Cefnogi a hybu’r Gymraeg - ymateb i'r pwyllgor diwylliant

[agor y ddogfen fel PDF]

Cefnogi a hybu’r Gymraeg: Ymchwiliad i’r cyd-destun deddfwriaethol, polisi ac ehangach

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i'r Pwyllgor Diwylliant

1. Cyflwyniad

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sy’n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru ers dros hanner canrif.

1.2. Cyn cyhoeddi papur gwyn y Llywodraeth, ym mis Gorffennaf 2016, cyhoeddodd y Gymdeithas bapur trafod ynghylch cryfhau'r ddeddfwriaeth iaith bresennol "Cryfhau Hawliau i'r Gymraeg - Dogfen Ymgynghorol ynghylch Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011"1 sydd wedi'i atodi i'r ymateb hwn.

1.3. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd gyda mudiadau a grwpiau diddordeb eraill gan gynnwys pedwar cyfarfod cyhoeddus i drafod ein cynigion ar gyfer deddfwriaeth iaith newydd.

1.4. Mae ychydig dros ddwy flynedd ers i gyfundrefn y Safonau, a reolir gan Gomisiynydd y Gymraeg, ddechrau dod i rym. Croesawn y dystiolaeth sy'n ymdrin ag effaith y Safonau ar ddefnydd y Gymraeg, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017 yn adroddiad sicrwydd 2016-17 y Comisiynydd, "Hawliau'n Gwreiddio"2, ac yn adroddiad 2017-18, “Mesur o Lwyddiant”3. Yn yr adroddiadau hynny, drwy gymharu ystadegau blwyddyn gyflawn o dan y gyfundrefn Safonau a'r flwyddyn cyn iddynt ddod i rym, amlygir nifer o ddatblygiadau cadarnhaol.

1.5. Ar y 24ain o Ionawr 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar Fil y Gymraeg. Honnodd Gweinidog y Gymraeg yn ei datganiad ysgrifenedig: “cefnogwyd ein cynigion gan y sawl a ymatebodd i’r ymgynghoriad”. Fodd bynnag:

    • Dim ond 77 ymateb allan o'r 504 ymateb i'r ymgynghoriad oedd o blaid diddymu Comisiynydd y Gymraeg, sef 15%;

    • Gan ystyried yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad, roedd mwyafrif ymatebwyr yr ymgynghoriad yn gwrthwynebu rhan helaeth y cynigion yn y papur;

    • Nid yw’r Llywodraeth wedi crynhoi sylwadau’r cyhoedd yn y gweithdai yn ystod yr ymgynghoriad

1.6. Yn dilyn cwyn gan y Gymdeithas nad oedd yr ystadegau yn y crynodeb yn gywir, cynhaliodd gwas sifil o adran arall adolygiad o’r mater. Daeth y swyddog i’r casgliad bod “sail i’r gŵyn” gan argymhell bod angen gwneud newid i ganllawiau’r Llywodraeth. Fodd bynnag, mewn ymateb i gasgliad adroddiad y gwas sifil, ym mis Chwefror eleni dywedodd y Gweinidog mai’r “unig beth fyddai’n newid yn y dyfodol wrth newid y canllawiau mewnol i swyddogion y Llywodraeth, fyddai cyhoeddi’r niferoedd ystadegol yn y dadansoddiadau unigol i bob cwestiwn. Ni fydd ein hystyriaeth bellach o’r materion polisi yn newid o ganlyniad i ddeilliant y gŵyn hon.”

 

2. Crynodeb

2.1. Mae modd crynhoi ein prif sylwadau fel a ganlyn:

  1. Dylai Llywodraeth Cymru ollwng cynigion y papur gwyn, ac yn lle hynny, canolbwyntio ar wneud popeth posib i wella gweithrediad y system o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol, gan fwrw ati i symud pethau ymlaen oddi mewn i'r fframwaith hwnnw yn lle'r oedi difrifol sy'n digwydd ar hyn o bryd;

  2. Nodwn gyda chryn syndod absenoldeb unrhyw dystiolaeth ryngwladol na domestig gadarn ym mhapur gwyn y Llywodraeth. Nodwn yn enwedig absenoldeb unrhyw dystiolaeth ynghylch profiad pobl o geisio defnyddio gwasanaethau Cymraeg a'r rhwystrau sy'n eu hwynebu, er bod tystiolaeth ar gael, megis Arolwg Defnydd Iaith Llywodraeth Cymru ac adroddiad Cyngor ar Bopeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg;

  3. Nodwn ymhellach, gyda chryn bryder, awgrym diweddar y Gweinidog y bydd oedi pellach cyn pasio Safonau mewn sectorau eraill nes bod Bil y Gymraeg wedi’i basio3, er gwaetha'r dystiolaeth uchod am effaith gadarnhaol y Safonau ar ymddygiad cyrff. Ar hyn o bryd, mae Mesur y Gymraeg, a ddaeth i rym yn 2011, yn caniatáu gosod dyletswyddau ar rai cwmnïau preifat, sef busnesau bysiau a threnau, ynni, dŵr a thelathrebu. Er bod grym gan y Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg i greu hawliau i'r Gymraeg yn y sectorau hynny ers saith mlynedd, nid oes dyddiad wedi'i osod pan fydd y rheoliadau yn y sectorau hynny yn cael eu cyflwyno i'r Senedd;

  4. Croesawn bleidlais a gynhaliwyd yn y Senedd ym mis Hydref 2017 a oedd yn unfrydol o blaid ymestyn y Safonau i weddill y sector preifat. Pryderwn yn fawr fod penderfyniad y Llywodraeth i lunio Bil arfaethedig y Gymraeg, ynghyd â’i bolisi presennol o wrthod gosod Safonau ar gwmnïau preifat, yn rhwystro hynny rhag symud ymlaen;

  5. Nid oes ymdrech gan y Llywodraeth yn y Papur Gwyn i ddysgu gwersi hanes o Ddeddf Iaith 1993 nac o gyfundrefnau eraill. Mae hynny’n wendid sylfaenol yng nghynigion y Llywodraeth: does dim dadansoddiad nac ystyriaeth o’r gwersi a ddysgwyd yn ystod tua ugain mlynedd o dan Fwrdd yr Iaith a’r system cynlluniau iaith;

  6. Dim ond ers mis Ebrill 2016 mae’r gyfundrefn newydd wedi bod yn weithredol, sef Safonau a reoleiddir gan y Comisiynydd, ac nid yw’r Llywodraeth wedi darparu tystiolaeth sy'n dod yn agos at safon ddeallusol dderbyniol er mwyn cyfiawnhau ei chynigion.

    3. Cloriannu Bil y Gymraeg arfaethedig Llywodraeth Cymru

3.1. Mae ein hymateb llawn i gynigion y Llywodraeth ar gyfer Bil y Gymraeg i'w weld yma: https://cymdeithas.cymru/dogfen/bil-y-gymraeg-ir-bin-ymateb-ir-ymgynghoriad

3.2. Fodd bynnag, gallwn grynhoi ein safbwynt ar y Bil fel a ganlyn:

  • Dylai Llywodraeth Cymru ollwng cynigion y papur gwyn a dechrau eto gan eu bod wedi gwrando ar gyrff a busnesau ar draul hawliau cefnogwyr a defnyddwyr y Gymraeg.

  • Mae cynigion y papur gwyn mor bell o ddeddfwriaeth gall a fyddai'n amddiffyn ac yn ymestyn hawliau i'r Gymraeg y byddai'n well peidio â deddfu o gwbl na phasio cynigion o'r fath, ac yn hytrach, bwrw ati i wneud y gwaith y gellir ei wneud, ond sydd heb ei wneud, o dan y Mesur presennol.

  • Credwn y dylid ymestyn y Safonau i weddill y sector preifat drwy enwi sectorau ar wyneb y Mesur, gan ddechrau’n syth gydag archfarchnadoedd, banciau, cyrff y goron, mân-werthwyr a chwmnïau sydd â throsiant uwch na ffigwr penodol, gydag amserlen, a hawl i gynnwys rhagor o sectorau drwy is-ddeddfwriaeth. Os yw safbwynt y Llywodraeth bresennol yn parhau i fod fel y'i hamlinellir yn y Papur Gwyn, sef nad ydynt o blaid ymestyn Safonau i weddill y sector preifat, byddai'n fwy llesol gweithredu'r Mesur presennol yn llawn yn hytrach na deddfu o'r newydd.

  • Dylid cadw Comisiynydd y Gymraeg fel corff rheoleiddio ar wahân gan ei fod yn fodel a ddefnyddir yn rhyngwladol a’i fod yn cyd-fynd â phatrwm yng Nghymru o Gomisiynydd Plant, Comisiynydd Pobl Hŷn a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Byddai sefydlu Comisiwn yn lle Comisiynydd y Gymraeg yn gam mawr yn ôl ac yn gyfystyr ag ail-sefydlu Bwrdd yr Iaith – cyfundrefn a ddiddymwyd yn 2012 oherwydd ei methiannau.

  • Mae angen hawliau cyffredinol i ddefnyddio’r Gymraeg ar wyneb y ddeddfwriaeth, i gyd-fynd â’r Safonau, er eglurder i’r cyhoedd ac er mwyn llywio’r Safonau i sicrhau eu bod yn esblygu ac yn gwella ac er mwyn llenwi’r mannau gwan ynddynt.

3.3. Credwn y byddai'r papur gwyn yn cael yr effaith ganlynol ar y gyfundrefn bresennol:

  • Byddai'n troi'r cloc yn ôl drwy ail-sefydlu nifer o elfennau aflwyddiannus cyfundrefn Deddf Iaith 1993

  • Byddai'n gwanhau hawliau ac yn lleihau grym y defnyddiwr:

    • gan y byddai'n rhaid gwneud cwynion wrth gyrff unigol am fethiannau i gynnig gwasanaeth Cymraeg ac na fyddai modd mynd yn syth at y Comisiynydd;

    • gan mai dim ond ynghylch cwynion 'difrifol' y byddai modd cynnal ymchwiliadau;

    • gan y byddai'n rhoi’r grym i osod Safonau ar gyrff i’r Llywodraeth yn lle’r Comisiynydd

    • gan y byddai'n gwanhau rheoleiddio wrth gyfuno swyddogaethau rheoleiddio a hyrwyddo o fewn un corff a fydd yn gorfod aberthu ei waith rheoleiddio er mwyn canolbwyntio a llwyddo yn ei waith hybu a hyrwyddo

  • Byddai'n cymhlethu'r system drwy ychwanegu haen ychwanegol, ond ddi-rym, o 'ddyletswyddau cynllunio ieithyddol', ar ben y Safonau a'r cynlluniau iaith (sy'n dal i fod yn weithredol mewn rhai sefydliadau).

  • Byddai'n ei gwneud yn llai tebygol y bydd mwy o’r sector breifat yn gorfod darparu gwasanaethau Cymraeg gan na fyddai amserlen i osod Safonau ar restr benodol o gyrff ac oherwydd mai'r Llywodraeth, ac nid y Comisiynydd, fyddai'n gyfrifol am gychwyn y broses o ddod â mwy o sectorau o dan ddyletswyddau iaith

  • Byddai'n blaenoriaethu buddiannau cyrff yn lle defnyddwyr. Mae'r Papur Gwyn yn argymell, er enghraifft, y dylai fod 'siop un stop' er hwylustod i gyrff, ond byddai'r cynigion yn gorfodi defnyddwyr i gysylltu â channoedd o gyrff unigol er mwyn gwneud cwynion am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg.

  • Byddai'n canoli grym yn nwylo Llywodraeth Cymru gan mai nhw fyddai'n rheoli'n llwyr pwy sy'n dod o dan ddyletswydd iaith, pa rai, dan ba amodau ac erbyn pryd. Y Llywodraeth hefyd fyddai'n penodi prif swyddogion y cyrff fyddai'n rheoleiddio a hybu hawliau i'r Gymraeg

3.4 Rydyn ni'n credu bod gwallau dadansoddol sylfaenol yn y ddogfen:

  • Mae'n brin iawn o dystiolaeth ryngwladol a chenedlaethol gymharol sy'n cyfiawnhau'r cynigion:

    • Mae'r cynigion yn seiliedig ar brofiad dim ond "naw mis ar ôl i'r Safonau cyntaf ddod i rym” (para 209, tud. 52 y papur gwyn)

    • Nid oes esboniad pam y byddai'r Llywodraeth yn gwyro oddi ar y model Comisiynydd a sefydlwyd yng Nghymru ar gyfer Plant, Pobl Hŷn a Chenedlaethau'r Dyfodol yn ogystal â'r Gymraeg.

    • Nid oes rhesymeg na thystiolaeth gymharol ryngwladol na domestig yn y Papur Gwyn sy'n ceisio cyfiawnhau pam y dylid diddymu Comisiynydd y Gymraeg wedi dim ond chwe blynedd o fodolaeth y swyddogaeth.

    • Nid yw'n cyfeirio at dystiolaeth adroddiadau sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg sy'n amlygu nifer o welliannau o ganlyniad i waith y Comisiynydd ar reoleiddio Safonau'r Gymraeg.

  • Mae'n anwybyddu profiad ugain mlynedd o Fwrdd yr Iaith, gan ddangos anwybodaeth lwyr o fethiannau trefn Deddf Iaith 1993: nid oes sôn yn y papur am fethiannau'r gyfundrefn flaenorol na pham y'i diddymwyd.

  • Mae'n canolbwyntio ar newidiadau biwrocrataidd yn lle cynigion i gryfhau ac ymestyn hawliau pobl gyffredin i'r iaith.

  • Mae'n gwneud defnydd cwbl gamarweiniol o ystadegau:

    • drwy ddatgan bod defnydd o wasanaethau Cymraeg y DVLA yn isel, heb gydnabod nad yw'r corff yn dod o dan y Safonau eto;

    • drwy honni bod defnydd o wefan Gymraeg Cyngor Abertawe yn isel, er bod nifer yr ymweliadau â'r wefan ym mis Mehefin 2017 ar ei uchaf erioed (bron dair gwaith yn fwy (2.2%) nag ym mis Hydref 2014 (0.84%) ac yn gyson uwch ers i'r Safonau ddod i rym);

    • drwy ddyfynnu Cyngor Wrecsam bod "0.5% o'r galwadau i'r ganolfan gyswllt a'r ymweliadau â'r ganolfan yn Gymraeg", ond heb gydnabod bod hynny chwe gwaith yn uwch na'r lefelau cyn i'r Safonau ddod i rym.

3.5. O ystyried nad oes consensws o blaid newidiadau arfaethedig y Llywodraeth yn y papur gwyn, credwn, fel ffordd ymlaen, y dylai'r Llywodraeth:

  1. gollwng cynigion y papur gwyn a gwneud popeth posib i wella gweithrediad y system o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol, gan fwrw ati i symud pethau ymlaen oddi mewn i'r fframwaith hwnnw yn lle creu'r oedi difrifol sy'n digwydd ar hyn o bryd; a

  2. dechrau o'r dechrau gyda'r papur gwyn, a dod yn ôl gyda phapur gwyn newydd pan fo rhywbeth gwerth chweil gan y Llywodraeth i'w gynnig sef:

    • Cryfhau'r Safonau drwy sefydlu hawliau cyffredinol i ddefnyddio'r Gymraeg ar wyneb y ddeddf

    • Gosod Safonau ar weddill y sector breifat, gan enwi ar wyneb y Mesur fanciau, archfarchnadoedd, mân-werthwyr, cyrff y 'goron' a chwmnïau sydd â throsiant uwch na ffigwr penodol fel blaenoriaethau tymor byr gan osod terfynau amser o ran gosod Safonau arnynt

    • Cryfhau pwerau ac annibyniaeth Comisiynydd y Gymraeg a sefydlu corff ar wahân i hyrwyddo a hybu'r Gymraeg

3.6. Gwella Gweithrediad y Gyfundrefn Bresennol heb ddeddfwriaeth sylfaenol

3.6.1. Yn lle bwrw ymlaen gyda’r Papur Gwyn, argymhellwn y dylai’r Llywodraeth:

i) Weithredu mesurau i wella a hwyluso gweithrediad y ddeddfwriaeth bresennol

ii) Cyhoeddi amserlen ar gyfer gosod Safonau ar yr holl sectorau o fewn cwmpas Mesur y Gymraeg 2011

3.6.2. Cam 1 – Gweithredu'r ddeddfwriaeth bresennol yn well

3.6.3. Argymhellwn nifer o opsiynau o ran gwella'r sefyllfa bresennol heb fod angen deddfu:

i) Gwella a chyflymu'r broses o osod Safonau, drwy lunio rheoliadau ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Byddai hyn yn golygu bod mwy o arbenigedd ac adnoddau ynghlwm â'r broses o lunio'r Safonau, a byddai'n osgoi rhagor o oedi diangen.

ii) Cydweithio gwell rhwng y Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg drwy gynnal Ymchwiliad Safonau sy’n ymgynghoriad cyhoeddus ar reoliadau drafft ar gyfer y sector dan sylw, er mwyn osgoi ymgynghori ddwywaith.

iii) Gwella gweithrediad y gyfundrefn gwyno drwy sefydlu protocol newydd rhwng Comisiynydd y Gymraeg a chyrff ynghylch y system gwyno. Dylai'r protocol (i) osgoi dyblygu gwaith, (ii) anelu at roi gwybod i gyrff am gwynion yn gynnar, a (iii) ei gwneud yn gliriach i'r cyhoedd bod hawl i gwyno wrth y corff neu'r Comisiynydd.

iv) Sefydlu Corff Hyrwyddo newydd fel cwmni, heb statud - credwn y dylai fod corff hyrwyddo newydd yn ogystal â’r (ac ar wahân i’r) Comisiynydd. Fel yn achos y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gellid sefydlu corff heb ddeddfu.

3.6.4. Cam 2 – Amserlen ar gyfer gosod Safonau ar yr holl sectorau o fewn cwmpas Mesur y Gymraeg 2011

3.6.5. Hyd at fis Medi 2018, roedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn adroddiadau ymchwiliad Safonau - sef y cam cyntaf yn y broses o greu Safonau - gan y Comisiynydd ar gyfer nifer o sectorau, ond heb weithredu arnynt:




Sector

Dyddiad derbyniodd y Llywodraeth adroddiad ymchwiliad Safonau’r Comisiynydd

Nodiadau

Cymdeithasau Tai

 

Hydref 2015

Dim esboniad am yr oedi

Dŵr

Tachwedd 2015

Daeth ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth Cymru i ben ar 17/2/2017

Dim esboniad am yr oedi pellach.

Cwmnïau Post

Tachwedd 2015

Dim esboniad am yr oedi

Bysiau, Trenau a Rheilffyrdd

Hydref 2016

Dim esboniad am yr oedi

Nwy a Thrydan

Chwefror 2017

Dim esboniad am yr oedi

Telathrebu

-
 

Dim adroddiad na sylw gan y Comisiynydd na’r Llywodraeth

 

3.6.7. Galwn felly am amserlen glir gan Lywodraeth Cymru i ddod â Safonau i rym ar gyfer y sectorau sy’n weddill, gan gynnwys y sector telathrebu.

4. Asesu llwyddiannau a chyfyngiadau canfyddedig y ddeddfwriaeth, ac effaith ac effeithiolrwydd safonau’r Gymraeg

4.1. Ym mis Hydref 2017, cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg adroddiad sicrwydd oedd yn darparu’r dystiolaeth gyntaf ar ôl y flwyddyn gyntaf o weithredu Safonau’r Gymraeg. Yn yr adroddiad, drwy gymharu ystadegau blwyddyn gyflawn dan gyfundrefn y Safonau a'r flwyddyn cyn iddynt ddod i rym, amlygir nifer o ddatblygiadau cadarnhaol, gan gynnwys:

  • Roedd 76% o’r farn bod gwasanaethau Cymraeg cyrff cyhoeddus yn gwella, a dim ond 10% yn anghytuno

  • Roedd 57% yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg

  • Roedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer 25% o’r swyddi a hysbysebwyd ‒ o gymharu ag 16% yn 2015-16 ‒ sy'n gynnydd o 56%.

  • Yn y sector iechyd (nad yw'n rhan o'r gyfundrefn Safonau eto) roedd canran y swyddi a hysbysebir lle roedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol wedi aros yn ei hunfan (rhwng 2015-16 a 2016-17), a hynny ar 1% o swyddi yn unig

  • Roedd cynnydd, o 50% i 96%, yn nifer y gwasanaethau ffôn lle cynigir dewis iaith yn ddiofyn

  • Roedd cynnydd, o 32% i 45%, yn nifer y cynghorau sy'n cynnig pob tudalen ar eu gwefan yn Gymraeg

4.2. Ym mis Awst eleni, cyhoeddwyd “Mesur o Lwyddiant”. Roedd prif gasgliadau’r adroddiad hwnnw yn nodi bod:

  • cyfarchiad Cymraeg gan dderbynnydd yn ystod 89% o alwadau ffôn

  • ymateb Cymraeg i e-bost mewn 93% o achosion

  • 100% o beiriannau hunanwasanaeth yn gweithio’n llawn yn Gymraeg

  • 82% yn cytuno fod cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chynghorau sir yn cynyddu neu wedi aros yr un peth.

  • 100% o’r sefydliadau a holwyd yn darparu meddalwedd gwirio sillafu Cymraeg i’w staff

  • 69% o’r sefydliadau a holwyd yn cynnig rhyngwyneb Cymraeg i gyfrifiaduron

  • llwyddodd 85% o’r sefydliadau a holwyd i rannu enghreifftiau o bolisïau a dogfennau oedd ar gael yn Gymraeg i staff

4.3. Ym mis Mawrth 2017, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith ymchwil yn dangos bod 73% yn fwy o swyddi cynghorau sir yn gofyn am sgiliau Cymraeg ers i’r Safonau ddod i rym4.

4.3. Cymhariaeth rhwng y gyfundrefnau statudol yng Nghymru

4.3.1.Mae’n werth cymharu rhai o’r prif wahaniaethau rhwng y gyfundrefn bresennol, yr un flaenorol a system arfaethedig y Llywodraeth:





 

Mesur y Gymraeg 2011 (Comisiynydd y Gymraeg)

Deddf Iaith 1993 (Bwrdd yr Iaith)

Bil arfaethedig y Gymraeg

Opsiwn i gwyno’n syth at y Comisiynydd

Oes

Nac oedd

Na fyddai

Hawliau gorfodadwy i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg

Oes, drwy bob Safon

Nac oedd, heblaw mewn ychydig iawn o amgylchiadau

Na fyddai

Nifer o ymchwiliadau i gwynion bob blwyddyn o gymharu â’r nifer o gwynion

66 ymchwiliad gan y Comisiynydd allan o 151 cwyn am gyrff o dan gyfundrefn y Safonau yn 2016/17 (sef 44%)

 

4 ymchwiliad allan o 112 cwyn o dan gyfundrefn y cynlluniau iaith yn 2016/17 (sef 3.6%)

 

5 ymchwiliad allan o 206 cwyn yn 2010-11 (sef 2.4%)

Disgwylir lefel debyg o ymchwilio i hen Ddeddf Iaith 1993 oherwydd y cyfyngiadau arfaethedig ar y gallu i wneud cwynion ac i ymchwilio

Ymchwilio i gwynion ‘difrifol’ yn unig

Nage

Ie

Ie

Cyhoedd yn gorfod cwyno wrth y corff yn gyntaf

Nac ydyn, mae opsiwn i fynd at y Comisiynydd yn gyntaf

Oedden, gorfod cwyno wrth y corff cyn mynd at Fwrdd yr Iaith

Byddai, byddai rhaid cwyno wrth y corff cyn mynd at y Comisiwn arfaethedig

Cyfuno rheoleiddio a hybu’r iaith o fewn un corff

Nac ydy, mae rheoleiddio gyda'r Comisiynydd a hybu gyda’r Llywodraeth

Oedd, Bwrdd yr Iaith

Byddai, Comisiwn arfaethedig

Cynlluniau Iaith di-rym

Nage

Ie

Ie

 

4.3.2. Fel y gwelwch, mae Bil arfaethedig y Gymraeg y Llywodraeth yn debyg iawn mewn nifer o ffyrdd pwysig i hen gyfundrefn Deddf Iaith 1993, cyfundrefn a fethodd. Nid oedd rhan helaeth o gwynion y cyhoedd am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg o dan yr hen gyfundrefn honno yn cael ymchwiliad, ac felly nid oedd unrhyw bosibiliad o gamau gorfodi ar gyrff i sicrhau eu bod yn darparu ac yn gwella. Collodd defnyddwyr y Gymraeg ffydd yn y broses a’r system yn gyfan gwbl.

5. Asesu a yw’r fframwaith deddfwriaethol yn cefnogi’r gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg a’r defnydd ohoni ynteu’n cyfyngu ar y gwaith hwn.

5.1. Y Safonau yn cynyddu defnydd

5.1.1. Credwn fod nifer o enghreifftiau o effaith gadarnhaol cyfundrefn Mesur y Gymraeg 2011, megis:

(i) sefydlu hawliau i wersi nofio Cymraeg;

(ii) newid peiriannau hunan-wasanaeth i weithredu’n Gymraeg yn ddiofyn; a

(iii) cynyddu nifer y swyddi a hysbysebir sy’n nodi’r Gymraeg fel sgil hanfodol

5.1.2. Credwn fod nifer o bosibiliadau ehangach, o dan y gyfundrefn ddeddfwriaethol bresennol, i gyrff ddefnyddio’r Safonau a statws swyddogol y Gymraeg er mwyn arbrofi â dulliau hergwd neu ‘nudge’ i gynyddu defnydd yr iaith.

5.2. Gwella Hybu

5.2.1. Fel y nodir uchod, rydym wedi dadlau ers ymhell dros ddegawd dros sefydlu corff ar wahân i'r Comisiynydd a'r Llywodraeth, i gymryd cyfrifoldeb am hyrwyddo'r Gymraeg, sef Cyngor y Gymraeg, fyddai â chyllid a grym strategol sylweddol i hyrwyddo defnydd yr iaith. Credwn fod manteision o sefydlu corff ychwanegol o’r math yma ar wahân. Yn sicr, nid cyfuno hyrwyddo a rheoleiddio yw’r ffordd ymlaen. Fel dywedir uchod, credwn y gellid sefydlu corff hybu penodol heb newid y ddeddfwriaeth gynradd.

5.2.2. Ddechrau 2017, cyhoeddodd y Gymdeithas bapur yn amlinellu strwythur bosib ar gyfer y corff. Mae‘r papur i'w weld yma: https://cymdeithas.cymru/dogfen/cyngor-y-gymraeg-corff-annibynnol-i-hyrwyddor-gymraeg. Wrth argymell y math hwn o gorff, fe nodon ni’r egwyddorion canlynol:

  • Ni ddylai’r corff hyrwyddo newydd ddod ar draul annibyniaeth na gwaith Comisiynydd y Gymraeg

  • Credwn fod angen cadw materion rheoleiddio a hyrwyddo fel dau fater ar wahân sy’n gyfrifoldeb dau gorff ar wahân

  • Yr angen am strategaeth gydlynol gyda Chomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru wedi'i seilio ar ddealltwriaeth drwyadl o egwyddorion Cynllunio Ieithyddol

  • Yr angen i ffiniau cyfrifoldeb rhwng y gwahanol endidau sydd â chyfrifoldeb dros gynnydd y Gymraeg fod yn glir a diamwys.

5.2.3. Ymhellach, credwn fod angen buddsoddiad llawer iawn mwy sylweddol mewn prosiectau i hybu’r Gymraeg. Yng Ngwlad y Basg, mae Llywodraeth y rhanbarth ymreolaethol yn gwario tua 1% o'i chyllideb ddatganoledig ar brosiectau i hyrwyddo'r Fasgeg; yng Nghymru mae'r ffigwr oddeutu 0.16%. Yn yr ardal honno, gwelwn fod y buddsoddiad yn dwyn ffrwyth, ac mae'n bosib cymharu hynny gydag ardaloedd yng Ngwlad y Basg nad ydynt yn rhan o'r gymuned ymreolaethol. Yn 2016, cyhoeddon ni bapur yn argymell bod angen gosod nod a dyddiad targed i gynyddu dros amser ganran y gyllideb ar brosiectau penodol i hyrwyddo'r Gymraeg o 0.16% o'r gyllideb i 1%. Nid yw cynigion Bil y Gymraeg yn cynnig mynd i'r afael â’r mater yma o gwbl, yn hytrach, maent yn argymell symud yr un arian o gwmpas rhwng gwahanol gyrff.

5.3. Anghysondeb rhwng cyrff datganoledig a chyrff Llywodraeth Prydain

5.3.1. O dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, nid oes modd gorfodi cyrff y goron, megis yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) a'r Swyddfa Basbort, i gydymffurfio â'r Safonau heb ganiatâd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Nid yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi caniatáu i'r un o gyrff y goron fod yn ddarostyngedig i'r Safonau ers i'r Mesur ddod i rym yn 2011.

5.3.2. Mae problemau enfawr yn deillio o fethiant Llywodraeth Prydain i ganiatáu i'r cyrff hyn ddod o dan y gyfundrefn Safonau. Mae diffyg gwasanaethau Cymraeg, a gwasanaethau Cymraeg tameidiog ac eilradd, yn cael eu cynnig o achos bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwrthod cydsynio. Credwn y dylai’r pwyllgor ofyn am dystiolaeth gan Swyddfa Cymru ar y cwestiwn hwn.

5.4. Ehangu’r Safonau i weddill y sector breifat

5.4.1. O’r dystiolaeth wrthrychol, mae’n glir bod y Safonau yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg. Yn rhesymegol felly, dylai’r Llywodraeth fod o blaid ymestyn y buddion o ran statws, defnydd a phresenoldeb y Gymraeg i bob agwedd ar fywyd.

5.4.2. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi anwybyddu barn glir Aelodau Cynulliad, fel y mynegwyd mewn pleidlais ym mis Hydref 20175, o blaid estyn y Safonau i weddill y sector breifat. Mae dadleuon y Llywodraeth a’u hymdrechion i oedi a rhwystro’r broses honno’n ymdrech ddigywilydd i flaenoriaethu elw busnesau mawrion yn hytrach na’r Gymraeg.

6. Persbectif rhyngwladol

6.1. Dylid nodi bod Comisiynwyr Iaith yn system o reoleiddio a gydnabyddir yn fyd-eang fel un sy’n gweithio.

6.2. Mae’r tiriogaethau sydd wedi bod ymysg y mwyaf llwyddiannus o ran adfer ieithoedd lleiafrifoledig - Québec, Catalwnia a Gwlad y Basg - yn cynnwys y sector breifat o dan eu systemau hawliau a rheoleiddio iaith. Yn y tair cyfundrefn honno, mae hawliau iaith yn llawer ehangach na’r hyn a geir yng Nghymru. Dyma rai elfennau sy’n werth eu nodi amdanyn nhw:

(i) hawliau cyffredinol i'r iaith dan sylw mewn statud sy’n ymestyn i'r sector breifat;

(ii) hawliau a/neu broses normaleiddio addysg yr iaith frodorol mewn statud;

(iii) cydnabyddiaeth o bwysigrwydd cynllunio'r gweithlu

 





 

Québec: Siarter Hawliau Iaith Sylfaenol6

Gwlad y Basg: Deddf Sylfaenol rhif 10, 24ain Tachwedd 19827

 

Catalwnia: Deddf Polisi Iaith, Rhif 1, 1998

Hawliau Cyffredinol

PENNOD II

 

2. Mae gan bawb hawl i gael y weinyddiaeth sifil, y gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol, y cyfleustodau cyhoeddus, yr urddau proffesiynol, yr undebau gweithwyr a phob menter sy’n gwneud busnes yn Québec i gyfathrebu â nhw yn Ffrangeg.

 

3. Mewn cynulliad cydgynghorol, mae gan bawb hawl i siarad yn Ffrangeg.

 

5. Mae gan ddefnyddwyr nwyddau a gwasanaethau hawl i gael gwybodaeth a gwasanaeth yn Ffrangeg.

 

 

Erthygl 5 a 6

 

1. Mae gan holl ddinasyddion Gwlad y Basg yr hawl i fedru ac i ddefnyddio'r [Fasgeg], ar lafar ac yn ysgrifenedig.

 

2. Mae’r hawliau ieithyddol sylfaenol canlynol sydd gan ddinasyddion Gwlad y Basg yn cael eu cydnabod:

 

Mewn perthynas â'r Weinyddiaeth a Sefydliadau Eraill,

 

a) Yr hawl i gynnal cysylltiadau yn y Fasgeg ... ar lafar a/neu yn ysgrifenedig â'r Weinyddiaeth ac unrhyw gorff neu sefydliad swyddogol sydd wedi'i leoli yn y Gymuned Ymreolaethol.

 

b) Yr hawl i dderbyn neu'r hawl i gael eu dysgu yn [y Fasgeg]

 

c) Yr hawl i dderbyn cyhoeddiadau, rhaglenni radio a theledu a ffurfiau eraill o gyfathrebu yn y Fasgeg.

 

ch) Yr hawl i ddatblygu gweithgareddau undebol, proffesiynol, gwaith a gwleidyddol yn y Fasgeg.

 

d) Yr hawl i fynegi eich hun yn y Fasgeg mewn unrhyw gyfarfod.

 

3. Bydd yr awdurdodau cyhoeddus yn gwarantu y caiff yr hawliau hyn eu gweithredu, yn ardaloedd tiriogaethol y Gymuned Ymreolaethol, er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn weithredol.

 

Erthygl 6

1. Bydd hawl pob dinesydd i ddefnyddio'r [Fasgeg] wrth ymwneud o fewn ardaloedd y Gymuned Ymreolaethol, ac i gael eu trin yn [y Fasgeg], yn cael ei gydnabod. I'r perwyl hwn, cymerir mesurau perthnasol a darperir y dulliau angenrheidiol er mwyn sicrhau y gweithredir yr hawl hwn yn gynyddol

 

 

Erthyglau 3 a 4

 

Gellir defnyddio’r Gatalaneg ... [fel iaith swyddogol] yn ddiwahân gan ddinasyddion ym mhob gweithgaredd preifat a chyhoeddus yn ddieithriad. Mae gan weithdrefnau cyfreithiol a gynhelir yn [y Gatalaneg] .... cyn belled ag y mae’r iaith a ddefnyddir yn y cwestiwn, ddilysrwydd ac effaith llawn.

 

Mae gan bawb yng Nghatalwnia yr hawl:

A) i fod yn rhugl yn [y Gatalaneg]

B) i fynegi eu hunain yn [y Gatalaneg], ar lafar neu yn ysgrifenedig, yn eu cysylltiadau yn ogystal ag mewn gweithdrefnau preifat a chyhoeddus

C) i gael eu gwasanaethau yn [y Gatalaneg] yn y modd a bennir gan y Ddeddf hon

Ch) i ddefnyddio’r [Gatalaneg] yn rhydd ym mhob maes

D) i beidio â dioddef camwahaniaethu ar sail yr iaith swyddogol a ddefnyddiant

Gweithlu

4. Mae gan weithwyr hawl i gynnal eu gweithgareddau yn Ffrangeg.

 

18. Ffrangeg yw iaith cyfathrebu mewnol ysgrifenedig y Llywodraeth, adrannau llywodraeth, ac asiantaethau eraill y weinyddiaeth sifil.

Erthygl 14 – Gwlad y Basg

1.Er mwyn rhoi effaith i'r hawliau a gydnabyddir yn Erthygl 6 y gyfraith hon, bydd yr awdurdodau cyhoeddus yn mabwysiadu’r mesurau hynny a fydd yn gogwyddo'n gynyddol tuag at y Fasgeg fel iaith y gweithlu sy’n ymwneud â gweinyddiaeth gyhoeddus yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad.

 

 

 

 

Erthygl 24

Bydd y staff addysgu yn sefydliadau addysg Catalwnia, ar unrhyw lefel o addysg nad yw’n addysg prifysgol, yn medru’r ddwy iaith ac yn medru eu defnyddio yn eu tasgau dysgu.

Hawliau Addysg

6. Mae gan bawb sy’n gymwys i gael hyfforddiant yn Québec hawl i gael yr hyfforddiant hwnnw yn Ffrangeg.

Erthygl 19 a 20

Bydd Ysgolion Hyfforddi Athrawon y Brifysgol yn addasu eu cynlluniau addysgu er mwyn sicrhau bod yr holl staff yn hollol rugl yn y Fasgeg a’r Sbaeneg, yn unol â gofynion eu harbenigedd

 

1. Bydd y Llywodraeth, er mwyn rhoi effaith i'r hawl i dderbyn addysg yn y Fasgeg, yn sefydlu’r dulliau hynny a fydd yn gogwyddo tuag at wneud y gweithlu addysgu yn gynyddol Fasgeg ei iaith.

2. Yn yr un modd, bydd yn penderfynu pa swyddi y bydd medru’r Fasgeg yn hanfodol ar eu cyfer, er mwyn cydymffurfio â´r hyn a bennir yn Erthyglau 15 ac 16 y ddeddf hon.

 

 

Erthygl 20 – deddf addysg Catalwnia:

 

1.Mae’r Gatalaneg, fel priod iaith Catalwnia, hefyd yn iaith addysg, ar bob lefel ac ym mhob math o addysgu.

2.Bydd sefydliadau addysg ar bob lefel yn peri mai'r Gatalaneg yw'r cyfrwng arferol i fynegi gweithgareddau addysgu a gweinyddol, yn fewnol ac yn allanol.

 

Erthygl 21 – Catalwnia

1. Y Gatalaneg ddylai gael ei defnyddio fel y cyfrwng addysgu a dysgu fel arfer mewn addysg nad yw’n addysg prifysgol

 

Erthygl 22 – addysg uwch Catalwnia

Mewn colegau addysg bellach a phrifysgolion, mae gan y staff a’r myfyrwyr yr hawl i fynegi eu hunain, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn yr iaith swyddogol o’u dewis

 

 

7. Casgliadau

7.1. Mae papur gwyn Llywodraeth Cymru’n anwyddonol ac yn wastraff o amser ac adnoddau.

7.2. Credwn y dylai’r Llywodraeth ganolbwyntio ar weithredu’r Mesur presennol yn llawn, drwy ymestyn y Safonau i weddill y sectorau preifat ynghyd â gwella gweithrediad y gyfundrefn ddeddfwriaethol bresennol.

7.3. Wedi i'r Mesur presennol gael ei weithredu’n llawn, credwn y dylai’r Llywodraeth ystyried Deddf Iaith gryfach yn dilyn y cynigion a amlinellir uchod.

Cymdeithas yr Iaith

Medi 2018

 

1 https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/CyIG%20Cryfhau%20Mesur%20A4(1).pdf

2 http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/20170926%20DG%20Adroddiad%20Sicrwydd%20terfynol%20Cymraeg.pdf

3 http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/REF18075%20-%20CD004%20-%20Sicrwydd%20Report%20-%20STP2.pdf

4 https://cymdeithas.cymru/newyddion/73-yn-fwy-o-swyddi-cymraeg-yn-hanfodol-arwyddion-cadarnhaol-effaith-y-safonau-iaith

5 http://record.assembly.wales/Plenary/4646?lang=cy-GB#A957

6 http://www.legisquebec.gouv.qc.ca/en/showdoc/cs/C-11