Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft a’r Memorandwm Esboniadol
Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
1.Cyflwyniad
1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn ymgyrchu am dros hanner canrif dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.
1.2. Ym mis Hydref 2015, mabwysiadodd cyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y polisi canlynol:
"Cred Cymdeithas yr Iaith fod cynlluniau presennol Llywodraeth Cymru i ad-drefnu llywodraeth leol yn gam a fydd yn tanseilio democratiaeth lleol. Credwn fod y penderfyniadau gorau yn cael eu gwneud pan fo grym yn agosach i’n cymunedau. Galwn ar y llywodraeth felly i wrthod y cynlluniau presennol a datganoli mwy o bwerau i ardaloedd lleol drwy gynghorau cymuned a chynghorau tref. Os gorfodir y cynlluniau presennol ar yr awdurdodau lleol, galwn ar i’r awdurdod lleol a fydd yn cynnwys Gwynedd i weithredu’n gyfan gwbl Gymraeg i barhau â pholisi gweinyddu cyfrwng Cymraeg Cyngor Gwynedd."
1.3 Yn ein dogfen weledigaeth "Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth o 2016 Ymlaen", datganwn y "dylai unrhyw ad-drefnu Llywodraeth leol gynyddu’r nifer o awdurdodau sy’n gweithio drwy’r Gymraeg gan osod cymalau mewn deddfwriaeth er mwyn sicrhau hynny"
1.4 Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi mabwysiadu argymhellion gweithgor ar sefyllfa'r Gymraeg yn y sir, a hynny'n drawsbleidiol, sy'n cynnwys y nod o symud at weinyddiaeth fewnol Gymraeg fel a weithredir yng Ngwynedd ar hyn o bryd:
"NOD: I gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y gweithle a dwyieithogi ymhellach gweinyddiaeth fewnol y Cyngor gyda’r nod o weinyddu’n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg gydag amser" Adran 3.4, Y Gymraeg yn Sir Gâr, Gweithgor y Cyfrifiad1
1.5 Yn 2011, llofnododd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion Ellen ap Gwynn yr addewid canlynol:
"Y Gymraeg: Iaith Swyddogol Sir Ceredigion
Yr wyf i, sydd yn arweinydd grŵp Plaid Cymru yn Sir Ceredigion yn ymrwymo i gefnogi'r egwyddor i wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol gweinyddiaeth fewnol Cyngor Sir Ceredigion..."
1.6. Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd awdurdodau sy'n uno yn gorfod cydymffurfio a Safonau'r Gymraeg lefel uchaf o blith dyletswyddau iaith yr awdurdodau sy'n uno.
2.Crynodeb
Ymysg ein prif argymhellion a sylwadau mae'r canlynol:
-
Ni chytunwn y dylid uno cynghorau sir oherwydd y byddai'n canoli grym, ac yn lleihau grym cymunedau lleol ac etholwyr.
-
Os penderfynir bod rhaid uno cynghorau sir, dylid gwneud hynny dim ond os yw'n arwain at ragor o awdurdodau yn gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg.
-
Mae'n hanfodol bwysig bod unrhyw ad-drefnu yn amddiffyn polisïau gweinyddiaeth fewnol Gymraeg Gwynedd ac yn sicrhau gwireddu polisïau iaith blaengar gweithgor y Cyfrifiad Cyngor Sir Gaerfyrddin.
-
Mae gennym bryderon difrifol penodol ynghylch uno cynghorau Gwynedd a Chonwy, felly ni ddylid uno'r cynghorau hynny o dan unrhyw amgylchiadau.
-
Dylai fod amddiffyniad statudol, a hynny ar wyneb y statud, sy'n atal uno cynghorau sir os yw'n debygol o effeithio'n negyddol ar y Gymraeg.
-
Gresynwn nad oes yr un cyfeiriad at y Gymraeg ar wyneb y Bil, felly nid oes cymal sy'n gwireddu addewid y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i sicrhau bod Safonau'r Gymraeg ar y lefel uchaf o blith dyletswyddau'r cynghorau sy'n uno yn cael eu gosod ar yr awdurdodau newydd-unedig.
3. Sylwadau Cyffredinol
3.1. Rhoi grym yn nwylo pobl Cymru dylai fod pwrpas y cynllun o Ddiwygio Llywodraeth Leol. Mae’r Gymraeg wedi bod mewn sefyllfa o wendid yn ein Hawdurdodau Lleol erioed, ac o’r dystiolaeth a gasglwn mae hynny’n parhau o fewn y 22 Awdurdod presennol. Mae’n bryder mawr bod gwendidau sylfaenol yn parhau cyhyd, ac fe welwn yr ad-drefnu arfaethedig yn gyfle i fynd i’r afael â methiannau dirfawr yr awdurdodau hyd yma i ddarparu gwasanaethau llawn yn Gymraeg. Mae gwir angen mynd i’r afael â’r methiant hwn a dyma gyfle arall i wneud hynny.
3.2. Mae angen amddiffyn ac ehangu nifer y cyrff sy’n gweinyddu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg.
3.3. Rydym yn ymwybodol mai dim ond o fewn un awdurdod y mae hynny’n digwydd ar hyn o bryd, sef Cyngor Gwynedd; felly mae angen cryfhau’r ddarpariaeth ar fyrder. Byddai hyn yn gwireddu hawliau gweithwyr i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
3.4. Wrth i’r newidiadau hyn ddod i rym, bydd yr unedau o reidrwydd yn cynyddu mewn maint, a thrwy hynny yn cryfhau’r ymdeimlad fod atebolrwydd yn pellhau. Gwanhau fydd cysylltiad rhwng etholwyr a darparwyr gwasanaethau, a bydd hynny’n cael effaith niweidiol ar ddemocratiaeth.
3.5. Credwn fod angen adfywio a chryfhau democratiaeth, yn enwedig ar lefel leol iawn. Gwelwn fod hyn yn gyfle da i ddod â’r broses ddemocrataidd yn agosach at y bobl ac i roi mwy o gyfrifoldebau yn nwylo Cynghorau Cymuned. Gwelir bod mwy o rôl iddynt yn benodol yn y system gynllunio.
3.6. Gwelwn fod gwasanaethau lleol yn hollbwysig i hyfywedd cymunedau a’r Gymraeg, ac rydym yn edrych ar yr ad-drefnu yng ngoleuni hynny.
3.7. Mae angen creu set cyson o Safonau'r Gymraeg ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, y drydedd sector a’r sector breifat er mwyn gwella gwasanaethau Cymraeg ac a fydd yn sicrhau eglurder i’r cyhoedd.
4.Sylwadau Manwl
4.1 Ardaloedd Llywodraeth Leol
4.1.1. Fel y nodir uchod, anghytuna Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyda'r cynlluniau i ad-drefnu Llywodraeth Leol gan y byddai'n canoli grym yn bellach byth oddi wrth gymunedau lleol.
4.1.2. Nodwn ymhellach pwysigrwydd eithriadol polisïau iaith Gwynedd, o ran defnydd mewnol yn ogystal â'u polisi addysg, fel dull sy'n cynnal a chryfhau defnydd y Gymraeg yn y byd gwaith ac yn ein cymunedau. Nodwn ymhellach nad yw effaith gadarnhaol polisïau iaith Gwynedd yn gyfyngedig i Wynedd: caiff unigolion hyderus eu Cymraeg a fagir yn y sir effaith bositif ar gyflwr yr iaith ledled Cymru.
4.1.3. Felly, pa opsiwn bynnag a ddewisir gan y Llywodraeth, mae'n hanfodol bwysig bod yr awdurdod sy'n gwasanaethu Gwynedd yn parhau i weithredu'n fewnol yn Gymraeg ac yn Gymraeg yn unig, a bod y polisi hwnnw yn ymestyn i awdurdodau lleol eraill.
4.1.4. Rhaid nodi yn ogystal pwysigrwydd eithriadol y camau cadarnhaol a gymerwyd yn drawsbleidiol yn Sir Gaerfyrddin dros y blynyddoedd diwethaf ers cyhoeddi canlyniadau'r Cyfrifiad, gyda'r nod o symud at yr un polisïau â Gwynedd o ran defnydd mewnol o'r iaith ac addysg Gymraeg. Mae'n hanfodol bwysig nad yw ad-drefnu llywodraeth leol yn llesteirio ar y camau i gryfhau cyflwr y Gymraeg yn yr ardal honno.
4.1.5. Yn hynny o beth, mae’n chwerthinllyd y gallai'r Llywodraeth geisio dadlau'r canlynol yn ei asesiad:
"Mae Awdurdodau mwy o faint a mwy galluog hefyd yn fwy tebygol o allu darparu cymorth rhagweithiol a gwneud defnyddio’r Gymraeg yn rhan o’u systemau yn eu gweithleoedd, yn ogystal ag yn yr ardaloedd maent yn eu gwasanaethu"
4.1.6. Nid yw'r casgliad uchod yn wir yn ardaloedd fel Gwynedd a Sir Gaerfyrddin. Yn wir, mae'r uno yn fygythiad i gynnal a symud tuag at weinyddiaeth fewnol Gymraeg a pholisi o addysg cyfrwng Cymraeg i bawb yn yr ardaloedd hynny. Yn wir, mae honiadau'r Llywodraeth yn amlygu meddylfryd "Caerdydd-ganolog" sy'n hynod anffodus.
4.1.7. Ac er bod yr asesiad effaith iaith yn datgan: "... beth bynnag fo’r arferion presennol ar draws Llywodraeth Leol yng Nghymru, mae Gweinidogion Cymru eisiau gweld cryfhau ac adeiladu ar arferion o’r fath", a bod "...Gweinidogion Cymru’n cydnabod ei bod yn bwysig cymryd gofal i sicrhau nad yw creu ardaloedd Awdurdodau Lleol mwy o faint yn erydu’r arferion presennol yn yr Awdurdodau Lleol hynny sy’n gwneud eu gwaith gweinyddol mewnol yn gyfan gwbl neu yn bennaf yn Gymraeg" nid oes mecanwaith yn y ddeddfwriaeth sy'n sicrhau nad oes llithro yn ôl a bod arferion da yn cael eu hymestyn i ragor o awdurdodau mewn gwirionedd.
4.1.8. Credwn y dylai'r polisi o weinyddu'n Gymraeg gael ei ymestyn i ragor o ardaloedd. Yn hynny o beth, mae'n hanfodol:
-
na gymerir unrhyw gamau sy'n peryglu polisi Cyngor Gwynedd o ran gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg a'i bolisi o gyflwyno addysg Gymraeg i bob plentyn
-
bod modd i Gyngor Sir Gaerfyrddin, a'i olynydd, gwireddu a chynnal ei ymrwymiad i symud at yr un polisi gweinyddiaeth fewnol Gymraeg a'r un polisi addysg â Chyngor Gwynedd
-
sicrhau bod Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn gweithredu ar ei haddewid i symud at yr un polisi gweinyddiaeth fewnol Gymraeg â chyngor Gwynedd.
4.1.9. Fel dywedom, nid ydym cytuno â'r ad-drefnu arfaethedig ar gynghorau sir, fodd bynnag, os penderfyna'r Llywodraeth bod yr ad-drefnu yn digwydd,
-
Ni ddylid uno unrhyw gyngor arall gyda Gwynedd oni bai eu bod yn cytuno i weithredu'r un polisi o weithredu'n fewnol yn Gymraeg a pholisi addysg Gymraeg yn syth wedi'r uno
-
Ni ddylid uno unrhyw gyngor arall gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin oni bai eu bod yn cytuno i weithredu'r un polisi o weithredu'n fewnol yn Gymraeg a pholisi addysg Gymraeg yn syth wedi'r uno, yn unol ag argymhellion gweithgor Cymraeg Cyngor Sir Gaerfyrddin.
4.1.10. Mae'n bwysig iawn nodi nad yw gweithredu'r un Safonau'r Gymraeg, rheoliadau sy'n deillio o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn faen prawf digonol, ar ei ben ei hunan, bod cyngor sir yn gweithredu'r un polisi iaith â chyngor arall.
4.1.11. Argymhellwn felly:
-
Dylai fod cymal yn y Bil sy'n gwarantu bod rhagor o awdurdodau lleol yn gweinyddu'n fewnol yn uniaith Gymraeg o hyn ymlaen.
-
Dylai'r Bil gwarantu na fydd uno cyngor sir arall gyda Chyngor Gwynedd oni bai eu bod yn gweithredu'r un polisïau iaith o ran defnydd mewnol ac addysg.
-
Dylai'r Bil gwarantu na fydd uno cyngor sir arall gyda chyngor Sir Gaerfyrddin oni bai eu bod yn gweithredu'r un polisïau iaith o ran defnydd mewnol ac addysg.
4.1.12. Gellid ystyried rhoi grymoedd i Gomisiynydd y Gymraeg i atal uno cynghorau os oes risg bod y newidiadau yn mynd i gael effaith negyddol ar ddefnydd y Gymraeg, yn enwedig y rhai a weithredir gan Gyngor Sir Gaerfyrddin a chan Gyngor Gwynedd.
4.2.Enghraifft: Pryderon am Uno Conwy a Gwynedd
4.2.1. Teimlwn fod rhesymau arbennig dros beidio ag uno Conwy a Gwynedd; ymysg ein pryderon yw'r canlynol:
-
Mae'r rhan fwyaf o Gyngor Gwynedd eisoes yn gweithio'n fewnol Gymraeg, ond mae polisi iaith Cyngor Conwy yn llawer wannach, felly gallai uno'r ddau gyngor wanhau y Gymraeg yng Ngwynedd
-
Mae sefyllfa ieithyddol Conwy a Sir Ddinbych, yn gyffredinol, yn debycach i'w gilydd – o'u cymharu â Chonwy a Gwynedd.
-
Tra bod ymdrech i wella darpariaeth Gymraeg ysgolion Conwy ar hyn o bryd a bod bwriad yn Sir Ddinbych i ddilyn yr un trywydd, mae'r rhan helaeth o ysgolion Gwynedd yn gyfan gwbl Gymraeg.
4.3. Enwau'r Siroedd Newydd
4.3.1. Mae paragraff 30 y memorandwm esboniadol yn datgan y bydd disgwyl i bob sir fabwysiadu enw Cymraeg ac enw Saesneg. Ni fyddai'r polisi hwnnw'n gyson gydag egwyddor ganolog i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 sef "ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg", nag yr arfer mewn niferoedd o siroedd presennol ychwaith, sef arddel enw Cymraeg yn unig.
4.3.2. Er mwyn adlewyrchu hynny, dylai fod disgwyl i bob sir gael enw Cymraeg, ond ni ddylai fod rhaid iddynt gael enw Saesneg. Nodwn fyddai hynny'n adlewyrchu'n well y sefyllfa bresennol yn siroedd megis Rhondda Cynon Taf, Powys, Gwynedd a Cheredigion. Byddai enwau uniaith Gymraeg ar y siroedd newydd yn adlewyrchu'n well statws swyddogol y Gymraeg yn ogystal.
4.4.Safonau'r Gymraeg
4.4.1. Nid oes darpariaeth yn y Bil drafft sy'n sicrhau bod cynghorau sy'n uno yn cydymffurfio â'r lefel o wasanaeth gorau o blith dyletswyddau'r cynghorau sy'n uno, er gwaethaf yr addewid gan y Gweinidog mai dyna yw bwriad y Llywodraeth bresennol. Mae'n destun o gryn syndod a siom nad oes cyfeiriad at hyn yn y Bil drafft na'r memorandwm esboniadol.
4.4.2. Ceir darpariaethau ar gyfer cadw a throsglwyddo hawliau eraill i'r cynghorau newydd; fodd bynnag, nid oes cymal a fyddai'n diogelu neu gryfhau hawliau gweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth i'r Gymraeg. Nid oes esboniad pam nad oes darpariaeth ar gyfer amddiffyn hawliau iaith.
4.5. Ymddygiad Cynghorwyr Unigol
4.5.1. Dylai fod dyletswydd ar gynghorwyr unigol i gynhyrchu adroddiad blynyddol yn Gymraeg, ateb gohebiaeth yn Gymraeg ynghyd â chynnal cymorthfeydd yn Gymraeg yn y ddeddfwriaeth. Mae'n annhebygol y bydd y Safonau newydd yn sicrhau bod cynghorwyr yn cyflawni'r gofynion sylfaenol hyn, felly mae angen eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth hon.
4.6. Canllawiau i Gyrff Cyhoeddus ar faterion y Gweithlu
4.6.1. Yn adran 172 o'r Bil, dylai fod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i amlinellu sut y bydd polisïau recriwtio a pholisïau cyflogaeth eraill yn cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle. Mae diffyg eglurder o ran cynllunio'r gweithlu wedi arwain at ddefnydd llawer llai o'r Gymraeg nag y dylai fod, ynghyd â gwasanaethau Cymraeg gwael mewn llawer o achosion.
4.7. Uno Cynghorau Cymuned: Peryglon i'r Gymraeg
4.7.1. Er bod yr asesiad effaith iaith yn nodi y "Bydd Gweinidogion Cymru’n cyfarwyddo Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i gymryd i ystyriaeth nodweddion ieithyddol y cymunedau sy’n cael eu cydgrynhoi a’r iaith mae’r Cynghorau hynny’n gweithio ynddi’n bennaf", nid oes darpariaeth yn y ddeddf i gefnogi a sicrhau hyn. Rydym wedi gweld yn ddiweddar bod canfyddiadau'r Ombwdsmon ynghylch polisïau iaith cynghorau cymuned yn gosod cynsail peryglus o ran defnydd y Gymraeg. Credwn ymhellach bod uno cynghorau cymuned yn peri perygl y bydd llai o'r cynghorau hynny'n gweinyddu'n Gymraeg, gan fod cynghorau o'r fath yn debygol o gael eu lleoli mewn ardaloedd gwledig.
4.8. Dyletswyddau i ystyried y Gymraeg
4.8.1. Noda'r asesiad effaith ar y Gymraeg y "bydd yn ofynnol i Brif Weithredwyr ystyried sut y gall Awdurdod Lleol barhau i wella ei berfformiad, a allai gynnwys perfformiad o ran ymrwymiadau a dyletswyddau sy’n ymwneud â’r Gymraeg.". Credwn y dylai fod dyletswydd statudol i ystyried ymrwymiadau i'r Gymraeg yn ogystal.
4.8.2. Ymhellach, noda'r asesiad y bydd y "mesurau i hybu hyn yn cynnwys gosod gofyniad ar Arweinydd y Cyngor i roi sylw dyledus i ganllawiau ar gydraddoldeb ac amrywiaeth wrth ddethol Cabinet.". Credwn y dylai fod dyletswydd debyg ynghylch anghenion y Gymraeg wrth ddethol Cabinet.
5.Casgliad
Credwn fod yr ad-drefnu arfaethedig yn bygwth polisïau iaith blaengar mewn rhai siroedd, yn enwedig yng Ngwynedd a Sir Gaerfyrddin, felly rydym yn ei wrthwynebu. Fodd bynnag, os penderfynir symud ymlaen gyda'r broses, credwn y byddai angen nifer o ddarpariaethau statudol, yn ychwanegol at yr hyn a gynhigir yn y Bil drafft presennol, er mwyn diogelu a hybu'r Gymraeg.
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Ionawr 2016