Annwyl Rosemary Thomas,
Carwn ddiolch i chi am gyfarfod gyda dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith sef Tamsin Davies, Colin Nosworthy a minnau ddaeth i drafod gyda chi ar ddydd Iau 27 Chwefror 2014. Roedd hyn yn dilyn y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2014 oedd yn rhan o’r broses Ymgynghori ar y Drafft o’r Bil Cynllunio. Yn y cyfarfod hynny mi roedd y Carl Sargeant y Gweinidog Tai ac Adfywio hefyd yn bresennol.
Er eich bod yn nodi taw’r bwriad a’r amcan yw gyflwyno “system gynllunio fodern sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif” serch hynny siom yw gweld nad oes yr un cyfeiriad ynddo at yr iaith Gymraeg. Fel yr ydych yn ymwybodol rydym mewn sgyrsiau a gohebiaethau wedi datgan y diffygion sydd yn y drafft fesur a gyhoeddwyd ar 4 Rhagfyr 2013 a hynny yn bennaf am nad ydym yn gweld fod ynddo unrhyw beth penodol i ddiogelu’r Gymraeg nac yn gwneud i’r Gymraeg fod yn iaith fyw yng Nghymru. Dyna felly yw ein sail dros barhau i ymgyrchu.
Rydym yn hyderus bydd y materion a nodwyd gan y Gymdeithas yn cael sylw dyladwy ac yn bwysicach yn cael eu gweithredu. Gan gyfeirio yn benodol at y cyfarfod diwethaf, dyddiedig 27 Chwefror, carwn nodi bod y Gymdeithas yn gwerthfawrogi’r ffaith fod trafodaeth yn parhau rhyngom.
Yn ystod y sgyrsiau yn ystod ein cyfarfod roedd yn ddiddorol nodi bod
(i) Cyfaddefiad gan Neil Hemington bod cynghorau bron a bod fel bod ganddynt obsesiwn (”too fixated” yn ei eiriau ef) ar seilio eu rhagamcaniadau weithredu ar amcanestyniadau poblogaeth;
(ii) Nodir ymhellach eich bod wedi datgan nad yw Bil Cenedlaethau'r Dyfodol ddim y berthnasol i'r adran gynllunio, gan eich bod fel Adran yn cyflawni popeth yn barod.
(iii) Roeddwn yn falch clywed eich parodrwydd i archwilio gyda’r gweinidog ynglŷn a gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol.
Gan fod y cyfnod ymgynghoriad wedi dod i ben edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld beth fydd yn gynwysedig yn y fersiwn terfynol a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn ddiweddarach y flwyddyn yma.
Fel yr ydych siŵr o fod yn ymwybodol erbyn hyn, mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi ein Drafft Bil Eiddo a Chynllunio sydd yn cynnwys 24 adran.
Mae cynnwys ein Bil yn seiliedig ar dros 25 mlynedd o ymgyrchu yn y maes ac o brofiad delio a chysylltu gyda Chyrff Cynllunio o fewn Llywodraeth Leol ynghyd hefyd â’n Maniffesto Byw a gyhoeddwyd fel ymateb i’r sefyllfa enbydus sydd yn wynebu’r Gymraeg yn dilyn cyhoeddi ffigyrau Cyfrifiad 2011. Os ydych yn gweld fod yna fantais i gyfarfod a ninnau eto i drafod ei gynnwys yna byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.
Yn gywir,
Cen Llwyd
Is-Gadeirydd,
Grŵp Cymunedau Cynaliadwy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg