Casgliadau Adroddiad Economi Iaith - ymateb i'r ail ymgynghoriad

Annwyl Syr/Fadam,
 
Rydym yn croesawu nifer o’r argymhellion yn yr adroddiad, ond mae'n fater o gryn bryder nad yw'r argymhellion ynghylch contractau a grantiau yn cael eu hadlewyrchu yn y safonau iaith drafft a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar Ionawr 6ed eleni.

Yn benodol, rydyn ni'n croesawu'r argymhellion canlynol:

  • y dylai fod yn ofynnol i fusnesau sy'n cael grant gan Lywodraeth Cymru ddangos eu bod yn gallu darparu gwasanaeth yn ddwyieithog
  • y dylai fod yn ofynnol ar gyfer contractau yn y sector cyhoeddus i ddangos eu bod yn gallu darparu gwasanaeth yn ddwyieithog
  • y dylid newid y broses gaffael bresennol yn y sector cyhoeddus fel ei bod yn cyfeirio at y manteision i'r Gymraeg
  • dylid ystyried rhoi cyfrifoldebau datblygu economaidd i'r Mentrau Iaith
  • dylid mynd ati'n rhagweithiol i roi cyfle i fusnesau ddewis darpariaeth Gymraeg yn y rhaglenni hyfforddiant a sgiliau presennol a ariennir gan y Llywodraeth ar gyfer pobl ifanc, ee Go Wales, Twf Swyddi Cymru a chanolfannau Entrepreneuriaeth

Mae nifer o’r argymhellion yn yr adroddiad yn cefnogi’r hyn rydym wedi pwyso amdano yn ein Maniffesto Byw. Rydym yn croesawu’r argymhellion i roi rôl economaidd i’r mentrau iaith, sicrhau polisi caffael cadarnach, a gwneud darparu gwasanaeth Gymraeg yn hanfodol ar gyfer contractau a grantiau’r sector cyhoeddus.

Mae’r adroddiad yn argymell yn glir, fel y gwna strategaeth iaith y Llywodraeth ei hun, bod angen darpariaeth Gymraeg pan fo gwasanaeth yn cael ei gontractio allan gan gyrff neu’n cael eu darparu drwy grant. Ond mae safonau iaith drafft y Llywodraeth yn mynd yn gwbl groes i hyn drwy anwybyddu gwasanaethau o’r fath, ac mae hynny’n gwbl annerbyniol. Rhaid diwygio’r safonau iaith ar frys er mwyn delio â gwendidau o’r fath a sicrhau bod gan bawb hawl i wasanaethau Cymraeg, boed y gwasanaeth yn cael ei ddarparu o dan gontract allanol ai peidio.

Nid ydym yn deall pam mae'r Llywodraeth yn ail-ymgynghori ar adroddiad sy'n dilyn ymgynghoriad trylwyr: mae'n amser i'r Llywodraeth weithredu yn hytrach nag achosi rhagor o oedi.

Yn gywir,
 
Grŵp Cymunedau Cynaliadwy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg