Annwyl Weinidog
Bu ymgynghoriad yr haf diwethaf ar eich Côd Trefniadaeth newydd ar gyfer ysgolion gyda'r thema ganolog o sefydlu rhagdyb o blaid cadw ysgolion gwledig. Rydyn ni am dynnu eich sylw at y ffaith fod swyddogion addysg Cyngor Môn yn ceisio rhuthro penderfyniad i gau ysgolion Bodffordd a Henblas (sef rhifau 1 a 9 ar eich rhestr o ysgolion gwledig) cyn bod eich côd newydd yn dod i rym. Maent yn argymell i gyfarfod Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y Cyngor brynhawn Llun nesaf (23/4/18) fod cau'r ddwy ysgol gan ddefnyddio'r math o ddadleuon generig a olygent gau bron pob ysgol wledig ar eich rhestr. Mae'r swyddogion hefyd yn trin y broses ymgynghorol gyda dirmyg llwyr trwy gynnig un opsiwn (ysgol aml-safle) nad sydd erioed wedi bod yn destun ymgynghoriad a thrwy beidio ag adrodd i'r
cynghorwyr ar yr holl ymatebion i ymgynghoriad.
Gofynnwn i chwi ymyrryd trwy ofyn i'r Cyngor ohirio penderfyniadau nes gweld eich Côd newydd. Awgrymwn i chi ddefnyddio cyfle Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sydd yn eich etholaeth yn y Gymru wledig y mis nesaf i gyhoeddi ffurf terfynol y Côd newydd er mwyn atal ymdrechion pellach i gau ysgolion tra bo cyfle.
Gofynnwn hefyd i chwi wneud ymholiadau mewnol yn eich adran addysg o lywodraeth ganolog. Tra bo un set o swyddogion yn eich adran yn dadansoddi'r ymatebion i'r Côd drafft newydd sy'n gosod egwyddor o ragdyb o blaid cadw ysgolion gwledig, ymddengys fod set arall o swyddogion yn eich adran yn brysur gynnig cyllid i swyddogion Môn ar gyfer ysgol ganolog newydd gan gau dwy ysgol (Bodffordd a Henblas) sydd ymhlith y deg cyntaf ar y rhestr a gyhoeddwyd gennych o ysgolion gwledig i'w diogelu.
Yn ôl y ddogfen Ymgynghori Statudol o ran ysgolion Ardal Llangefni Chwefror 2018 http://www.ynysmon.gov.uk/download/64604
"Ym mis Rhagfyr 2017, dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai cyllid ychwanegol (gan y llywodraeth) yn caniatáu i'r Awdurdod ail-asesu opsiynau ar gyfer ardal Llangefni a gall arwain at gynigion newydd fyddai yn ei dro'n golygu byddai angen cynnal cyfarfodydd ymgynghori statudol pellach gyda rhieni, staff a llywodraethwyr. Ar ôl adolygu'r sefyllfa, penderfynodd y Pennaeth Dysgu mewn ymgynghoriad gyda'r Prif Weithredwr a'r Deilydd Portffolio Dysgu Gydol Oes ar y 5 Chwefror 2018, i ail gychwyn y broses ymgynghori yn ardal orllewinol Llangefni sef Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir ac Ysgol Henblas" (tud 7)
Y cynnig newydd a ffurfiwyd (yn dilyn y sicrwydd cyllidol gan eich swyddogion) oedd i adeiladu ysgol ganolog newydd i 450 o ddisgyblion a chau Ysgol Henblas yn ogystal ag Ysgol Bodffordd. Cymerodd y ddau swyddog ac un cynghorydd arnyn nhw eu hun i fynd at ymgynghoriad statudol newydd ar y cynnig newydd i gau'r ysgolion ar gyfri'r sicrwydd cyllidol a roddwyd gan eich swyddogion chwi. Yn awr mae swyddogion Môn yn anwybyddu'r holl ymatebion gwrthwynebus i'r cynnig ac yn ceisio rhuthro trwodd penderfyniad i gau'r ddwy ysgol a gwario'r arian a gynigir gan un set o'ch swyddogion cyn bod y set arall o'ch swyddogion yn terfynoli'r Côd newydd i osod rhagdyb o blaid cadw'r ysgolion hyn.
Gofynnwn i chwi ymyrryd.
Yn gywir
Ffred Ffransis
(ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg, Cymdeithas yr Iaith)
O.N. Mae'r broses ymgynghorol ym Môn wedi dangos anomali arall yn y Côd newydd sef y rhestr arfaethedig o ysgolion gwledig a roddir yn Atodiad F. Mae ysgolion Bodffordd a Llangristiolus (Ysgol Henblas) ar y rhestr, ond dyw Ysgol Bentre Talwrn ddim ar y rhestr - er bod Talwrn bron union yr un pellter o ganol Llangefni â'r ddau bentre arall ; ac y mae ysgolion eraill yn ymddangos ar y rhestr sydd mewn ardaloedd mwy trefol, yn faesdrefi o drefi. Dywedir yn y ddogfen ymgynghorol mai dyma'r rhestr "lleiaf" posibl o ysgolion. Hyderaf y byddwch erbyn hyn wedi ailedrych ar y rhestr a chynnwys rhagor o ysgolion pentre.