Cyflwyniad Menna: Lobi S4C, San Steffan, Mawrth 2011

Cyflwyniad o'n dadleuon dros S4C:
amlinelliad bras o araith Menna Machreth

Mae gen i newyddion da i chi heddiw. Y newyddion da yw fod gennych chi gyfle euraidd, cyfle hanesyddol, cyfle efallai na ddaw eto yn hanes San Steffan, pwy a ?yr. Mae'n gyfle arbennig i chi fel aelodau seneddol y t? hwn yn 2011 i wneud yr hyn sy'n deg ac yn foesol. Yr un cyfle a gafodd aelodau seneddol nôl yn 1979. Fe wnaethon nhw gamgymeriad yn torri addewid a roesant i greu sianel Gymraeg, ond fe newidion nhw eu meddwl. Pam? Oherwydd undod pobl Cymru. Dyma yw'r cyfle sydd ger eich bron heddiw: anrhydeddu dymuniad unfrydol pobl Cymru i gael sianel deledu annibynnol yn yr iaith Gymraeg.

Dyma gyfle i chi fan hyn yn San Steffan i wneud rhywbeth positif dros yr iaith Gymraeg, gan wybod eich bod yn amddiffyn hawliau gr?p lleiafrifol.
Byddwch yn mynd lawr yn hanes Cymru, hanes Prydain, hanes Ewrop, hanes rhyngwladol - oherwydd eich bod chi, mewn cyfnod economaidd llwm, wedi parchu cyfle cyfartal pobl i gael mynediad i'w hiaith eu hunain fel iaith fyw ar y cyfryngau.

Cyn i chi neidio allan o'ch sedd i ofyn be fydd yn gwneud chi y person mwyaf poblogaidd yng Nghymru, nai ddweud wrthoch chi: rydyn ni'n unfryd yng Nghymru fod rhaid tynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus, ac yn lle hynny cynnal adolygiad annibynnol er mwyn dod i gasgliad am ddyfodol y sianel. Dyma mae arweinyddion y bedair plaid yng Nghymru wedi galw amdano yn unfryd, ac mae pobl Cymru yn gwbl gytûn â nhw. Does neb wedi rhoi sêl bendith i'r cynlluniau presennol.

Daw'r unoliaeth barn hyn wrth bobl Cymru oherwydd ein bod ni'n gwybod beth yw canlyniadau fod heb sianel Gymraeg. Tlodi diwylliannol. Rydyn ni oll yn gwybod am y tlodi a'r caledi sydd o'n blaenau. Dy'n ni wedi talu am y banciau unwaith, a nawr ni'n gorfod talu eto. Gyda'n swyddi a'n gwasanaethau. Ac yn ychwanegol yng nghyd-destun Cymru, gyda'n diwylliant a'n hiaith.

Ym Mis Hydref 2011, penderfynodd Llywodraeth Prydain i gwtogi ei grant i S4C 94%, a chytunodd y BBC i ariannu'r sianel trwy'r ffi drwydded o 2013/14 a fydd yn golygu toriad o dros 40% mewn termau real i gyllideb y sianel yn ei gyfanrwydd. Mae unrhyw gwtogi i S4C yn drawiad i galon yr iaith Gymraeg. Does dim sefydliad o'i fath yn y Gymraeg; buddsoddiad economaidd i'r iaith.

Galluogi ni i weld a chlywed y Gymraeg ar y sgrin. Mae pobl sy'n siarad Cymraeg, dysgwyr a'r di-Gymraeg yn gwerthfawrogi S4C. Nid yw'n rhywbeth caeedig yw e, mae'n diwylliant yn rhywbeth mae pawb yng Nghymru yn gallu cyfranogi ohono a gwyddom fod hynny'n allweddol er mwyn cael diwylliant byw, ffyniannus yn y ddwy iaith.

Bu'r sianel deledu Cymraeg yn fuddsoddiad mewn ardaloedd fel Llanelli a Chaernarfon gan alluogi pobl i aros yn eu hardal ac i weithio drwy'r Gymraeg. Llwyddwyd i ddangos arloesedd o fewn y diwydiant cyfryngol. Mae sylw mawr wedi ei roi i ffigyrau gwylio'r sianel dros y misoedd diwethaf. Serch hynny, mae nifer o raglenni S4C yn derbyn canran uwch o'r cynulleidfa na rhaglenni BBC One. Efallai bod S4C wedi bod rhy gyfforddus a heb fod yn atebol i'w chynulleidfa, ond mae addewid fod pethau am wella ac wrth frwydro dros y sianel rydym yn benderfynol y bydd hynny'n digwydd.

Does neb yng Nghymru yn cwestiynu bodolaeth y sianel fel mae'r Mesur Cyrff Cyhoeddus yn ei wneud. Does neb yng Nghymru yn dweud y dylai'r sianel golli eu hannibyniaeth, fel a fydd yn digwydd os yw'r Mesur Cyrff Cyhoeddus yn pasio fel ag y mae. Y gwir yw fod y penderfyniadau hyn wedi eu gwneud gan Jeremy Hunt heb ystyriaeth am eu goblygiadau. Heb ystyried pa mor amhoblogaidd y byddent neu sut y maent yn uniongyrchol yn golygu difa cyfryngau cyfrwng Cymraeg. Rydym yn wynebu tlodi diwylliannol.

Mae'r unfrydedd yma'n cael ei adlewyrchu o'r ymgyrchwyr i ffigyrau mwyaf parchus ym maes y cyfryngau. Dim ond ychydig ddiwrnodau'n ôl cyn y bleidlais yn Nh?'r Arglwyddi, meddai Geraint Talfan Davies am y bleidlais i dynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus:

'We must all hope that they succeed, not only on the general point of principle that the Bill gives Ministers excessive powers to close or merge public bodies, but also on the specific point that S4C was established by statute after prolonged political debate in Wales, and that there is a near unanimous view that that legal basis should continue.'
Geraint Talfan Davies

Mae S4C yn sefydliad pwysig, yn gonglfaen i'r diwylliant Cymraeg. Rhaid iddo gael ei amddiffyn gan ddeddf. Rhaid gwybod o ble mae'r arian yn dod ar ol 2015 achos dyna beth sy'n mynd i warantu ein bod ni, bobl Cymru, yn mynd i allu sicrhau yr hawl i weld a chlywed y Gymraeg ar y cyfryngau.

Mae angen fformiwla ariannu teg ar gyfer S4C fydd yn rhoi sicrwydd ar gyfer ei dyfodol hir-dymor a sicrhau ei fod yn gorff tu hwnt i ymyrraeth wleidyddol. Ymgyrchwyd yn galed i gael deddf i warchod S4C rhag sefyllfaoedd fel hyn. Dyma amlygu pam bod angen creu seiliau cadarn i'r Gymraeg oherwydd maen nhw'n gallu cael eu dwyn oddi arnoch chi'n hawdd iawn. Dyna pam bod angen statws swyddogol ar yr iaith Gymraeg i fod yn darian rhag gwahaniaethu yn erbyn yr iaith, a hawliau er mwyn gwarantu pethau pwysig doed â ddêl i ddinasyddion.

Ar hyn o bryd, mae BBC, S4C a'r DCMS mewn trafodaethau ac yn trefnu sut fydd y BBC yn cymryd y sianel drosodd. Does neb wedi pleidleisio hyd yn oed ar hyn eto. Cadarnhaodd Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC Sir Michael Lyons y byddai angen i'r BBC fod yn gyfrifol am berfformiad S4C gan ddweud: "Ymddiriedolaeth y BBC yw gwarcheidwad ffi'r drwydded ac o ganlyniad bydd angen iddi gael tros olwg o'r ffordd y mae'r arian hwn yn cael ei wario." Datguddiwyd gwir agenda Mark Thompson wythnos ddiwethaf lle mynnodd e ar rheolaeth a threfn llywodraeth ar y cyd pe llwydai'r BBC gymryd S4C drosodd. Beth mae BBC eisiau ydy rheolaeth. Beth rydyn ni eisiau ydy annibyniaeth oddi wrthynt.

Mae annibyniaeth S4C yn y fantol. Mae'n rhaid i wasanaeth cyfryngau cyhoeddus Cymraeg i sicrhau plwraliaeth a democratiaeth. Ni ddim eisiau mynd nôl i sefyllfa lle mae'n rhaid i raglenni Cymraeg gystadlu â rhaglenni Saesneg am arian. A beth fydd yn digwydd i gwmniau annibynnol o dan y BBC?

Fel yn achos y toriadau i wefannau Cymraeg ar wefan y BBC - ymylol fydd y Gymraeg iddyn nhw bob amser - nôl mewn sefyllfa debyg i'r 70au.

Rydym yn erbyn y BBC yn cymryd S4C drosodd - ni'n gweld yr angen am sector annibynnol amrywiol ac iach sydd yn buddsoddi yn ein cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Pam ydy'r llywodraeth am weld trefn yng Nghymru lle fydd y BBC yr unig darlledwr yn y Gymraeg? A fyddant yn hapus i hynny ddigwydd yn y Saesneg?

Os bydd y BBC yn llwyddo i gael gafael dros yr arian sy'n mynd i'n hunig sianel Cymraeg yn y diwedd bydd penaethiaid y BBC yn asesu beth yw werth unig sianel teledu Cymraeg. Bydd gyda nhw lwyth o alwadau am arian oddi wrth degau o sianeli/gorsafoedd Saesneg y BBC.

Mae unfrydedd traws bleidiol yngl?n â phwysigrwydd diwylliannol S4C a phwysigrwydd y sianel fel gwasanaeth darlledu cyhoeddus. Dywedodd Yr Arglwydd Geoffrey Howe (Cyn-Ddiprwy Prif Weinidog, Canghellor ac Ysgrifennydd Tramor Thatcher):
(i) Cynlluniau am S4C "politically unwise and disastrous"
(ii) "[Lord Willie Whitelaw] created S4C and would be turning and revolving in his grave, ... in his denunciation of this proposal. ... he would repudiate altogether a decision by this Government to include this organisation in this legislation."

Mae'r sefyllfa'n glir i bobl Cymru. Nid drwy'r Mesur Cyrff Cyhoeddus y mae trefnu dyfodol S4C. Mae angen gwarant o lif arian digonol i greu rhaglenni amrywiol o safon. Mae angen gwarant o sianel annibynnol yn weithredol ac yn olygyddol. Gobeithio y gwnaiff y t? hwn ymateb i'n galwad ni sydd wedi dod yma i Lundain i gynrychioli Cymru ac ymateb i alwad y bedair plaid yng Nghymru am adolygiad annibynnol. Tynnwch S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus.

Menna Machreth
Lobi S4C - San Steffan, Llundain, Mawrth 30ain, 2011.