Brexit a’n tir: Cymorth i ffermwyr Cymru ar ôl Brexit
Ymateb Cymdeithas yr Iaith
1.Cyflwyniad
1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.
1.2. Credwn fod y newidiadau arfaethedig yn peryglu hyfywedd y Gymraeg, yn enwedig y cymunedau prin lle siaredir yr iaith gan fwyafrif y boblogaeth. Mae’r cymunedau hyn yn gwbl hanfodol i hyfywedd yr iaith. Mae’r rhan fwyaf o’r cymunedau hyn hefyd, oherwydd natur y tir, yn ardaloedd ffermio llai cynaliadwy yn fasnachol lle mae’r ffermydd yn llai eu maint. Mae ymchwil hefyd yn dangos pa mor hanfodol yw amaeth mewn ardaloedd ble mae’r Gymraeg yn go fyw, ond ar ei lawr yn ofnadwy – amaeth sy’n llwyr gynnal y Gymraeg yn yr ardaloedd hyn.
1.3. Yn wir, gyda’r pwyslais ar ddefnyddio tir Cymru ar gyfer coedwigoedd, hamdden a thwristiaeth, ymddengys fod y Llywodraeth yn ceisio atgyfodi’r hunllef yn nofel ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ lle mae’r siaradwr Cymraeg olaf wedi marw ac mae tir Cymru yn cael ei orchuddio gan goedwigoedd. Gresynwn at y ffaith bod ein Llywodraeth ddatganoledig yn agor cil y drws ar yr hunllef hon drwy gynnig cymhorthdal hael i bobl, cwmnïau a chyrff o’r tu allan i Gymru i ddod i ddinistrio cymunedau gwledig ein gwlad.
1.4. Fel mudiad a fu’n cydsefyll gyda’r glowyr yn yr wythdegau, gwelwn berygl mawr fod y polisi a’r egwyddorion yn y ddogfen ymgynghorol yn mynd i arwain at ddinistr economaidd a ieithyddol i gymunedau gwledig fel ddigwyddodd i'r cymunedau oedd yn ddibynnol ar y diwydiant glo.
2.Pwysigrwydd y Diwydiant Amaeth i'r Gymraeg
2.1. Dangosodd canlyniadau Cyfrifiad 2011 ostyngiad nid yn unig yng nghanran y siaradwyr Cymraeg, o 21% i 19%, ond hefyd yn nifer y wardiau lle roedd dros 70% yn medru’r iaith. Yn fras, ymddengys fod tua 3,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru bob blwyddyn. Mae'r ffigyrau yn amlygu nifer o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar gyflwr yr iaith. Amlygir mai allfudo — megis pobl ifanc yn gadael eu cymunedau i chwilio am waith — yw un o’r prif ffactorau sy’n arwain at argyfwng yr iaith. Amcangyfrifir ein bod yn colli tua 5,200 o siaradwyr Cymraeg y flwyddyn drwy allfudo o Gymru.
2.2. Os edrychwn ar Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin dros y degawd diwethaf, mae 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 wedi gadael yr ardaloedd hynny, sy'n cyfateb i dros 55 y cant o'r holl allfudiad ar gyfer pob oedran. Yng Ngheredigion, gadawodd 3,670 o bobl ifanc y sir mewn blwyddyn yn unig, sef 2015 i 2016 - mae hynny’n cyfateb i bron i 20 y cant o’r holl boblogaeth rhwng 15 a 29 oed yn gadael sir Ceredigion. Dyna un o’r prif resymau y mae’n rhaid cryfhau’r diwydiant amaeth yng Nghymru fel ffynhonnell cyflogaeth hollbwysig i siaradwyr Cymraeg.
2.3. Mae'r diwydiant amaeth yn eithriadol o bwysig i gymunedau gwledig Cymru ac i'r Gymraeg. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 40%1 o’n gweithwyr amaeth yn siarad Cymraeg, sef y ganran uchaf mewn unrhyw faes gwaith yn y wlad. O ystyried y teuluoedd mae’r miloedd o bobl hyn yn eu cefnogi, ymddengys fod degau o filoedd o siaradwyr Cymraeg yn dibynnu’n uniongyrchol ar y diwydiant amaeth i'w cynnal.
2.4. Yn ogystal â hynny, mae nifer o gymunedau lle siaredir y Gymraeg gan fwyafrif y boblogaeth yn ddibynnol iawn ar ffermio. Mae ardaloedd helaeth yn y gorllewin, y canolbarth a’r gogledd sydd â hyd at 27% o’u poblogaeth yn gyflogedig yn y sector amaeth. Mae’r ardaloedd hyn hefyd yn ardaloedd lle mae canran y gweithlu amaethyddol sy’n siarad Cymraeg dros 90% mewn sawl man. Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod cymunedau lle mae dwysedd uchel o siaradwyr iaith leiafrifoledig yn hanfodol i barhad yr iaith honno fel iaith fyw.
2.5. Gwelwyd cwymp difrifol yn nifer y cymunedau lle siaredir y Gymraeg gan dros 70% y boblogaeth dros y degawdau diwethaf – o 92 yn 1991 i 54 yn 2001 ac lawr i 39 yn 2011.
2.6. Yn hyn o beth, credwn ei bod yn bwysig cyfeirio at ddarn yn y ddogfen ymgynghori a allai roi camargraff am bwysigrwydd y sector. Dywedir yn yr ymgynghoriad:
“Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o ffabrig cymdeithasol rhannau o Gymru wledig. Mae cysylltiadau diwylliannol â ffermio ledled Cymru’n gryf ac mae gan amaethyddiaeth rôl bwysig o ran cynnal y Gymraeg. Yn wir, mae bron i draean yr unigolion mewn sectorau rheoli tir yn siarad yr iaith yn rheolaidd (cyfran uwch nag unrhyw gategori cyflogaeth arall).”
2.7. Fodd bynnag, mae’r ddogfen yn methu â chyfeirio at ffigyrau manylach sy’n dangos nad yw pob math o ‘reoli tir’ yn gyfartal o ran ei effaith ar y Gymraeg - mae amaethyddiaeth yn llawer pwysicach i'r Gymraeg na ffyrdd eraill o reoli’r tir, gyda 40% o weithwyr mewn ‘amaethyddiaeth a masnachau cysylltiedig’2 yn medru’r iaith. Y diwydiant amaeth sy’n bwysig, felly, yn hytrach na rheoli tir yn gyffredinol. Dyma’r math o ddadansoddi mwy manwl a fyddai’n deillio o asesiad effaith iaith cyflawn. Synnwn nad yw hyn wedi digwydd. Nodwn nad oes asesiad effaith lawn wedi digwydd mewn unrhyw faes. O ystyried y newidiadau enfawr arfaethedig, credwn fod hyn yn anghyfrifol.
2.8. Yn hyn o beth, mae’n hynod bwysig nodi bod y ddogfen ymgynghori o blaid cadwraeth, twristiaeth a hamdden, nad yw’r canrannau o siaradwyr Cymraeg yn y sectorau gwaith hynny yn nodedig o uchel, ac fel y byddai’r newidiadau’n milwrio yn erbyn hyfywedd y Gymraeg yng nghefn gwlad.
2.9. Mae methiant y ddogfen ymgynghori i gydnabod y gwirionedd sylfaenol hwn yn golygu y gallai cynlluniau’r Llywodraeth fod yn angheuol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.
3. Amaethyddiaeth a’r Effaith ar yr Amgylchedd
3.1. Fel dywedir uchod, mae amddiffyn y diwydiant amaeth yn hollbwysig i'r Gymraeg a chymunedau gwledig Cymru. Nid yw hynny, wrth gwrs, yn golygu na ddylai byd amaeth newid o gwbl yn ystod y blynyddoedd i ddod.
3.2. Yn hyn o beth, mae newid hinsawdd yn argyfwng i'r blaned, a dylai fod yn flaenoriaeth uchel. Mae angen gweithredu brys i ddelio â chyfraniad Cymru, ynghyd â’n heffaith ar allyriadau gweddill y byd, tuag at yr her fyd-eang hon.
3.3. Oherwydd natur argyfyngus newid yr hinsawdd, credwn y dylai ei daclo fod yn flaenoriaeth uwch nag ystyriaethau cadwriaethol, a dylai hynny fod yn glir yn y cynlluniau.
3.4. Mae'r cynigion hyn yn berygl gwirioneddol i'n ffermydd bach, a chanlyniad anochel hynny fyddai ffermydd mwy o faint yn cynhyrchu bwyd ar raddfa lawer ehangach fel sydd wedi digwydd yn Seland Newydd. Yn ogystal â’r effaith ddinistriol ar yr iaith, credwn fod ffermydd mawrion sy’n cynhyrchu ar lefel ddwys, yn llawer gwaeth i'r amgylchedd, i les anifeiliaid ac i'r bobl sy’n gweithio ar y ffermydd hynny.
3.5. Credwn fod angen i newidiadau o ran bwyta a chynhyrchu bwyd fynd law yn llaw. Wedi’r cyfan, os yw patrymau cynhyrchu bwyd yn newid ond nad oes newid i batrymau bwyta pobl, gall fod effaith amgylcheddol gwaeth drwy fod ein cynhyrchiant yn lleihau ond fod y galw am yr un bwydydd yn parhau. Byddai hyn yn arwain at gynyddu mewnforion bwydydd, sy’n niweidiol i'r amgylchedd. Yn hynny o beth, dylai fod ystyriaeth i effaith newidiadau i daliadau ffermio y tu allan i Gymru. Mae angen bod yn ofalus nad yw newidiadau i'r cymorth i ffermio yn arwain at allforio ein hallyriadau carbon i wledydd eraill.
3.6. Synnwn nad oes sôn yn y ddogfen ymgynghori am y perygl i’r byd o achos defnydd olew ac ‘olew brig’ yn benodol. Mae angen symud oddi ar ddibyniaeth ar olew yn ein diwydiant bwyd ac amaeth, sy’n golygu bod angen lleihau milltiroedd teithio bwyd.
3.7. Pryderwn ymhellach nad oes un cyfeiriad at ddiogelwch bwyd yn y ddogfen ymgynghori, nac at yr angen cysylltiedig i sefydlu system cyflenwi bwyd sy’n wydn yn lleol. Os rhywbeth, fe ddylai gadael yr Undeb Ewropeaidd arwain at ragor o bwyslais ar brif bwrpas gwreiddiol Polisi Amaeth Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, sef sicrhau bod digon o fwyd i fwydo’r boblogaeth.
3.8. Mewn oes lle mae dibyniaeth gynyddol ar fanciau bwyd, dylai taclo tlodi bwyd fod yn flaenoriaeth uchel. Nid yw’r ddogfen yn cyfeirio o gwbl at y modd y dylai ein polisi amaeth fod yn mynd i'r afael â hyn, gan wasanaethu pobl Cymru.
Cam-gymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
3.9 Nodwn fod egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael eu cam-gymhwyso'n gyson yn y ddogfen ymgynghori. Yn adran 2 y Ddeddf Hon3, datgenir yn glir bod ystyr datblygu cynaliadwy yn cynnwys gwella llesiant diwylliannol y wlad:
“Yn y Ddeddf hon, ystyr “datblygu cynaliadwy” yw’r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (gweler adran 5), gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant (gweler adran 4).”
3.10. Fodd bynnag, ailadroddir sôn am lesiant “cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol” yn unig yn y ddogfen ymgynghori gan anwybyddu bron yn gyfan gwbl y pedwerydd piler, sef llesiant diwylliannol.
4. Effaith negyddol y farchnad rydd ar gymunedau a’r iaith
4.1. Mae llawer o’r ddogfen yn canolbwyntio ar sicrhau bod busnesau yn gystadleuol yn ariannol. Ac, ar y llaw arall, mae pwyslais cryf ar fodloni amcanion cadwriaethol ac amgylcheddol. Fodd bynnag, fel dywedwyd ynghynt, prin iawn yw’r sôn am yr effaith ar y Gymraeg.
4.2. Yn ddiamau, canlyniad y pwyslais ar ddau ddiben hyn, yr amgylcheddol a’r economaidd, ar draul pwyslais cyfartal ar bob un o’r nod llesiant, fyddai cau ffermydd bychain sy’n gyfan gwbl hanfodol i'r Gymraeg. Yn lle, bydd hwb i ddefnyddio tir ar gyfer coedwigoedd neu at bwrpasau twristiaeth, hamdden a phwrpasau eraill mwy masnachol. Byddai hynny’n farwol i'r Gymraeg fel iaith gymunedol.
4.3. Credwn fod paragraff 5.1.3. yn crisialu nifer o’n pryderon, gan ddatgan:
“Gan alluogi rheolwyr tir i weithredu mewn amgylchedd masnachu allanol gwahanol yn y dyfodol, byddwn yn rhoi amrywiaeth o gymorth ariannol wedi’i dargedu i’r rhai sydd â’r potensial i ddod yn hyfyw neu i bara’n hyfyw”
4.4. Nid oes ystyriaeth o anghenion y boblogaeth a chymunedau, yn enwedig y Gymraeg a chymunedau Cymraeg, yn y polisi hwn.
5. Cefnogi pobl a’u cymunedau, nid cyrff, cwmnïau a busnesau cyfoethog
5.1. Anghytunwn yn gryf â’r bumed egwyddor (tudalen 21) yn y ddogfen ymgynghori. Ni ddylai’r taliadau fod ar gael i bawb sy'n berchen ar dir – dylai effaith ar y Gymraeg ynghyd â phobl a chymunedau lleol fod yn ganolog.
5.2. Does dim sôn am amodau i'r rhai sy’n gymwys i dderbyn taliadau dan y cynlluniau arfaethedig newydd – cynllun sy’n peryglu gweld arian amaethwyr Cymru yn llifo i pob math o ddwylo, er enghraifft:
-
terfyn ar faint y gall un corff, cwmni neu unigolyn ei dderbyn;
-
bod rhaid eu bod wedi eu lleoli yng Nghymru i fod yn gymwys i dderbyn cymhorthdal;
5.3. Byddai yr amodau uchod yn bwysig er mwyn atal dau fygythiad mawr i'r Gymraeg, sef: y perygl y byddai’r polisi newydd yn arwain at ffermydd mwy ac felly yn cynnal bywoliaeth llai o siaradwyr Cymraeg; lleihau’r tebygrwydd y bydd mwyfwy o arian cyhoeddus Cymru yn mynd at gyrff, cwmnïau ac unigolion tu allan i Gymru; ac osgoi’r posibilrwydd y bydd llai o unigolion mwy cyfoethog yn derbyn cyfran fwy o’r cymhorthdal yn y dyfodol.
5.4. Gwelwn berygl y bydd cymhelliant i bobl o’r tu allan i Gymru brynu tir er mwyn plannu coed, gan arwain at broblemau cymdeithasol ac effaith negyddol ddifrifol ar y Gymraeg. Credwn y dylid gosod rhagor o bwyslais ar bolisi sy’n sicrhau bod cadwyn gyflenwi leol er mwyn darparu bwyd lleol a chylch cyflenwi bwyd gwydn.
5.5. Felly, credwn mai cynllun amaethyddol penodol sydd ei angen fel bod cydnabyddiaeth mai prif ddiben y cymhorthdal yw cryfhau gallu cymunedau lleol i ddarparu bwyd yn lleol, nid cynllun ar gyfer rheolwyr tir yn fwy cyffredinol.
6. Prif Argymhellion a Sylwadau
6.1. Gellir crynhoi ein prif argymhellion a’n sylwadau fel a ganlyn:
-
Anghytunwn yn gryf â’r cynnig i ehangu taliadau i fusnesau coedwigaeth a rheolwyr tir eraill oherwydd y byddai hynny’n cael effaith negyddol ar yr iaith o ystyried pwysigrwydd amaeth fel cyflogaeth i siaradwyr Cymraeg a'u teuluoedd;
-
Er mwyn sicrhau mai cymunedau lleol sy’n elwa fwyaf o unrhyw newid, dylai fod terfyn ar faint mae un unigolyn, corff neu gwmni yn gallu ei dderbyn drwy’r cymhorthdal;
-
Mae angen bod yn hynod ofalus cyn newid y taliadau i ffermwyr, gan ystyried pwysigrwydd eithriadol y diwydiant i'r Gymraeg a’r cymunedau lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg a dibyniaeth yr ardaloedd hynny ar ffermydd bychain sy’n anodd eu cynnal yn ariannol heb gymhorthdal;
-
Credwn fod angen cynnal asesiad o effaith unrhyw gynllun newydd ar y Gymraeg gan gorff annibynnol o’r Llywodraeth, megis Comisiynydd y Gymraeg, a hynny cyn dechrau symud tuag at unrhyw bolisi newydd. Mae hyn yn gam hollbwysig oherwydd pwysigrwydd eithriadol y maes yma i'r Gymraeg a chymunedau Cymraeg;
-
Felly, ni ddylid dod â’r cynllun taliadau sylfaenol i ben, oni cheir tystiolaeth gadarn y daw budd sylweddol i'r Gymraeg a chymunedau Cymraeg o unrhyw newid
-
Mae angen rhaglen benodol ar gyfer amaethyddiaeth yn hytrach na defnydd arall o’r tir o fewn unrhyw system newydd, gan ystyried mai pobl sy’n cynnal iaith;
-
