Annwyl Aled Roberts,
Diolch am y cyfle i gyflwyno tystiolaeth i'ch panel sy’n adolygu’r ddeddfwriaeth sy’n sail i'r gyfundrefn Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
Hoffem dynnu eich sylw at rai pwyntiau y ceisiom eu cyfleu yn ystod y drafodaeth.
1. Cynyddu darpariaeth Gymraeg mewn ysgolion Saesneg a dwyieithog
Mae strategaeth iaith y Llywodraeth yn gosod targed i sicrhau bod hanner y plant sy’n mynychu ysgolion Saesneg yn siarad Cymraeg yn rhugl erbyn 2050. Rydym yn pryderu nad oedd dim byd gan aelodau’r panel i'w ddweud am yr hyn fyddai’n arwain at gyrraedd y targed hwnnw: un sy’n gwbl ganolog i gynllun y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr.
Nodwyd y byddai gofyniad i gynghorau ‘nodi’ sut maen nhw’n mynd i wella dysgu drwy’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg. Fel y nodwyd gennym, pryderwn fod hynny’n llawer rhy debyg i'r drefn yn y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg presennol, polisi sydd wedi arwain at fethiant llwyr. Byddai parhau â’r un polisi yn golygu y bydd argymhelliad yr Athro Sioned Davies yn adroddiad 2013 yn dal i fod heb ei weithredu:
“Argymhelliad 15 – Llywodraeth Cymru i ... gosod targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.”
Mewn ymateb ffurfiol i'r argymhelliad, dywedodd y Gweinidog ar y pryd ei fod yn ‘cytuno â’r argymhellion hyn mewn egwyddor.’ Ond rydym yn dal i aros am dargedau.
Ar yr un pryd ag ymatal rhag cymryd camau ystyrlon i gymreigio ysgolion nad ydynt yn ysgolion penodedig Cymraeg ar hyn o bryd, ymddengys fod y panel yn mynd i dderbyn targedau cenedlaethol y Llywodraeth o ran ehangu addysg cyfrwng Cymraeg penodedig. Mae’r targedau hyn yn seiliedig ar dwf o gyfeiriad arall, sef y sector Saesneg. Heb sicrwydd bod twf yn mynd i ddod yn y sector Saesneg, byddai angen i'r twf yn y sector cyfrwng Cymraeg penodedig fod yn llawer iawn uwch.
Mae’n rhaid i'r panel wneud dewis: naill ai amlinellu targedau ystyrlon a phenodol ar gyfer cymreigio ysgolion Saesneg a dwyieithog yng Nghymru; neu ofyn i awdurdodau lleol fynd uwchlaw’r targedau cenedlaethol a amlinellir yng nghynllun ‘Y Gymraeg mewn Addysg’ y Llywodraeth er mwyn gwneud iawn am y diffyg, neu'r ansicrwydd, am allu cyflawni’r targed ar gyfer y sector Saesneg. Teimlwn y byddai penderfyniad i geisio osgoi cyfrifoldeb yn esgeulus ac yn peryglu’r consensws trawsbleidiol o blaid cyrraedd y filiwn o siaradwyr.
Gadewch i ni fod yn glir: oni bai bod y panel yn sicrhau naill ai (1) bod targedau eglur i awdurdodau ar gyfer cymreigio’r sector cyfrwng Saesneg yn benodol, neu (2) fod targedau llawer uwch ar gyfer nifer y plant fydd yn mynd i'r sector cyfrwng Cymraeg, mae’n anochel y bydd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn cael ei fethu.
Eto, dadleuwn ei bod yn fater o gyfiawnder cymdeithasol bod pob un plentyn yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg – fel y nodwyd yn ein cyfarfod, addysg Gymraeg i bawb yw polisi’r Gymdeithas.
2. Yr angen am ddeddfwriaeth gynradd
Nodwn fod nifer o feysydd lle'r oedd y panel o’r farn bod angen newidiadau i'r system ond eto nad oedd modd i'r is-ddeddfwriaeth hon ddelio â nhw – o’r cyfnod cyn-ysgol i'r cyfnod ôl-16 a chynllunio’r gweithlu. Rydym yn pryderu nad yw’r Llywodraeth wedi neilltuo amser i wneud y newidiadau cynhwysfawr sydd eu hangen er mwyn sefydlu system hirhoedlog a chadarn yn y tymor hir.
Credwn fod sylwadau’r panel yn hyn o beth yn tanlinellu pwysigrwydd ein galwad am Ddeddf Addysg Gymraeg. Rydym yn gryf o’r farn mai dyna ddylai blaenoriaeth deddfu’r Llywodraeth fod o ran yr iaith. Wedi’r cwbl, mae deddfwriaeth addysg Gymraeg yn gwbl greiddiol i'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr.
3. Amheuaeth am dargedau’r Llywodraeth o ran cyrraedd Miliwn o Siaradwyr
Mae dau reswm penodol i gwestiynu a yw’r targedau fel y’u hamlinellir yng nghynllun gweithredu ‘Y Gymraeg mewn Addysg’ y Llywodraeth yn gadarn.
Yn gyntaf, nid oes gan y Llywodraeth esboniad na chynllun o ran sut maen nhw’n mynd i drawsnewid yr ysgolion Saesneg presennol fel bod hanner y disgyblion yn dod yn rhugl eu Cymraeg. Yn wir, cyfaddefodd uwch swyddog y Llywodraeth wrthym mai penderfyniad gwleidyddol, yn hytrach nag un ystadegol, oedd y penderfyniad i roi cymaint o bwyslais ar y sector Saesneg er mwyn cyflawni ar y targed miliwn o siaradwyr.
Yn ail, mae ffigurau a thargedau addysg Gymraeg y Llywodraeth yn seiliedig ar y dybiaeth y byddant yn dileu unrhyw gwymp o ran dilyniant addysg Gymraeg rhwng oedrannau. Credwn fod lle i amau a yw’n realistig disgwyl y gall y Llywodraeth gyflawni ar hyn o ystyried y ffaith nad oes ymdrech ar hyn o bryd i gymreigio ysgolion dwyieithog na Saesneg er mwyn lleihau’r cwymp presennol yn siroedd y Gorllewin.
Fel panel annibynnol, mae gennych gyfrifoldeb i wynebu, i gwestiynu ac i ddatrys yr amheuon difrifol hyn am y tybiaethau sy’n sail i dargedau’r Llywodraeth.
Yn ein barn ni, mae angen i'r panel gymryd safbwynt rhagofalus er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn cyflawni ar gyrraedd y filiwn o siaradwyr. Felly, argymhellwn y dylai’r panel wneud dau beth:
(i) gosod mecanwaith ar gyfer targedau penodol yn y rheoliadau newydd i sicrhau normaleiddio’r Gymraeg fel cyfrwng dysgu ym mhob sefydliad addysg, gan gynnwys targedau i awdurdodau lleol i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg; a
(ii) ailystyried targedau cenedlaethol y Llywodraeth o ran twf addysg cyfrwng Cymraeg penodedig o ystyried yr ansicrwydd ynghylch gallu’r sector addysg Saesneg i allu cyflawni ar y targed o sicrhau bod hanner eu disgyblion yn dod allan yn rhugl eu Cymraeg.
4. Cynllunio’r Gweithlu
Pryderwn yn fawr am yr hyn a ddywedwyd am y camau cyfyngedig y gellid eu cymryd o dan y gyfundrefn bresennol i gynllunio’r gweithlu’n well.
Dywedwyd yn y sesiwn nad oes angen deddfwriaeth i osod cwotâu, lloriau na gwaelodlinau o ran faint o fyfyrwyr sy’n cwblhau cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon yn medru addysgu drwy’r Gymraeg, er bod cydnabyddiaeth y byddai’n well ymdrin â’r mater drwy un system ddeddfwriaethol. Credwn ei bod yn hanfodol bwysig bod argymhelliad penodol gan y panel ar y mater yma. Mae’n rhaid i'r panel gwestiynu pam nad yw’r Llywodraeth wedi mynnu cyn nawr bod newid mor sylfaenol a chanolog â hyfforddiant cychwynnol athrawon a chwotâu er mwyn cyrraedd targedau'r strategaeth iaith. Yn ogystal, mae gwir angen cynllun gweithredu i ddatblygu'r gweithlu: cynllun cynhwysfawr a gwahaniaethol sy'n seiliedig ar ddadansoddiad manwl o'r sefyllfa bresennol ym mhob awdurdod lleol.
Wedi blynyddoedd o bwysau yn y maes yma drwy siarad ag amryw o Weinidogion a swyddogion, rydym o’r farn bod deddfwriaeth gynradd newydd yn y maes yma yn hanfodol er mwyn sicrhau cynnydd ystyrlon.
Atodwn at eich sylw’r polisïau addysg allweddol mae’r Gymdeithas wedi’u llunio sy’n berthnasol i adolygiad y panel.
Yn gywir,
Osian Rhys
Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith