Comisiwn Silk: Rhan II - Ein Hymateb

Ymateb i Gomisiwn Silk [PDF]

Credwn y byddai’r gyfundrefn ddatganoli yn gliriach gan ddilyn model yr Alban a Gogledd Iwerddon o bŵerau cadwedig yn hytrach na phŵerau wedi trosglwyddo. Mae mwyafrif clir o bobl Cymru wedi datgan mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddylai fod â’r dweud mwyaf dros benderfyniadau sy’n effeithio Cymru.

Hoffem ganolbwyntio ar yr achos dros ddatganoli darlledu, ond hoffem hefyd bwysleisio ein bod yn cytuno gyda’r angen i ddatganoli’r system gyfiawnder troseddol yn ei gyfanrwydd i Gymru. Mae ein haelodau yn dioddef camwahaniaethu cyson wrth iddynt geisio defnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â’r heddlu, gwasanaethau’r llysoedd, carchardai ac yn y llys, ac felly deallwn yn glir yr angen dirfawr i greu cyfundrefn gyfiawnder Gymreig.

I. Cyflwyniad - Datganoli Darlledu i Gymru

Yn sgil profiadau ein haelodau yn ystod ymgyrchoedd diweddar parthed S4C, Radio Cymru a’r anhawster wrth osod amodau iaith Gymraeg ar radio lleol masnachol, credwn yn gryf y dylid datganoli darlledu i Gymru. Manylwn isod rhai o’r profiadau a arweiniom at y casgliad hwn.  

Ar ôl lansio ymgyrch dros ddatganoli darlledu, cawsom gefnogaeth gref gan nifer fawr o fudiadau ac unigolion megis Merched y Wawr, UCAC, arweinwyr sawl cyngor sir a nifer o wleidyddion o’r pedair prif blaid yng Nghymru.

Argymhellwn y dylid:

● Datganoli grym dros ddarlledu a thelathrebu i’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod yr arbenigedd a'r gallu i wneud y penderfyniadau cywir dros ddyfodol darlledu yng Nghymru;

● Ffederaleiddio’r BBC - mae'n hanfodol bod datganoli grym yn digwydd o fewn y BBC gyda system ffederal fel y dewis gorau, er mwyn sicrhau tegwch a chydbwysedd, gydag ymddiriedolaeth BBC Cymru wedi ei phenodi gan y Cynulliad Cenedlaethol;

● Trosglwyddo’r hawl i drwyddedu gwasanaethau radio a theledu i’r Cynulliad Cenedlaethol, yn cynnwys radio a theledu lleol, a thrwydded newydd ar lefel Gymreig i’r trydydd sianel deledu masnachol;

● Rhoi grym i’r Cynulliad Cenedlaethol osod amodau Cymraeg ar drwyddedau radio a theledu lleol;

● Dylid datganoli cyllideb S4C i’r Cynulliad Cenedlaethol a datganoli’r pwerau deddfwriaethol er mwyn i’r Cynulliad sefydlu fformiwla ariannu i S4C er mwyn diogelu dyfodol y sianel yn y tymor hir;

● Galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol ehangu cylch gwaith S4C i gynnwys darparu gwasanaethau Cymraeg ar bob cyfrwng, yn hytrach na gwasanaeth teledu yn unig;

● Ehangu pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddynt osod dyletswydd i ddarparu gwasanaethau Cymraeg eu hiaith ym maes darlledu oherwydd y cydgyfeiriant technolegol o safbwynt darparu gwasanaethau.

II. Ein Gweledigaeth

Mae presenoldeb y Gymraeg yn y cyfryngau yn hollbwysig i bawb yng Nghymru. Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw bod gan bawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, hawliau i'r Gymraeg. Hynny yw, nid yn unig hawliau i'w defnyddio a'i dysgu, ond hefyd i wrando arni a'i gweld. Yn ogystal, credwn fod cynnwys Cymraeg unigryw ar y cyfryngau yn cyfoethogi a chryfhau’r iaith. Felly, mae presenoldeb a defnydd cynhwysfawr o’r iaith ar y teledu, radio, y we a phob cyfrwng arall yn allweddol i'n gweledigaeth ni fel mudiad.

Mewn nifer o ffyrdd mae cynlluniau Llywodraeth bresennol y DG yn tanseilio'r ymdrechion trawsbleidiol a fu i roi lle priodol i’r iaith Gymraeg yn y cyfryngau. Yn y cyfryngau yn gyffredinol, mae’r iaith Gymraeg yn wynebu talcen caled, gyda dirywiad eithafol yn narpariaeth yn y Gymraeg ar orsafoedd radio masnachol megis Heart FM a Radio Ceredigion. Credwn ymhellach bod y gyfundrefn ddarlledu Brydeinig yn milwrio yn erbyn buddiannau’r Gymraeg a chymunedau Cymru gan atal twf y Gymraeg wrth fethu rhoi adlewyrchiad teg o fywyd Cymru yn ei gyfanrwydd.

III. Problemau diweddar ym maes darlledu

(a) Radio Masnachol

Gellir gweld yn glir effeithiau negyddol y farchnad rydd yng nghyd-destun radio lleol, lle mae allbwn Cymraeg wedi dirywio yn sylweddol oherwydd diffyg rheoleiddio. Mae hanes Radio Ceredigion a Radio Sir Gar yn enghreifftiau o’r hyn sydd yn digwydd. Mae hefyd wedi amlygu tueddiad y farchnad i danseilio mentrau Cymraeg eu hiaith, gan nad yw’r gyfraith yn amddiffyn natur ieithyddol y mentrau hyn nac yn rhoi cymorth positif i annog a thyfu cynnwys radio Cymraeg.

Mae profiad diweddar gyda Radio Ceredigion yn amlinellu’r broblem i’r dim. Er gwaethaf gwrthwynebiad cryf gan y cyhoedd i gwtogiadau i allbwn Cymraeg yr orsaf, fe lwyddodd perchnogion Radio Ceredigion i newid eu hamodau iaith a lleihau'r nifer o oriau a ddarlledir yn Gymraeg ar yr orsaf.

Ar Fai 10fed 2011, gwnaeth perchnogion Radio Ceredigion, Town and Country Broadcasting gais i Ofcom i adael iddynt ddarlledu llai o Gymraeg. Cynhaliodd Ofcom ymgynghoriad ar y cais o 10 Mai tan 3 Mehefin 2011. Ond, oherwydd gwrthwynebiad cryf gan y cyhoedd, gwrthododd Ofcom y cais. Fodd bynnag, ar Fedi 6ed 2011, cyhoeddodd Ofcom y byddai trwydded Radio Ceredigion yn cael ei hysbysebu'n agored ym mhen y mis yn caniatáu i'r un cwmni ceisio am yr un drwydded heb unrhyw amodau Cymraeg.  Datganwyd y byddai trwydded Ceredigion yn cael ei ail hysbysebu'n llawn ar 4 Hydref 2011. Enillodd Town and Country Broadcasting y cytundeb, a nawr yn darlledu llawer llai o oriau Cymraeg, sydd yn groes i amcanion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r Gymraeg.

Ymhellach, cafwyd ffrae gyfreithiol rhwng Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac Ofcom ynghylch y pwerau o dan Ddeddf Iaith 1993 i osod amodau iaith ar ddalwyr trwydded trwy gynllun iaith Ofcom. Credwn y dylid datganoli'r grymoedd dros drwyddedau radio er mwyn sicrhau eglurder ynghylch y materion hyn a thegwch i’r Gymraeg a chymunedau Cymru yn y ddarpariaeth ddarlledu.

Fe ddadleuem fod y term 'radio lleol' yn ddiystyr yng Nghymru gan mai cwmnïau masnachol sy'n ennill y trwyddedau ac yn rheoli'r orsaf. Maent yn dod o'r tu allan i'r gymuned ac mae'r gwasanaeth a gynigir ganddynt yn gwbl Seisnig. Credwn mai cyfundrefn Gymreig yn unig y gallai diogelu gwasanaethau Cymraeg eu hiaith yn y pen draw. Ond, nes bod hynny’n bosib, mae angen newidiadau i’r gyfraith fel bod modd i awdurdod Cymreig mynnu ar ddarpariaeth Gymraeg ar bob gorsaf radio lleol.

(b) BBC Cymru / Radio Cymru

Mae strwythur presennol y BBC yn golygu fod BBC Cymru yn ddim ond adain o'r BBC nad sydd mewn gwirionedd yn cael rhwydd hynt i weithio yn ddigon annibynnol a strwythur Prydeinig sydd iddi. O ddatganoli byddai modd creu model BBC Cymreig a fyddai'n galluogi'r gorfforaeth i greu strwythur cymunedol ac yn gweithio o ardaloedd amrywiol drwy Gymru yn hytrach na bod yn ganolog i Gaerdydd.

Gwelwyd toriadau cyson i Radio Cymru dros y blynyddoedd diwethaf; ni all yr orsaf gallu darparu gwasanaeth sydd yr un mor gyflawn â Radio Wales. Mae’r toriadau hyn yn profi nad oes ystyriaeth i anghenion Cymreig ac ieithyddol wrth wneud toriadau canolog gan y BBC. Cydnabyddwn fod y toriadau hyn yn rhan o batrwm o ymylu Cymru o fewn strwythurau’r BBC - lleihaodd Siarter 2006 y BBC ddylanwad Cymru a'r Alban a'r rhanbarthau seisnig ymhellach. Gwelwyd gostyngiad mewn darlledu gan BBC Cymru rhwng 2005 a 2009 - ar adeg pan gododd pris y drwydded - disgynnodd cynnyrch rhanbarthol o 824 awr i 696 a newyddion a materion cyfoes o 500 i 420 (cwymp o 16%) gyda rhaglenni eraill o 324 i 276 awr.

Mae gwefan Gymraeg y BBC yn cynnig gwasanaeth eilradd mewn cymhariaeth â’r un Saesneg, er enghraifft, nid oes gwasanaeth chwaraeon Cymraeg ar y safle bellach. Rydym hefyd wedi gweld y gorfforaeth yn tynnu allan ei bresenoldeb cyhoeddus o’r Eisteddfod yr Urdd. Mae hynny i gyd yn achosi cryn bryder wrth i’r gorfforaeth ceisio cyd-reoli ein hunig sianel deledu Cymraeg.

Mae'r anghydfod diweddar rhwng BBC Radio Cymru ac EOS yn dangos yr angen
gwirioneddol sy’n bodoli i ddatganoli darlledu i Gymru. Yn 2007 newidiodd y PRS
eu fformiwla breindaliadau i gerddorion oedd neu sydd yn canu drwy gyfrwng y
Gymraeg, canlyniad hynny oedd torri 85% mewn breindaliadau i gerddorion Cymru.
Colled o tua 1.2 miliwn o bunnoedd y flwyddyn, i ddiwydiant sy’n hynod o bwysig
yn y maes o hyrwyddo'r iaith Gymraeg ymysg bobol ifanc Cymru. Gwelwn fod penderfyniadau’r BBC, ac awdurdodau eraill yn Llundain, ynglyn â’r materion hyn yn amlygu diffyg dealltwriaeth BBC yn ganolog, a’r anallu i weld Radio Cymru a gwasanaethau Cymraeg fel gwasanaeth cenedlaethol.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae EOS wedi bod yn weithgar yn lobïo'r PRS, y BBC a
Llywodraeth Cymru am ateb i'r argyfwng presennol. Hefyd, gwelwn fod EOS wedi bod
yn gyfrifol am ddwy astudiaeth annibynnol o’r sefyllfa, un gan Brifysgol Cymru
a'r llall gan gwmni Cambrensis. Mae'r ddwy astudiaeth wedi datgan bod angen
datganoli o leiaf rhan o'r cyfrifoldeb dros freindaliadau Cymraeg i gorff yng
Nghymru. Credwn, os yw unrhyw gorff newydd am weithio’n effeithiol er lles cerddorion Cymru, ei bod hi'n hanfodol felly bod y cyfrifoldeb o oruchwylio corff o’r fath yn
dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Er mwyn i hyn ddigwydd, rhaid datganoli
grymoedd dros ddarlledu yng Nghymru i Lywodraeth Cymru.

Ymhellach, ymhell cyn i ni glywed am setiau Radio DAB cafwyd penderfyniad tyngedfennol yn y BBC sydd wedi achosi problemau dybryd i wrandawyr radio Cymraeg flynyddoedd yn ddiweddarach. Penderfynwyd gosod Radio Cymru, Radio Wales a Radio Scotland yn yr un categori a gorsafoedd rhanbarthol y BBC yn Lloegr gyda'r bwriad i'r rhain gael lle ar blethiad radio digidol lleol ar y cyd gyda gorsafoedd radio masnachol yn lle bod ar y plethiad BBC ar draws Prydain.

Mae hyn wedi gweithio yn dda yn Lloegr ond gyda radio masnachol yn wan yn gyffredinol yng Nghymru a phroblemau gyda derbyniad radio digidol yn rhannau helaeth o Geredigion, Sir Conwy, Gwynedd, Sir Benfro ac Ynys Môn, sydd yn ardaloedd lle ceir canran fawr o wrandawyr Radio Cymru, mae wedi bod yn andwyol. Rydym dal yn aros i gael Radio Cymru ar DAB mewn rhannau helaeth o Gymru am fod y model a osodwyd gan y BBC yn ganolog heb ystyried goblygiadau unigryw cenedlaethol Cymru.

(c) S4C

Daeth S4C i fodolaeth yn sgil ymgyrch boblogaidd hir a thrwy gonsensws gwleidyddol. Bu'r frwydr i sefydlu'r Sianel yn hir a chostus: llwyddodd y Gymdeithas a'i chefnogwyr i sefydlu'r achos yn y lle cyntaf dros yr angen am sianel ar wahân ar gyfer rhaglenni Cymraeg, a chreu consensws eang yng Nghymru o blaid yr achos hwnnw. Carcharwyd nifer o aelodau'r Gymdeithas - am rychwant o gyfnodau o ychydig ddyddiau hyd at 2 neu 3 blynedd, a bu'r gost yn ddrud iawn i nifer. Yn y cyd-destun hanesyddol hynny gosodwyd fformiwla ariannu S4C mewn statud; er mwyn sicrhau na fyddai ymyrraeth wleidyddol yn y dull y’i hariennir.

Yn 2010, fe benderfynwyd mewn cyfarfod preifat, o fewn cyfnod o 24 awr, yn Llundain rhwng swyddogion y Llywodraeth a’r BBC - gan gynnwys Jeremy Hunt a Mark Thompson - ar gwtogiadau enfawr i gyllideb S4C a newidiadau cyfansoddiadol sylweddol i’r sianel. Penderfyniad a wnaed heb unrhyw fath ymgynghoriad gyda phobl Cymru na mandad maniffesto i’w wneud. Felly, bu’r penderfyniad yn gwbl groes i ewyllys pobl Cymru ac yn annemocrataidd o safbwynt Cymreig. Er gwaethaf ymgyrch dorfol ar lawr gwlad a gwrthwynebiad cymdeithas sifil, llwyddodd Llywodraeth y DU ddileu’r fformiwla ariannu a fodolai mewn statud, gan adael sefyllfa ariannol y sianel wedi 2015 ac i raddau mwy wedi 2017 i fympwy unigolion yn hytrach na’r broses ddeddfwriaethol. Credwn fod y sefyllfa ddeddfwriaethol yn gyfrifol am yr ansicrwydd i’r sianel yn y tymor canol / hir, a bod angen datganoli cyfrifoldeb a’r gyllideb i Gymru er mwyn sefydlogi darlledu yn Gymraeg.

Er ymddengys fod rhyw fath o sicrwydd ariannol i S4C nes 2017, mae'r sianel yn dal i wynebu cwtogiadau enfawr, ac mae annibyniaeth y sianel heb warant a gan bod un darlledwr yn rheoli darlledwr arall. Felly, er ein bod yn sicr y bydd S4C yn bodoli yn y dyfodol, nid oes sicrwydd am y math o ddyfodol sy'n ei hwynebu. Heb newidiadau i’r cynlluniau a gyhoeddwyd, pryderwn y byddwn yn wynebu cystadleuaeth am adnoddau rhwng dwy iaith ein gwlad. Buom yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu gan ein bod yn credu mai yma yng Nghymru y dylid gwneud penderfyniadau sydd yn effeithio ar gynulleidfaoedd yng Nghymru.

Yn sgil yr ymdriniaeth o'r sianel gan Lywodraeth Prydain a'r BBC yn Llundain, a'r cytundeb annemocrataidd rhwng S4C a'r BBC rydym yn gwbl argyhoeddedig mai datganoli cyfrifoldeb a’r gyllideb dros ddarlledu yw'r unig ffordd ymlaen bellach. Yn fwy na hynny, credwn y dylai S4C, fel y BBC, fod yn lleoli ei hun yn ein cymunedau gan gydnabod ei bod ganddi rôl i’w chwarae wrth hybu economi iaith Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru gyda’r nod o’u gwneud yn gynaliadwy.

IV. Yr achos dros ddatganoli darlledu i Gymru

Mae newidiadau a chwtogiadau diweddar i S4C a BBC Cymru yn profi nad oes gan sefydliadau San Steffan ddealltwriaeth o anghenion unigryw Cymru.

Bu consensws ar draws cymdeithas sifil nad yw’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer S4C o fudd i’r Gymraeg na Chymru yn ehangach. Cafodd y cynlluniau ar gyfer S4C eu beirniadu gan arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, y Pwyllgor Materion Cymreig, degau o undebau a mudiadau iaith a degau o filoedd o bobl a lofnodont ddeiseb, mynychu ralïau ac anfon cwynion at wleidyddion. Yn hytrach na brwydro yn erbyn y cynlluniau, ceisiodd y darlledwyr weithio o fewn cyfyngiadau'r cynlluniau annoeth a gytunwyd rhwng Ymddiriedolaeth y BBC yn Llundain ac Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Jeremy Hunt, ar y funud olaf ym Mis Hydref 2010. Yn hynny o beth, anwybyddodd Llywodraeth San Steffan a’r darlledwyr llais unedig Cymru.

Bu braidd dim ymgynghoriad ag S4C na gwleidyddion o Gymru yn ystod y broses gynllunio i gwtogi ar gyllideb y sianel. Ymhellach, bu’r cytundeb newydd rhwng S4C, y BBC a DCMS yn fait accompli wedi ei orfodi ar bobl Cymru heb drafodaeth ddemocrataidd am ddyfodol S4C. Mater o siom oedd parodrwydd Awdurdod S4C i gydweithio mewn gorfodi cytundeb o'r fath. Yn wyneb y fath ddiffyg democratiaeth, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y byddwn yn canolbwyntio bellach ar bwyso ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod grymoedd dros ddarlledu yn cael eu datganoli i Gymru. Mynnwn fod ACau a phob corff darlledu yn cefnogi'r galwad.

Yn ogystal, fe welir sefyllfa yn datblygu yn y farchnad radio ble mae’r Gymraeg yn fwy ac yn fwy anghynaladwy oherwydd diffygion y gyfundrefn reoleiddio. Cyfaddefodd Rhodri Williams, Pennaeth Ofcom yng Nghymru, yn ddiweddar:

“Ein dehongliad clir ni, yw does dim pŵer ganddon ni i wneud hwn [gosod amodau iaith ar drwyddedau radio]” [tud. 4, Golwg, Tachwedd 3ydd 2011]

Ac wrth edrych ar fwriadau Ysgrifennydd Diwylliant y DU ar gyfer y Bil Cyfathrebu, gwelwn eto diffyg dealltwriaeth o’r cyd-destun Cymreig, gyda phwyslais ar y farchnad rydd a lleihau rheoleiddio, polisïau sydd yn tanseilio’r Gymraeg. Credwn mai Cymru sydd â’r hawl foesol i benderfynu dyfodol darlledu yng Nghymru, ac mae angen cyfrifoldeb yn ein corff democrataidd yma yng Nghymru er mwyn osgoi penderfyniadau annoeth sydd yn cael eu gwneud heb ymgynghori a chymdeithas sifil yng Nghymru.

Ymhellach, eithriwyd darlledu o ddarpariaeth y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a drosglwyddodd pwerau i’r Cynulliad greu Mesur y Gymraeg 2011. Gyda’r cydgyfeiriant o safbwynt darlledu a darparu gwasanaethau gwelwn ei fod yn bwysicach nag erioed i’r safonau iaith a dyletswyddau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg allu cwmpasu darlledu.

V. Modelau Eraill

Mewn dogfen ar y cyd rhwng BECTU, NUJ, Undeb yr Ysgrifenwyr, Equity, Undeb y Cerddorion, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, cynigwyd opsiwn eraill o ran dyfodol S4C yn benodol:

“I. Annibyniaeth dros reoli ac annibyniaeth olygyddol lwyr i S4C heb ymyrraeth oddi wrth y BBC na’r Llywodraeth mewn statud.

“II. Fformiwla gyllido annibynnol ar gyfer y sianel Gymraeg, ar sail chwyddiant ac mewn statud.

“III. Ychwanegu at yr adnoddau sydd ar gael i’r sianel drwy godi ardoll ar ddarlledwyr preifat yn dilyn esiampl gwledydd eraill.

“IV.Sicrhau rôl i Lywodraeth Cymru yn y sianel fel bod modd manteisio ar synergedd buddsoddiad presennol y llywodraeth datganoledig mewn cyfryngau, megis Golwg360, adnoddau addysgol a radio lleol i’r eithaf.

“Gresynwn y dirwyiad difrifol yn allbwn Cymraeg ar radio masnachol a credwn ymhellach bod modd i S4C gynnig rhagor o wasanaethau cymunedol aml-gyfrwng, ar yr amod bod arian ychwanegol ar gael i’r sianel....

“CRAFFU - Yng nghydestun yr argyfwng presennol, mae’n glir fod y cyfundrefn craffu S4C presennol - a’r cyfryngau Cymreig yn gyffredinol - wedi ei brofi yn hollol aneffeithiol. Ers sefydlwyd S4C mae Cymru wedi gweld datganoli sylweddol o bwerau gwleidyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rydym yn teimlo y dylai ailwerthusiad o gyfundrefn craffu S4C ystyried y tirlun gwleidyddol datganoledig newydd.”

Os hoffech ragor o wybodaeth neu dystiolaeth lafar, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni ar 01970 624501 neu post@cymdeithas.org.

Greg Bevan, Cadeirydd Grwp Dyfodol Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Chwefror 2013
 

Rhagor o wybodaeth am bolisiau darlledu Cymdeithas yr Iaith:  

 

S4C a’r Dyfodol - Ymateb i ymchwiliad gan y Pwyllgor Materion Cymreig;

 

Ymchwiliad i'r rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru;

 

Darlledu Cymraeg - Gweledigaeth Newydd