Areithiau Rali Sefyll gyda'r 80%

Mabli Siriol

Diolch o galon i Hammad, Catrin, Owain, Ceri a Kiera am siarad heddi. I drefnwyr y rali ac i chi gyd am ddod.

Mae pob un ohonon ni’n sefyll yma ar ddiwrnod oer o Chwefror achos dyn ni’n credu o ddifri yn yr egwyddor sylfaenol hwnnw fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, pwy bynnag ydyn nhw.

O’r teulu sy methu cael lle yn ei ysgol Gymraeg leol, orlawn.  

I’r person ifanc oedd yn diflasu mewn gwersi ail iaith, ac yn difaru nad oedden nhw di dysgu Cymraeg go iawn.

I’r ffoadur sy’n ymgartrefu yma ac eisiau cofleidio iaith a diwylliant Cymru.

Ond ar hyn o bryd, y realiti trist yw bod 80% o bobl ifanc Cymru yn cael eu hamddifadu o’r iaith oherwydd methiant ein system addysg i dyfu a normaleiddio addysg Gymraeg.

Anghyfiawnder yw hynny, wedi’i ddwysau gan y ffaith mai plant o rai cefndiroedd cymdeithasol sy’n cael eu hamddifadu mwyaf, yn benodol cymunedau difreintiedig, dosbarth gweithiol, a lleiafrifoedd ethnig.

Hyd yn oed mewn ardaloedd lle mae rhan fawr o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, mae nifer o bobl ifanc yn colli eu sgiliau iaith wrth fynd trwy’r ysgol oherwydd diffygion y drefn asesu a’r system ysgolion ‘dwyieithog’.  

Mae’n sefyllfa hurt a thruenus.

Yn enwedig pan ni'n gwybod be sy’n gweithio — system sy wedi rhoi’r iaith i gymaint o bobl, sy’n adlewyrchu fel mae plant yn dysgu ieithoedd yn naturiol, ac sy wedi adfywio’r iaith mewn cymunedau a theuluoedd oedd wedi ei cholli. Addysg cyfrwng Cymraeg.

Be sy angen yw ei chynllunio a’i thyfu’n iawn.

Ond yn lle ni wedi cael degawdau o lusgo traed, diffyg strategaeth a rhwystro bwriadol.

Achos er gwaetha’r holl frolio  a’r hunanfodlonrwydd, y gwir yw bod y twf mewn addysg Gymraeg ers datganoli wedi bod yn bitw, ac mae’r llywodraeth wedi methu cyrraedd ei thargedau ei hun tro ar ôl tro.

Mae ‘Cymraeg ail iaith’ wedi methu cannoedd o filoedd o bobl, sy’n gadael ysgol ar ôl blynyddoedd o wersi heb hyd yn oed sgiliau sylfaenol.

Mae cynghorau sir yn y de wedi blocio datblygiadau ysgolion Cymraeg newydd. Ac mae cynghorau yn y gorllewin wedi cael getawê gyda phlant yn colli eu Cymraeg wrth fynd o’r cynradd i’r uwchradd.

Y canlyniad ymhob rhan o’r wlad yw plant yn cael eu gadael i lawr, teuluoedd yn gorfod eirioli fesul plentyn a chymunedau’n gorfod brwydro fesul ysgol.

Mae’n iawn i’r plant dosbarth canol efallai, y rhai sydd â rhieni sy’n siarad Cymraeg, a sydd â’r amser, y gwybodaeth a’r hyder i wthio dros addysg Gymraeg i’w plant. Ond beth am bawb arall?

Be sy’n digwydd iddyn nhw? Ydyn nhw’n tyfu lan gyda drwg deimlad at yr iaith oherwydd y gwersi diflas mewn pwnc ‘di-bwynt’ Cymraeg ail iaith?

Ydyn nhw wir yn cael yr un cyfleoedd swyddi, yr un mynediad at holl ddiwylliant Cymru, â’r plant sydd wedi cael y Gymraeg?

Allwn ni ddim dweud eu bod nhw.

A fydd nifer ohonynt yn stryglo trwy wersi Cymraeg i oedolion, yn trio eu gorau glas i ddysgu iaith o gwmpas ymrwymiadau teulu a gwaith llawn amser? A fydd miloedd a miloedd ohonynt yn dweud tro ar ôl tro ‘I wish I spoke Welsh’? Bydd.

Rydyn ni eisiau gweld pob person ifanc yn gadael yr ysgol yn medru’r iaith, nid y lleiafrif ffodus yn unig.

Rydyn ni eisiau gweld gwlad lle’r Gymraeg yw’r norm, yn iaith naturiol ymhob cymuned a phob rhan o fywyd.

A’r gwir yw does dim ots be wnewn mewn unrhyw faes bolisi arall i gyrraedd y nod hwnnw oni bai mai’r Gymraeg yw iaith y system addysg drwyddi draw.

Dyna sut mae creu siaradwyr newydd ar y raddfa sydd ei hangen. Dyna sut mae creu miliwn - a mwy.

Dyna pam dyn ni’n galw am ddeddf addysg Gymraeg i bawb fydd yn cynnwys, ymysg mesurau eraill:

  • Targedau statudol ar wyneb y ddeddf i dyfu addysg Gymraeg ar lefel lleol a chenedlaethol
  • Nod hirdymor o droi pob ysgol yn ysgol cyfrwng Cymraeg
  • Targedau a strategaeth i recriwtio a hyfforddi’r gweithlu
  • Ac un llwybr dysgu ac asesu’r Gymraeg i bob disgybl

Achos beth yw pwynt datganoli, beth yw pwynt y lle ma os ni methu neud pethau fel hyn?

Mae’r Senedd yn amhoblogaidd achos dyw pobl ddim yn gweld hi’n gwneud gwir wahaniaeth, dim ond twtio rownd yr ochrau.

Mynnwn well.
Mynnwn ddeddfwriaeth sy’n cyflawni rhywbeth.
Mynnwn addysg Gymraeg i bawb.

Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth yw’r bil yma. Rhaid inni felly peidio â cholli’r cyfle, a cholli cenhedlaeth arall o blant i system sy’n eu gadael nhw lawr.

Roedd rhaid i fy mam i frwydro yn erbyn Cyngor Caerdydd i gael lle i fi yn yr ysgol gynradd Gymraeg agosa. Os na fuodd hi’n llwyddiannus dw i’n siŵr byddai trywydd fy mywyd i wedi bod yn wahanol iawn.
Nawr, mae babi fy hun gyda fi. Bachgen sy’n cael y Gymraeg yn ddi-ofyn, yn naturiol. Rhodd iddo am weddill ei fywyd. Ac yn wahanol i fi, fydd e’n cael mynd i ysgol gynradd Gymraeg yn ei gymuned diolch i ymgyrchu gan rieni eraill. Ond alla i ddim gweld ei fod yn deg bod e’n cael y Gymraeg tra bod plant eraill ddim.
Dw i ddim eisiau bod yn rhan o leiafrif, dw i eisiau i bawb gael yr un cyfleoedd ges i a chaiff fy mab.
Dw i eisiau addysg Gymraeg i bawb.
Felly, diolch i chi am ddod heddi a rhoi’r neges i Lywodraeth Cymru.

Diolch am sefyll gyda’r 80%.

Am sefyll dros wlad sy’n gadael neb ar ôl.

Gwlad sy’n arwain ar lwyfan fydeang pan ddaw at adfywio ieithoedd a chenedloedd bychain y byd.

Gwlad sy’n falch o’i hiaith, sy’n ei gweld fel rhywbeth gall uno cymunedau, ac etifeddiaeth amhrisiadwy y mae angen ei sicrhau i bob un plentyn sy’n byw yma.

Achos dyna beth fydd addysg Gymraeg i bawb yn golygu. A wnewn ni ddim stopio tan mai dyna be sy gyda ni.

Kiera Marshall

Dwi'n dod o Abertawe yn wreiddiol a dwi'n byw yng Nghaerdydd nawr. Kiera dw i a dwi'n chwech ar hugain oed.
Dwi'n dysgu Cymraeg ers mis Medi, dwy fil dau ddeg ac un.
Ond, nid yw hynny'n wir. Dwi'n dysgu Cymraeg ers ysgol gynradd. Gadewais i'r ysgol gyda B mewn Cymraeg. Dw i ddim yn gwybod sut y digwyddodd hynny?! Achos, a dweud y gwir, gadewais i'r ysgol yn methu siarad Cymraeg - bron o gwbl.
Dwi'n drist i ddweud - fi yw'r mwyafrif. Fi yw'r wyth deg y cant.

Dwi'n cofio dechrau fy swydd gyntaf, yn y cyfweliad maen nhw'n gofyn
"Pam wyt ti eisiau gweithio i Blaid Cymru?"
Do'n i'n ddim yn gallu deall y cwestiwn neu ateb!
Ar ôl, gofynnon nhw'r cwestiwn yn Saesneg, atebais i "Dw i'n hoffi Plaid Cymru."
Do'n i ddim yn gallu dweud dim mwy.

Methodd system Addysg Cymru fi. Methodd fy addysg fi. Ac o hyd, mae system addysg Cymru yn methu ein plant.
Felly, dw i wedi treulio cannoedd o oriau, cannoedd o bunnoedd, a llawer o ymdrech i ddysgu fy iaith. laith y wlad dwi'n byw ynddi.
A dwi'n Iwcus - dwi'n lwcus i gael vr amser, vr arian. a'r swydd i ddysgu. Mae gormod o bobl sydd ddim yn cael y cyfle. Dydyn nhw ddim yn cael y cyfle yn yr ysgol a dydyn nhw ddim cael y cyfle ar ôl. Pam ddim dysgu Cymraeg yn iawn ym mhob ysgol?!
Pam mae fy nghariad yn rhugl? Pam mae e'n ddwyieithog a dw i ddim? Dyn ni'n yr un oed. Aethon ni i'r ysgol yn yr un wlad. Pam chawson ni ddim yr un iaith?

Ches i ddim clywed chwedlau am Gymru. Wnes i erioed ddarllen y Mabinogion. Dwi'n gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg fel Adwaith neu Bwncath a dwi ddim yn deall y geiriau. Fel plentyn, canais yr anthem genedlaethol a do'n i ddim yn deall beth ro'n i'n dweud. Fydda i byth yn cael fy mhlentyndod yn y Gymraeg yn ôl. Ond, bydda i'n dal i ddysgu nawr.

Allwn ni ddim gadael i hyn ddigwydd i'n pobl ifanc.
Rhaid sefyll gyda'r wyth deg y cant.