Comisiwn Gwasanaethau Cyhoeddus - ymateb

[Agor y ffeil fel PDF]

Ymgynghoriad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus

A. Cyflwyniad

Cefnoga Cymdeithas yr Iaith drefniant gwasanaethau cyhoeddus sydd yn seilieidig ar  ddemocratiaeth gyfranogol lle cymerir penderfyniadau ar y lefel fwyaf lleol posibl, ac sydd yn normaleiddio’r Gymraeg fel iaith bob dydd ac fel iaith gweinyddiaeth fewnol nifer cynyddol o awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus.  

Ein prif bwyntiau yw’r canlynol:

  • Mae angen amddiffyn ac ehangu nifer y cyrff sydd yn gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg fel Cyngor Gwynedd;

  • Mae angen adfywio a chryfhau democratiaeth, yn enwedig ar lefel leol iawn megis cynghorau cymuned a’u rôl yn y system gynllunio;

  • Mae mawr angen cywiro diffygion y system gynllunio a’i heffaith ar y Gymraeg gan seilio’r system ar anghenion lleol yn hytrach nag ar ystadegau cenedlaethol;

  • Mae gwasanaethau lleol yn hollbwysig i hyfywedd cymunedau a’r Gymraeg;

  • Rhaid gwireddu hawliau gweithwyr i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg;

  • Mae angen creu set o safonau iaith cyson ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a’r trydedd sector er mwyn gwella gwasanaethau Cymraeg a sicrhau eglurder i’r cyhoedd;

  • Mae angen delio â methiannau dirfawr awdurdodau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg

B. Cydnabod y Realiti

Er i ni anghytuno gyda natur y ddadl am ganoli gwasanaethau a’u strwythurau trefniadol, cydnabyddwn fod pwysau gwleidyddol anferth bellach dros uno awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill. Teimlwn mai dyma fydd yn digwydd beth bynnag fydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn. Gofynnwn, os bydd penderfyniad i fynd ar hyd y trywydd hwnnw, y dylid gwneud y canlynol er mwyn diogelu gwasanaethau i bobl:

  • ystyried yr effaith ar y Gymraeg fel iaith gweinyddu mewn unrhyw newid; dylid creu cyfleoedd i lywodraeth leol ragor o ardaloedd weithio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac ni ddylai unrhyw newidiadau tanseilio polisi iaith Gwynedd. Gellid dadlau mai llesol fyddai dod ag Ynys Môn i mewn i Wynedd, ond, yn bendant, niweidiol fyddai creu un Awdurdod i’r Gogledd.
  • gwneud iawn am ganoli, drwy ddatganoli, yn gyfamserol, grym real i gymunedau. Cydnabyddwn mai cynghorau cymuned yw'r unig beirianwaith posibl y gellid, yn ymarferol, ei gryfhau er mwyn cryfhau democratiaeth leol.

Ymhellach, credwn y dylai hyn fod yn un o sylfeini methodoleg llywodraethu: hynny yw, trefnu o’r gwaelod i fyny yn hytrach na gorfodaeth fiwrocrataidd o'r canol. Er enghraifft, wrth amcangyfrif nifer y tai newydd ar gyfer sir, dylid cyfrifo cyfanswm y niferoedd sydd eu hangen ar bob cymuned, yn hytrach na chychwyn gyda ffigur canolog a gorfodi datblygiadau ar gymunedau. A dylid, er enghraifft, sicrhau bod maint ysgolion yn gweddu ag anghenion y gymuned unigol. Byddai diwygiad o’r fath yn newid yr agwedd a’r diwylliant canol-i-lawr bresennol yn llwyr.

Credwn y gellid arbrofi gyda modelau democratiaeth gyfranogol, drwy gryfhau pwerau cynghorau cymuned er mwyn ceisio bywiogi democratiaeth leol.

C. Ein Maniffesto Byw

Yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddom ein Maniffesto Byw - bron i bedwar deg o argymhellion polisi manwl yn cynnig ffyrdd y gellid sicrhau bod y Gymraeg a’i chymunedau yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod.

Mae nifer ohonynt yn berthnasol iawn i gylch gwaith y Comisiwn. Atodwn gopi o’r Maniffesto, ond hoffem dynnu eich sylw at nifer o’r argymhellion mwyaf perthnasol:

  • Gweinyddiaeth Fewnol Gymraeg - Dylai cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd drwy symud at weinyddu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth ystyried ad-​drefnu llywodraeth leol, dylid sicrhau bod rhagor o awdurdodau lleol yn gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylid sefydlu tasglu dan adain Comisiynydd y Gymraeg i symud y broses hon yn ei blaen.

  • Polisi Caffael - Wrth brynu gwasanaethau, mae angen rhoi blaenoriaeth i gwmnïau lleol bychain a chanolig ... Dylai pob awdurdod lleol gynnal ymchwil ar unwaith i fes ur llif a chylchrediad ariannol gwahanol ardaloedd. Byddai cynnal ymchwil o’r fath yn arwain at well dealltwriaeth o sut yn union mae eu gwariant a’u cymorthdaliadau yn effeithio ar lewyrch ein cymunedau. Er enghraifft, i ba raddau y mae’r budd o wariant cyhoeddus yn llifo allan, yn hytrach na chylchredeg yn y gymuned, a hynny er mwyn ystyried pa gorff neu gwmni sy’n derbyn arian cyhoeddus. Yn yr un modd, dylai cyrff dylanwadol, fel prifysgolion, ysbytai ac awdurdodau lleol, gynnal awdit manwl i ddarganfod i ba raddau y mae eu polisïau presennol, o ran stocio, prynu a chontractio, yn cefnogi'r economi leol gan lunio strategaeth er mwyn gwneud defnydd o gynhyrchwyr a gwasanaethau lleol. Lle mae ffigyrau yn bodoli yn barod, dylid mynd ati i weithredu arnynt yn syth.

  • Datganoli Grym i Gymunedau - Dylid grymuso cymunedau i allu rheoli eu bywydau hwy eu hunain, gan gefnogi datganoli rhagor o rymoedd i gynghorau cymuned megis rheolaeth dros y broses gynllunio. Dylid cyflwyno math o ddemocratiaeth gyfranogol i’r lefel honno o lywodraeth.  Yn y cyfamser, galwn ar i gynghorau cymuned asesu cyflwr y Gymraeg yn eu cymunedau er mwyn paratoi ar gyfer trosglwyddo rhagor o bŵerau iddynt.

D. Chwe thema’r Comisiwn: Beth am gryfhau democratiaeth leol?

Syndod oedd gweld y diffyg pwyslais ar yr angen i gryfhau a chadarnhau democratiaeth leol yn y cyhoeddiadau’n gysylltieidig â gwaith y Comisiwn.

Credwn fod cynsail peryglus wedi ei osod yn Ynys Môn, gan i Weinidog Llywodraeth Cymru ddadrymuso’r cynghorwyr etholedig am nifer o flynyddoedd heb iddo gael caniatâd mwyafrif arbennig (super majority) yn y Cynulliad. Gwelwn fod enghreifftiau eraill o anfon Comisiynwyr i mewn i redeg gwasanaethau heb fandad democrataidd lleol na phleidlais yn y Cynulliad gyda’r angen am fwyafrif arbennig.

Dadleuir gan rai y gallai fod angen cymryd camau gwrth-ddemocrataidd mewn achosion eithriadol, fel yn achos Ynys Môn oherwydd twyll neu dan-berfformiad trychinebus. Fodd bynnag, beth fyddai’n digwydd pe byddai Llywodraeth Cymru yn methu un o’r meini prawf sylfaenol hyn? A fyddai angen diddymu democratiaeth ar lefel genedlaethol? Ni ddylid cyfaddawdu ar ddemocratiaeth ar unrhyw lefel o lywodraethiant.

Fan lleiaf, dylai fod cyfyngiadau ar y gallu i gymryd camau o’r math, gan gynnwys cymal machlud a’r angen am fwyafrif arbennig yn y Cynulliad. Ymhellach, credwn y dylid edrych ar ffyrdd o sicrhau atebolrwydd democrataidd lleol am unrhyw dan-berfformiad yn gyntaf, yn hytrach na cheisio datrys problemau o’r canol i lawr. Gellid ystyried trothwyon ar gyfer ailgynnal etholiadau lleol, refferenda lleol ar faterion penodol, yn ogystal â throthwyon statudol a fyddai’n rheoli’r broses a allai arwain at un o’r canlyniadau hyn.    

(i) Perfformiad

Rydym wedi dod ar draws nifer o broblemau gyda pherfformiadau’r cyrff sy’n dod o dan gylch gwaith y Comisiwn.

System Gynllunio

Mae’r system gynllunio yn methu’n llwyr i osod y Gymraeg fel blaenoriaeth. Mae’r problemau gyda’r system yn deillio o nifer o ffactorau gan gynnwys:

  • diffyg llais cymunedol yn y broses;

  • hen ystadegau diffygiol, anaddas ynglŷn â rhagamcanion poblogaeth;

  • arolygiaeth gynllunio nad yw’n addas i’r oes ddatganoledig, buddiannau’r Gymraeg na chymunedau Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio arwain ar effaith y system gyda Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 (a gyhoeddwyd yn ôl ym mis Mehefin 2000) a Pholisi Cynllunio Cymru: dogfennau tila iawn eu cynnwys. Hyd yn oed wedyn, anwybyddir y canllawiau hyn gan nifer o awdurdodau: ffaith a amlygir gan ystadegau am nifer yr awdurdodau sy’n cynnal asesiadau effaith iaith ar gyfer datblygiadau. Mae llai nag un ymhob tair mil o geisiadau cynllunio yn cael eu hasesu am eu heffaith ar y Gymraeg yn ôl ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth gennym. Tri awdurdod cynllunio lleol yn unig, o'r 25 yng Nghymru, sydd wedi cynnal asesiad effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn ystod y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf - cyfanswm o 16 asesiad allan o bron i 50,000 o geisiadau cynllunio a wnaed, sef 0.03%. Ni chynhaliwyd yr un asesiad effaith iaith gan gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion na Chonwy rhwng mis Ebrill 2010 a mis Ebrill 2012. Hyn er gwaethaf anogaeth gan Lywodraeth Cymru i’w cynnal.

Ar ben hynny, cadarnhawyd wrthym na all yr Arolygiaeth Gynllunio ddod i gasgliad am effaith iaith datblygiad heb dystiolaeth gadarn o asesiad effaith iaith. Hynny yw, os nad oes asesiad effaith iaith wedi ei gynnal, nid oes modd i’r arolygwyr farnu a fydd y cais yn niwediol neu beidio i’r Gymraeg. Ymhellach, ymddengys fod nifer o swyddogion cynghorau sir yn anwybodus am effaith bosibl y gyfundrefn gynllunio a cheisiadau cynllunio ar y Gymraeg.

Mae diffyg grym cymunedau lleol dros y broses gynllunio yn broblem sydd yn codi’n gyson. Gwelwn enghreifftiau o Benybanc yn Sir Gaerfyrddin i Fethesda yng Ngwynedd o gyfundrefn nad yw’n bodloni anghenion cymunedau a’r Gymraeg nac yn gosod anghenion cymunedol a barn pobl leol ar frig yr agenda.  

Mae’r holl broblemau hyn yn gofyn am broses sydd yn cychwyn o’r lefel ddaearyddol isaf bosibl gydag anghenion cymunedau yn gyntaf, yn hytrach nag un sydd yn atebol i ragdybiaethau a osodwyd o’r canol nad ydynt yn adlewyrchu anghenion.

Mae safonau’r ystadegau ym maes tai sydd yn gosod y targedau ar gyfer nifer y tai sydd angen eu hadeiladu ym mhob sir yng Nghymru nid yn unig yn niwediol i’r Gymraeg ond yn wallus ac yn annibynadwy. Gan eu bod yn seiliedig ar batrymau hanesyddol, maent yn cynnig parhad o’r un hen batrymau a fu’n niwedio’r Gymraeg a’i chymunedau. Ymhellach, ar ddechrau’r ganrif bu twf economaidd cyson; yn achos Cyngor Sir Ddinbych, pledion nhw yn llwyddiannus nad oedd y targedau am nifer y tai yn ddilys iddynt oherwydd bod y data yn dyddio’n ôll cyn y dirwasgiad. Ond pam ddylai fod rhaid iddynt ddadlau yn erbyn ystagedau o’r canol? Pam na allai cynghorau cymuned neu gynghorau sir fod yn gyfrifol am asesu’r angen lleol a gosod targedau’n annibynnol ar ystadegau gwallus Llywodraeth Cymru?

O ran y system gynllunio’n ehangach, yn gryno, credwn y dylid ailsefydlu’r system gynllunio ar sail y prif gynigion yn ein Maniffesto Byw, sef:

  • “Llunio a gweithredu Mesur i asesu'r angen lleol am dai cyn datblygu; sicrhau'r hawl i gartref am bris teg (i'w rentu neu i'w brynu) yng nghymuned y person sy'n rhentu neu brynu; blaenoriaeth i bobl leol drwy'r system bwyntiau tai cymdeithasol; system gynllunio sydd yn gweithio er budd y gymuned; sicrhau ailasesu caniatâd cynllunio blaenorol.... Sicrhau hawliau cymunedau i ymwneud â'r broses gynllunio a rhoi hawl i gymunedau a grwpiau apelio ceisiadau cynllunio.”

  • “Sefydlu ‘Arolygiaeth Gynllunio (Planning Inspectorate)’ i Gymru fel corff gwbl annibynnol, corff sydd yn gyfrifol am apeliadau ac archwiliadau i mewn i ddatblygiadau cynllunio, a sicrhau rheolaeth ddemocrataidd ohono”

  • “Dylai cynghorau yn ogystal â datblygwyr gynnal Asesiadau Effaith Iaith a rhoi sail statudol i hyn gan adolygu’r sefyllfa yn flynyddol i sicrhau y gweithredir hyn. Galwn ar Gomisiynydd y Gymraeg i adolygu pob Cynllun Datblygu arfaethedig neu sydd ar waith er mwyn asesu’r effaith ar y Gymraeg gan na wneir hynny’n ddigonol ar hyn o bryd gan TAN 20.”

  • “Dylent hefyd atal pob cynllun datblygu unedol tan fydd asesiad wedi ei wneud o’i effaith ar y Gymraeg, sicrhau bod cynghorwyr yn gallu gwrthod cais cynllunio ar sail yr effaith ar y Gymraeg, gwneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol, a gosod TAN 20 ar sail statudol.”

Gellir darllen dogfen fwy manwl am ein syniadau ynglŷn â sut i wella’r broses gynllunio trwy’r ddolen ganlynol: http://cymdeithas.org/dogfen/bil-cynllunio-cyfle-i-greu-cymunedau-cynaliadwy

Addysg

Gwelwn fod problemau yn y system addysg yn ogystal. Un enghraifft yw’r teimlad llethol mai mynd trwy’r ‘motions’ yn unig mae swyddogion ar wahanol lefelau o Lywodaeth yn ei wneud wrth gynnal ymgynghoriadau cyhoeddus ar gynlluniau ad-drefnu ysgolion. Yn hytrach na cheisio ymwneud â’r cyhoedd ymlaen llaw, gwelwn fod swyddogion yn ffurfio barn yn gynnar yn y broses ac wedyn yn cyflwyno’r peth fel fait accompli i’r cyhoedd.

Mewn rhai ymgynghoriadau, ni chaniateir digon o amser er mwyn ystyried ymatebion gan y cyhoedd oherwydd nad yw’r system yn barod am lawer o ohebiaeth. Mewn un achos, roedd dyddiad cau ymgynghoriad 10 diwrnod yn unig cyn y penderfyniad, gan adael i swyddog heb ddigon o amser ddadansoddi a phrosesu’r ymatebion lu. Mae angen symud i system ragweithiol o ddatblygu polisi, yn hytrach na’r fait accomplis a geir ar hyn o bryd mewn llawer o achosion.

Diffyg Gwasanaethau Cymraeg

Mae methiant nifer o gyrff cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau syflaenol yn Gymraeg yn broblem ddirfawr, sydd yn deillio’n rhannol o broblemau strwythurol a pholisïau cyflogaeth. Er bod y safonau iaith newydd i fod i wella’r sefyllfa, credwn fod nifer o’r problemau yn deillio o broblemau strwythurol y dylai’r Comisiwn hwn eu hystyried.

Ceir nifer o enghreifftiau o’r math o broblemau sy’n cael eu codi gyda ni yn ein Llyfr Du a gyhoeddwyd y llynedd.  

 

Hoffwn dynnu eich sylw yn benodol at y problemau difrifol ym maes iechyd, lle mae diffyg cynllunio’r gweithlu a ffactorau eraill wedi arwain at sefyllfa gwbl annerbyniol. Cydnabyddir difrifoldeb y sefyllfa gan Gomisiynydd y Gymraeg gan ei bod yn cynnal ymholiad i mewn i’r maes. Er enghraifft, cawsom gwynion am ddefnydd mewnol o’r Gymraeg gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac am bolisi cyflogaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Mewn nifer fawr o ardaloedd prin iawn yw’r gwasanaethau iechyd wyneb yn wyneb sydd ar gael yn Gymraeg. Fe wnaethom ymhelaethu ar hyn yn ein hymateb i’r ymgynghoriad ar fframwaith “Mwy na Geiriau” Llywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar, mae’r Gymdeithas wedi gorfod rhedeg ymgyrchoedd cryfion yn y de-ddwyrain er mwyn ceisio sicrhau bod awdurdodau lleol yn cadw at y gofynion sylfaenol yn eu cynlluniau iaith. Gwelwn broblemau cyffredin yn codi sydd yn deillio o ffactorau megis:

  • diffyg ymwybyddiaeth ymysg staff o’u polisïau iaith;

  • diffyg amser swyddogion iaith awdurdodau lleol yn y llefydd sydd yn cyfuno’r swydd swyddog cydraddoldeb a swyddog iaith;

  • diffyg parch yr arweinyddiaeth wleidyddol tuag at eu polisïau iaith;

  • methiant i lunio polisïau cyflogaeth a fydd yn bodloni eu cynlluniau iaith, gwella’u gwasanaethau neu wella defnydd mewnol o’r iaith.    

Ar hyn o bryd, ni welir ymdrech i geisio pontio rhwng y strategaeth addysg Gymraeg a'r gweithle. Cymerwch Gynghorau Merthyr, Torfaen, Casnewydd, neu'r Gwasanaeth Iechyd fel enghreifftiau o gyrff sydd yn methu â chynnal gwasanaethau sylfaenol yn Gymraeg er bod cymaint o dwf mewn addysg Gymraeg. Mae problemau'r sefydliadau hyn yn deillio o'u polisïau cyflogaeth ac er bod nifer fawr o blant yn gadael ysgolion yn rhugl yn Gymraeg nid oes ffordd i sicrhau defnydd o'u sgiliau ieithyddol. Mae hyn yn gam gwag o safbwynt sefydliadau sydd â mawr angen am aelodau o staff dwyieithog, ond hefyd mae'n golygu nad oes cyfleoedd gan y bobl ifanc hyn i barhau â'u Cymraeg ar ôl gadael addysg.

Mae’n hysbys bellach bod perfformiad awdurdodau cyhoeddus o ran darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg wedi amrywio’n ddifrifol, gyda rhai enghreifftiau hynod o dda, ond gyda llawer yn methu hyd yn oed o ran dyletswyddau cyfreithiol sydd wedi bodoli ers dros 15 mlynedd (Merthyr Tudful, Casnewydd, a Thorfaen ymhlith eraill).  

Mewn nifer o siroedd, mae’r system addysg yn agos at lwyddo i sicrhau bod rhan helaeth o’u disgyblion yn gallu cyflawni eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn nifer o siroedd eraill mae niferoedd yn cynnyddu’n gyflym. Fodd bynnag, nid oes pontio rhwng y polisïau addysg a’r byd gwaith.

Un o sgil-effeithiau’r methiant hwn yw lefelau allfudo uwch pobl ifanc o’u hardaloedd lleol, yr union bobl sydd yn meddu ar y sgiliau i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg. Ymhellach, allfudo yw un o’r prif ffactorau sydd yn arwain at y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a welwyd yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad.

Mae anwybodaeth swyddogion yn rhan o’r problemau yn ogystal, er enghraifft, dywedwyd wrthym, yn anghywir, gan uwch swyddog yng Nghyngor Merthyr nad oedd yn gyfreithlon iddynt hysbysebu rhagor o swyddi fel rhai Cymraeg yn hanfodol.

Sylwn fod y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, yn ystod y trafodaethau ar y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru), wedi dileu’r gofyniad bod o leiaf un o’r Comisiynwyr ar y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn siarad Cymraeg, gan ddweud y bydd y Safonau yn y Mesur Iaith yn delio â’r mater. A hynny er nad oes sicrwydd y bydd y safonau iaith newydd yn manylu ynghylch canrannau’r staff a phenodiadau cyhoeddus y bydd angen iddynt fod yn rhugl eu Cymraeg.

Gwendidau Data Eraill

Soniwyd eisoes am wendidau mawrion yn y rhagamcanion poblogaeth.

Gwelwn hefyd enghreifftiau o awdurdodau yn methu â chwblhau eu hawdit sgiliau staff, gan ddadlau, mewn rhai achosion, nad yw rhai staff yn fodlon datgan eu gallu iaith. Nid yw’n glir a yw rhai sefydliadau yn defnyddio hyn fel esgus rhag peidio ag ymwneud â gwendidau mawrion yn eu polisïau cyflogaeth. Yn amlwg, mae gwir angen gwella prosesau yn hyn o beth, ac mae’n bosibl bod hyn yn ddadl o blaid creu strwythur gyrfa cydnabyddedig yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan y gallai strwythur o’r fath gael gwell gafael ar sgiliau iaith y gweithlu.

(ii) Graddfa a gallu

Credwn fod rhaid gwahaniaethu rhwng gallu ac atebolrwydd democrataidd lleol. Ni ddylid drysu’r ddau gysyniad trwy awgrymu oherwydd y gellid cryfhau arbenigedd ar lefel ddaearyddol fwy bod yn rhaid canoli atebolrwydd democrataidd yn ogystal. Nid yw un yn dilyn y llall. Clywn yn aml resymeg dros gau ysgolion sy’n dweud nad oes adnoddau digonol ar gael i’w cynnal heb i’r awdurdod ystyried rhannu staff rhwng ysgolion trwy ffederasiwn. Mewn geiriau eraill, mae’n bosib cadw gwasanaethau’n lleol gan rannu adnoddau lle bo angen. Credwn felly bod sybsidiaredd (subsidiarity) yn egwyddor bwysig y dylai’r Comisiwn ei fabwysiadu.

Ymhellach, dylid ystyried y gellid ehangu’r adnoddau sydd ar gael a chryfhau’r arbenigedd trwy drefniant mwy lleol, a thrwy hybu’r syniad o berchnogaeth leol a sbarduno cyfraniad gan bobl leol. Dyna lle gwelwn ni’r potensial i ehangu’r adnoddau dynol sydd ar gael, gan wneud defnydd gwell o sgiliau pobl yn ein cymunedau, trwy fodelau democratiaeth gyfranogol lleol.

Cadw gwasanaethau’n lleol

Credwn fod canoli gwasanaethau a democratiaeth yn niweidiol i hyfywedd cymunedau a’r Gymraeg. Ar adeg pan fo adnoddau’n brin, dylid gwerthfawrogi cyfraniad gwirfoddolwyr mewn cymunedau a chydnabod gwerth economaidd hyn. Gall Cynghorau Cymuned drefnu gwasanaethau, yn cynnwys ysgolion, gyda mewnbwn gan wirfoddolwyr sy'n gweld gwerth cynnal y gwasanaethau oddi mewn i'w cymunedau. Dylid cydnabod bod darparu cymorth i fentrau cymunedol gwirfoddol yn gallu bod yn rhatach na cheisio trefnu o'r canol ac yn llawer gwell gwasanaeth.

Credwn y gall pob cymuned wneud awdit o'u hanghenion o ran gwasanaethau addysg, iechyd, trafnidiaeth, hamdden a chartrefi ac yn y blaen. Hoffem bwysleisio trefn y cylchoedd consentrig. Hynny yw, os derbynnir fod rhai gwasanaethau y gellir eu darparu'n fwy darbodus ar lefel mwy canolog, dylid cydnabod fod yn rhaid ar yr un pryd wneud iawn am hyn a hybu'r cylchoedd cymunedol drwy sicrhau lle’r Gymraeg fel iaith gymunedol ac fel iaith weinyddol.

(iii) Cymhlethdod

Credwn fod nifer o bartneriaethau a threfniadau rhanbarthol wedi glastwreiddio atebolrwydd, ac yn fwy penodol wedi tanseilio polisïau iaith mewn nifer o achosion.

Rydym wedi derbyn cwynion am ddiffygion ymddiriedolaeth iechyd Betsi Cadwaladr, a daeth adroddiad Comisiynydd y Gymraeg ym mis Ionawr eleni i’r casgliad bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi methu â chydymffurfio â chymalau’n ymwneud â phedwar maes yn ei Gynllun Iaith: polisïau a mentrau newydd, safon y gwasanaeth, recriwtio staff a gweithredu a monitro’r Cynllun. Felly tra bod Cyngor Gwynedd yn arwain y ffordd o ran defnydd mewnol o’r Gymraeg, mae’r cyrff sydd yn rheoli iechyd yn yr un ardal yn cael eu condemnio gan reoleiddiwr y maes.

Pryderwn hefyd fod trefniant addysg rhanbarthol yn y gogledd wedi tanseilio gweinyddiaeth fewnol Gymraeg Gwynedd hefyd. Yn sicr, ni fu ystyriaeth o effaith ieithyddol newidiadau o’r fath.

Problemau Partneriaethau, Preifateiddio a Chontractio Allan

Wrth i wasanaethau gael eu darparu gan y trydydd sector neu gwmnïau preifat, yn aml iawn gwelwn broblemau yn datblygu gydag atebolrwydd am eu polisïau iaith.

Fel mudiad, gwrthwynebwn y broses o breifateiddio gwasanaethau fel mater o egwyddor. Wedi dweud hynny, credwn fod digon o resymau ymarferol hefyd dros beidio â gadael i bartneriaethau a chontractio allan ddigwydd.

Mae creu partneriaethau yn creu cymhlethdodau o ran sicrhau cydymffurfiaeth â chynlluniau iaith a, bydd hyn, maes o law, yn creu problemau i gyfundrefn newydd y Safonau iaith. O dan yr hen system a’r system newydd bydd rhaid enwi cyrff sydd yn dod o dan gwmpawd y ddeddfwriaeth. Wrth i bartneriaethau gael eu creu, collir eglurder o ran a yw’r corff yn ddarostyniedig i safonau a chynllun iaith ai peidio. O safbwynt yr unigolyn, sydd am hawliau clir i wasanaethau Cymraeg, ac, yn wir, i’r cyrff yn y bartneriaeth, mae’n creu aneglurder sydd yn lleihau defnydd o’r Gymraeg. Os oes rhaid creu partneriaethau, dylai fod yn glir bod yr endid newydd a’u partneriaid yn ddarostyngedig i gynllun iaith neu Safonau iaith perthnasol.

Ceir cwestiynau am faterion o’r fath; er enghraifft, a yw meysydd parcio yn gorfod cydymffurfio â pholisi iaith awdurdod lleol. Yn anffodus, mae’n dibynnu pwy sydd biau’r safle neu beth yw manylion contractau unigol. Sylweddolwn fod y Safonau iaith i fod i fynd i’r afael â rhai o’r problemau hyn, ond nid yw’n glir y byddant yn gwneud hynny, ac yn sicr po fwyaf y nifer o bartneriaethau, consortia, contractio allan, ac ati, po leiaf eglur y bydd y ddarpariaeth iaith i’r unigolyn a’r gweithiwr. Yn ddiweddar, gwelwyd  problemau yn dod i’r amlwg o ran darpariaeth gan bartneriaid Chwaraeon Cymru o weithgareddau hamdden i blant. Mae darpariaeth yn wan yn rhannol oherwydd bod y ddarpariaeth yn ddibynnol ar is-gontractau.

Gofal Iechyd

O safbwynt darparu gofal iechyd, mae goblygiadau iaith pwysig i sicrhau cysondeb darpariaeth ac integreiddio gofal iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion.

Gwelwn fod problem eisoes yn datblygu wrth i Lywodraeth Cymru baratoi safonau iaith yn ymwneud ag awdurodau lleol cyn i’r rhai ar gyfer y gwasanaeth iechyd gael eu cyflwyno. Byddai hynny, heb ddatrysiad brys, yn golygu anghysondeb rhwng darpariaeth Gymraeg yn y ddwy sector. Byddai un rhan o’r gwasanaeth yn gweithredu ar un set o ddyletswyddau iaith a’r llall ddim.

Dyna fyddai mantais sicrhau isafswm o wasanaethau Cymraeg, fel yr argymhellwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg y llynedd, a fyddai’n sicrhau cysondeb ar draws y sector gyhoeddus a’r drydedd sector. Credwn y dylai’r Comisiwn bwysleisio pwysigrwydd hyn yng nghyd-destun yr ymgynghoriad ar y safonau iaith. Er enghraifft, os yw unigolyn yn colli eu hail iaith oherwydd afiechyd, wedyn mae’n hanfodol darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn Gymraeg pa gorff bynnag sydd yn darparu’r gwasanaeth.

(iv) Diwylliant ac arweiniad

Wrth geisio gwella arweinyddiaeth, mae’n hanfodol darparu hyfforddiant ar gyfer arweinwyr y dyfodol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyfforddiant mewn nifer o feysydd yn y gwasanaethau cyhoeddus - megis arolygwyr cynllunio - yn digwydd tu allan i Gymru. Wrth reswm, nid yw’r hyfforddiant tu allan i Gymru ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, ond gwelwn hefyd bod diffyg dealltwriaeth o gyd-destun Cymru - megis polisïau cynllunio a chyfraith Cymru - yn achosi problemau eraill o ran, er enghraifft, dealltwriaeth o effaith y gyfundrefn gynllunio a cheisiadau cynllunio ar y Gymraeg. Dylid sicrhau bod gan y Coleg Cymraeg rôl ganolog wrth ddarparu hyfforddiant ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Hawliau gweithwyr

Bob dydd, mae nifer fawr o weithwyr yn cael eu gorfodi de facto i ddefnyddio’r Saesneg yn y gwaith, yn groes i’w hawliau sylfaenol oherwydd mai Saesneg yw iaith gweinyddiaeth fewnol y sefydliad.

Mewn cyfarfod diweddar gyda Derek Jones, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, dywedodd wrthym nad yw’n realistig sicrhau bod pob gweithiwr yn y gwasanaeth sifil â’r hawl i weithio’n Gymraeg yn y tymor byr. Fodd bynnag, roedd yn gefnogol i’r syniad o gynyddu nifer yr adrannau a fyddai’n gweinyddu’n fewnol trwy’r Gymraeg.

Wrth i’r Comisiwn ystyried llwybr gyrfa cydnabyddedig yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae angen sicrhau bod gan weithwyr hawliau i ddysgu Cymraeg, i dderbyn eu holl hyfforddiant yn Gymraeg yn ogystal ag i wneud eu gwaith dydd-i-ddydd yn Gymraeg.

Gwelwn hefyd fod problemau o ran arweiniad ar bolisi cyflogaeth yn gyffredinol. Rydym wedi cyfeirio eisoes at y diffyg pontio rhwng addysg Gymraeg a’r byd gwaith. Crëir llawer o broblemau oherwydd nad yw arweiniad cyrff fel Comisiynydd y Gymraeg ac arferion gorau yn cael eu trosgwlyddo a’u dilyn gan gyrff megis awdurodau lleol.

(v) Llywodraethu

Ad-drefnu Llywodraeth Leol

Fel dywedom uchod, wrth ad-drefnu llywodraeth leol, dylid ehangu nifer y cyrff cyhoeddus a’r awdurdodau lleol sydd yn gweinyddu’n fewnol yn Gymraeg. Fan lleiaf, ni ddylid caniatau peryglu gweinyddiaeth fewnol Cyngor Gwynedd, lle cafwyd rhywfaint o dystiolaeth o’r Cyfrifiad fod y polisi wedi atal dirywiad, ac, mewn rhai achosion, wedi hybu twf y Gymraeg mewn rhai cymunedau.

Yn hynny o beth, credwn yn gryf na ddylid creu un cyngor sir ar gyfer rhanbarth y gogledd; byddai hyn yn niwediol i’r iaith drwy danseilio polisi iaith Cyngor Gwynedd. Ar y llaw arall, gan dderbyn y pwysau gwleidyddol i uno cynghorau, gallai uno Cyngor Gwynedd ac Ynys Môn gynnig cyfle i ehangu polisi gweinyddiaeth fewnol Gwynedd i ardal arall.  

Ymhellach, rydym yn pryderu bod trefnu rhai gwasanaethau ar lefel ranbarthol ar hyn bryd yn gwanhau polisi iaith Gwynedd a siroedd eraill. Enghraifft o hyn yw’r defnydd cynyddol o athrawon cyflenwi sy’n cael eu darparu i ysgolion gan y Consortia Rhyng-sirol. Dylai unrhyw drefniadau o’r fath, fan lleiaf, ddiogelu polisi iaith siroedd fel Gwynedd, gan ymestyn y polisi i gyrff eraill megis byrddau iechyd, awdurodau lleol eraill ac adrannau Llywodraeth Cymru dros amser.

O ran sicrhau polisïau iaith cadarn, mae’r tueddiad i drefnu gwasanaethau trwy drydydd parti yn creu cymhlethdod o ran cyfrifoldeb darparu gwasanaeth Gymraeg. Gan amlaf, gwelwn fod trefnu gwasanaeth trwy gontract allanol, ac yn sicr preifateiddio gwasanaethau, yn golygu yr anghofir y Gymraeg. Mae hynny’n digwydd hefyd er gwaethaf cymalau mewn cytundebau ynghylch darpariaeth Gymraeg.

(v) Darparu a chraffu

Yn sicr, gwelwn fod llawer gormod o rym yn gorwedd yn nwylo swyddogion vis-a-vis cynghorwyr sir. Gwelwn nifer o enghreifftiau lle mae cynghorwyr etholedig yn gorfod brwydo yn erbyn swyddogion er mwyn cyflawni dymuniadau pobl. Yn hynny o beth, byddem yn croesawu camau a fyddai’n creu ffynhonnell wybodaeth a chefnogaeth annibynnol ar swyddogion y cyngor fel bod modd gwella craffu a chryfhau llaw cynghorwyr etholedig .

Hawliau Cynghorwyr i Ddefnyddio’r Gymraeg

Mae gennym dystiolaeth fod problemau mawrion yn wynebu cynghorwyr mewn nifer o siroedd wrth iddynt geisio siarad a gweithio yn Gymraeg. Cafwyd cwynion o siroedd megis Castell Nedd, Caerdydd ac Ynys Môn ynglŷn â hawl cynghorwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith. Nid oes modd i gynghorwyr mewn llawer o siroedd siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd cyngor oherwydd diffyg darpariaeth cyfieithu ar y pryd.  Gall hyn fod yn broblem hyd yn oed yn fwy yn ein cynghorau cymuned oherwydd diffyg adnoddau.

Wrth ddiweddaru ei gynllun iaith yn ddiweddar, honnodd Cynulliad Cymru y bydd yn gallu darparu technoleg a all weddnewid darpariaeth yn y maes hwn.  Ni welwyd cynnydd ar yr addewid hwnnw hyd yma. Ymhellach, mae Comisiwn y Cynulliad wedi addo darparu briffiadau i Aelodau Cynulliad yn Gymraeg. Dylid sicrhau y darperir yr holl gymorth briffio, craffu a gwasanaethau eraill yn Gymraeg i gynghorwyr ac aelodau etholedig eraill yn Gymraeg yn ogystal.

(vi) Swyddogaeth Llywodraeth Cymru

Yn bendant, gwelwn ddiffyg trosglwyddo’r arweiniad polisi a geir yn strategaeth iaith a strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru i gyrff eraill. Gwelwn na throsglwyddir arfer da mewn rhai cyrff o ran polisi cyflogaeth. Er enghraifft, er bod nifer o gyrff yn gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg eisoes, gwelwn ddiffyg dealltwriaeth ymysg cyrff eraill megis Cyngor Ceredigion ynglŷn â sut i symud at yr arfer da hwnnw.

Gwelwn rai problemau gyda rhaglenni megis Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif. Mae defnyddio’r rhaglen honno i orfodi cau ysgolion pentrefol Cymraeg yn creu niwed mawr i gymunedau Cymraeg. Credwn fod y rhaglen yn seiliedig ar bwyslais biwrocrataidd ar adeiladau ac yn tanbrisio gwerth cefnogaeth deuluol a chymunedol yn y broses addysg ac adnabyddiaeth leol o swyddogaeth rhai ysgolion oddi fewn i’w cymunedau. Yn ymarferol dywed cynghorwyr etholedig eu bod yn gorfod mynd yn groes i’w barn eu hunain ac i ddymuniadau’r cymunedau y maent yn eu cynrychioli er mwyn denu buddsoddiad. Swyddogaeth strategaeth genedlaethol ddylai fod sicrhau hawliau sylfaenol - fel mynediad at addysg Gymraeg nad sy’n cael ei barchu ar hyn o bryd gan Gyngor Caerdydd. Dylid rhannu arian cyfalaf pro-rata rhwng siroedd gan ganiatau iddynt ddewis eu blaenoriaethau - cyn belled a’u bod yn parchu hawliau sylfaenol - gyda chronfa fach argyfwng wrth gefn. Credwn fod rhaid sicrhau bod pob plentyn yn gallu derbyn addysg cyfrwng Gymraeg, a chredwm mai deddfwriaeth yw’r ffordd briodol o sichrau hynny. Efallai o ganlyniad i ddiffyg grymoedd statudol y Cynulliad yn ei ddyddiau cynnar, gwelwyd gor-ddefnydd o ddulliau ariannol o sicrhau cydymffurfiaeth â pholisiau Llywodraeth Cymru: statud yw’r ffordd fwyaf priodol ymlaen erbyn hyn.

 

E. Ymatebion i gwestiynau’r holiadur

Gweler ein hymatebion llawn uchod, ond darperir ymatebion i rai o gwestiynau penodol yr ymgynghoriad isod yn ogystal.

 

1. Gan feddwl am y gwasanaethau cyhoeddus rydych chi a phobl eraill sy’n agos atoch wedi’u defnyddio, beth yw eich barn am y canlynol:

Mewn nifer fawr o achosion, nad ydy gwasanaethau cyhoeddus yn bodloni siaradwyr Cymraeg. Ceir enghreifftiau cyson a difrifol o’r methiannau hynny yng ngwasanaethau iechyd, gofal, a llwyth o wasanaethau eraill.

Gwelwn hefyd bod cyrff cyhoeddus yn tramgwyddo ar hawliau gweithwyr i ddysgu’r Gymraeg ac i weithio ynddi. Am rai enghreifftiau penodol, gweler ein Llyfr Du (www.cymdeithas.org/llyfrdu2012) a gyhoeddwyd gennym y llynedd.

Er bod y Safonau iaith newydd i fod i ddatrys y sefyllfa, mae’r drefn lywodraethu yn achosi nifer o broblemau, felly mae angen sicrhau strwythur a fydd yn cyfrannu at wella’r sefyllfa.

2. A oes yna wasanaeth neu wasanaethau penodol sy’n well nag eraill, yn eich barn chi? Os felly, pa wasanaethau yw’r rhain a beth sy’n dda amdanyn nhw (er enghraifft, ydyn nhw’n arbennig o effeithiol neu’n dda am wrando arnoch a deall eich anghenion?)

Gweler ein hymatebion uchod.

Gwelwn wendidau mawrion yn nealltwriaeth a gallu adrannau adnoddau dynol i lunio polisïau cyflogaeth sydd yn sicrhau gweithlu â’r sgiliau i gyflawni eu polisïau iaith. Dywedwyd wrthym gan uwch swyddog adnoddau dynol Merthyr Tudful, nad oedd modd iddynt, yn gyfreithiol, hybysebu mwy nag un swydd (sef swydd y Swyddog Iaith Gymraeg) lle mae gallu’r Gymraeg yn hanfodol. Hynny er gwaethaf polisi cwbl wahanol mewn siroedd cyfagos megis Caerffili a Blaenau Gwent lle mae llawer mwy o swyddi â’r Gymraeg yn hanfodol iddynt.


