Annwyl John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau,
Ysgrifennaf ar ran Cymdeithas yr Iaith er mwyn codi pryderon ynghylch ymyrraeth yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn y ddadl ynghylch papur gwyn Llywodraeth Cymru ar Fil arfaethedig y Gymraeg.
Mewn dadl yn y Senedd ar 3ydd Hydref 2017, dywedodd Gweinidog y Gymraeg bod yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi "... cynnig y gall ei swyddfa fe ddelio â chwynion ac ymchwiliadau sy'n ymwneud â Safonau['r Gymraeg] fel rhan o'i ddyletswyddau craidd... Ddirprwy Lywydd, rydw i'n credu bod y cynnig hwn yn un diddorol."
Nid oedd ymateb yr Ombwdsmon ar gael ar adeg cyhoeddiad y Gweinidog, ond mae bellach ar gael ar ei wefan. Nodwn taw dyna'r unig ymateb i ymgynghoriad sydd i'w weld ar ei wefan.
Mae ymateb yr Ombwdsmon yn datgan bod Comisiynydd y Gymraeg wedi ymchwilio i faterion sydd 'yn ymddangos yn ddibwys' iddo ac yn argymell y dylai swyddfa'r Ombwdsmon ymchwilio i gwynion yn ymwneud â'r Gymraeg yn lle Comisiynydd y Gymraeg.
Credwn fod yr Ombwdsmon, drwy ymateb yn y fath fodd, wedi ymddwyn yn amhriodol ac wedi gweithredu'n groes i'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhyngddo fe a Chomisiynydd y Gymraeg. Mae'r memorandwm hwnnw yn datgan: "5.1 Mae Comisiynydd y Gymraeg ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cytuno i beidio ag adolygu gwaith ei gilydd...". Sut felly y gall yr Ombwdsmon gyfiawnhau argymell mai ef ddylai wneud gwaith ymchwilio i gwynion y Comisiynydd yn y dyfodol a barnu bod nifer o'r cwynion mae'r Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliadau iddynt yn 'ddibwys' a datgan hynny'n gyhoeddus?
Hoffem wybod beth fydd y pwyllgor yn ei wneud i ddwyn yr Ombwdsmon i gyfrif am dorri'r cytundeb hwn. Yn ogystal, gan ei fod wedi torri memorandwm, credwn ei bod yn amhriodol i'r Ombwdsmon barhau i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith Comisiynydd y Gymraeg. Hoffem ofyn i'r pwyllgor drafod pa gorff arall allai oruchwylio gwaith y Comisiynydd yn ei le.
Yn ogystal, hoffem i chi ymchwilio i sut daeth yr Ombwdsmon i ymateb i'r ymgynghoriad o gwbl a pham y penderfynodd ymateb. O edrych ar ei wefan, nid yw'n ymddangos bod ei swyddfa yn ymateb i lawer o ymgynghoriadau, yn enwedig rhai ynghylch y Gymraeg. Nid oes cynnig yn y papur gwyn sy'n effeithio'n uniongyrchol ar waith ei swyddfa, felly credwn ei bod yn briodol gofyn pam ei fod yn ymyrryd yn y cwestiynau gwleidyddol hyn.
Ymhellach, dywed yr Ombwdsmon yn ei ymateb "Y Llywodraeth ddylai benderfynu a yw'n briodol dod â'r maes rheoleiddio a hyrwyddo iaith ynghyd." Fel y gwyddoch, nid mater i'r Llywodraeth yw hwn, ond mater i'r Cynulliad benderfynu arno gan y byddai'n golygu newid deddfwriaethol.
Rydym yn ymwybodol yn ogystal bod yr Ombwdsmon wedi ffraeo gydag Aelod Cynulliad ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch ei ymateb a'r Bil. Ni chredwn ei bod yn briodol i rywun mewn swydd gyhoeddus o'r fath, sydd i fod yn annibynnol ac yn ddiduedd, ddadlau'n gyhoeddus gydag Aelodau Cynulliad ar fater sydd i'w ystyried a'i ddadlau ymysg y pleidiau yn y Cynulliad.
I grynhoi, credwn fod yr ymddygiad yn dwyn anfri ar yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn codi cwestiynau pwysig am ei amhleidioldeb, ei allu i weithredu'n annibynnol ar y Llywodraeth a'i allu i ymddwyn yn briodol mewn swydd o bwys cyhoeddus. Hoffem ofyn i chi felly i ymchwilio i'w weithredoedd.
Yn gywir,
Heledd Llwyd
Cadeirydd, Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith
Copi at:
Sian Gwenllian AC, Suzy Davies AC, Adam Price AC
Gweinidog y Gymraeg
Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Comisiynydd y Gymraeg
Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid