15 Gorffennaf 2013
Annwyl Lywydd,
Ysgrifennwn atoch ar fater brys ynglŷn â chynllun ieithoedd swyddogol y Cynulliad a gyflwynwyd i’r Cynulliad yn hwyr ddydd Mercher diwethaf.
Ymddiheurwn am nodyn mor hwyr am y mater ond roedd hynny’n anorfod gan ystyried na welwyd y cynllun ar ei newydd wedd cyn cyflwyno’r ddogfen i’r Cynulliad Cenedlaethol yn ffurfiol ychydig ddyddiau yn ôl.
Yn gryno, nid yw’n ymddangos eich bod wedi ystyried goblygiadau’r newidiadau deddfwriaethol yn llawn, ac felly credwn fod y cynllun iaith yn torri’r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol. Yn ôl y cynllun, ni fydd gan bobl hawl i ddefnyddio’r Gymraeg, ond, yn hytrach, rhyddid i gael dim ond rhai o’r dogfennau, briffiadau a gwasanaethau yn Gymraeg, tra bydd popeth ar gael yn Saesneg. Yn hytrach na thrin y ddwy iaith ar y sail eu bod yn gyfartal, mae nifer o gymalau yn trin y Saesneg fel yr iaith ddiofyn, tra bod y Gymraeg yn cael ei thrin fel iaith ychwanegol mae rhaid optio mewn iddi.
Yn ogystal, ers y nawdegau, dehonglwyd Deddf Iaith 1993 fel bod rhaid darparu dogfennau yn Gymraeg a’r Saesneg ar yr un pryd, ond eto hyd yn oed gyda gofyniad statudol uwch y Ddeddf Ieithoedd Swyddogol, nid oes ymrwymiad i sicrhau bod fersiynau Cymraeg dogfennau a gwasanaethau Cymraeg ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd. Yn ein barn ni, ni fyddai’r dogfennau nad ydych yn bwriadu eu cyhoeddi yn Gymraeg ar yr un pryd â’r Saesneg yn bodloni gofyniad y Ddeddf newydd.
Yn anffodus, nid oedd modd codi ein pryderon yn gynt gan nad oedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn un o’r rhandeiliad yn y broses a ddilynwyd ers i’r cynllun gael ei ail-ysgrifennu. Hynny er mai ein haelodau a’n hymgyrchwyr a anfonodd y rhan fwyaf o ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus ar y materion hyn. Ac er i’ch swyddogion ddatgan bod ymgynghoriad wedi bod ar gynnwys y cynllun newydd gyda ‘rhandeiliad’, yn ein cyfarfod diweddar gyda’ch swyddog, nid oedd yn fodlon rhannu’r ddogfen gyda ni nac ychwaith enwi’r rhandeiliaid a fu’n rhan o drafodaethau ar gynnwys y cynllun iaith ar ei newydd wedd. Mae’r Gymdeithas wedi cyflwyno tystiolaeth sawl gwaith i’r Cynulliad ynghylch y materion hyn yn y gorffennol wrth gwrs, ond mae’n ymddangos bod y broses hon o baratoi cynllun newydd wedi digwydd mewn ffordd gaeedig iawn heb lawer o ystyriaeth i’r trafodaethau manwl (gyda phob math o randdeiliaid ac arbenigwyr) sydd wedi bod ar y materion hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Wrth edrych ar y ddogfen, ymddengys i ni nad yw’r cynllun yn cydymffurfio â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012. Nid ydym yn awyddus i orfod ystyried herio’r cynllun yn y llysoedd, felly rydym yn ysgrifennu’r llythyr hwn yn y gobaith y gellid ailystyried cynnwys y cynllun a gohirio’r bleidlais ar y cynllun tan iddo gael ei ddiwygio er mwyn iddo fodloni gofynion y ddeddfwriaeth newydd.
Fel nodoch chi yn eich datganiad i’r wasg adeg pasio’r Ddeddf: “Bellach, caiff y Gymraeg a'r Saesneg eu hystyried yn ieithoedd swyddogol yn nhrafodion y Cynulliad. Mae'r Bil yn gosod dyletswydd statudol i drin y ddwy iaith yn gyfartal wrth i'r Comisiwn ddarparu gwasanaethau i'r Cynulliad ac i'r cyhoedd.”. Ychwanegodd aelod o Gomisiwn y Cynulliad gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg: “Mae'r Bil yn gosod esiampl i sefydliadau sy'n gweithio ledled Cymru yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat o sut i drin dwyieithrwydd.”
Geiriau clodwiw, sydd â goblygiadau pellgyrhaeddol, oherwydd mae’r penderfyniad i drin y ddwy iaith yn gyfartal yn gam ymlaen o’r hen agwedd yn Neddfau Iaith y gorffennol. Mae’r Ddeddf newydd felly yn wahanol iawn i Ddeddf Iaith 1993 lle rhoddwyd amodau ar yr egwyddor y dylid trin y ddwy iaith ar y sail eu bod yn gyfartal, gan i’r hen ddeddf ddatgan yn adran 5(2): “Y diben y cyfeirir ato yn isadran (1) uchod yw gweithredu, cyn belled ag y bo’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, yr egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.”
Mae hefyd yn wahanol i ddarpariaethau gwreiddiol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 sy’n datgan: “Rhaid i’r Cynulliad weithredu’r egwyddor y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal trafodion y Cynulliad, cyhyd ag y bo hynny’n briodol dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.”
Nid oes amodau ar y driniaeth gyfartal bellach fel a fu. Mae’r Ddeddf, wrth ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru, felly yn amlinellu tair egwyddor newydd:
(i) bod y Gymraeg yn un o ieithoedd swyddogol y Cynulliad (Adran 35 (1), Deddf Llywodraeth Cymru)
(ii) Rhaid trin yr ieithoedd swyddogol, wrth gynnal trafodion y Cynulliad, ar y sail eu bod yn gyfartal. (Adran 35 (1A)); Rhaid i Gomisiwn y Cynulliad, wrth weithredu ei swyddogaethau... drin ieithoedd swyddogol y Cynulliad ar y sail eu bod yn gyfartal (paragraff 8, atodlen 2)
(iii) Mae gan bawb hawl i ddefnyddio’r naill iaith swyddogol neu’r llall wrth gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad. (Adran 35 (1B))
Mae rhai o’r egwyddorion hyn yn rhai newydd i’r gyfraith yng Nghymru ac yn arwyddocaol yn y ffordd y dylid ymdrin â’r Gymraeg. Fel nodwyd gan y rheoleiddiwr cydnabyddiedig blaenorol yn y maes hwn, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn ei dystoliaeth yn ystod y trafodaethau ar y Mesur, mae’r Ddeddf yn cynnig: “ymrwymiad diamwys sy’n rhoi hawl i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymwneud â’r Cynulliad.”
Syndod felly oedd darllen nifer o gymalau yn y Cynllun Iaith sydd yn groes i’r Ddeddf newydd, yn cyfyngu ar hawl pobl i ddefnyddio’r Gymraeg. Atodaf restr o rai o’r enghreifftiau lle mae’r Cynllun yn groes i’r Ddeddf yn ein barn ni, gan gynnwys yn arbennig peidio cyhoeddi dogfennau Cymraeg ar un pryd â’r Saesneg, rhagdybiaeth y cyhoeddir rhai o ffurflenni a dogfennau corfforaethol y sefydliad yn Saesneg yn unig, rhagdybiaeth na fydd holl wasanaethau rheng flaen y sefydliad ar gael yn Gymraeg a rhagdybiaeth na fydd yr holl wybodaeth ar gyfer y rhai sydd yn cymryd rhan yn nhrafodaethau’r Cynulliad yn cael ei darparu yn Gymraeg.
Effaith y brawddegau yn yr atodiad wrth gwrs yw cadarnhau drachefn mai Saesneg yw'r iaith bwysig yng ngolwg y Cynulliad. Nid yw'n bwriadu datgan hynny, ac yn wir nid yw'n dweud hynny'n uniongyrchol, ond mae'r awgrym – er enghraifft, y ffaith na fydd holl ffurflenni a dogfennau corfforaethol “yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg” gyda’r dybiaeth mai yn Saesneg y byddant yn wreiddiol – yn amlygu barn waelodol y Cynulliad am le'r ddwy iaith: Saesneg sy'n bwysig, a gall y rhai sydd â'r Gymraeg yn ddewis iaith iddyn nhw fodloni ar ddefnyddio Saesneg fel pawb arall. Yn bwysicach byth, dengys felly nad yw’r Cynulliad wedi dechrau ar y sail y dylid trin y ddwy iaith yn gyfartal, ond yn hytrach dechrau o safbwynt trin y ddwy iaith ar lefel wahanol, yn groes i’r Ddeddf newydd. Mae’n eithaf amlwg bod ymdrech fawr wedi ei gwneud i’r Cynllun edrych fel nad yw’n gwneud hynny, ond nid oes gwadu bod y Cynllun yn gwneud darparu gwasanaethau yn Saesneg yn hanfodol - o ddarparu papurau, cofnodion o bob math a gwasanaethau wyneb wrth wyneb - ond na fydd gwasanaeth Gymraeg yn bodoli neu y bydd rhaid aros yn hirach iddynt yn y Gymraeg.
Mae’r ffaith bod y Cynulliad yn gweld darparu ei bapurau briffio i aelodau ar gyfer ei waith pwyllgorau yn Gymraeg fel rhywbeth arloesol yn syndod am sawl rheswm. Mae’r syniad na fydd papurau ymchwil ar gael yn Gymraeg wrth gwrs yn cadarnhau na fydd gan bobl yr ‘hawl’ honedig i ddefnyddio’r Gymraeg wrth gymryd rhan mewn trafodion. Ymhellach, mae’r Cynllun yn son am ‘anelu at gyfathrebu ag Aelodau’r Cynulliad mewn perthynas â thrafodion ffurfiol y Cynulliad yn eu dewis iaith neu’n ddwyieithog’, sydd wrth gwrs yn golygu na fydd yr holl ddogfennau yn cael eu darparu yn Gymraeg ac felly yn uniongyrchol groes i ofyniad y Ddeddf i wireddu’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn nhrafodion y Cynulliad.
Ymhell o fodloni’r Ddeddf newydd felly, mae’r cynllun yn edrych yn debyg iawn i gynllun a fyddai wedi cael ei baratoi er mwyn ceisio bodloni’r sefyllfa ddeddfwriaethol a fu o dan Ddeddf Iaith 1993 neu Ddeddf Llywodraeth Cymru heb welliannau a wnaed gan y Ddeddf Ieithoedd Swyddogol.
Cofnod y Trafodion - Y Gymraeg ar un pryd â’r Saesneg
Bu Cofnod y Trafodion yn gwbl ddwyieithog o gychwyn datganoli yng Nghymru hyd at 2009. Ers hynny bu ymgyrch dorfol i ddychwelyd at gofnod dwyieithog, ac mae dros fil a hanner o bobl wedi llofnodi deiseb am y mater. Y Cynulliad yw calon democratiaeth Cymru; mae'r Cofnod o'r herwydd yn un o'r dogfennau pwysicaf sy'n cael eu cyhoeddi mor rheolaidd, ac mae'n fater o'r pwys mwyaf i statws yr iaith bod y ddogfen honno'n gwbl ddwyieithog, a hynny wrth ei chyhoeddi am y tro cyntaf: nid yw drafft uniaith Saesneg, a chopi dwyieithog i ddilyn, yn dderbyniol os oes cydraddoldeb rhwng yr ieithoedd. Mae’r sefyllfa newydd o gyhoeddi Cofnod Saesneg o fewn 24 awr, ond bod gofyn disgwyl 5 diwrnod gwaith am Gofnod dwyieithog, yn gwbl annerbyniol, ac mae angen newid y ddyletswydd hon fel bod Cofnod dwyieithog cyflawn ar gael o fewn 24 awr, fel a ddigwyddai yn ddi-drafferth cyn 2009.
Nodwn fod y Cynllun yn cyfeirio at “symud tuag at sefyllfa lle bydd mwy o ddogfennau, gan gynnwys Cofnod y Trafodion, ar gael yn y ddwy iaith ar yr un pryd”. Fodd bynnag, nid oes amserlen ar gyfer darparu Cofnod y Trafodion yn y ddwy iaith ar yr un pryd tra bod nifer o ddyddiadau ar gyfer addewidion eraill. Beth yw’r amserlen ar gyfer cyflawni hynny felly?
Strategaeth Sgiliau - Absennol o’r Cynllun
Awgrymwyd yn ystod trafodaethau’r pwyllgor ar y Cynllun a’r Bil y byddai’r Strategaeth Sgiliau yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd â’r Cynllun. Mae sgiliau dwyieithog yn hanfodol er mwyn gweithredu egwyddorion y Ddeddf, ond mae’r Cynllun Ieithoedd ei hunan yn rhyfeddol o wan ar y mater pwysig hwn. Hoffwn ofyn sut ydych yn disgwyl i Aelodau Cynulliad asesu a oes adnoddau dynol digonol ar gyfer cyflawni’r Cynllun heb weld y Strategaeth Sgiliau wrth iddynt drafod a phleidleisio ar y Cynllun.
Rhyddhau Papurau Cefndirol
Gyda chryn rwystredigaeth, rhoddwd gwybod i ni nad yw’r Comisiwn am ryddhau’r papurau a gyflwynwyd i aelodau Comisiwn y Cynulliad wrth iddynt ystyried mater mor bwysig â chynllun iaith y sefydliad. Efallai bod rhesymeg neu esboniad yn y dogfennau hynny am sut mae’r cynllun yn bodloni’r Ddeddf gyda mesurau tu hwnt i’r Cynllun ei hun? Wrth edrych ar y cynllun, credwn bod amheuon mawrion a yw’r Cynllun yn bodloni’r Ddeddf. Er lles trafodaeth gynhwysfawr ac agored ddydd Mercher yma yn y Senedd, credwn fod dyletswydd ar y Comisiwn i ryddhau’r papurau a ystyriwyd ganddynt.
Hoffem bwysleisio, fel mudiad a gefnogodd bleidlais ‘Ie’, bod caredigion yr iaith wedi eu perswadio y byddai’r sefydliad yn un a fyddai’n arwain y ffordd i holl gyrff Cymru o ran eu polisiau iaith. Wrth ystyried y safonau drafft a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a’r cynlluniau iaith llawer gwell na’r hyn a gynigir gan y Cynulliad sydd ar waith gan nifer o gyrff eraill yn wlad, ni wireddir addewid datganoli ar hyn o bryd. Yn wir, niweidiwyd enw da y Cynulliad wrth iddo dorri ei gynllun iaith am un deg saith mis. Nid ydym am weld y Cynulliad yn torri’r gyfraith ym maes iaith am yr eildro o fewn ychydig flynyddoedd.
O ystyried pwysigrwydd y materion hyn, gobeithiwn y gallwch anfon ymateb i’r ohebiaeth hon cyn dydd Mercher.
Yr eiddoch yn gywir,
Sian Howys
Cadeirydd Grŵp Hawliau
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
cc: Rhodri Glyn Thomas AC, Keith Davies AC, Simon Thomas AC, Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gymraeg, Carwyn Jones AC
Atodiad - Enghreifftiau o gymalau’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol fyddai’n groes i’r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol
Dyma rai o’r cymalau sydd yn ein barn ni yn groes i’r Ddeddf Ieithoedd Swyddogol.
(i) “Mae fersiwn wedi’i golygu o Gofnod y Trafodion yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Cynulliad o fewn 24 awr i ddiwedd y Cyfarfod Llawn. Mae’n cynnwys cyfraniadau yn yr iaith swyddogol ddewisol gyda’r cyfraniadau Cymraeg wedi’u cyfieithu i’r Saesneg.”
(ii) “Mae trawsgrifiadau drafft wedi’u golygu o drafodion y pwyllgorau, gyda chyfraniadau yn Gymraeg wedi’u cyfieithu i’r Saesneg, yn cael eu cyhoeddi ar-lein o fewn 10 diwrnod gwaith.”
(iv) “Mae trawsgrifiadau terfynol wedi’u golygu o drafodion y pwyllgorau, gyda chyfraniadau yn Gymraeg wedi’u cyfieithu i’r Saesneg, yn cael eu cyhoeddi ar-lein o fewn 14 diwrnod gwaith.”
(v) “Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gyfer cyfarfodydd Comisiwn y Cynulliad ar gais”
(vi) “Mae gwasanaethau cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael ar gyfer cyfarfodydd grwpiau trawsbleidiol ar gais”
(vii) “Caiff unrhyw ddeunyddiau (fel papur â phennawd, cardiau busnes a hysbysebion ar gyfer cymorthfeydd) nad ydynt yn wleidyddol eu natur ac sydd wedi’u hariannu gan Gomisiwn y Cynulliad eu cynhyrchu’n ddwyieithog.”
(viii) “Rydym yn anelu at gyfathrebu ag Aelodau’r Cynulliad mewn perthynas â thrafodion ffurfiol y Cynulliad yn eu dewis iaith neu’n ddwyieithog.”
(ix) “Mae posteri neu daflenni gwybodaeth a ddarperir gan drydydd parti, ac sy’n cael eu harddangos ar hysbysfyrddau ar ystâd y Cynulliad yn ddwyieithog neu, os nad oes fersiwn Cymraeg wedi ei darparu, yn Saesneg yn unig.”
(xi) “Byddwn yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i gyfieithu dogfennau yn gynt ac yn fwy effeithlon, gan ddefnyddio’r dechnoleg honno i symud tuag at sefyllfa lle bydd mwy o ddogfennau, gan gynnwys Cofnod y Trafodion, ar gael yn y ddwy iaith ar yr un pryd.”
(xii) “Gall arloesi cynnwys: …. awgrymu cwestiynau a, phan fo’n bosibl, rhannau eraill o bapurau briffio pwyllgorau yn gydamserol yn y ddwy iaith; cytuno ag Aelodau unigol, cyn cyfarfodydd ffurfiol, y rhannau allweddol o bapurau briffio pwyllgor a ddylai fod ar gael yn Gymraeg … ymchwilio i ffyrdd eraill o ddarparu mwy o bapurau briffio cyfreithiol a phapurau ymchwil yn Gymraeg yn gyffredinol”
(xiii) “At ddibenion busnes pwyllgorau, caiff tystiolaeth fideo ei darlledu yn yr iaith wreiddiol gydag is-deitlau Saesneg i gydfynd â chyfraniadau Cymraeg. Bydd trawsgrifiadau o ddeunydd ffilm ar gael yn yr iaith wreiddiol gyda chyfieithiad o’r Gymraeg i’r Saesneg.”
(xix) yr holl gyfeiriadau at wasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg yn unig yn hytrach nag o’r Saesneg i’r Gymraeg yn ogystal.
(xx) “Bydd holl ffurflenni a pholisïau corfforaethol y sefydliad yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg pan fydd adnoddau’n caniatáu hynny. “
(xxi) “Bydd unrhyw gyfraniadau sy’n dod i law yn Gymraeg ar gyfer ‘Y Llechen’, cylchgrawn mewnol y staff yn ymddangos yn ddwyieithog.”
Mae llawer o’r cymalau uchod yn sôn am gyfieithu (naill ai ar bapur neu ar y pryd) o’r Gymraeg i’r Saesneg, heb sôn o gwbl am wneud y ffordd arall rownd. Mae’r syniad mai cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg yn unig y byddai’r sefydliad yn ei wneud yn cadarnhau bod gan y Gymraeg statws eilradd i’r Saesneg ac nad ydych eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal.
Rosemary Butler A.M.
Llywydd
National Assembly for Wales
Cardiff
CF99 1NA
15 July 2013
Dear Llywydd,
We are writing about an urgent matter regarding the Assembly’s official languages scheme that was tabled in the Assembly late on Wednesday of last week.
We apologise for writing so late on the matter, but that was inevitable given that we did not see the new scheme until it was laid formally in the National Assembly a few days ago.
In short, it does not appear you have fully considered the implications of the legislative changes made in the Official Languages Act last year, and we believe that the language scheme breaks the new law. Under the scheme, people will not have the right to the Welsh language, but, rather, the freedom to receive only some of the documents, briefings and services in Welsh, while everything will be available in English. Instead of treating the two languages on the basis of equality, a number of clauses treat English as the default language, while the Welsh language is treated as an additional language which must be opted into.
In addition, since the nineties, the 1993 Language Act was interpreted as meaning that documents in Welsh and English have to be published simultaneously, but even with a higher statutory requirement under this new Act, there is no commitment to ensure that Welsh language versions of documents and Welsh language services are available at the same time as English ones. In our view, the publications you do not intend to publish in Welsh at the same time as English breach the requirements of the new Act.
Unfortunately, we have not been able to raise concerns sooner since Cymdeithas yr Iaith were not treated as stakeholders in the process that followed the re-writing of the scheme. This is despite the fact that most of the responses to your public consultations on these matters have been from our members and campaigners. Despite your officials stating there had been consultation with ‘stakeholders’ on the contents of the new scheme, in our recent meeting with an official of the Assembly, she was unwilling to share the document with us or to name the stakeholders that were part of discussions on the content of the new scheme. Cymdeithas yr Iaith has of course submitted evidence many times to the Assembly about these matters, but it seems that this process of preparing the new scheme has happened in a very closed manner without much consideration for detailed discussions (with all manner of stakeholders and experts) that have taken place over the past few years.
Looking at the document, it appears to us that the scheme does not comply with the National Assembly for Wales (Official Languages) Act 2012. We are keen to avoid having to consider challenging the scheme in the courts, so we are writing this letter in the hope it is possible to reconsider the scheme’s contents and postpone the vote on it until it is revised to meet the requirement of the new legislation.
As you noted in your press release at the time the Act was passed: “Both Welsh and English will now be considered official languages in Assembly proceedings. The Bill places a statutory duty to put them both on an equal footing in the delivery of the services the Commission provides to the Assembly and the public.”. The member of the Assembly Commission with responsibility for the Welsh language added: “The Bill sets an example for organisations working across Wales within both the public and private sectors about how to approach bilingualism.”
Commendable words, which have far-reaching implications, because the decision to treat the two languages equally is a step forward from the old attitude in previous Language Acts. The new Act is therefore very different from the 1993 Welsh Language Act where conditions were placed on the principle that the two languages should be treated on the basis of equality, the previous act stated in section 5(2): “The purpose referred to in subsection (1) above is that of giving effect, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that in the conduct of public business and the administration of justice in Wales the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.”
It is also different from the original provisions of the Government of Wales Act 2006 which stated:“The Assembly must, in the conduct of Assembly proceedings, give effect, so far as is both appropriate in the circumstances and reasonably practicable, to the principle that the English and Welsh languages should be treated on a basis of equality.”
