Cynigion Cyfarfod Cyffredinol 2018 fel y'i pasiwyd

Fersiwn PDF yma

(1) Prentisiaethau

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo £10m o’r gyllideb o £111.5M yn 2018-19 i brentisiaethau cyfrwng Cymraeg, a chynyddu hynny i £20M y flwyddyn dros y 3 mlynedd nesaf.

2. Yn ychwanegol i hyn, yn galw ar y Llywodraeth i lunio strategaeth a fydd yn cynnwys datblygu’r rhaglen hyfforddiant i’r gweithlu, sefydlu tîm o aseswyr a sicrhau bod asiantaethau sy’n darparu cyrsiau ac sy’n dyfarnu yn gallu cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

 

(2) Sefyll yn erbyn hiliaeth

Yn cynnig bod y cyfarfod cyffredinol yn:

  1. Nodi twf yr adain dde eithafol ar draws y byd, y cynnydd mewn troseddau casineb ar sail hil a normaleiddio sylwadau rhagfarnllyd ym mywyd cyhoeddus

  2. Nodi er bod y Gymraeg yn iaith i bawb yng Nghymru, mae cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn tueddu cael eu cau allan o’r Gymraeg yn ein system addysg a bod rhaid i hyn newid

  3. Yn cymeradwyo safiad Cymdeithas yr Iaith i beidio ag ymwneud ag Ukip oherwydd eu safbwyntiau rhagfarnllyd, ac yn galw eto ar eraill ym mywyd cyhoeddus Cymru i wneud yr un safiad

  4. Yn gwrthod yr alwad gan rai ar ymgyrchwyr dros y Gymraeg a Chymru i beidio ag ymgyrchu ar faterion sy’n effeithio ar grwpiau dan ormes, a’r honiad bod y materion yma’n rhai ‘ymylol’

  5. Yn datgan bod Cymdeithas yr Iaith yn sefyll yn erbyn pob math o hiliaeth, a bod y frwydr dros gyfiawnder i’r Gymraeg ynghlwm â’r frwydr dros gyfiawnder hil, dadgoloneiddio a chyfiawnder i bob grŵp sy’n profi gormes. Mae gan bob un ohonom sy’n rhan o’r frwydr, a Chymdeithas yr Iaith fel mudiad, gyfrifoldeb dros ddadansoddi ac amlygu’r cysylltiadau hyn

  6. Yn galw ar sefydliadau cyhoeddus Cymru i wneud mwy i fynd i’r afael â hiliaeth a than-gynrychiolaeth cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yn ein bywyd cyhoeddus

  7. Yn galw ar Senedd y Gymdeithas, ein grwpiau ymgyrchu, celloedd a rhanbarthau, a’n holl aelodau, i gymryd agwedd rhagweithiol tuag at herio hiliaeth a chymryd cyfleoedd i gyd-sefyll â chymunedau du a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru

 

 

 

(3) Rhanbarthau Dinesig ac Arfor

Pwysleisiwn eto fod y cysyniad o Rhanbarthau Dinesig yn milwrio yn erbyn holl ymdrechion y Gymdeithas i ymgyrchu o blaid grymuso a datganoli grym i gymunedau dros y degawdau diwethaf.

Noda’r Cyfarfod Cyffredinol bod gennym bolisi a basiwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol 2015 am weledigaeth am y ffordd ymlaen i’n cymunedau Cymraeg:

"Cynnig a basiwyd 2015: Sefydlu Continwwm tuag at Gymunedau Cymraeg.

"Galwn ar lywodraeth nesaf Cymru i alw cynhadledd genedlaethol i drafod sefydlu continwwm cymunedol ieithyddol er mwyn sicrhau parhad a datblygiad ein cymunedau Cymraeg. Gosodwn yr un nod ledled Cymru o wneud y Gymraeg yn brif iaith ein cymunedau, ond cydnabyddwn fod cymunedau ar wahanol fannau ar y ffordd tuag at hynny.

"Dylai cynhadledd o'r fath drafod sefydlu categorïau ieithyddol ar gyfer ein cymunedau, gan dderbyn y bydd gwahanol bolisïau addysg, tai, cynllunio, datblygu economaidd a gweinyddiaeth gyhoeddus mewn gwahanol gategorïau, ond bod y rhain oll yng nghyd-destun hawliau ieithyddol cenedlaethol sylfaenol. Nod llywodraeth ganolog fyddai annog Awdurdodau Lleol i symud cymunedau ar hyd y continwwm tuag at fod yn gymunedau Cymraeg."

Noda’r Cyfarfod Cyffredinol bod darn swmpus o waith angen ei wneud i symud ein polisi ar hyn ymlaen.

Penderfyna’r Cyfarfod Cyffredinol bod angen symud ymlaen â’r gwaith hwn o greu Continwwm tuag at Gymunedau Cymraeg.

Noda’r Cyfarfod Cyffredinol fod syniad Arfor wedi ei ddatblygu gan Blaid Cymru.

Penderfyna’r Cyfarfod Cyffredinol fod angen ystyried Arfor a’i le oddi fewn i’r Continiwwm, pan ddaw manylion cynllun Arfor yn gliriach gan ymgynghori gyda’r rhanbarthau ar Arfor a pholisiau cyn adrodd yn ôl i'r Cyfarfod Cyffredinol.

Geilw’r Cyfarfod Cyffredinol ar i’r Grwp Cymunedau symud ymlaen â’r gwaith hwn ar y continiwwm ieithyddol – Continiwwm tuag at Gymunedau Cymraeg.

 

(4) Safonau i'r Sector Bancio

Collfarnwn fethiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno safonau ac felly hefyd hawliau i wasanaethau Cymraeg gan ddarparwyr cyfleusterau hanfodol megis dŵr, trydan a nwy, trafnidiaeth a thelathrebu.

Collfarnwn ymhellach ymdrechion y Llywodraeth i wanhau hawliau siaradwyr Cymraeg yn gyffredinol trwy gyflwyno bil newydd a gwannach na Mesur 2011.

Nodwn bod y gallu i fancio drwy'r Gymraeg yn dirywio wrth i ganghennau cau a chwsmeriaid cael ein gorfodi i fancio ar-lein yn Saesneg yn unig. Nodwn bod llawer o'n banciau yn gweithredu yn rhyngwladol ac yn cynnig gwasanaethau bancio ar-lein mewn nifer o ieithoedd i gwsmeriaid mewn gwahanol wledydd. Nodwn ddiffyg cynnydd o ran gwasanaethau Cymraeg yn y sector, er gwaethaf trafodaethau rhwng y banciau a Chomisiynydd y Gymraeg dros nifer o flynyddoedd.

Credwn bod yr amser wedi dod i orfodi ein banciau i gynnig eu gwasanaethau yn Gymraeg drwy ymestyn y system Safonau.

 

(5) Cynrychiolaeth Rhanbarthol

Noda’r Cyfarfod Cyffredinol bod presenoldeb cynrychiolaeth ranbarthol yn wan yng nghyfarfodydd Cyngor y Gymdeithas

Noda’r Cyfarfod Cyffredinol bwysigrwydd presenoldeb rhanbarthau yn y cynghorau a phresenoldeb celloedd yn y rhanbarthau.

Noda’r Cyfarfod Cyffredinol bod gwaith pwysig pellach i’w wneud yn meithrin celloedd ar lawr gwlad.

Geilw’r Cyfarfod cyffredinol ar i Swyddogion Maes wneud gwaith pellach ar hyn ac hefyd i ranbarthau gymryd cyfrifoldeb dros gynorthwyo i sefydlu a datblygu celloedd yn eu rhanbarthau.

Geilw’r Cyfarfod Cyffredinol ar i Gadeirydd y Gymdeithas gysylltu yn bersonol gyda’r rhanbarthau i sicrhau cynrychiolaeth y rhanbarthau yn y Cyngor

Geilw’r Cyfarfod Cyffredinol ar i Gadeirydd y Gymdeithas i ailedrych ar strwythur Senedd/Cyngor eleni gan edrych i ddod â chynnig pellach i’r Cyfarfod Cyffredinol y flwyddyn nesaf.

 

(6) Aelodaeth a chodi arian

Penderfyna’r Cyfarfod Cyffredinol bod angen i ‘aelodaeth’ a ‘codi arian’ fod yn eitemau sefydlog ar agenda pob rhanbarth a chell – neges i’w throsglwyddo trwy’r Swyddogion Maes a’r Cadeirydd.

 

 

(7) Deunydd ar-lein i blant

Noda’r Cyfarfod Cyffredinol bod dybryd angen deunydd yn Gymraeg ar lein i blant a phobol ifanc. Nodwn hefyd llwyddiant prosiect Sianel 62 y Gymdeithas.

Geilw’r Cyfarfod Cyffredinol ar grŵp Dyfodol Digidol y Gymdeithas i ymchwilio i’r hyn sydd angen, gyda golwg ar sefydlu prosiect i greu a rhyddhau’r deunydd.