Ymhellach, gwelir llu o enghreifftiau lle na hysbysebir swyddi fel rhai Cymraeg yn hanfodol er eu bod yn hanfodol yn y gorffennol, megis Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth yn hybysebu am Is-Ganghellor. Yn ogystal, gwelwn dueddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru i beidio â gweld swyddi fel rhai Cymraeg yn hanfodol er gwaethaf gwrthwynebiad gan gymdeithas sifig, megis diddymu’r angen i un aelod o fwrdd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru fod ag un aelod sydd yn medru’r Gymraeg.

3. Pan fydd angen gwasanaethau arnoch, a ydych yn gwybod pa sefydliadau sy’n eu darparu a sut i gael gafael ar y gwasanaethau yma?

Eto, gwelwn fod anghysondeb yn y ddarpariaeth Gymraeg a gynigir; mae’r diffyg cysondeb yn lleihau defnydd o’r Gymraeg gan fod disgwyliadau a phrofiadau pobl yn amrywio ar draws gwahanol sectorau.


4. Pan fydd arnoch angen defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, a ydych yn gallu gwneud hynny yn y ffordd sydd orau gennych chi (er enghraifft, os yw’n well gennych gyswllt wyneb yn wyneb, a yw’r dewis hwnnw ar gael i chi? Neu os yw’n well gennych gysylltu â gwasanaethau ar y ffôn neu arlein, a yw’r opsiynau hynny ar gael i chi? A ydych yn gallu defnyddio gwasanaethau yn yr iaith rydych am ei defnyddio?) Dywedwch wrthym am unrhyw beth sy’n ei gwneud hi’n hawdd neu’n anodd manteisio ar wasanaethau.

Gweler ein hymatebion uchod.

Gwelir yn aml wrth i wasanaethau gael eu darparu trwy ddull newydd nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â’r Saesneg. Gwelir hyn gyda llawer o awdurdodau cyhoeddus gyda chyfrifon twitter a Facebook uniaith Saesneg.

Rydym fel mudiad wedi gorfod treulio llawer o amser yn ceisio gwthio awdurdodau i ddarparu gwefan Gymraeg - yn nifer o achosion mae gwefannau Cymraeg yn anghyflawn; hynny yw, nid yw cant y cant o’r cynnwys ar gael yn Gymraeg. Gwelir nifer o gyrff lle nad yw’r gwasanaethau megis talu biliau ar-lein ar gael yn Gymraeg.   

Am ragor o enghreifftiau, gweler ein hymateb i’r ymgynghoriad ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 http://www.cynulliadcymru.org/mi_47_-_cymdeithas_yr_iaith_gymraeg_-_annex_1__w_.pdf a’n Llyfr Du www.cymdeithas.org/llyfrdu2012  


5. Gan feddwl am y gwasanaethau cyhoeddus rydych chi a phobl eraill sy’n agos atoch wedi’u defnyddio, a ydych wedi cael profiad o sefydliadau neu wahanol rannau o sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd (fel y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol)?

a) a oedd hwn yn brofiad da?      

b) a fedrwch chi feddwl am adegau pan fyddech wedi derbyn gwell gwasanaeth pe byddai gwasanaethau wedi gweithio gyda’i gilydd yn well?      

Gweler ein sylwadau uchod am broblemau gyda phartneriaethau.

6. A ydych yn meddwl fod gwasanaethau yn deall yr hyn y mae’r cyhoedd yn ei ddisgwyl ganddyn nhw, ar y cyfan, ac a ydych yn meddwl eu bod nhw’n dda am ymateb pan fydd anghenion ac amgylchiadau yn newid?

Ar y cyfan, credwn fod darparwyr gwasanaethau mewn nifer fawr o ardaloedd yn anwybyddu anghenion y Gymraeg a’i chymunedau - gwelwn gyfuniad o gamddealltwriaeth, difaterwch a gelyniaeth i’r Gymraeg. Gweler ein sylwadau uchod am y gyfundrefn gynllunio.


7. A ydych yn gwybod sut i leisio pryder am wasanaethau yn eich ardal ac a ydych yn teimlo bod cyfle ichi ddwyn gwasanaethau i gyfrif (ac a ydych yn deall sut i wneud hynny)?

Gwelwn fod cymhlethdodau wrth gwyno am wasanaethau. Mae Comisiynydd y Gymraeg yn mynnu bod rhaid cwyno wrth y corff dan sylw cyn mynd ati hi gyda chŵyn er bod nifer o’r cwynion ynglŷn â materion lle dylai gwasanaethau gael eu darparu gan y corff dan sylw fel rhan o’u cynlluniau iaith. Credwn fod angen cwestiynu sut a pham bod y system fel hynny.

Hefyd, nid yw’r berthynas rhwng system gwyno’r corff, Comisiynydd y Gymraeg a’r Ombwdsmon yn glir. Oherwydd bod rhagor o bwerau a chyflymder yn perthyn i gwynion sydd yn mynd at yr Ombwdsmon Cyrff Cyhoeddus, weithiau byddwn ni’n cynghori pobl i fynd ato yn hytrach nag at Gomisiynydd y Gymraeg.  


Gweler ein sylwadau uchod am yr angen i gryfhau pwerau cynghorau cymuned, cadw gwasanaethau’n lleol er mwyn i bobl deimlo perchnogaeth drostynt, a modelau democratiaeth gyfranogol er mwyn cryfhau atebolrwydd.

8. Yn olaf, dywedwch wrthym sut y credwch y gellid gwella’r ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus Cymru eu darparu.

Gweler ein prif ymateb uchod.

Medi 2013, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg