Cynigion Cyfarfod Cyffredinol 2016 fel y'i pasiwyd

Cyfarfod Cyffredinol 2016 

Cynigion fel y'i pasiwyd: 

1. Dulliau Penderfynu 

Noda'r Cyfarfod Cyffredinol bod Senedd a Chyngor y Gymdeithas wedi trafod ein dulliau o wneud penderfyniadau. Credwn fod angen, gydag amser, ragor o newidiadau yn ein dulliau penderfynu, ond nodwn, fel camau cychwynnol: 

(i) Y dylai'r Gymdeithas gynnal cyfarfodydd agored sy'n canolbwyntio ar nod ymgyrchu, gydag amseru a lleoliad y cyfarfodydd i'w penderfynu gan y grŵp ymgyrchu perthnasol o fewn y Gymdeithas, gyda'r awgrym fod cyfanswm o ddau gyfarfod o'r fath bob blwyddyn mewn gwahanol rhannau o Gymru. 

(ii) Y dylid trefnu hyfforddiant mewn dulliau consensws o wneud penderfyniadau ar gyfer swyddogion perthnasol y Gymdeithas. 

(iii) Nodwn, bellach, fod gan y Gymdeithas ganllaw er mwyn egluro (a mireinio) ein dulliau presennol o wneud penderfyniadau. Anogwn gadeiryddion pob grŵp a chell o fewn y Gymdeithas i wneud defnydd llawn ohono, a dylid ei ddiwygio yn ôl yr angen er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol. 

(iv) Teimlwn mai nod y Cyfarfod Cyffredinol yw cynnal trafodaeth ystyrlon am waith ac ymgyrchoedd y Gymdeithas. Yn hyn o beth, dylai fod gan Gadeirydd y cyfarfod yr hawl i lacio'r rheolau sefydlog a defnyddio ei d(d)isgresiwn er mwyn hwyluso trafodaeth. 

Galwn ar Senedd a Chyngor y Gymdeithas i weithredu pwyntiau (i) - (iii) 

Nodwn fod Rheolau Sefydlog y Cyfarfod Cyffredinol, gan gynnwys trefniadau Cadeirio, yn adran 9 Cyfansoddiad y Gymdeithas. Er mwyn gweithredu penderfyniad (iv), cynigiwn ddiwygio Cyfansoddiad y Gymdeithas. Ar ddechrau pwynt 9b, ychwaneger brawddeg newydd: "Gweithredir Rheolau Sefydlog y Cyfarfod Cyffredinol ar ddisgresiwn Cadeirydd er mwyn hwyluso trafodaeth." 

 

2. Cymraeg i Oedolion 

Galwn ar Lywodraeth Cymru a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Cymraeg i lunio strategaeth ar gyfer Cymraeg i Oedolion sy'n targedu athrawon mewn ysgolion, cymorthyddion, staff ategol a rhieni a gofalwyr di-Gymraeg sy'n dewis anfon eu plant i ysgolion Cymraeg. Dylai'r cynllun gyfuno cyllidebau addysg, addysg yn y gweithle a Chymraeg i Oedolion, fel y medrir cychwyn o ddifri ar sicrhau Miliwn o Siaradwyr Cymraeg. 

 

3. Cyd-sefyll gyda'r Sioux 

Mae'r Gymdeithas yn datgan cefnogaeth i genedl y Sioux o Standing Rock, Dakota, sy'n gwrthwynebu piben olew fyddai'n croesi eu tiroedd ac yn peryglu eu dŵr yfed.  Byddai olew'n gollwng o'r biben yn fygythiad i fodolaeth y genedl, ei thraddodiadau, iaith a diwylliant.  Yn yr un modd mae'r Gymdeithas yn cefnogi pobloedd brodorol ymhob man sy'n gwarchod y ddaear a'u hetifeddiaeth ieithyddol yn erbyn grymoedd cyfalafol.  

 

4. Horizon - Machlud y Gymraeg 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn datgan unwaith eto ein gwrthwynebiad i Wylfa B oherwydd y niwed y byddai'n achosi i'r Gymraeg yng nghymunedau Gwynedd a Môn. Mae Maniffesto Môn a gyhoeddwyd rai blynyddoedd yn ôl yn nodi’n glir ffyrdd eraill mwy cynaliadwy y gellid creu swyddi a’r rheiny yn swyddi lleol. 

Nodwn fod y cynllun hwn, sydd dan ofal corfforaeth fawr ryngwladol, yn peryglu'r amgylchedd ac yn rhannol gyfrifol am yr 8000 o dai, sy'n rhan o Gynllun Datblygu Lleol y ddwy sir hyd at 2026. Nid yw’r Cynllun Datblygu hwn yn seiliedig ar yr angen lleol. 

Galwn am barhad yn y cydweithio gyda ffrynt eang o fudiadau eraill yng Nghymru yn erbyn cynllun gormesol Hitachi a Horizon, sydd wedi hidio dim am yr effaith ar ein hiaith, ein diwylliant, a'n cymunedau. Mae'r diwydiant niwclear yn hen ffasiwn, yn beryglus ac yn eithriadol ddrud, ac mae'n mynd yn groes i ffyrdd eraill cynaliadwy, blaengar a diogel o greu ynni. 

 

5. Sefyllfa Ariannol y Gymdeithas 

Yn genedlaethol, rydym wedi adnabod y perygl y bydd llai o arian yn cyfyngu ar ein gweithgareddau o fewn pedair blynedd os nad oes newid sylweddol yn ein sefyllfa ariannol yn y cyfamser. Ymysg cwtogiadau eraill, mae’n debygol y byddai’n golygu lleihau swyddi cyflogedig o bump i ddwy neu dair erbyn 2020, gyda’r tebygolrwydd na fyddai modd inni gynnal swyddogion maes yn y rhan fwyaf o Gymru. Mae’r Gymdeithas wrthi’n cymryd camau ar lefel genedlaethol i lenwi’r bwlch ariannol hwn drwy gynyddu incwm y mudiad ac arbed arian. Fodd bynnag, ni all sicrhau cynaliadwyedd ariannol heb newid yn y ffordd y mae’r mudiad yn gweithredu. 

Cynigir bod y Gymdeithas yn sefydlu cynllun codi arian cenedlaethol. Dan arweiniad y Senedd, bydd yn blaenoriaethu codi rhagor o arian yn ogystal â recriwtio aelodau a chanolbwyntio ar sefydlu a grymuso celloedd i weithredu’n wleidyddol. Cyfarwyddwn y Senedd hefyd i edrych ar a thrafod unwaith eto gyfleon buddsoddi arian yn foesegol. Ochr yn ochr â hyn, bydd y Gymdeithas yn cynllunio ar gyfer y diffyg ariannol. Cydnabyddir ei bod yn debygol y bydd angen lleihau niferoedd y swyddogion cyflogedig dros gyfnod o bum mlynedd. Felly, bydd y Gymdeithas yn blaenoriaethu grymuso a hyfforddi gwirfoddolwyr, gyda’r nod o drosglwyddo gwaith y mae’r swyddogion cyflogedig yn ei gyflawni ar hyn o bryd i wirfoddolwyr. 

 

6. Adfywio cymunedau drwy sicrhau strwythur i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw yn gymdeithasol 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi gweld adrefnu a gwendidau ym maes Cymraeg i Oedolion, a hefyd toriadau cyson i wasanaethau Cymraeg ac yn arbennig gwasanaeth Twf. Rydyn ni hefyd yn gwybod nad yw Hanes Cymru yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion, ac felly mae'n rhaid i ni lenwi’r bylchau yma a dod ag ysbryd nôl i’n cymunedau. Cysylltir Cymdeithas yr Iaith yn barhaol gyda'r elfen o bwyso am newid, ond rydym yn dathlu bod gwaith da yn cael ei wneud ar lawr gwlad yng Nghymru, ac rydym am adeiladu ar y sylfaen hwnnw. 

Penderfynwn felly sefydlu Swyddog Cymunedau Byw yn aelod o'r Senedd i gydlynnu Gweithgor Cymunedau Byw, i weithredu ochr yn ochr gyda Chynghrair Cymunedau Cymru a grwpiau eraill o fewn a thu allan i Gymdeithas yr Iaith, fydd yn atebol i Senedd y Gymdeithas. Nodau'r Grŵp Cymunedau Byw fydd: 

  1. Paratoi'r ffordd i adfywio ein cymunedau ac i gynnal ac ailddarganfod y Gymraeg 

  1. Edrych ar yr elfen gymdeithasol i gefnogi cydweithio o fewn ein cymunedau. Bydd hyn yn hwyluso cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg, ac yn codi ymwybyddiaeth er mwyn i bawb yng Nghymru weld gwerth y Gymraeg a’i gweld fel iaith fyw 

  1. Datblygu Siarter Cymunedau Byw, fel sail hyblyg ar gyfer gweithredu 

  1. Tynnu aelodau gwerthfawr ein cymunedau sy’n gweithio’n galed dros y Gymraeg at ei gilydd yn ogystal â'i gwneud yn haws i aelodau cyffredin deimlo’n rhan o Gymdeithas yr Iaith 

  1. Sicrhau mwy o aelodau i Gymdeithas yr Iaith. [cynnig yn parhau ar y dudalen nesaf] 

Gweithgareddau'r Grŵp Cymunedau Byw fydd: 

  • Ar y cyd gyda mudiadau eraill, mapio ble mae gweithgareddau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg yn digwydd ar hyn o bryd ar draws Cymru ac edrych ar natur y grwpiau hynny.  

  • Cynnal cynhadledd neu Ysgol Basg er mwyn tynnu pobl allweddol ynghyd i rannu arfer da, llunio Siarter Cymunedau Byw, a datblygu syniadau ymhellach o ran ffordd ymlaen i’r Grŵp Cymunedau Byw. 

  • Os oes angen, cynorthwyo gyda rhwydweithio a marchnata digwyddiadau'r grwpiau cymunedol. 

  • Gweithredu wedi hynny, ar y cyd gyda Dathlu’r Gymraeg, fel ymbarél ar gyfer grwpiau cymunedol, gan roi cefnogaeth gychwynnol iddynt yn ogystal ag arweiniad yn dilyn trafodaethau’r Ysgol Basg. 

 

7. Ymgyrch Rhanbarth Gwynedd a Môn 2016-17 

Yn ystod blwyddyn dyngedfennol i'r iaith Gymraeg ym Môn, pan fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â'r ynys a chynllun datblygu lleol yn debygol o gael ei gymeradwyo, mae Rhanbarth Gwynedd a Môn yn galw ar Gyngor Môn i weithredu mewn dau faes penodol: i) addysg Gymraeg i bawb a ii) gweinyddu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Noda'r Cyfarfod Cyffredinol fod nifer o ysgolion y sir yn parhau i ddarparu addysg sy'n gadael disgyblion heb y gallu i gyfathrebu'n rhugl yn Gymraeg. Rhwng 2009 a 2013 bu cwymp yng nghanran y disgyblion 14 mlwydd oed a gafodd eu hasesu gyda'r Gymraeg fel iaith gyntaf, i 62%. Dyw 30% o blant y sir ddim yn sefyll yr un arholiad TGAU drwy gyfrwng y Gymraeg. Ymhellach, noda'r Cyfarfod Cyffredinol siom Rhanbarth Gwynedd a Môn ynghylch diffyg gweledigaeth ac uchelgais Strategaeth Iaith Cyngor Môn i symud tuag at weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn sicrhau statws a gwerth y Gymraeg fel sgil hanfodol yn wyneb datblygiadau enfawr a fyddai'n newid natur ieithyddol yr ynys. 

Penderfyna'r Cyfarfod Cyffredinol gefnogi ymgyrch Rhanbarth Gwynedd a Môn ac i gynnal parti neu brotest ar uned Cyngor Sir Fôn ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2017 i naill ai ddathlu cynllun newydd gan y Cyngor i symud tuag at addysg Gymraeg gyflawn i holl ddisgyblion y Sir ac i fapio gweledigaeth i weinyddu trwy'r Gymraeg neu i brotestio yn erbyn y diffyg gweledigaeth a gweithredu yn y meysydd hyn.  

 

8. Cryfhau Mesur y Gymraeg 

Noda'r Cyfarfod Cyffredinol: 

(i) fwriad Llywodraeth Cymru i ddechrau ar y broses o gryfhau Mesur y Gymraeg ddechrau'r flwyddyn nesaf; 

(ii) er gwaethaf cymhlethdod y gyfundrefn Safonau a'r mannau gwan amlwg ynddynt, bod nifer o gryfderau i'r gyfundrefn; a 

(iii) bod allanoli a phreifateiddio yn ei gwneud yn holl bwysig bod y ddeddf iaith yn cwmpasu'r sector breifat gyfan. 

Felly, creda'r Cyfarfod Cyffredinol y dylid cryfhau Mesur y Gymraeg, ac adeiladu ar y gyfundrefn Safonau, drwy: 

(i) Sefydlu hawliau cyffredinol i ddefnyddio’r Gymraeg er mwyn sicrhau bod cyrff yn gwella yn barhaus o ran darparu gwasanaethau, llenwi’r mannau gwan anochel a ddaw yn sgil y Safonau, a sicrhau bod hawliau pobl i’r Gymraeg yn ddealladwy 

(ii) Ymestyn y Mesur i weddill y sector breifat er mwyn normaleiddio a chryfhau defnydd y Gymraeg ym mhob rhan o fywyd 

  • gan enwi ar wyneb y Mesur fanciau, archfarchnadoedd, mân-werthwyr a chwmnïau sydd â throsiant uwch na ffigwr benodol fel blaenoriaethau tymor byr 

  • sefydlu grym a dyletswydd ar wyneb y Mesur i ychwanegu holl gyrff y sector breifat fel categorïau o berson y gellid eu hychwanegu at Atodlen 8 y ddeddfwriaeth 

(iii) Sicrhau annibyniaeth penodiad y Comisiynydd gan y Cynulliad ac annibyniaeth cyllido oddi wrth y Llywodraeth 

(iv) Sefydlu Cyngor y Gymraeg a chanddo gyllideb a chyfrifoldeb i hyrwyddo a hybu’r Gymraeg, gan ddiddymu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg a Phanel Cynghori’r Comisiynydd 

(v) Fesurau i sicrhau mwy o swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol a chynllunio’r gweithlu’n llawer gwell. Cymryd camau i hyrwyddo i gyflogwyr bod y gosodiad, wrth hysbysebu swydd: 'Cymraeg yn Hanfodol i'r Swydd Hon' yn hollol gyfreithiol, ar ôl asesu anghenion y swydd. 

(vi) Fesurau i amddiffyn a hybu gweithredu mewnol uniaith Gymraeg a gofodau eraill uniaith Gymraeg 

(vii) Ddyletswydd i enwi adeiladau, tai, lleoedd a strydoedd yn Gymraeg mewn datblygiadau, ynghyd â diogelu enwau Cymraeg sy’n bodoli eisoes 

 

9. Cyngor Gwynedd a Chwmnïau Enfawr 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn credu mai egwyddor sylfaenol cynhaliaeth y Gymraeg yw prynu nwyddau yn lleol, er mwyn hybu'r economi leol a lleihau ôl troed carbon. Er arddel yr egwyddor hon, nid yw Cyngor Gwynedd yn ei weithredu'n gyson. 
Er datgan eu bod o blaid prynu'n lleol, nid yw Cyngor Gwynedd wedi atal canghennau o COSTA rhag agor caffis yn nhrefi'r sir. Y diweddaraf yw tref Caernarfon lle mae cangen enfawr o COSTA wedi agor fydd yn sicr o gael effaith ar gaffis cynhenid y dref. 
Galwn ar Gyngor Gwynedd i wneud popeth yn eu gallu i atal cwmnïau enfawr rhag tarfu ar fusnesau lleol ac i wneud astudiaeth o effaith ieithyddol a chymdeithasol agor unrhyw siop gan gwmni rhyngwladol yn y Sir, cyn iddyn nhw gael caniatâd i wneud hynny.