Coleg Ffederal Cymraeg - y diweddaraf

Dros y misoedd diwethaf mae Bwrdd Cynllunio'r Coleg Ffederal Cymraeg gafodd ei sefydlu gan y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, wedi bod yn cyfarfod yn gyson er mwyn cynorthwyo a bwydo syniadau i gadeirydd y Bwrdd, Yr Athro Robin Williams, a fydd dros yr wythnosau nesaf yn paratoi adroddiad ac yn ei gyflwyno i Jane Hutt erbyn yr haf.

Maen rhaid canmol dewrder Robin Williams gan iddo wahodd dau ymgyrchych iaith i eistedd ar y bwrdd sef Rhys Llwyd, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ynghyd a Ieuan Wyn, Cylch yr Iaith. Mi wyddai Robin Williams, maen si?r, y byddai'n ffôl iawn iddo beidio gwahodd cynrychiolwyr o'r unig ddau fudiad sydd wedi gwneud gwaith ymchwil a chyflwyno cynlluniau ar gyfer sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg cyn sefydlu'r bwrdd yma.

Ar y cyfan maen ymddangos y bydd adroddiad Robin Williams yn gam sylweddol ymlaen. Does dim dwywaith fod y Gymdeithas a Chylch yr Iaith wedi dod a dylanwad llesol i'r bwrdd a fyddai fel arall yn sefydliadol tu hwnt. Ar ôl cyfarfod ymgynghorol diweddar y bwrdd fe ddeellir y bydd sôn am gorff cwbwl newydd a hwnnw'n gorff annibynnol fydd yn cael ei sefydlu dan erthyglau a statudau. Fe argymhellir codi'r gwariant ar addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch yn sylweddol a hynny i ariannu amrywiaeth o bethau o gyflogi darlithwyr trwy'r Coleg Ffederal i gynnig bwrsariaethau i fyfyrwyr fydd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fodd bynnag, teimla Cymdeithas yr Iaith bod yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus. Er enghraifft, maen aneglur sut y bydd y cyllid ychwanegol yn cael ei ddosbarthu a'i ddefnyddio. Mae'r Gymdeithas yn credu fod angen i'r holl arian fynd trwy y Coleg Ffederal yn hytrach na chyllidebau cyffredinol y prifysgolion daearyddol. Cred y Gymdeithas hefyd fod rhaid gwneud yn si?r fod y teimlad o berchnogaeth yn cael lle canolog yn adroddiad Robin Williams - rhaid i'r darlithwyr cyfrwng Cymraeg ynghyd a'r myfyrwyr fod yn aelodau o'r Coleg Ffederal er mwyn i'r Coleg fod yn gymuned academaidd yn hytrach na corff cyllido'n unig.

Ond yr her fwyaf sy'n wynebu'r ymgyrch hon dros y misoedd nesaf yw i'r Llywodraeth beidio ag anwybyddu'r adroddiad fel yr anwybyddwyd argymhellion Adroddiad Richard rhai blynyddoedd yn ôl. Maen debygol y bydd rhai argymhellion yn adroddiad Robin Williams yn rai cryf felly rhaid pwyso ar y Llywodraeth i'w derbyn a phwyso ar y prifysgolion traddodiadol i dderbyn y bo'r hinsawdd wleidyddol wedi newid o ganlyniad i brotestio di-flino Undebau Myfyrwyr a Chelloedd Coleg y Gymdeithas dros y blynyddoedd.