Cwricwlwm i Gymru 2022

Cwricwlwm i Gymru 2022

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

1. Cyflwyniad

 

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.

 

1.2. Gwrthwynebwn y cynigion yn y canllawiau drafft hyn gan eu bod yn cynnig parhau â’r system Cymraeg ail iaith, drwy gynnig dau lwybr, yn groes i addewidion blaenorol y Llywodraeth. Drwy gynnig parhau â llwybr Cymraeg eilradd, mae’r Llywodraeth yn mynd i amddifadu cenhedlaeth arall o bobl ifanc Cymru o ruglder yn y Gymraeg.

 

1.3. Mae’r cynnig o greu un continwwm o ddysgu’r Gymraeg yn adlewyrchu consensws ymysg mudiadau iaith1 o blaid y cynnig o ddisodli Cymraeg ail iaith gydag un continwwn o ddysgu’r Gymraeg er mwyn gwella’r ffordd a’r gyfundrefn o ddysgu’r Gymraeg i bob disgybl. Yn hynny o beth, mae’r cynigion hyn yn groes i ddymuniad y mudiadau iaith.

 

2. Dau lwybr dysgu’r Gymraeg yn parhau methiant Cymraeg Ail Iaith

 

2.1. Ym mis Medi 2013, cyhoeddodd yr Athro Sioned Davies adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, am sefyllfa'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Nodai’r adroddiad: ‘Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith … mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. Petai hyn wedi cael ei ddweud am Fathemateg, neu am y Saesneg, diau y byddem wedi cael chwyldro … Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.’

 

2.2. Mae’r cynigion yn y canllawiau statudol drafft ynghylch ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’ yn cynnig cadw’r ‘gwahaniaeth artiffisial’ rhwng Cymraeg iaith gyntaf a Chymraeg ail iaith yn groes i addewidion clir Llywodraeth Cymru mewn nifer o ddogfennau polisi a chyhoeddiadau, gan gynnwys y polisi yng nghanllawiau statudol eraill yr ymgynghoriad hwn. Yn hynny o beth, mae’r cynigion yn torri ymrwymiadau clir y Llywodraeth ac yn siom aruthrol i ni a’r holl bobl ifanc sy’n cael eu hamddifadu o’r Gymraeg o ganlyniad i fethiannau a diffyg uchelgais y system bresennol.

 

2.3. Dywed y ‘Canllaw i Gwricwlwm i Gymru 2022’: “Y bwriad yw y bydd pob dysgwr yn symud ar hyd yr un continwwm dysgu ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad, a hynny o 3 i 16 oed.” Ac yn y cynigion asesu dywed: ‘Bydd ymarferwyr yn asesu cynnydd dysgwyr ar hyd yr un continwwm, a thrwy hynny’n lleihau effaith y broses bontio rhwng lleoliadau ac ysgolion, yn ogystal ag oddi mewn iddynt.’ Fodd bynnag, mae’r canllaw ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’ yn cynnig creu dau gontinwwm, neu lwybr, dysgu i’r Gymraeg, nid un.

 

2.4. Ym mis Awst 2014, dywedodd y cyn-Brif Weinidog yn ei ddogfen polisi 'Bwrw Mlaen' bod angen i “holl ddysgwyr Cymru – p’un a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol cyfrwng Saesneg … siarad y Gymraeg yn hyderus”. Nid yw’r cwricwlwm arfaethedig yn cynnig cadw at yr addewid hwnnw, gan nad yw’n cynnig y bydd y disgyblion yn y rhan fwyaf o ysgolion yn gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn hyderus.

 

2.5. Mewn llythyr atom ar 18fed Tachwedd 2015, meddai'r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones ei fod e a'r Gweinidog Addysg ar y pryd wedi dod i'r un casgliad: "Rydym o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol ... Wrth reswm, bydd heriau’n codi wrth inni ddatblygu Cwricwlwm newydd i Gymru sy’n bodloni ein dyheadau, ond mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ymrwymedig i’r dull hwn."2

 

2.6. Ar 21ain Medi 2016, mewn cyfweliad ar raglen newyddion S4C, dywedodd Gweinidog y Gymraeg y bydd y system addysg yn 'symud at un continwwm' fel bod 'pob un plentyn' yn 'gallu bod yn rhugl yn Gymraeg'. Cyfeiriodd at y cyfnod wrth i gymhwyster Cymraeg ail iaith cael ei ddiwygio fel 'cyfnod pontio' a fydd yn dod i ben yn 2021, gan awgrymu y bydd y cymwysterau Cymraeg ail iaith yn cael eu disodli gydag 'un ffrwd' erbyn y dyddiad hwnnw.

 

2.7. Dywed strategaeth iaith y Llywodraeth a gyhoeddwyd yn 2017 bod y Llywodraeth:

 

“... yn bwriadu datblygu un continwwm ar gyfer addysgu’r Gymraeg, gan bwysleisio dysgu Cymraeg yn bennaf fel modd o gyfathrebu, yn enwedig cyfathrebu ar lafar. Bydd yn ofynnol i bob ysgol yng Nghymru gyflwyno’r continwwm iaith i’r holl ddysgwyr a gwreiddio’r broses o gaffael sgiliau yn y Gymraeg ar draws y cwricwlwm dros amser.”3

 

2.8. Yn nogfen polisi ‘Cymraeg mewn Addysg: Cynllun Gweithredu 2017-21’, datgenir ar dudalen 42:

 

“Fel rhan o’r cwricwlwm newydd, bydd continwwm newydd ar gyfer ieithoedd yn cael ei ddatblygu, i gynnwys y Gymraeg, a bydd pob dysgwr yn dilyn yr un llwybr ar gyfer dysgu’r Gymraeg.”4

 

2.9. Fodd bynnag, mae’r cwricwlwm arfaethedig hwn yn cynnig dau lwybr ar gyfer dysgu’r Gymraeg, nid un.

 

2.10. Ymhellach, yn y Papur Gwyn ‘Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol’ a gyhoeddwyd eleni, ymrwymodd y Llywodraeth i:

 

“Cael gwared ar y rhaglenni astudio Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith a rhoi un continwwm dysgu yn eu lle fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.”5

 

2.11. Nid yw’r canllawiau statudol yn cynnig unrhyw gyfiawnhad polisi neu sail tystiolaeth er mwyn cyfiawnhau’r newid polisi arfaethedig. Chwe blynedd ers i’r Athro Sioned Davies argymell y dylid dileu Cymraeg Ail Iaith, mae’r Llywodraeth, heb ddarparu tystiolaeth i’w chyfiawnhau, yn cynnig ei hatgyfodi.

 

2.12. Credwn fod peryglon mawr mewn gosod disgwyliadau gwahanol ar gyfer rhai ysgolion o gymharu gydag eraill oherwydd gall hyn ond arwain at gadw ‘Cymraeg Iaith gyntaf’ a ‘Chymraeg Ail Iaith’ yn groes i addewid yr Ysgrifennyd Cabinet dros Addysg presennol a gweinidigion blaenorol. Mae’n drefn sydd wedi methu dros y degawdau yn ôl tystiolaeth adroddiad annibynol ar Gymraeg ail-iaith a gyhoeddwyd yn 2013 a thystiolaeth arolygiadau Estyn dros y degawdau.

 

2.13. Yn y sefyllfa bresennol mae canrannau sylweddol o ddisgyblion yn y Gorllewin a'r Gogledd yn gadael ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg i fynychu ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg - ac yn dilyn llwybr ail-Iaith. Nid yw'r disgwyliadau cyrhaeddiad Saesneg yn lleihau ar gyfer disgyblion sy’n parhau gydag addysg cyfrwng Cymraeg, ac felly ni ddylai'r disgwyliadau bod yn wahanol ar gyfer y Gymraeg yn yr ysgolion nad ydynt yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae'r un peth yn wir am y disgwyliadau cynnydd ar gyfer Llythrennedd a Rhifedd.

 

2.14. Mae’r cynigion o ran asesu yn cynnig gwneud cynllunio pontio rhwng gwahanol gyfnodau addysg yn orfodol. Sut felly mae’r Llywodraeth yn cysoni yr angen i gael proses pontio i ddangos cynnydd dysgwyr unigol, ond eto yn caniatáu i ysgolion uwchradd sydd bennaf yn cyfrwng Saesneg gymryd plant o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ac wedyn gosod dim disgwyliad eu bod yn parhau i deithio ar hyd y continwwm o ran eu sgiliau Cymraeg, gan arwain atynt yn colli sgiliau, yn lle parhau i wneud cynnydd?

 

2.15. Mae’r deilliannau cyflawniad yn y camau cynnydd arfaethedig o ran y Gymraeg ar gyfer disgyblion mewn ysgolion sydd bennaf yn cyfrwng Saesneg yn gosod disgwyliadau yn llawer rhy isel ac nad ydynt yn cynrychioli newid gwirioneddol o’r sefyllfa bresennol. Gwelwn hyn yn glir o ystyried datganiad fel ‘Gallaf adnabod ac ynganu llythrennau a geiriau syml yn Gymraeg’ ar gyfer plant ar gam cynnydd un, sydd ddim yn gynnydd ar ddisgwyliadau presennol ac yn gosod disgwyliadau yn rhy isel o lawer, yn enwedig o ystyried gallu plant ifanc i gaffael iaith. Ar y pen arall, nodwn nad oes unrhyw ddisgwyliad o ruglder, neu’r gallu i gyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg, i bobl ifanc ar gam cynnydd pump, sydd eto ddim yn cynrychioli codi disgwyliadau a chyrhaeddiad presennol.

 

2.16. Os taw un o brif amcanion Cwricwlwm i Gymru ydy gwella cyrhaeddiad holl bobl ifanc Cymru a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion, nid yw’r cynigion hyn yn gwneud hynny pan mae’n dod at y Gymraeg. Yn wir, maent yn golygu parhau gyda system sy’n rhwystro pobl ifanc rhag cyrraedd eu llawn botensial o ran sgiliau iaith, ac yn cadw’r bwlch cyrhaeddiad enfawr o ran y Gymraeg rhwng pobl ifanc mewn lleoliadau addysg gwahanol.

 

2.17. Byddwn yn gorfod gwrthwynebu’r cynigion asesu i osod y pum cam cynnydd mewn deddfwriaeth fel y maent gan y byddai’n gosod nenfwd statudol ar ddeilliannau cyflawniad y rhan fwyaf o bobl ifanc Cymru o ran y Gymraeg.

 

2.18. Er mwyn sefydlu un continwwm o ran y Gymraeg i bob disgybl, a sicrhau bod digon o hyblygrwydd i benaethiaid, yn lle cynnig yr ail lwybr, dylai’r canllawiau bwysleisio bod gan benaethiaid mewn ysgolion sydd yn bennaf cyfrwng Saesneg fwy o hyblygrwydd o ran symud disgyblion ar hyd y camau cynnydd fel rhan o un continwwm dysgu Cymraeg.

 

Cwestiynau sy’n codi o’r cynnig i barhau â dau lwybr iaith yn y canllawiau

 

2.19. Mae nifer o gwestiynau yn codi o gynigion y canllawiau statudol mae angen i’r Llywodraeth eu hateb:

 

  • Pa adroddiad arbenigol sydd wedi cynnig cadw dau lwybr dysgu’r Gymraeg yn lle un?

  • Pam ydy’r Llywodraeth yn cynnig troi ei chefn ar ei holl addewidion polisi blaenorol i sefydlu un continwwm dysgu’r Gymraeg i bob disgybl?

  • Sut mae’r disgwyliadau a gynigir gan y canllawiau hyn yn uwch na’r system Cymraeg ail iaith bresennol?

  • Sut y bydd y canllawiau hyn yn codi safonau dysgu’r Gymraeg ym mhob ysgol?

  • Sut mae’r Llywodraeth yn cyfiawnhau eu cynigion i barhau â dau lwybr dysgu’r Gymraeg ond ar yr un pryd dweud y ‘Bydd ymarferwyr yn asesu cynnydd dysgwyr ar hyd yr un continwwm, a thrwy hynny’n lleihau effaith y broses bontio rhwng lleoliadau ac ysgolion, yn ogystal ag oddi mewn iddynt’?

  • Sut mae’r canllawiau statudol hyn yn gyson ag ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i greu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl?

  • Ar ba sail polisi ac ar sail pa dystiolaeth penderfynodd y Llywodraeth y byddai’n briodol cynnig adolygu’r camau cynnydd Cymraeg ar gyfer disgyblion mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg dros amser? Ac ar ba sail penderfynwyd ar yr amserlen ar gyfer eu hadolygu?

  • Sut mae’r cynnig i adolygu’r camau cynnydd Cymraeg ar gyfer disgyblion mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg dros amser yn cyd-fynd â chynigion y Llywodraeth i bennu’r camau cynnydd mewn deddfwriaeth? A oes ymrwymiad felly i adolygu’r ddeddfwriaeth er mwyn cryfhau’r camau cynnydd neu ydy’r ddeddfwriaeth yn mynd i gynnig bod modd gwneud hynny heb ddeddfwriaeth bellach?

 

 

3. Cwricwlwm Cymreig

 

3.1. Rydym yn croesawu’r pwyslais ar berspectif Cymreig mewn rhai mannau yn y ddogfen. Fodd bynnag, mae nifer o anghysondebau yn y pwyslais rhwng gwahanol ddogfennau ac adrannau. Credwn y dylai’r Llywodraeth gysoni’r polisi o ran Cymreictod y cwricwlwm newydd drwy gadw at y term ‘Cymru a’r byd’ ym mhob rhan o’r canllawiau. Credwn fod y mannau lle mae’r ddogfen yn rhoi pwyslais ar ddysgu gan wledydd eraill y Deyrnas Unedig yn gam gwag o safbwynt y Gymraeg, gan fod gwir angen edrych tu hwnt i wledydd Prydain er mwyn rhoi’r Gymraeg mewn cyd-destun sy’n llesol o ran hybu defnydd a dealltwriaeth ohoni.

 

4. Casgliad

 

4.1. Pe bai Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu’r cwricwlwm arfaethedig hwn, byddai’n torri ei haddewidion, a wnaed ar sawl achlysur ac mewn nifer o ddogfennau polisi, i ddisodli Cymraeg Ail Iaith gydag un continwwm o ddysgu’r Gymraeg. Drwy wneud hynny, byddai’r cynigion arfaethedig yn parhau gyda system eilradd o ddysgu’r Gymraeg gan osod nenfwd isel iawn ar allu y rhan fwyaf o bobl ifanc yn y Gymraeg. Yn wir, mae’r cynigion yn golygu cadw’r methiannau a’r ‘gwahaniaeth artiffisial’, yng ngeiriau’r cyn-Brif Weinidog, rhwng Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith yn y gyfundrefn bresennol.

 

4.2. Er gwaetha’r ffaith bod y Llywodraeth yn ymrwymo at y canlynol:

 

‘Byddwn yn adolygu’r disgwyliadau ar gyfer dysgwyr sy’n dysgu’r Gymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg ac yn cynyddu’r disgwyliadau hynny wrth i’r carfannau weithio trwy Gwricwlwm i Gymru 2022, ac wrth i sgiliau methodolegol a phrofiad ymarferwyr gynyddu. Bydd hyn yn cyfrannu at wireddu’r uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’

 

ni roddir unrhyw fanylion o ran ffurf, cynllun, nod nac amserlen yr adolygiad hwn, nac at ba garfannau yn union mae hyn yn cyfeirio. Ni welir y fath gynnig ar gyfer meysydd eraill. Trwy wneud hyn, mae’r Llywodraeth yn ymwrthod â’i chyfrifoldeb, yn osgoi atebolrwydd ac yn tanseilio ei pholisi ei hun. O ganlyniad, byddwn yn colli cyfle gwirioneddol i sefydlu un continwwm Cymraeg.

 

4.3. Nid yw’r ddogfen yn cynnig unrhyw dystiolaeth wrthrychol nag unrhyw gyfiawnhad dros y newid ym mholisi’r Llywodraeth o gadw dau lwybr dysgu’r Gymraeg, a hynny yn groes i addewidion nifer o Weinidogion y Llywodraeth dros y pum mlynedd diwethaf. Felly, byddai’r cynigion a amlinellir yn y ddogfennaeth hon yn gam mawr yn ôl yn yr ymdrech i sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn hyderus.

 

5. Gwybodaeth bellach

 

5.1. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi sawl papur polisi allweddol ynglŷn ag addysg Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf fel rhan o’r agenda miliwn o siaradwyr Cymraeg. Gweler isod ddolenni at bapurau polisi perthnasol.

 

5.1. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ymateb hwn, a’r materion sy’n codi, cysylltwch â post@cymdeithas.cymru neu 01970 624501.

 

Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Gorffennaf 2019

 

1Yn eu maniffesto ar gyfer etholiadau Cymru yn 2016, dywedodd Rhieni dros Addysg Gymraeg: “Mae adroddiad Sioned Davies (2012) wedi nodi bod ysgolion Saesneg ar y cyfan yn aneffeithiol wrth ddysgu’r Gymraeg. Bydd dysgu’r Gymraeg ar un continwwm, gan ddatblygu o’r sector cynradd i’r uwchradd a hefyd defnyddio’r Gymraeg ar gyfer gweithgareddau, yn fodd o gyflwyno’r Gymraeg yn effeithiol fel iaith fyw yn yr ysgolion hyn.”