauír Awdurdod - fel hyn, byddaiír ysgolion yn gweld fod y cyfarfod yn cael ei drefnu gan yr Awdurdod annibynnol ac nid gan un oír ysgolion eu hunain (maeín amlwg iín cais ni gael ei ystyried fel un oedd ’ chymhellion amheus gan fod gennym ìvested interestî yn y mater). Dywed Mr. Bryan Stephens : ìÖ.roeddwn oír farn fod gwahodd penaethiaid y ffederasiynau sydd yn bodoli eisoes i gynnig gair o brofiad yn syniad da ac yn un iíw gymeradwyo.î - os felly, pam na threfnwyd cyfarfod oír fath gan Swyddogion y Cyngor Sir?

Estynwyd gwahoddiad hefyd, gan ein Cynghorydd Sir, i rieni a llywodraethwyr y 5 ysgol i gyfarfod ym Mhencader i wrando ar ddau brifathro ysgolion wediíu ffedereiddio ac i holi cwestiynau iddynt am sut y maeín gweithio yn eu hardaloedd nhw. Roedd cynrychiolwyr yno o 4 oír ysgolion,ond neb o Lanllwni.

Daeth llythyr mewn ymateb oddi wrth Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Llanllwni yn dweud ìteimlaf y gallai ymuno mewn trafod answyddogol beryglu yr hyn rydym ni wedi gofyn yn swyddogol ac yn unfrydol iír Awdurdod Addysg ei ystyried ar gyfer Llanllwni.î Hefyd soniodd eto am gael ìdogfennaeth briodolî, ond heb ehangu ar beth yn union ddylaiír ddogfennaeth honno gynnwys (oedd yn wahanol iír llythyr a ddanfonwyd atynt eisoes ac na roddwyd o flaen y Llywodraethwyr hyd y gwyddom ni).

Danfonodd Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Llanfihangel ateb yn esbonio eto na fydd unrhyw bwrpas trafod ar ol Rhagfyr 1af, ar ol iír Swyddogion baratoi eu hargymhelliad iír Cabinet, ac am ymateb Llywodraethwyr Ysgol Llanllwni i hyn. Cafwyd ateb i hyn gan Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Llanllwni ar Dachwedd 14 , yn gosod mwy fyth o amodau ar unrhyw drafodaeth bosibl - amodau sydd yn llwyr amhosibl i Lywodraethwyr Ysgol Llanfihangel gydymffurfio ’ nhw. Byddaiín amhosibl hyd yn oed iír Cyngor Sir baratoi y ddogfennaeth y mae Cadeirydd Llwodraethwyr Ysgol Llanllwni yn gofyn amdano ñ ac yn wir ni wnaeth Swyddogion yr Awdurdod baratoi unrhywbeth tebyg i hyn i gydfynd ’ír opsiyne y bu Llywodraethwyr Ysgol Llanllwni a phawb arall yn eu trafod. (Gweler ymateb). Dywed Mr. Bryan Stephens : ìMater iír Corff Llywodraethol aír Tim Hyn fyddai cynllunio addysg y dyfodol.î

Teimlwn, fel Llywodraethwyr Ysgol Llanfihangel, ein bod wedi gwneud pob ymdrech posibl i drafod yr opsiwn a roddwyd gan y Cyngor Sir o ffedereiddio gydag Ysgol Llanllwni. Rydym yn anhapus iawn nad yw ein prif opsiwn ni, ac un o opsiynauír Cyngor Sir, wedi cael ei drafod yn fanwl. Gobeithiwn yn fawr mai hwn fydd yr opsiwn y bydd y Cyngor Sir yn ei ddewis, ac y byddant yn rhoi arweiniad pendant i drafodaeth gan nad yw Llywodraethwyr Ysgol Llanllwni ar unrhyw adeg wedi gwrthwynebuír egwyddor. Teimlwn ar y funud ein bod yn mynd o gwmpas mewn cylchoedd, a bod gofynion afresymol Llwodraethwyr Ysgol Llanllwni yn atal trafodaeth.

2. OPSIYNAUíR CYNGOR SIR

2.1 Cytunwn yn llwyr na all y sefyllfa bresennol barhau. Golyga newidiadau addysgiadol a demograffig nad yw hi'ín bosibl bellach i gadw ysgol fach ar agor yn unig i wasanaethu plant rhwng 4 ac 11 oed; rhaid iddi hefyd wasanaethuír gymuned gyfan. Mae angen datblygu ein hysgolion pentrefol mewn ffordd ddeublyg :

(Nid ydym am ymyrryd yn y penderfyniad ynglyn ’ ffedereiddio rhwng y tair ysgol arall - dim ond i nodi y byddem yn awyddus iawn i gyd-weithio ’ hwynt naill ai fel ffederasiwn neu fel ysgolion unigol).

2.2 Cefndir ein cais i ffedereiddio - Ers tua 3 blynedd (oír cyfnod pan oedd Bwrdd Llywodraethol ar y cyd rhwng Ysgolion Llanfihangel a Llanllwni) buom yn ceisio cynydduír cydweithredu rhwng ysgolion yr ardal - yn gyntaf rhwng ein Bwrdd Llywodraethol ni dros Ysgolion Llanfihangel a Llanllwni aír Bwrdd Llywodraethol aír ysgolion yn New Inn a Chaeír Felin; aín ddiweddarach ychwanegwyd Alltwalis.

Yng nghofnodion Llywodraethwyr Ysgolion Llanfihangel a Llanllwni Medi 20 1999, cofnodir :

ìDosbarthodd Mrs. M Ffransis bapur ar ìGlystyruî iír llywodraethwyr er gwybodaeth iddynt. Cytunodd y Llywodraethwyr y dylai Mrs. M. Ffransis siarad ’ Phennaeth a Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Caeír Felin, Alltwalis a New Inn a cheisio eu barn ar y mater hwn, byddai eu hymateb yn cael ei drafod gydaír Is-Bwyllgor.î

Bu nifer o gyfarfodydd oír ìcyd-bwyllgor clystyruî gydaír prifathrawon a rhai oír llywodraethwyr yn cyfarfod i geisio gweld pa feysydd y gellid ehanguír cydweithredu ynddynt. Gwnaeth y Cyd-Bwyllgor hefyd gysylltu ag Antur Teifi , a chafodd y cynllun i ddatblyguír cydweithredu rhwng yr ysgolion ac i ddatblyguír defnydd ohonynt fel canolfannau iír gymuned gyfan ei gynnwys fel rhan oír ìAPPLEî, sef y cais iír Awdurdod cyllido am grantiau ar gyfer datblygu cynlluniau cymunedol. Danfonwyd y cynlluniau hyn hefyd at Adran Addysg y Sir ac at yr Adran Grantiau - ond heb fawr o ymateb na chefnogaeth. (Gweler yr Atodiad ar y Cynlluniau hyn). Dywedwyd wrthym na ellid cynnwys ein cynlluniau i ddatblygu Clybiau ar ol oriau ysgol yng nghais yr Adran Addysg am grant N.O.F. (Cronfa Cyfleoedd Newydd) am fod llawer gormod o geisiadau wedi dod i law; a does dim datblygiad hyd yn hyn ynglyn ’ín cais o fewn yr Apple am grant tuag at drefnu gweithgareddau gydaír hwyr yn y 5 pentref. Oherwydd hyn fe aethom ni yn Llanfihangel ati ar ein liwt ein hunain i drefnu gweithgareddau yn yr ysgol ar dair noson yr wythnos ñ sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn.

Ond erbyn Rhagfyr 2000 roedd hiín amlwg nad oedd y cyd-weithio gwirfoddol hwn yn cyrraedd ei lawn botensial. Bu rhywfaint o oedi cyn symud ymlaen oherwydd y cymlethdod ychwanegol o ad-drefnu y Byrddau Llywodraethol a olygai o Ionawr ymlaen roedd gan bob un oír 5 ysgol ei Fwrdd Llywodraethol ei hun, ac roedd angen mynd ati oír newydd i gysylltu ’ír byrddau hyn i gyd gan ofyn iddynt enwebu rhywun oíu plith iíw cynrychioli ar y cyd-bwyllgor clystyru.

Ar y 1af o Fawrth eleni, danfonwyd llythyr at Mr. Alun Davies a Mrs. Mary Thomas ar ran y Cyd-bwyllgor Clystyru, ìCynhaliwyd Cyfarfod Nos Lun (26/2) o Bwyllgor Clystyruír Ysgolion ynghyd ’ rhai oír partneriaid posibl a allai gynorthwyo sefydlu Cynllun Peilot yn ein hardal ar gyfer gweithgareddau gydaír hwyr yn yr ysgolion.

Penderfynwyd ein bod yn cysylltu ’ chi i wneud cais ffurfiol am eich cefnogaeth aích cymorth ymarferol i sefydlu Cynllun Peilot oír fath yn ein hardal ni (fel ag amlinellwyd yn y dogfennau a ddanfonwyd atoch)."

Daeth ateb wrth y Cyfarwyddwr : ìYn syml, dyheadau a gweithgaredd y cymunedau eu hun sydd yn allweddol. Iír perwyl hynny rydym bob amser yn barod i drafod eich bwriadau.î (Gw. Llythyr amgaeedig). Ond doedd dim ateb iín cais am gymorth ymarferol.

Atebwyd ei lythyr gan son am gefndir y cyd-bwyllgor clystyru, ac i esbonio fod yr ad-drefnu Byrddau Llywodraethol wedi torri ar draws y gwaith am gyfnod. Hefyd gofynwyd am gymorth ymarferol i gyflogi cyd-lynydd i hyrwyddo gwaith y cyd-bwyllgor, ac am sefydlu Cynllun Peilot yn yr ardal hon i sefydlu Clwstwr o ysgolion.

Ym Mawrth eleni danfonwyd llythyr at aelodauír cyd-bwyllgor yn eu gwahodd eto i gyfarfod gan ddweud

ìrydym wedi gofyn iír Awdurdod Addysg i gefnogi a hybu cynllun o glwstwreiddioír ysgolion hyn ac i sefydlu Cynllun peilot yn yr ardal hon i weithredu clwstwr a fydd yn cydweithio yn ystod oriau ysgol ac mewn cynlluniau ar ol oriau ysgol ÖÖ mae angen i ni weld a ydym o ddifri ynglyn ’ gweithredu cynllun o gydweithio cynhwysfawr rhwng yr ysgolion yn ystod oriau ysgol.î

Ond yn yr Adroddiad oír cyfarfod Clwstwr hwnnw ar Ebrill 9ed, nodwyd y drafodaeth a fu ar fanteision cydweithredu oír fath , ond ìRoedd teimlad cryf yn y cyfarfod - er mai peth da mewn egwyddor oedd fod galw am fwy o gydweithredu yn dod oír ìgwaelod lanî, ac mai ni yn yr ardal sydd am warchod yr asedau yn ein cymunedau drwy eu cryfhau - etoíi gyd fod angen anogaeth a chyfarwyddyd oír Sir. Iír perwyl hwn gofynwyd iír ysgrifennydd gysylltu ’ Mr. Bryan Stephens i ofyn iddo ddod i siarad ’ chyfarfod o Brifathrawon, athrawon a Llywodraethwyr y 5 ysgol i drafod yr opsiynau sydd ar gael i ni fel Clwstwr.î(Roedd cynrychiolwyr oír 5 ysgol yn bresennol yn y cyfarfod hwn).

Dymaír cais a atebwyd gan Mr. Stephens pan ddaeth i siarad ’ ni ym mis Mai; cais ar ran y cyd-bwyllgor clystyru, gyda chynrychiolaeth o bob ysgol, oedd yn awyddus i gael arweiniad oddi wrth y Sir.

Ar ddiwedd Ebrill hefyd fe wnaeth Cabinet y Cyngor Sir ofyn iíw Swyddogion ìDdwyn rhagor o gynlluniau llywio ac argymhellion ymlaen, fel boín briodol, iíw hystyried gan aelodau.î Yn sgil hyn, gofynwyd eto iír Byrddau Llywodraethol i ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Addysg i ofyn iddo benodiír ardal hon ar gyfer cynllun llywio i ddatblyguír ysgolion fel clwstwr. Dyma pryd y rhoddwyd gwybod i ni ei bod yn amhosibl yn gyfreithiol i ffedereiddio ysgolion Eglwys gydag ysgolion y Cyngor Sir.

Wrth wahodd Llywodraethwyr iír cyfarfod gyda Mr. Bryan Stephens, pwysleiswyd ein bod am fwy o wybodaeth am ddulliau o ffedereiddio, ond hefyd am opsiynau eraill o bartneriaethau cydweithio posibl.

Daeth cynrychiolaeth dda o bob ysgol iír cyfarfod hwnnw ym mis Mai, a phenderfynwyd fod pob ysgol unigol yn adrodd nol iíw Corff Llywodraethol llawn er mwyn i bob Bwrdd benderfynu a oeddynt am fod yn rhan oír drafodaeth hon ai peidio - i weithredu fel clwstwr. Gofynwyd ar ddiwedd mis Mai ar iír Byrddau Llywodraethol drafod eu hagwedd at glystyru, ac iíw cynrychiolwyr ddod ’íu hymateb i gyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Clystyru.

Daeth y wybodaeth wedyn fod y Cyfarwyddwr am ymweld ’ phob ysgol, a bod ei swyddogion am gynnal cyfarfodydd ym mhob ysgol i drafod y ffordd ymlaen. Penderfynodd y Byrddau Llywodraethol, felly, aros nes ar ol y cyfarfodydd hyn cyn trafod ymhellach fel clwstwr.

Ein gobaith ni fel Llywodraethwyr Ysgol Llanfihangel o hyd yw y gall y 5 ysgol gydweithio fel clwstwr, aín bod ni yn rhan oír clwstwr wedi ffedereiddio gydag Ysgol Llanllwni.

2.3 Mae manteision addysgiadol i ffedereiddio :

  • Dywed adroddiadauír prifathrawon oír ddwy ysgol sydd eisoes wediíu ffedereiddio yn y sir fod manteision addysgiadol pendant :
  • Fod manteision addysgiadol a chymdeithasol i gael plant i gymysgu gyda phlant eraill
  • Bod crynhoi a rhannu adnoddau wedi golygu bod mwy o adnoddau addysgiadol ar gyfer yr ysgolion.
  • Bod cyfleoedd i gyfnewid staff a defnyddio arbenigedd athrawon unigol wrth gynllunio dysgu a monitro pwnc.
  • Mae mwy o arbenigedd o safbwynt pynciauír cwricwlwm cenedlaethol e.e. yn Ysgol y Fro dywedir fod 2 uned wedi elwa o arbenigedd Cerdd un aelod o staff, a bod plant y 3 uned wedi elwa o safbwynt daearyddiaeth, hanes ac Addysg Gorfforol a phrofiadau all-gyrsiol megis creu timau i fabolgampau a chystadleuthau eraill. Dywed y prifathro ìGallwn gynnig mwy o brofiadau iír plantî.
  • Mae polisiau a chynlluniau gwaith yn llawer haws iíw llunio aíu creu pan fod pump neu chwech o athrawon yn cyfrannu tuag atynt yn hytrach nag un neu ddau o athrawon.

O ran y staff hefyd , dywed yr adroddiadau :

  • Fod y baich ar y staff wedi ysgafnhau a chyfarfodydd staff cyson wedi bod yn fendithiol.
  • Nid ywír athrawon yn teimlo mor ìynysigî gan eu bod yn aelodau o staff mwy. Dywedodd y ddau brifathro yn y cyfarfodydd fod eu staff erbyn hyn yn gryf o blaid iír system barhau a datblygu yn eu hardaloedd nhw.

2.4 Mae hefyd manteision cymdeithasol. Yn ol adroddiadauír prifathrawon eto :

  • Dawír plant i adnabod eu cyfoedion yn yr unedau eraill yn dda drwyír gweithgareddau ar y cyd gan ei gwneud hiín haws i drosglwyddo iír Ysgol Uwchradd.
  • Maeír cymunedau yn y pentrefi bach wediíu plesioín fawr wrth weld yr ysgolion yn ddiogel a ffyniannus.
  • Maeír rhieni ar y cyfan wedi dod yn fwy cefnogol iír sefyllfa ac maeír cymunedau wedi closio at ei gilydd rywfaint. Mae yna gefnogaeth dda i ddigwyddiadau a drefnir gan yr ysgol, ac maeír Gymdeithas Rieni yn gweithioín galed.
  • Trwy fod un ysgol yn tynnu cefnogaeth oddi wrth mwy nag un gymuned, mae cronfa ehangach o bobl ar gyfer llanw swyddi Llywodraethwyr ac ar gyfer codi arian ac ati, gan leihau rhywfaint ar y pwysau ar ysgolion gwledig unigol.
  • Maeír ysgol yn y pentref yn ganolbwynt iír gymuned gyfan. Maeír plant wedi eu cadw yn y gymuned - ìein plant ni ywír rhainî.

Felly, yn gymdeithasol, dawír gorau oír ddau fyd - sef bod y plant yn cael yr ymdeimlad o berthyn iíw cymuned bentrefol, aír pentref yn gefnogol iír plant ac iír ysgol , tra ar yr un pryd roi cyfle o gymdeithasu ehangach iír plant a meithrin cysylltiadau gyda phentrefi eraill.

Rydym, wrth gwrs, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi ceisio cryfhauír cysylltiadau hyn rhwng yr ysgolion yn addysgiadol a chymdeithasol mewn modd gwirfoddol; ond maeín amlwg fod yn rhaid cael strwythur mwy ffurfiol i hyn allu datblygu iíw lawn botensial.

2.5 Rhaid hefyd ystyried yr oblygiadau ariannol : Ni allwn honni y byddai system ffederal yn costio llai iír Sir. Ac fe bwysleisiodd swyddogion yr Awdurdod yn eu cyfarfodydd gydag ysgolion nad oedd ystyriaethau ariannol yn eu gyrru o gwbl wrth lunio eu hargymhellion. Serch hynny, fe fyddai rhai arbedion ñ yn arbennig yn y tymor hir pan fydd dim ond un cyflog prifathro mewn ysgol ffederal. Ond, yn bendant, fe fyddai gwell defnydd oír arian aír adnoddau sydd yn y system yn barod, a bydd y Sir aír boblogaeth yn cael gwell gwerth am yr arian. Credwn mai dehongliad mwy cadarnhaol o ìresymoliî yw sicrhau defnydd mwy cynhyrchiol oír adnoddau presennol yn hytrach na thanseilio addysg y plant a bywyd y gymuned leol er mwyn gwneud cynilion pitw iawn yng nghyd-destun y gyllideb gyfan.

  • Trwy ddod ’ír plant at ei gilydd ar gyfer gweithgareddau megis Cerdd a Chwaraeon mae modd rhesymoliír defnydd o adnoddau ar gyfer y pynciau hynny. Mae modd rhannu offer a llyfrau yn ogystal ag adnoddauír staff - trwy gael mwy o arbenigedd o fewn staff yr ysgol ei hun, bydd llai o alw am athrawon teithiol i gyflwyno gwahanol arbenigeddau.
  • Mae ysgol ffederal yn gallu pwrcasu ar y cyd ar gyfer holl anghenion yr ysgol yn y gwahanol unedau.
  • Bydd modd llenwi bws ar gyfer gwahanol ymweliadau, gan ostwng pris y pen a chynnig mwy o brofiadau iír plant.
  • Gall fod peth mantais ariannol yn y tymor byr o ran Llanfihangel a Llanllwni gan fod yn Ysgol Llanfihangel gyfleusterau nad sydd gan Ysgol Llanllwni, ac y byddai hyn yn arbed gwariant cyfalaf sylweddol gan y Cyngor Sir ar ddarparu cyfleusterau tebyg yn Ysgol Llanllwni; er pwysleisiwn ein bod yn cefnogi dod ’ chyfleusterau oír fath i Lanllwni os gellir cael cyllid neu grantiau ar eu cyfer.

Oherwydd ystwythder y trefniadau o gael un ysgol ar ddau safle, maeín bosib bod yn hyblyg yn y modd y defnyddir y gwahanol adnoddau i wahanol bwrpasau e.e. mae gan Ysgol Llanfihangel ystafell fawr braf lle y gellir cynnal rhai gweithgareddau sydd yn anodd iíw cynnal ar hyn o bryd yn adeilad Llanllwni; hefyd, mae yma gae chwarae at ddefnydd yr ysgol y gellir ei uwchraddio ar gost bach i fod yn ased gwerthfawr iawn i ysgol ffederal. Ond byddai penderfynu ar ba ddefnydd iíw wneud o wahanol adnoddau y 2 safle yn nwylo Bwrdd Llywodraethol Ysgol Ffederal newydd - ac os na fydd y defnydd mewn un flwyddyn yn addas ar gyfer y flwyddyn wedyn oherwydd newidiadau addysg a demograffig, yna gellir newid y trefniadau.

2.6 Dyfodol y Ffederasiwn

  • Teimlwn y byddai creu uned addysgol gref rhwng Ysgolion Llanfihangel a Llanllwni yn dod ’ sicrwydd iír sefyllfa yn ein pentre ni. Ar hyn o bryd mae cysgod dros ddyfodol yr ysgol ac mae nifer o rieni ifanc y pentre yn mynd ’íu plant i ysgolion cryfach, ac mae hyn wedi bod yn andwyol iawn i ysbryd cymdeithasol y pentre ac hyd yn oed yn creu tensiwn rhwng y plant ’íi gilydd ar brydiau. Mae ansicrwydd wedi bod yma dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Byddai creu uned gref yn dod ’ sicrwydd, ac yn amddiffynfa rhag gwamalrwydd newidiadau mewn niferoedd plant mewn pentrefi bach fel hyn, a byddaiín gymorth mawr i ddenu plant y pentre iír ysgol hon. Mae Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth yn gryf oír farn y byddai adfer sicrwydd iín sefyllfa yn adfer hyder y rhieni yn nyfodol yr ysgol.
  • Bydd creu uned gref yn cynnal a chryfhau Cymreictod y ddau bentref.
  • Bydd hefyd yn cynnal yr ethos Eglwysig yn yr ysgolion - mae Esgobaeth Tyddewi o blaid ffedereiddioír ddwy ysgol yn hytrach na chau YsgolLlanfihangel, ac rydym ni yn ddiolchgar am gefnogaeth a chyngor Cyfarwyddwr Addysg Esgobaeth Tyddewi yn hyn o beth. Os na ffedereiddir y 2 ysgol bydd nifer o blant Llanfihangel yn mynd i ysgolion nad syín rhai Eglwysig.

Yn anffodus, oherwydd newidiadau cymdeithasol sydd yn golygu fod pobl yn llawer mwy symudol nag yr oeddynt, a hefyd y ffaith fod gan rieni ddewis at ba ysgol i ddanfon eu plant, maeín amhosib i neb ragweld yn gywir faint o blant fydd yn ein hysgolion yn y dyfodol. E.e. ym 1985/6 pan oedd bygythiad i gau Llanfihangel oír blaen, roedd tafluniad y Sir yn dangos mai 9 o blant fyddai yn yr ysgol mewn 3 blynedd; mewn gwirionedd roedd yna 31 o blant wedi dod iír ysgol erbyn 1989 - mwy nag ysgol New Inn ar y pryd hwnnw. Mae nifer fawr o ffactorau yn gyfrifol am ddewis rhieni i symud eu plant o un ysgol iír llall, a byddai ffedereiddio yn golygu fod llai o reswm i rieni i fynd ’íu plant mas oíu cynefin naturiol ; byddaiín adfer sefydlogrwydd iín sefyllfa.

Mae profiad yn dangos maiír cyfanswm naturiol i blant cynradd Llanfihangel yw oddeutu 20 ñ 25, a chredwn y bydd Ysgol Ffederal yn denuír plant hyn. Byddai hyn yn golygu Ysgol Ffederal o tua 75 o blant h.y. ar lefel cymharol gydag ysgol Carreg Hirfaen. Ond, os credir ein bod yn anghywir yn ein rhagdybiaethau am nifer y plant o oed cynradd yn y pentre ac os dangosir mewn rhai blynyddoedd mai dirywiad parhaol ac nid ffenomenon dros dro yw lleihad yn nifer y plant yn Llanfihangel, yna byddaiín agored iír Awdurdod gychwyn proses ymgynghorol i gau safle Llanfihangel oír ffederasiwn. Byddem o leia wedi archwilio pob posibiliad erbyn hynny a gweld sut oedd ffederasiwn yn gweithio yn ein hardal ni.
Dyma yw dymuniad y Llywodraethwyr, y Rhieni a Chyfeillion ysgol Llanfihangel-ar-Arth, a dylaiír Sir fod yn ofalus iawn cyn sathru ar ddymuniadauír bobl.

Mae angen arweiniad ar ein cymunedau oddi wrth y Sir. Pe baeír penderfyniad yn digwydd i ffedereiddio Ysgolion Llanfihangel a Llanllwni, byddai modd anelu at agor yr ysgol newydd ym Medi 2003. Yn y cyfamser dylid creu Bwrdd Llywodraethol cysgodol rhwng y ddwy ysgol i baratoi y trefniadau manwl ac i barhauír ymgynghori gydaír rhieni. Er mwyn hyrwyddoír cydweithredu rhwng y ddau bentref, ni fyddai gan Lywodraethwyr Llanfihangel wrthwynebiad i weld y Prifathro yn seiliedig yn Llanllwni.

3. OPSIYNAU ERAILL

3.1 Mae yna bosibiliadau eraill i ysgol Llanfihangel hefyd y dylid eu harchwilioín fanwl; ond maeír cyfnod ymgynghorol wedi bod yn rhy fyr i allu gwneud y gwaith yn drwyadl. Mae cyfle yma yn unig i restru rhai ohonynt - heb allu gwneud cyfiawnder o gwbl ’ír posibiliadau gan fod eu hoblygiadau mor ddyrys ; byddai angen cymorth arbenigol arnom iíw harchwilio yn iawn.

3.2 Gallai Ysgol Llanfihangel ffedereiddio gydag Ysgolion Caeír Felin,Alltwalis a New Inn - naill ai trwy iír Eglwys ildio adeilad Llanfihangel iír Cyngor Sir neu trwy bod yr Eglwys yn cymryd cyfrifoldeb am y tair ysgol arall yn ogystal ’ Llanfihangel - ac maeín bosib y byddai grantiau sylweddol ar gael ar gyfer datblygiad fel hyn. Y man cychwyn i hyn fyddai trafodaethau eang gydaír cymunedau, yr Esgobaeth, yr Awdurdod Addysg a swyddogion y Cynulliad. Ond does dim modd gwneud ymchwil manwl iír posibiliadau hyn mewn cyfnod ymgynghorol mor fyr.

3.3 Ond os, oherwydd amharodrwydd ysgolion eraill, nad yw hiín bosibl ffedereiddio, byddem am ymchwilio iír posibiliad o ffurfio partneriaeth a fyddai un cam yn brin o ffederasiwn ffurfiol . Mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru (WLGA) wedi cyhoeddi dogfen yn cynnwys argymhellion am sut i ymdrin ag ysgolion bach, ac maent yn rhestru nifer o opsiynau y gallaiír Cyngor Sir ymchwilio iddynt o ran hybu cydweithrediad rhwng clystyrau o ysgolion bychan cyfagos :

  • Collaboration
  • Association
  • Co-operation
  • Partnership
  • Partnership with joint committees of governors
  • Federation.

Fel y gwelir, ffedereiddio ywír mwyaf pell-gyrhaeddol a ffurfiol o nifer o opsiynau posibl. Byddem wedi hoffi cael mwy o amser i ymchwilio iír holl bosibiliadau hyn, a chael cymorth a chyngor swyddogion y Sir yn hyn o beth.

Mae problem ychwanegol mewn ceisio manylu ar beth allai ffurf ar gydweithredu fod gan fod Llanllwni ddim ond yn barod i drafod ar ol cael sicrwydd am eu sefyllfa nhw. Gyda chefnogaeth weithredol y swyddogion addysg byddai modd creu ffurf ar bartneriaeth a fyddaiín gweddu i amgylchiadau y cymunedau hyn, wediíi strwythuroín bendant, yn hytrach na threfniadau llac fel y ceisiwyd eu hybu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn y cyswllt hwn, byddai cynigion Jane Davidson i ganiatau cyd-fyrddau llywodraethol o gymorth mawr.

3.4 Yn yr holl faterion hyn, maeín amlwg fod yn rhaid cael penderfyniad mewn egwyddor ar sut i symud ymlaen cyn ffurfio manylion. Ar hyn o bryd, nid ywír posibiliadau hyn wedi cael eu harchwilio.

3.5 Ein ffordd arall o symud ymlaen yw trwy ychwanegu at swyddogaeth addysgiadol ysgol Llanfihangel gan ddatblyguír ysgol fel canolfan addysgiadol, cymdeithasol a dysgu sgiliau newydd iír gymuned. Rydym yn gweld pam fod y Cyngor Sir am resymoli ei adnoddau - ond gall rhesymoli olygu sicrhau gwell defnydd o arian, yn hytrach na gwario llai. Mae cael gwell defnydd o arian yn fwy cadarnhaol - defnyddioír adeilad aír adnoddau ynddo, ynghyd ac arbenigedd a brwdfrydedd o fewn y gymuned, i greu adnewyddiad addysgiadol ac economaidd yn y pentre.

3.5 Fel yr esboniwyd eisoes, rydym wedi bod ar y trywydd hwn ers dros ddwy flynedd (cyfeiriwn eich sylw eto at y Cais am gymorth a wnaethom i ddatblygu cynlluniau gweddol uchelgeisiol iír ardal hon, ac a gynhwyswyd yn yr APPLE ) - ond na chawsom ddim ymateb oddiwrth yr Awdurdod Addysg naír Cyngor Sir; danfonwyd y cais at yr Awdurdod ac at yr Adran Grantiau a buom yn siarad gyda Mr.Alun Davies a Mr.Roger Fiddler ac eraill ond heb ddim cymorth ymarferol e.e. grant cyhoeddus iín cynorthwyo i sefydluír cynllun . Teimlwn ein bod yn mynd o gwmpas mewn cylchoedd a buín rhaid i ni fynd ati yn gwbl wirfoddol, gyda help partneriaid, i geisio rhoi cynllun (llawer llai uchelgeisiol) ar waith yma yn Llanfihangel :

3.6 Gallwn grynhoiír datblygiadau hyd yma fel a ganlyn :

  • Hanes Lleol - bob nos Fercher yn yr ysgol fe ddaw o gwmpas 15 o bobl leol at ei gilydd i drafod hanes y pentref aír ardal. Cawsom ein synnu gan faint y diddordeb, ac mae potensial hefyd iíw ddatblygu i roi gwybodaeth leol i fewnfudwyr. Ar hyn o bryd maeír dosbarth yn Gymraeg yn unig, ond gellid cael un Saesneg hefyd i fewnfudwyr. Maeín fodd i ddod ’ phobl at ei gilydd, ac mae potensial i greu gwaith am orffennol y pentre a all fod yn ffynhonell ddefnyddiol iawn o wybodaeth i blant yr ysgolion ac i bobl eraill ’ diddordeb. Mae hwn dan nawdd Coleg y Drindod.
  • Cymraeg i ddysgwyr - bob nos Iau. Mae tua 12 wedi cofrestru yn y cwrs, ac maent yn eithaf ffyddlon yn y dosbarthiadau. Gobeithio y bydd y dosbarth yn gyfrwng i ddwyn mewnfudwyr yn fwy i mewn iír bywyd cymdeithasol heb orfod newid iaith y gweithgareddau cymdeithasol oír Gymraeg iír Saesneg. Maeín elfen bwysig yn yr ymdrech i gael cynhwysiad cymdeithasol.Y Cyngor Sir syín rhedeg y cwrs hwn.
  • Cyfrifiaduron - bob nos Wener. Roedd dros 20 o bobl am gofrestru ar y cwrs hwn, ond 8 lap-top yn unig oedd gan Goleg y Graig iíw benthyg. Felly, gobeithiwn ar ol y Nadolig ei redeg ar ddwy noswaith yr wythnos er mwyn rhoi cyfle i fwy o bobl. Maeír cwrs hwn yn cael ei redeg yn ddwyieithog ac mae cymhwyster ar y diwedd gan roi sgil newydd i nifer o bobl y pentre a all eu helpu gydaíu gwaith.

Cawsom ein siomi oír ochr orau gan ddiddordeb pobl yn y cyrsiau hyn wedi iír ymdrech gael ei wneud yn y pentre ei hun i fynd at bobl a thrafod y syniadau gyda nhw - yn hytrach na rhoi hysbysiad yn y papur (fel y gwnaeth y Cyngor Sir) fod cwrs iíw redeg yn y lle aír lle a gobeithio y byddai pobl yn dod ato. Maeír posibiliadau yn gyffrous, a byddai llawer mwy posibl i wiredduír potensial pe bae cyd-lynydd yn cael ei gyflogi i redeg cyrsiau oír fath yn y 5 ysgol ac o bosib gwneud mwy o waith cyd-lynu rhwng yr ysgolion hefyd.

Yr un ffordd sicr o ddinistrioír potensial a thrwy hynny elyniaethuír gymuned leol, yw trwy dynnuír ysgol oddi wrthym. Galwn am gydweithio gydaír Awdurdodau ac am gefnogaeth weithredol, yn hytrach na bod yr Awdurdod yn gweithredu yn ein herbyn trwy roi ergyd iír pentre trwy gauír ysgol.

5. CEFNOGAETH IíN CAIS I GADWíN HYSGOL

Y Llywodraethwyr syín paratoiír dystiolaeth hon ac yn gwneud y cais i ddiogelu ysgol Llanfihangel-ar-Arth iír dyfodol. Cefnogir ein cais gan :

  • Cyfeillion yr ysgol sydd wedi trefnu deiseb yn y pentre
  • Rhieni a disgyblion a chyn-ddisgyblion sydd wedi gwneud yr ymdrech i roi gair ar bapur i ddangos cryfder eu teimladau

Yr hyn maeír Cynulliad yn eu argymell yw bod pob achos yn cael ei farnu ar ei gryfder ei hun, ac mae barn poblogaeth Llanfihangel-ar-Arth yn ddigamsyniol. Galwn am benderfyniad cadarnhaol ac ymateb i ddymuniad y gymuned fel yíi mynegir yn yr atodiadau hyn, yn hytrach nac fel yíi canfyddir gan y Cyngor Sir aíi swyddogion.