Annwyl Cyng. Neil Moore,
Hoffwn gwyno am ymateb Cyngor Bro Morgannwg i ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg am y safonau iaith arfaethedig. Credwn fod yr ymateb nid yn unig yn amlygu agwedd ofnadwy o hen ffasiwn a negyddol tuag at y Gymraeg, ond hefyd yn amhroffesiynol ac yn ffeithiol anghywir.
Erfyniwn ar y Cyngor i ymddiheuro’n gyhoeddus am yr ymateb a chyflwyno ymateb newydd yn lle, sydd nid yn unig yn ffeithiol gywir, ond hefyd yn dangos dyhead dros dyfu’r Gymraeg yn y sir.
Mae penderfyniad y Cyngor i ymateb yn y ffordd hon yn peryglu amddifadu pobl o wasanaethau Cymraeg, ac felly yn mynd i beri gofid i nifer o bobl na fydd yn derbyn gwasanaethau Cymraeg, nac ychwaith, elwa o weld, clywed neu ddefnyddio’r Gymraeg yn y ffordd a ddymunasent.
Mae nifer o wallau a honiadau di-sail a negyddol eu hagwedd tuag at y Gymraeg, ond dyma rai ohonynt (noder nad allwn ddod o hyd i gopi Cymraeg o’r ymateb, felly dyfynnwn o’r fersiwn Saesneg):
“It would be difficult and a significant risk to publish invitations to tender in Welsh given the legal technicalities contained in such documents and the possibility of a translation not being exactly in line with the English meaning.”
"Audible messages will continue to be in English first as the priority is for the recipient to understand the information without delay."
“It is felt that the English text in official notices should be displayed first to enable clear understanding by the overwhelmingly English speaking local population."
“If tenders were submitted in Welsh there would be delays in the opening process as translation would need to be done and confidentiality would be breached.”
“English should be the prominent language in South East Wales as drivers generally read signs from top to bottom and in their opinion this would mean the message is understood more quickly”
Mae nifer o’r honiadau hyn yn ffeithiol anghywir, ac nid ydynt yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn. Ond mae’r ffaith bod yr honiadiau di-sail hyn yn cael eu cyflwyno i ymchwiliad a all fod yn rheswm dros atal pobl, megis mynediad pobl ifanc at gyrsiau tu allan i’r ysgol yn Gymraeg, rhag mwynhau ein hiaith genedlaethol unigryw, hefyd yn amhroffesiynol ac yn gyfystyr â chamweinyddu yn ein barn ni.
Yn gyffredinol, mae nifer o honiadau eraill nad ydynt yn seiliedig ar ffeithiau, a dyw’r Cyngor heb ddarparu dim tystiolaeth i’w cefnogi. Ymhellach, nodwn fod y canran o staff a allai siarad Cymraeg yn amrywio yn y ddogfen, mae’n debyg gyda’r bwriad o geisio pwysleisio nad oes modd neu awydd i bethau gwella.
Gobeithio y byddwch yn ymwybodol y bydd ein hymateb yn tynnu sylw at nifer o wendidau mawr yn y safonau iaith gan gynnwys y ffaith bod nifer ohonynt yn cynnig gwasanaethau llai na’r hyn a gynigir gan gynlluniau iaith a’r ffaith nad oes safon a fydd yn sicrhau bod amod ar grantiau na chontractau a fydd yn sicrhau bod gwasanaethau a ariennir yn gyhoeddus yn cael eu darparu’n Gymraeg.
Bydd ein haelodau yn gwneud cwyn i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. Rydym yn anfon copi o’r llythyr hwn at Gomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru gan ofyn iddynt ddiystyru’r ymateb a gyflwynir gan y Cyngor, oni cheir ymateb newydd sy’n seiliedig ar ffeithiau yn hytrach nag ystrydebau di-sail.
Yn gywir,
Grŵp Hawliau, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
cc: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Comisiynydd y Gymraeg
Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru