Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

[Cliciwch yma i agor fel PDF]

Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg    

Rydym yn cefnogi’r ymgyrch i gael Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol cryf, sy'n gwneud y Gymraeg yn ganolog i'r agenda cynaliadwyedd. 

Crynodeb 

Hoffem weld y Bil yn cael ei gryfhau drwy: 

  • Sôn am y Gymraeg yn y diffiniad o ddatblygu cynaliadwy yn ogystal â'r 'bwriad cyffredin' - hynny yw adrannau 2 a 3 y Bil  

  • Ychwanegu sôn am 'gymunedau Cymraeg' yn y nodau llesiant 

  • Ychwanegu targedau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 

  • Gosod dyletswydd gref ar gyrff cyhoeddus i anelu at gyflawni datblygiad cynaliadwy ym mhopeth maen nhw’n ei wneud 

  • Ychwanegu diffiniad clir o’r hyn a olygir gan ddatblygiad cynaliadwy 

  • Ystyried yn iawn yr effaith y mae Cymru yn ei chael ar bobl a’r amgylchedd dramor 

  • Cynyddu pwerau’r Comisiynydd a gwneud y rôl yn atebol i Aelodau’r Cynulliad yn hytrach na Gweinidogion Cymru 

Y Gymraeg fel un o’r nodau 

Rydym wedi croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi cynnwys yr iaith Gymraeg yn y nodau llesiant. Fodd bynnag, credwn y byddai’r geiriad hwn yn well o ran y nod sy’n ymwneud â’r Gymraeg: 

“Cymru lle bo pobl yn cymryd rhan yn ein diwylliannau, sy’n perthyn i ni i gyd, sef lle y mae’r Gymraeg yn ffynnu yn ein cymunedau” 

Credwn fod angen cydnabod yn y nodau bod y Gymraeg yn berthnasol i holl gymunedau a diwylliannau Cymru. 

Dangosodd canlyniadau'r Cyfrifiad diweddaraf dirywiad dychrynllyd yn nifer siaradwyr y Gymraeg a nifer y cymunedau lle mai'r Gymraeg yw prif iaith y gymuned. Felly, credwn fod angen i'r nod cyfeirio at le'r Gymraeg yn ein holl gymunedau ledled y wlad. 

O ran y nodau eraill, cytunwn â barn Cynghrair y Trydydd Sector ar ddatblygu cynaliadwy, sy’n dadlau dros nodau canlynol: 

“Cymru... 

(a) llewyrchus ac arloesol; 

(b) gyda chymdeithas gref, iach a chyfiawn; 

(c) sy’n defnyddio ei chyfran deg o adnoddau’r byd yn unig; 

(ch) sy’n byw o fewn terfynau amgylcheddol; 

(d) lle bo pobl yn cymryd rhan yn ein diwylliannau, sy’n perthyn i ni i 

gyd, sef lle y mae’r Gymraeg yn ffynnu yn ein cymunedau; a 

(dd) gydag amgylchedd naturiol gwydn a bioamrywiaethol" 

Y Gymraeg yn niffiniad y Bil, nid y nodau’n unig 

Nodwn ymrwymiad clir, personol y Gweinidog, a wnaed i bwyllgor Amgylchedd y Cynulliad, i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o'r diffiniad o ddatblygu cynaliadwy ym Mil Cenedlaethau’r Dyfodol, nid y nodau yn unig. Testun siom felly yw gweld bod y Llywodraeth wedi torri'r addewid hwnnw.  

Nodwn ymhellach fod y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Peter Davies wedi galw ar i’r Gymraeg fod yn y diffiniad o ddatblygu cynaliadwy yn y Bil. Nodwn fod rhai wedi galw am ddiben statudol i'r Bil Cynllunio sydd ond yn cyfeirio at 'ddatblygu cynaliadwy' fel diben y drefn honno. Os dyna fydd penderfyniad y Llywodraeth ynghylch y Bil Cynllunio, mae’n golygu ei fod yn hanfodol bod y Gymraeg yn rhan o’r diffiniad o ddatblygu cynaliadwy ym Mil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol - hynny yw adrannau 2 a 3 y Bil - yn ogystal â bod yn un o’r nodau llesiant yn y Bil. 

Gwendidau Presennol Eraill y Bil 

  • Diffyg sôn am y Gymraeg yn y diffiniad yn ogystal â'r 'bwriad cyffredin' datblygu cynaliadwy. Credwn y dylid cynnwys pedwar piler cynaliadwyedd yn y bwriad cyffredin - cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Dylai fod sôn am y Gymraeg yn niffiniad Bruntland yn ogystal - hynny yw adrannau 2 a 3 y Bil. 

  • Nid oes yna ddyletswydd gref ar gyrff y sector cyhoeddus i newid y ffordd maen nhw’n ymddwyn neu i roi blaenoriaeth go iawn i genedlaethau’r dyfodol. Rydym eisiau gweld dyletswydd yn cael ei rhoi ar gyrff cyhoeddus i “arfer eu swyddogaethau er mwyn sicrhau datblygu cynaliadwy”. Mae’n rhaid nodi’n glir hefyd fod y ddyletswydd hon yn berthnasol i gynnyrch a gwasanaethau sy’n cael eu prynu gan y cyrff hyn.  

  • Nid yw’r nodau’n cyfeirio at newid yn yr hinsawdd a’r angen i Gymru gynaliadwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Dylai’r Bil fanteisio ar y cyfle i osod targedau allyriadau ar sail ddeddfwriaethol.  

  • O fewn Cymru yn unig mae’r Bil yn ystyried datblygu cynaliadwy. Nid yw’n ystyried gweithredoedd cadarnhaol neu negyddol gan gyrff cyhoeddus sy’n cael effaith ar wledydd eraill, fel prynu cynnyrch masnach deg neu brynu pren o fforestydd glaw sydd dan fygythiad. Dylai’r Bil nodi’n glir mai dim ond ei chyfran deg o adnoddau’r byd y dylai Cymru gynaliadwy ei defnyddio, ac na ddylai arian y trethdalwyr gael ei ddefnyddio i gefnogi dinistrio cynefinoedd neu achosion o gam-drin hawliau dynol dramor. 

  • Mae rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhy wan. Dylai’r rôl gael ei chryfhau i gynnwys pwerau i ymchwilio i gwynion, mynnu tystiolaeth a beirniadu cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, os ydynt yn methu yn eu dyletswydd. Felly, mae angen i’r Comisiynydd gael ei benodi, a bod yn atebol i, y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfanrwydd, ac nid Gweinidogion Llywodraeth Cymru’n unig.  

  • Nid yw’r Bil yn rhoi diffiniad clir o ddatblygu cynaliadwy. Rydym angen diffiniad o ddatblygu cynaliadwy i Gymru sy’n cynnwys uchelgais i gyflawni cyfiawnder cymdeithasol o fewn terfynau amgylcheddol yng nghyd-destun diwylliannol Cymru.  

     

Robin Farrar, 

Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

Medi 2014