Mae newid hinsawdd yn argyfwng sy’n golygu bod angen i ni gynhyrchu a bwyta rhagor o fwyd lleol, sydd, yn gyffredinol, yn fwyd gwahanol i'r hyn a gynhyrchir ar hyn o bryd. Byddai angen i unrhyw bolisi newid patrymau prynu a bwyta bwyd pobl ar un pryd ag unrhyw newidiadau i gymhellion cynhyrchu bwyd;
-
Dylai fod llawer iawn mwy o bwyslais ar ddiogelwch bwyd, taclo tlodi bwyd a sicrhau cyflenwad bwyd yn lleol wrth ystyried unrhyw gynlluniau newydd;
-
Pryderwn yn gyffredinol am y pwyslais ar goedwigoedd, hamdden a thwristiaeth. Nid yw’r rhain yn ddiwydiannau, yn draddodiadol, sydd wedi bod mor llesol i'r Gymraeg a chymunedau Cymraeg ag amaethyddiaeth;
-
Os oes cyswllt rhwng taliadau a’r canlyniadau y mae ein cymdeithas yn rhoi gwerth arnynt, credwn y dylai fod premiwm o daliadau i fusnesau lle mae’r Gymraeg yn brif iaith y gweithle. Dylai fod cyswllt rhwng maint y taliadau a tharged y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd y Gymraeg ar lawr gwlad;
Ymatebion i Gwestiynau’r Ymgynghoriad
1. Rydym yn cynnig Rhaglen Rheoli Tir newydd sy’n cynnwys Cynllun Cadernid Economaidd a chynllun Nwyddau Cyhoeddus. Ydych chi’n cytuno mai’r cynlluniau hyn yw’r ffordd orau o gyflawni yn unol â’r egwyddorion? Os nad ydych, pa ddewisiadau eraill fyddai orau?
Credwn fod angen ‘Cynllun Amaethyddiaeth’ penodol er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg oherwydd canran uchel y gweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn y diwydiant amaeth a’u teuluoedd. Credwn y byddai buddion eraill o sicrhau cynllun penodol ar gyfer amaeth, gan gynnwys sicrhau diogelwch bwyd, cadwyn gyflenwi bwyd wydn ac er mwyn taclo newid hinsawdd a lleihau dibyniaeth ar olew.
2. A oes angen i Lywodraeth Cymru weithredu i sicrhau bod tenantiaid yn gallu cael mynediad at gynlluniau newydd? Os felly, pa gamau gweithredu fyddai orau?
Credwn y byddai manteision yn deillio o sicrhau bod tenantiaid yn gymwys i dderbyn taliadau. Fodd bynnag, ni ddylai fod mynediad at y cynllun i bob ‘rheolwr tir’, o ystyried mai amaethyddiaeth sy’n cynnal y Gymraeg a’i chymunedau yn fwy na defnyddiau eraill o dir.
4. Ydych chi’n cytuno â ffocws y Cynllun Cadernid Economaidd ar dyfu’r cyfleoedd mewn marchnadoedd ar gyfer cynnyrch o’r tir drwyddi draw yn y gadwyn gyflenwi, yn hytrach na chyfyngu’r cymorth i fusnesau rheoli tir yn unig?
Dylid cyfyngu’r cymorth i ffermio, gan annog ffermwyr i fuddsoddi mewn prosesu a chyflenwi bwyd yn lleol. Mae angen mwy o bwyslais ar bwysigrwydd diogelwch bwyd a chyflenwi’r bwyd yn lleol o achos heriau newid hinsawdd, lleihau dibyniaeth ar olew a bygythiad Brexit.
5. Ai’r pum maes arfaethedig ar gyfer cymorth yw’r rhai cywir i wella eu cadernid economaidd? A oes unrhyw feysydd y dylid eu cynnwys ond nad ydynt wedi’u cynnwys ar hyn o bryd?
Mae angen i gryfhau defnydd y Gymraeg yn y diwydiant bwyd a defnydd o’r tir fod yn faes yn ogystal er mwyn gweithredu’n unol â strategaeth iaith Llywodraeth Cymru.
7. A ddylem fod yn buddsoddi mewn pobl, er enghraifft i gyflwyno syniadau, sgiliau a phobl newydd i faes rheoli tir a’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru? Os felly, sut ddylem ymchwilio i hyn?
