Apêl i Bwyllgor Gwaith Ynys Môn - Ysgol Bodffordd

AT AELODAU PWYLLGOR GWAITH CYNGOR YNYS MÔN

Ynghylch Pwyntiau 9 ac 11 ar agenda eich cyfarfod bore fory 17/12/18

Annwyl Gyfeillion

Ysgrifennaf atoch, ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith, i ofyn yn daer i chwi wrthod yr argymhelliad gan y swyddogion ynghylch pwynt 9 ar agenda'r Pwyllgor Gwaith yfory, a mynegwn bryder ynghylch eitem 11 nad oes unrhyw bapurau cyhoeddus ar ei gyfer. Gofynnwn i chwi beidio â chadarnhau'r Rhybudd Statudol o'ch bwriad i gau Ysgol Bodffordd, ac yn hytrach i gyfarwyddo swyddogion i astudio ar frys gynllun ar gyfer holl ardal Llangefni (gw isod) a all greu uned addysgol gref, fywiogi'r cymunedau pentrefol Cymraeg yn ogystal â'r dref, a bod yn llai o faich ariannol ar drethdalwyr lleol.

Nid ydym yn amau eich diffuantrwydd yn eich dyhead gyda ni i sicrhau dyfodol i'n cymunedau Cymraeg a system addysg a rydd y cyfleon gorau i ieuenctid yr ynys. Ond siom o'r mwyaf i ni yw fod y bygythiad i ysgol a chymuned bentrefol Gymraeg yn dod, nid o gyfeiriad Llundain ac o Fae Caerdydd ond, gan arweinwyr Môn ei hun.

Derbyniwn y bydd addysg yn parhau yn Gymraeg ei chyfrwng, ond bydd un gymuned Gymraeg fywiog yn llai wedi cau Ysgol Bodffordd, bydd llai o ymrwymiad a chyfranogiad gan rieni a chymuned yn addysg eu plant, a bydd cynnydd mewn dadrith o ddemocratiaeth leol a theimlad llethol nad oes pwynt mynegi safbwynt gan nad yw cynghorwyr ond yn gwrando ar eu swyddogion bob tro.

Does dim bwriad gennyf i ailadrodd holl gymalau ein gwrthwynebiad i'r Rhybudd Statudol  - fe'i rhoddaf mewn atodiad - ond yn hytrach dynnu eich sylw yn unig at y ffaith fod y modd yr ydych wedi dod i benderfyniad ar y mater hwn yn gwbl groes i ganllawiau'r Côd Trefniadaeth Ysgolion (2013) a lywodraethodd ar y pryd. Ond milwaith well eich bod chwi'n cymryd penderfyniad i unioni'r cam na bod Gweinidog Llywodraeth ganolog yn ymyrryd.

Yn yr adroddiad ar y Gwrthwynebiadau a fydd o'ch blaen chwi, does dim ymdrech i ateb y gwrthwynebiadau manwl yn yr un modd ag yr ydych yn trin yn gydwybodol materion eraill ar eich agenda - rhoddir y cyfan rhwng tudalennau 257 i 265 o'r papurau ger eich bron. O dan pwynt (13) atebir yr honiad nad yw'r Cyngor wedi cadw at ofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion (fersiwn 2013 a lywodraethodd ar y pryd ac sy'n orfodol yn statudol o dan amodau Deddf Addysg 2013) trwy ddweud yn syml "Mae'r Cyngor wedi cadw at y Côd Trefniadaeth Ysgolion oedd yn bodoli ar y pryd"(sic). Dim ymdrech o gwbl i ateb (na hyd yn oed roi ger eich bron) ein dadleuon manwl ynghylch sut y torwyd y canllawiau dro ar ôl tro, ond yn hytrach disgwyliad i chwi dderbyn eu gair a'u dehongliad yn ddigwestiwn fod y Cyngor wedi cadw at ofynion y Côd. Tynnaf eich sylw at rai o'r cymalau perthnasol o'r Côd lle mae'r Cyngor wedi torri canllawiau mewn modd cwbl amrwd ac agored -

* Yng nghymal 1.7 "Ffactorau penodol wrth ystyried cau ysgolion", dywedir
"Nid oes unrhyw ragdybiaeth o blaid neu yn erbyn cau unrhyw fath o ysgol. Prif ddiben ysgolion yw darparu addysg a dylai unrhyw achos dros gau ysgol fod yn gadarn ac er budd y ddarpariaeth addysgol yn yr ardal. Serch hynny, mewn rhai ardaloedd, efallai mai ysgol fydd y prif ganolbwynt ar gyfer gweithgarwch cymunedol hefyd, a gallai ei chau arwain at oblygiadau y tu hwnt i ddarparu addysg. Gall hyn fod yn nodwedd benodol mewn ardaloedd gwledig os defnyddir adeiladau ysgolion fel man i ddarparu gwasanaethau i'r gymuned leol. Dylai'r achos a gaiff ei baratoi gan y rhai sy'n cyflwyno'r cynigion ddangos bod effaith cau'r ysgol ar y gymuned wedi'i hasesu drwy lunio Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned".

Ni all fod disgrifiad gwell o Ysgol Bodffordd y mae'r Ganolfan Gymunedol yn rhan annatod o adeiladau'r ysgol ei hun. Yn hytrach na chynnal asesiad manwl o'r effaith ar y gymuned (a ddylsai fod wedi cael ei gyhoeddi gyda'r ddogfen ymgynghorol ar y cynnig gwreiddiol er mwyn galluogi ymatebion), y cyfan sydd gyda ni yw "gobaith" y gellir cynnal y ganolfan gymunedol er gwaethaf cau'r ysgol ac er gwaethaf awydd i werthu'r safle. Penderfynwyd (gw pwynt 9) "fod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Chyngor Cymuned Bodffordd a chyda chymuned Bodffordd er mwyn diogelu a chadw'r ganolfan gymunedol". Dyw cynnal trafodaethau penagored nad sydd hyd yma, hyd y yg wyddom, wedi dod at unrhyw gasgliad cadarnhaol, ddim yn gyfystyr ag asesu'r effaith o gau'r ysgol ar y gymuned. Does dim ymdrech o gwbl i ddadansoddi'r opsiynau nac edrych ar sgil-effeithiau cau ysgol ar gymunedau eraill sydd ychydig o filltiroedd tu allan i drefi e.e. y duedd gyson i deuluoedd ifainc beidio â phrynu tai wedyn yny cymunedau hyn.

* Dywedir yn yr un cymal mai ffactor arall i'w ystyried yw pob opsiwn amgen heblaw am gau'r ysgol - a hynny CYN cynnig cau'r ysgol ac yn gyfrifoldeb gan yr Awdurdod. "ystyried posibiliadau amgen heblaw cau'r ysgol, megis clystyru, cydweithredu neu ffedereiddio ag ysgolion eraill (gan ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio cysylltiadau TGCh rhwng safleoedd ysgolion), neu'r rhesymau dros beidio ag ystyried y rhain fel opsiwn amgen yn lle cau'r ysgol." Torrodd yr Awdurdod y gofyniad hwn yn gwbl eglur. Yn ystod yr ymgynghoriad a arweiniodd at y penderfyniad i gyhoeddi Rhybudd Statudol i gau Ysgol Bodffordd, cynigiwyd Opsiynau "A" a "B" ac yr oedd y ddau opsiwn yn golygu cau Ysgol Bodffordd. Dywedir (pwynt 11 yn eich adroddiad) fod 3 opsiwn ffedereiddio wedi eu hystyried (os gellir galw crybwyll mewn un cymal yn "ystyried"), ond mae'r rhain oll yn cyfeirio at bosibiliad ffedereiddio ysgol newydd a sefydlir wedi cau Ysgol Bodffordd gydag ysgol(ion) eraill. Nid oes unrhyw gyfeiriad at opsiwn sefydlu ffederasiwn nag ysgol aml-safle fel alternatif i gau Ysgol Bodffordd heb sôn am bwyso a mesur manteision ac anfanteision. Mewn papur blaenorol anstatudol am holl ardal Llangefni, rhestrir nifer o opsiynau a godwyd gan wahanol bobl - ond heb unrhyw werthusiad a'r cyfan o'r opsiynau amgen hyn yn amherthnasol i union ardal a sefyllfa Ysgol Gymunedol Bodffordd. Pwysleisiwn mai'r disgwyliad yn y Côd Trefniadaeth Ysgolion (2013) ar y pryd oedd bod Awdurdod yn ystyried yr holl opsiynau CYN cynnig cau ysgol benodol ac yn cyhoeddi rhesymau pam nad yw'r opsiynau hynny'n addas yn yr achos hwn. Ni wnaeth Cyngor Ynys Môn hyn yn achos Bodffordd - na Thalwrn - ac mae'r broses yn gwbl groes i ofynion statudol y Côd.

Mae gofyniad hefyd yn y Côd fod Awdurdod yn "ystyried gyda meddwl agored" pob gwrthwynebiad . Gellir dangos yn glir nad yw hyn wedi digwydd trwy fod y Cyngor wedi cyhoeddi ar ei wefan y diwrnod ar ôl i'r cyfnod gwrthwynebiadau ddod i ben (mewn papur ar addysg yn ardal  Amlwch) ei fod yn bwriadu mynd ymlaen i gau Ysgol Bodffordd - hynny yw cyn ystyried y gwrthwynebiadau.

Yn hytrach na llafurio'r pwynt, a gawn ni eich cymryd ar eich gair y byddwch fel cynrychiolwyr etholedig yn ystyried yfory y gwrthwynebiadau "gyda meddwl agored". Gyda'r gobaith hwn, cynigiwn fel dewis arall y model a roddwyd gennym yn ein hymateb gwreiddiol ac yn ein gwrthwynebiad, ac nad sydd wedi cael ei adrodd i chwi.

Yn hytrach na chau ysgolion Bodffordd a Thalwrn, cynigiwn fod trafodaethau brys (dan Rheoliadau Ffedereiddio 2010 a ddiwygwyd yn 2012 i roi mwy o rym i Awdurdodau Lleol arwain y broses) i sefydlu "Ffederasiwn Cefni" - sef ffederasiwn blaengar (dan un bwrdd llywodraethol) o'r Ysgol Uwchradd, dwy ysgol gynradd y dref (wedi eu huno'n ysgol 2-safle) ac ysgolion Bodffordd, Talwrn a Henblas. Byddid yn gweithio tuag at un strwythur rheoli yn y pen draw gyda phennaeth ysgol a 5 pennaeth safle; strwythur llywodraethu integredig dan un bwrdd llywodraethol ond yn cryfhau cymdeithasau rhieni-athrawon yn yr ysgolion unigol gan harneisio yn lle chwalu brwdfrydedd rhieni o gadw'r addysg yn eu cymunedau; strwythur gweinyddu a phwrcasu integredig i sicrhau arbedion sylweddol; strategaeth datblygu adnoddau a chyfleusterau ar gyfer y ffederasiwn cyfan yn lle dyblygu popeth ar bob safle a strategaeth defnyddio'r adnoddau dynol at wasanaeth y ffederasiwn cyfan gan hwyluso symudiad o'r cynradd i'r uwchradd. Byddai model o'r fath yn creu uned addysgol gref (i gychwyn o'r amser y bydd adeiladau newydd yn barod gyda cyd-bwyllgor paratoi yn y cyfamser), yn creu hyblygrwydd o ran lleoedd ysgol a'r defnydd o adnoddau ac yn cynnig arbedion potensial sylweddol. O ran ad-drefnu, byddai creu ysgol drefol 2-safle o Ysgol y Griag ac Ysgol Corn Hir yn ddatrysiad mwy hyblyg a thecach na disgwyl bod aberthu ysgolion gwledig er mwyn datblygiadau trefol.

O ran yr union broses, gofynnwn i chwi ohirio penderfyniad fory hyd nes y daw y mater cyfatebol am Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig ger eich bron ac yna gymryd penderfyniad integredig am yr ardal gyfan, ond i chwi ofyn i swyddogion gychwyn y trafodaethau hyn yn syth gyda'r ysgolion dan sylw, ac hefyd gyda swyddogion Bwrdd dyrannu Grantiau Cronfa Ysgolion y 21ain ganrif. Petai unrhyw ddiffyg cydweithio o'u rhan nhw neu awgrym eu bod yn defnyddio'r broses i  hybu canol addysg a chau ysgolion gwledig yn groes i bolisi'r Gweinidog a'r Llywodraeth, byddai hwn yn fater difrifol i'w ddwyn ger bron sylw'r Gweinidog Addysg ac mae'n sicr y cewch chi gefnogaeth.

Yn Gywir

Ffred Ffransis

ar ran Grwp Ymgyrch Addysg , Cymdeithas yr Iaith

O.N. Gobeithiwn y daw penderfyniad o'r fath hefyd yn gychwyn newydd o gydweithio gyda rhieni a chymunedau lleol. Mae'r argraffiad newydd o'r Côd Trefniadaeth Ysgolion a ddaeth i rym ar 1.11.18 yn mynnu fod rhagdyb o blaid ysgolion gwledig. Yn bell o "gyfarch cynnwys" (am wn i cyfieithiad o "addressing the content"!) y Côd newydd fel y dywed yr adroddiad o'ch blaen na "chadw at ysbryd y côd newydd" fel y gofynnodd y Gweinidog i chwi ei wneud trwy 2018, mae'r Cyngor wedi torri'r côd newydd o fewn yr wythnos gyntaf gan fod pob opsiwn yn y papur anffurfiol newydd am addysg yn ardal Amlwch yn cyfeirio at gau ysgol(ion). Felly o'r cychwyn does dim rhagdyb o blaid cynnal ysgolion gwledig. Yn yr achos hwn hefyd gofynnwn i chwi ystyried Ffederasiwn rhwng yr Ysgol Uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo. Ond, yn achos Amlwch, oherwydd y raddfa ddifrifol o gapasiti dros ben yn adeilad yr ysgol uwchradd, awgrymwn fod sefydlu ar gyfer y dref un ysgol 3-16/18 oed i fod mewn ffederasiwn gyda'r ysgolion gwledig cylchynnol. Mewn unrhyw gasiti sydd dal yn wag, gellid gwahodd sector addysg bellach neu gymunedol i gyfrannu at y profiad addysgol yn yr adeilad. Mae ffederasiwn yn fodel hyblyg a all addasu at amodau lleol. Byddai cychwyn gyda model o'r fath a gwerthuso sut allai weithio yn cydymffurfio â'r gofyniad (statudol erbyn hyn) i gychwyn gyda rhagdyb o blaid cynnal ysgolion gwledig.