There are no conditions placed on the equal treatment anymore as was the case. The Official Language Act, by amending the Government of Wales Act, outlines three new principles:
(i) that Welsh is an official language of the Assembly (Section 35 (1), Government of Wales Act)
(ii) The official languages must, in the conduct of Assembly proceedings, be treated on a basis of equality. (Section 35 (1A)); The Assembly Commission must, in the exercise of its functions... treat the official languages of the Assembly on a basis of equality (paragraph 8, schedule 2)
(iii) All persons have the right to use either official language when participating in Assembly proceedings. (Section 35 (1B))
Some of these principles are new to Welsh law and are significant for the way the Welsh language should be treated. As noted by the previous recognised regulator in this area, the Welsh Language Board, in its evidence during discussions on the Bill, the Act offers: “an unambiguous commitment which gives the right for people to use the Welsh language when dealing with the Assembly.”
So, it was a surprise to read a number of clauses in the Official Languages Scheme which are contrary to the new Act, limiting the right for people to use the Welsh language. I attach a list of some of the examples where the Scheme is, in our view, contrary to the Act, including especially the failure to publish Welsh language documents at the same time as the English, a presumption that some of the forms and corporate documents of the organisation are in English only, a presumption that not all the front-of-house services will be available in Welsh and a presumption that not all of the information provided for those taking part in the Assembly’s proceedings will be provided in Welsh.
The effect of the sentences in the appendix*, of course, is to confirm once more that the important language in the Assembly’s eyes, is English. The Scheme does not intend to state this, and does not state it directly, but the suggestion – for example, the fact that not all forms and corporate documents will be “translated into Welsh” (with the assumption that they will originally be written in English - reveals the Assembly’s underlying view about the place of the two languages: English is the important language, and those whose language choice is Welsh can make do with using English like everybody else. Even more importantly, it shows that the Assembly has not started on the basis that both language shall be treated equally, but from a position where both languages can be treated differently, in contravention of the new Act. It’s clear that an effort has been made to make the Scheme appear otherwise, but the Scheme undoubtedly confirms English language services as essential - from the preparation of papers, minutes of all kinds and face-to-face services - while there will be a delay in receiving equivalent Welsh language services, or they will simply not exist.
The fact that the Assembly sees providing briefing papers to members in Welsh for committee work as innovative is quite surprising for several reasons. The fact that research papers will not be available in Welsh of course confirms that people will not have their alleged ‘right’ to use Welsh when taking part in discussions. Furthermore, the Scheme states: ‘We aim to communicate with Assembly Members regarding formal Assembly proceedings in the language of their choice or bilingually’, which of course means that all documents will not be provided in Welsh, and will therefore be directly in contravention to the requirements of the Act to realise the right to use the Welsh language in Assembly proceedings.
Far from complying with the new Act, the Scheme looks very similar to one which would have been prepared in order to attempt to satisfy the previous legal situation under the 1993 Language Act or the Government of Wales Act without the amendments made by the Official Languages Act.
The Record of Proceedings - Welsh and English simultaneously
The Record of Proceedings (Cofnod) was fully bilingual from the beginning of devolution in Wales until 2009. Since then, there was a mass campaign to return to a bilingual Cofnod, and over 1,500 people signed a petition on the issue. The Assembly is the heart of Welsh democracy; as a result, the Cofnod is one of the most important documents that is published so regularly, and it is a matter of the utmost importance to the status of the language that this document is fully bilingual when it is first published; a monolingual English draft, with a bilingual copy to follow, is not acceptable if there is to be parity between the languages. The position of publishing an English Cofnod within 24 hours, but with a delay of 5 working days for a bilingual Record, is completely unacceptable, and this duty needs to be amended so that a fully bilingual Record is ready within 24 hours, as happened without difficulty before 2009.
We note the Scheme refers to “progress[ing] towards a position where more documents, including the Record of Proceedings, are provided in both languages at the same time”. However, there is no timetable for publishing the Cofnod in both languages simultaneously while there are a number of dates for other commitments. What is the timetable for delivering that?
Skills Strategy - Absent from the Scheme
It was suggested during the committee discussions on the Scheme and the Bill that the Skills Strategy would be published at the same time as the Scheme. Bilingual skills are essential in order to implement the principles of the Scheme, but the Languages Scheme itself is extraordinarily weak in this respect. I would like to ask how you expect Assembly Members to assess whether there are sufficient human resources in order to deliver the Scheme without seeing the Skills Strategy as they discuss and vote on the Scheme.
Releasing Background Papers
It was with a degree of frustration that we learnt the Commission does not intend to release the papers presented to members of the Assembly Commission as they considered such an important issue as the organisation’s language scheme. Maybe there is a logic or explanation as to how the Scheme satisfies the Act with measures beyond those in the Scheme itself, but, looking at the document, we believe there are major doubts about whether the Scheme complies with the Act. For the sake of a comprehensive and open discussion this Wednesday in the Senedd, we believe there is a duty on the Commission to release the papers they considered.
We would like to emphasise, as a group which supported the “Yes’’ vote in 1999, that those who care for the language were persuaded that the organisation would be one that led the way for all other bodies in Wales in terms of its language policies. Considering the draft standards published by the Welsh Language Commissioner and the far better language schemes operated by a number of other organisations throughout the country, the promise of devolution is not being realised at the moment. The good name of the Assembly was damaged when it broke its language scheme for seventeen months. We do not wish to see the Assembly break the law with its language policy for the second time in a matter of a few years.
Given the importance of these matters, we hope you can send a response to this correspondence before Wednesday.
Yours sincerely,
Sian Howys
Cadeirydd Grwp Hawliau
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
cc: Rhodri Glyn Thomas AC, Keith Davies AC, Simon Thomas AC, Suzy Davies AC, Welsh Language Commissioner, Carwyn Jones AC
Appendix - Examples of clauses in the Official Languages Scheme which would break the Official Languages Act
Here are some of the clauses which we believe are contrary to the Official Languages Act.
(i) “An edited version of the Record of Proceedings is published on the Assembly’s website within 24 hours of the conclusion of Plenary. It includes contributions in the official languages spoken together with a translation of the Welsh contributions into English.”
(ii) “An edited draft of committee transcripts, with Welsh contributions translated into English, is published online within 10 working days..”
(iv) “A final edited transcript of committee proceedings, with Welsh contributions translated into English, is published online within 14 working days.”
(v) “Interpretation from Welsh to English is provided for Assembly Commission meetings on request.”
(vi) “Simultaneous interpretation from Welsh to English is available for cross party group meetings if requested.”
(vii) “Any materials (such as letterheads, business cards and surgery advertisements) of a nonparty political nature funded by the Assembly Commission are produced bilingually.”
(viii) “We aim to communicate with Assembly Members regarding formal Assembly proceedings in the language of their choice or bilingually”
(ix) “Posters or information sheets that are provided by third parties and that are displayed on
noticeboards on the Assembly estate are bilingual, or where a Welsh-language version has
not been provided, in English only.”
(xi) “We will make best use of technology to translate documents more quickly and efficiently, using that technology to progress towards a position where more documents, including the Record of Proceedings, are provided in both languages at the same time.”
(xii) “Innovations may include: ... providing suggested questions and, where possible, other parts of committee briefings simultaneously in both languages; agreeing with individual Members in advance of formal meetings the key sections of committee briefings that should be available in Welsh … exploring other ways of providing more research and legal briefing in Welsh in general”
(xiii) “For the purposes of Committee business video evidence is broadcast in the original language spoken with Welsh contributions accompanied by English subtitles. Transcripts of footage will be available in the original language with an interpretation from Welsh to English.”
(xix) all references to simultaneous translation from Welsh to English only instead of English to Welsh as well.
(xx) “All HR and other corporate forms and policies will be translated into Welsh when resources allow”.
(xxi) “Any contributions received that have been written in Welsh for ‘The Slate’, the internal staff magazine, will appear bilingually.”
A number of the above clauses refer to translation (written or simultaneous) from Welsh to English, without any reference to the other way around. The idea that the organisation would only be translating from Welsh to English confirms that the Welsh language has a secondary status to English and quite clearly that you are not treating them on the basis of equality.