Cryfhau Mesur y Gymraeg - llythyr at y Gweinidog Alun Davies

3ydd Mawrth 2017

Annwyl Weinidog, 

Diolch i chi am gwrdd â ni ar ddydd Iau, 2il Mawrth i drafod eich cynlluniau i gryfhau Mesur y Gymraeg.  
 
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i chi am gadarnhau eich cefnogaeth i osod hawliau cyffredinol i'r Gymraeg ar wyneb y Mesur, fel dywedoch wrthym mewn cyfarfod yn yr Eisteddfod y llynedd. Credwn fod hyn yn ffordd o gryfhau a symleiddio'r Mesur o safbwynt defnyddwyr y Gymraeg.   
 
Yn ail, rydym yn falch eich bod 'yn breifat ac yn bersonol, o blaid' cynnwys gweddill y sector breifat yn y Mesur. Ac yn wir, roedd yn dda clywed eich bod yn cydnabod yr angen i wella gwasanaethau bancio drwy'r Gymraeg ar-lein ac yn gyffredinol.  
 
Gofynnwn i chi am gadarnhad felly y bydd y cynigion hyn o hawliau cyffredinol ac ymestyn i weddill y sector breifat yn cael eu cynnwys fel opsiynau yn y Papur Gwyn yr ydych yn bwriadu ei gyhoeddi ym mis Mai.   
 
Roedd yn braf clywed yn ogystal nad ydych am wneud 'dim cynnig i wanhau neu newid unrhyw beth pan ddaw hi at hawliau na statws' i'r Gymraeg.   
 
Ymhellach, roeddem yn falch o'ch clywed yn adrodd bod 'y cyngor rwy'n cael gan swyddogion' yn cyd-fynd gydag ein safbwynt ni bod y Safonau yn cael effaith gadarnhaol ar ddefnydd y Gymraeg ar lawr gwlad.  
 
Anghytunwn yn gryf gyda'ch sylwadau bod yna 'ormod o bwyslais ar reoleiddio' a bod y Safonau'n 'rhy fiwrocrataidd'. O safbwynt defnyddwyr y Gymraeg, mae'r Safonau yn llai biwrocrataidd, mae cwyno yn haws ac mae rhagor o gysondeb o ran ymrwymiadau cyrff. Credwn fod mannau gwan a chymhlethdodau diangen yn y Safonau, ond credwn fod rhan helaeth y gwendidau yn ganlyniad drafftio gwallus a chymhlethu'r Safonau o du gweision sifil y Llywodraeth.  

O ran eich safbwynt am reoleiddio gormodol: anghytunwn yn llwyr. I'r gwrthwyneb, nid oes digon o reoleiddio. Yn wir, nid yw Comisiynydd y Gymraeg wedi defnyddio mwyafrif y pwerau gorfodi sydd ar gael iddi - megis gosod cosb ariannol, cael gorchymyn llys a rhoi cyhoeddusrwydd i fethiannau cydymffurfio. Mae'n glynu yn hytrach at strategaeth reoleiddio meddal a graddol i wneud argymhellion i gyrff ynghylch sut i gywiro methiannau a gwella gwasanaethau. Rydych eich hun yn cydnabod wrth gyflwyno rheoliadau Safonau bod angen gwarchodaeth y gyfraith i sicrhau gwasanaethau Cymraeg - gwasanaethau y methodd cyfundrefn ewyllys da Deddf Iaith 1993 eu diogelu. 
 
Y ffordd o symleiddio'r Safonau o safbwynt y defnyddiwr yw gosod hawliau cyffredinol i ddefnyddio'r Gymraeg ar wyneb y Mesur er mwyn sicrhau bod cyrff yn gwella yn barhaus o ran darparu gwasanaethau, llenwi'r mannau gwan anochel a ddaw yn sgil y Safonau, a sicrhau bod hawliau pobl i'r Gymraeg yn ddealladwy.  
 
Pryderwn am eich sylwadau am Gomisiynydd y Gymraeg a'r posibiliad o newid y corff i gomisiwn neu fwrdd. Yn wir, byddem yn gwrthwynebu'n llwyr unrhyw ymgais i wanhau pwerau neu rôl Comisiynydd neu ddychwelyd at system ffaeledig o Fwrdd. Rydym yn cefnogi sefydlu corff ar wahân i fod yn gyfrifol am y gwaith hyrwyddo: profodd hanes Bwrdd yr Iaith nad yw'n llesol i'r Gymraeg na defnyddwyr yr iaith geisio cyfuno rheoleiddio a hyrwyddo o fewn yr un sefydliad.   
 
Fel dywedom yn y cyfarfod, rydym yn anfodlon iawn ynghylch sut mae'r Llywodraeth yn mynd ati i gasglu tystiolaeth fel rhan o baratoi Papur Gwyn.  Mae'n gwbl annerbyniol eich bod yn cynnal gweithdai sy'n cau'r cyhoedd allan.  Rydym yn anfon cwyn at nifer o gyrff ynghylch y broses rydych yn ei ddilyn sy'n trin barn y cyhoedd, defnyddwyr a chefnogwyr y Gymraeg yn israddol i farn cyrff a chwmnïau.  

Yr eiddoch yn gywir,

Heledd Gwyndaf 

Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg