Cod Trefniadaeth Ysgolion - ymateb Cymdeithas yr Iaith

Cod Trefniadaeth Ysgolion - ymateb Cymdeithas yr Iaith

Ni ddefnyddir y ffurflen ymateb swyddogol gan fod y ffurflen honno'n rhoi cyfle ymateb "Cytuno/Anghytuno" yn unig wrth nifer o gwestiynau gan roi cyfle sylwadau ychwanegol yn unig os anghytunir. Nid yw hyn yn addas yn ein hachos ni. Ond mynnwn yr un sylw i'n hymateb.

RHAGDYB YN ERBYN CAU YSGOLION GWLEDIG (Cwestiwn 5)

Cytunwn yn gryf gyda'r diwygiad hwn i'r Côd. Yn wir, credwn mai dyma'r diwygiad sy'n rhoi ystyr i bob un o'r canllawiau eraill. Bu ers degawd a mwy ofynion i Awdurdodau Lleol ystyried yr effaith ar addysg, ar y gymuned leol ac ar y Gymraeg cyn cynnig cau ysgol, a gofyniad am ystyried unrhyw atebion amgen a ddeuent i'r amlwg. Ond fe aeth ymateb i'r gofynion hyn yn ymarferion ticflwch yn unig gan fod Rhaglen Ysgolion 21g y llywodraeth ei hun yn gyrru agenda cau ysgolion a chanoli darpariaeth addysg mewn nifer llai o adeiladau newydd. Fe ddygwyd anfri ar brosesau ymgynghori gan fod gwrthwynebwyr yn gwybod na byddai Awdurdod Lleol yn newid safbwynt mewn ymateb i ymgynghoriad ac na byddai Ysgrifennydd Addysg yn gwyrdroi penderfyniad. Yr oedd baich y gyfrifoldeb ar wrthwynebwyr i brofi achos cwbl eithriadol dros gadw unrhyw ysgol ar agor. Byddai'r un ymadroddion ystrydebol yn cael eu copio i bob dogfen ymgynghorol fel "Rydym wedi ystyried yr effaith ar y gymuned leol, ond mae ystyriaethau addysgol yn bwysicach", "Mae'r cost yn ôl y pen yn uwch na'r cyfartaledd sirol", "Ni byddai ateb fel ffedereiddio'n datrys problem lleoedd dros ben yn yr ysgol". Hyd yn oed pan fyddai apêl at Weinidog Addysg yn sefydlu fod camweinyddu proses ymgynghori a chamarwain ymgynghoreion yn ffeithiol, gallai Gweinidog ymateb (2003) "Mae'n anffodus fod camgymeriadau wedi bod yn y broses, ond ni chredaf y byddai hyn wedi newid y canlyniad". Erbyn 2013, aeth baich gwrthwynebiadau'n ormod wrth fod degau o ysgolion yn cael eu cau, a gwnaeth y llywodraeth ddiddymu hawl apelio at y Gweinidog Addysg er mwyn cyflymu proses cau ysgolion ac amddifadu ysgolion o'u canolfannau addysg.

Mae gan Gymdeithas yr Iaith nifer o resymau dros wrthwynebu cau ysgolion pentrefol Cymraeg, ac yn eu plith (a) os na bydd ysgol yn eu hunion gymuned, bydd rhieni'n tueddu i fynd â'u plant at ysgol ger eu man waith a allai fod yn saesneg ei chyfrwng (b) yr ysgol yw'r mecanwaith mwyaf effeithiol sy gyda ni dros gymhathu mewnfudwyr i'n cymunedau gwledig Cymraeg ac, er mwyn hyn, rhaid bod yr ysgolion yn y cymunedau a'r teuluoedd yn teimlo perchnogaeth arnynt (c) mae teuluoedd ifainc yn llai tebygol o ymgartrefu mewn pentrefi heb ysgol, ac mae'r gymuned leol Gymraeg gyfan yn heneiddio o ganlyniad. Credwn mai'r newid sylfaenol hwn i greu rhagdyb yn erbyn cau ysgol wledig yn rhoi ysytyr i'r ddogfen hon. Dyma newid baich y gyfrifoldeb. Rhaid fydd i Awdurdodau Lleol brofi pam fod rheswm arbennig dros gau ysgol yn hytrach na bod gwrthwynebwyr dan bwysau i ddadlau dros ei chynnal. Rhaid fydd i Awdurdodau Lleol yn y dyfodol wneud gwerthusiad safonol o fodelau amgen megis ffedereiddio yn hytrach na chopio un frawddeg ystrydebol i'w dogfen ymgynghori. Mewn gair, bydd yn rhaid i Awdurdodau drafod gyda chymunedau lleol a'u parchu. Cytunwn yn bendant felly, ac yn enwedig o ran pwynt 1.8 yn y ddogfen lawn, sef bod angen penderfynu ar dynged ysgol yng nghyd-destun HOLL gyfrifoldebau Awdurdod Lleol, nid addysg yn unig.

RHESTR YSGOLION (Cwestiwn 8)

Cytunwn fod angen diffiniad, ac felly restr, o ysgolion gwledig er mwyn gweithredu'r newid sylfaenol hwn. Ond gwrthwynebwn y criteria dros roi ysgol ar y rhestr. Nid ydym yn credu fod y dosbarthiadau aneddfannau Lloegr a Chymru'n arbennig o addas at y perwyl hwn. Wrth ganolbwyntio ar ddwysedd poblogaeth ac aneddfannau fe'u bwriedir i fod o ddefnydd i'r broses gynllunio, nid at ddibenion polisi addysg. Rhoddwn enghraifft arbennig ysgolion pentrefol mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol mewn ardaloedd Cymraeg fel Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman. Yn y cymunedau hyn, bydd y dwysedd aneddfannau (a phoblogaeth) yn gymharol uchel, ond y boblogaeth yn heneiddio wrth fod sail economaidd y cymunedau wedi dirywio. Mae'r un angen i sefydlu rhagdyb o blaid cadw ysgolion pentrefol Cymraeg mewn cymunedau ôl-ddiwydiannol fel hyn fel y gallant fod yn gyfryngau dod â gwaed newydd i'r cymunedau a bod yn rhan o broses adfer. Deallwn y byddai creu rhestr ar y sail "wrthrychol" sydd yn y ddogfen yn golygu llai o waith i swyddogion, ond credwn y dylai fod ymgynghoriad llawn ar y rhestr yn benodol am dri mis gan geisio barn pob cyngor cymuned perthnasol a ffurfio rhestrau sirol.

"BAICH" DEMOCRATIAETH (Cwestiwn 10 a 6; 1/2/3)

Cytunwn (6) yn gyffredinol gyda'r set fanylach o weithdrefnau ar gyfer proses penderfynu ar dynged ysgol a chymuned. Cytunwn (1) fod profiad y dair blynedd ddiwethaf wedi dangos fod eu hangen. Cytunwn (2) fod angen cyhoeddi dogfen ar ddiwrnod ysgol a mynd yn bellach i anfon nodyn adre gyda phob disgybl. Cytunwn (3) fod angen hysbysebu ymgynghoreion, ond credwn fod angen mynd yn bellach i drefnu cyhoeddusrwydd yn y gymuned leol gan y gall cymuned gyfan golli ased o bwys. O ran cwestiwn (10) mae'n wir y bydd y set fanylach o weithdrefnau yn faich ychwanegol ar Awdurdod Lleol. Baich democratiaeth a gwasanaeth ydyw - yn wir mae angen mynd yn bellach. Dylai pwynt 3.3 (yn y ddogfen) fod yn orfodol o ran cynnal cyfarfod cyhoeddus, a bod ymgynghori ystyrlon â phobl ifainc. Yn wir, cynigiwn fod y llywodraeth yn comisiynu adroddiad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (trwy adrannau Addysg) ar sut y mae prosesau ymgynghori wedi cael eu gweithredu ers 2000, a faint o benderfyniadau sydd wedi newid o ganlyniad i ymgynghori.

EFFAITH AR YR IAITH GYMRAEG (Cwestiynau 11/12)

Credwn fod y mater hwn â dylanwad cwbl uniongyrchol ar gynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg, cyfleon defnyddio'r iaith a sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Rydyn ni eisoes wedi esbonio fod ysgolion gwledig Cymraeg yn rhoi cyfle unigryw i blant mewnfudwyr gael eu cymhathu yn eu cymunedau newydd, ac yn denu gwaed newydd i gymunedau Cymraeg sy'n heneiddio. Credwn fod angen ehangu cylch gorchwyl adrannau o ddogfen ymgynghorol yn ymwneud â'r effaith ar y Gymraeg ac Astudiaethau Effaith. Credwn y dylai fod yn ofynnol nid yn unig i brofi fod yr ysgol "newydd" a gynigir hefyd yn Gymraeg ei chyfrwng, ond hefyd faint yw tebygolrwydd y bydd plant ysgol a gaeir yn mynd at yr ysgol honno (yn hytrach nag efallai dilyn rhieni at ysgol ger eu man gwaith na bydd yn Gymraeg). Hefyd dylai Astudiaethau Effaith astudio effaith gau ysgol ar y Gymraeg yn y gymuned gyfan, nid yn unig ar y gyfrwng addysgu. Cytunwn hefyd (1.10 yn y dogfen) fod angen ystyried a fydd cau ysgol yn cael effaith ar ddarpariaeth addysg 14-19 gyfrwng Cymraeg a mynediad at addysg uwch Gymraeg.

CWESTIWN 13 (UNRHYW FATER ARALL)

Credwn y gall y Gweinidog Addysg unioni cam arall (ond cysylltiedig) wrth ddiwygio'r Côd Trefniadaeth Ysgolion. Mae adran 2.3 o'r ddogfen yn dangos fod angen cynnal ymgynghoriad bob tro y bydd newid bach yn natur ieithyddol cyfrwng dysgu'r ysgol. Er mwyn symud ysgol ar gontinwwm tuag at addysg Gymraeg, gallai hynny olygu 5 gwahanol ymgynghoriad llawn - gellid cael degawd gyfan o ymgynghoriadau bob yn ail flwyddyn, a hyn er mwyn gwireddu strategaeth a fydd yn rhan o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg mewn llawer o siroedd. Dyma arafu dibwrpas ar broses a gytunir yn lleol - ac sy'n ddull o ymgyrraedd tuag at nod y llywodraeth o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 - trwy ymgynghoriadau diangen.

Cynigiwn y diwygiad canlynol:

"Os bydd newid categori ieithyddol ysgol yn gydnaws â strategaeth a nodir (ac a ymgynghorwyd arno) yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CySGA) Awdurdod Lleol, ni fydd angen ymgynghoriad heblaw am fod dwy ran o dair o'r Bwrdd Llywodraethol neu o rieni yn galw amdano oherwydd amgylchiadau eithriadol".

Credwn y bydd diwygiad o'r fath yn cyflymu'r symudiad o ysgolion ar hyd y continwwm tuag at addysg Gymraeg gan sicrhau fod grymuso holl ddisgyblion gyda'r gallu i gyfathrebu a gweithio yn y ddwy iaith mewn gwlad ddwyieithog fodern.

Cyflwynir y sylwadau hyn ar ran Grŵp Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith - 27.09.17