Eto, dylai’r arian sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddynodi i amaethwyr ddim gael ei daenu dros, a’i rannu rhwng busnesau mewn rhannau eraill o’r gadwyn gyflenwi. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig rhoi hyd yn oed fwy o arian tuag at yr ochor cynnig cyngor etc. (yr hyn a elwir ar hyn o bryd ‘Colofn 2’). Mi fyddai hyn yn gamgymeriad enfawr, yn enwedig heb unrhyw fath o astudiaeth effaith i gefnogi hynny. Mae’n hanfodol mai amaethwyr, sydd yn deall eu sector a’r anghenion fwyaf, sydd yn arwain ar unrhyw weithgarwch, a elwir nawr yn ‘Colofn 2’ ac hefyd dylai pob digwyddiad a chyfathrebiad sy’n cael ei gynnal dan, yr hyn a elwir nawr yn ‘Golofn 2’, fod trwy gyfrwng y Gymraeg.
8. Rydym wedi nodi ein paramedrau arfaethedig ar gyfer y cynllun nwyddau cyhoeddus. A ydynt yn briodol? Fyddech chi’n newid unrhyw beth? Os felly, beth?
Mae paramedr 1 yn glodwiw, ond pryderwn nad oes sôn am ddiogelwch bwyd, cyflenwi a phrosesu bwyd yn lleol, milltiroedd bwyd a newid y math o fwydydd mae pobl yn ei fwyta er mwyn taclo newid hinsawdd. Nodwn fod ‘treftadaeth a hamdden’ yn sector anghynaladwy ar hyn o bryd i Gymru. Nodwn hefyd bod rhai prosiectau’r gorffennol, megis agor llwybrau cerdded, wedi gwastraffu llawer iawn o arian a’r canlyniadau wedi bod yn fach iawn. Nodwn bod gan pob sector ran i'w chwarae yn yr heriau a amlinellir yn y paramedr hwn.
Anghytunwn gyda pharamedr 2 - ni ddylai’r cynlluniau fod yn agored i bawb. Er enghraifft, dylai pawb sy’n elwa o’r cynllun fod yn bobl sy’n byw yng Nghymru.
O ran paramedr 3, credwn y dylai fod uchafswm ar faint mae un unigolyn, corff neu gwmni yn gallu ei dderbyn fel taliad. Pryderwn fel arall y bydd cyrff a chwmnïau mawr, rhai ohonynt wedi eu lleoli y tu allan i Gymru yn elwa o’r polisi hwn yn hytrach na chymunedau a phobl leol.
9. Mae’r cynllun hwn i fod i gynnig y cyfle i reolwyr tir gael mynediad at ffrwd incwm newydd sylweddol wrth i’r BPS ddod i ben. Sut allem ni wella’r hyn sy’n cael ei gynnig i ddenu rheolwyr tir tra’n bod hefyd yn gwireddu ein gweledigaeth ac yn cyflawni ein hamcanion?
Dylai fod cymhelliant i reolwyr tir sy’n mynd i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg neu sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg neu ddefnydd o’r Gymraeg. Byddai hynny’n unol â strategaeth iaith Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer siaradwyr y Gymraeg i filiwn ac i gynyddu defnydd yr iaith. Pryderwn nad oes sôn am gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y cynigion hyn. Nodwn eto, nad cynllun ar gyfer pob math o reolwyr tir sydd ei angen yma, ond ar gyfer amaethwyr.
10. A oes unrhyw nwyddau cyhoeddus eraill y dylid eu cefnogi yn eich tyb chi? Os felly, pam?
Y Gymraeg, gan ei bod yn un o nodau llesiant Cymru ac oherwydd gweledigaeth gadarn Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer siaradwyr yr iaith i filiwn. Mae degau o filoedd o siaradwyr Cymraeg yn dibynnu ar amaethyddiaeth, ac felly mae’n hanfodol cefnogi’r diwydiant er mwyn cefnogi’r Gymraeg.
19. Safonau’r Gymraeg - A fydd y rhaglen rheoli tir arfaethedig yn cael unrhyw effeithiau (boed gadarnhaol neu anffafriol) ar:
• gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg;
• peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
Credwn fod risg fawr y byddai’r cynigion yn lleihau defnydd o’r Gymraeg, o ystyried pwysigrwydd amaeth fel maes cyflogaeth i siaradwyr Cymraeg a’u teuluoedd.
Ymhelaethwn ar y rhesymau hynny uchod.
Grŵp Cymunedau Cynaliadwy, Cymdeithas yr Iaith
Hydref 2018
1 Cyfrifiad 2011 - Sgiliau Iaith Gymraeg meysydd gwaith fesul diwydiant – Awdurdodau Lleol yng Nghymru http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20160110200035/http://www.ons.gov.uk/ons/about-ons/business-transparency/freedom-of-information/what-can-i-request/published-ad-hoc-data/census/labour-market/ct0470-2011-census.xls
2 Diffiniad y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol