Mae Cymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion wedi ysgrifennu at Gyngor Ceredigion, wedi iddyn nhw bleidleisio dros gadw polisi DM01, sydd yn golygu bod angen asesu effaith datblygiadau penodol ar y Gymraeg:
Annwl Ellen ap Gwynne / Gareth Lloyd
Hoffem gymeryd cyfle i gymeradwyo'r Cyngor am gadw polisi DM01 fel ag y mae, a sicrhau fod gan y Cyngor allu o hyd i gynnal asesiadau effaith iaith ar ddatblygiadau tai penodol.
Am y tro cyntaf erioed mae llai na hanner poblogaeth y sir yn gallu'r Gymraeg, yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2011; ac mae nifer o bobl ifanc yn gadael y sir yn ddeunaw oed, heb ddychwelyd.
Mae ystadegau cenedlaethol yn dangos nad yw yr un awdurdod lleol wedi gwneud defnydd helaeth o'u gallu i gynnal asesiadau felly hoffem eich hannog i arwain y ffordd, a dangos pwysigrwydd y Gymraeg a chymunedau Cymraeg i chi fel cyngor drwy wneud defnydd llawn o'r gallu hwn.
Yn Gywir,
Mae llythyr wedi mynd at y Llywodraethheyfd, yn galw am ganllawiau clir ar y ddeddf cynllunio newydd:
Byddwch yn ymwybodol gobeithio fod Cyngor Ceredigion wedi penderfynu cadw polisi DM01, sydd yn nodi bod angen cynnal asesiad o effaith datblygiad ar y Gymraeg mewn achosion penodol.
Mae'r ffaith bod Cabinet a Chynor llawn Ceredigion wedi cytuno i gadw'r polisi yn dystiolaeth, o lawr gwlad, o bwysigrwydd asesu effaith datblygiad ar y Gymraeg a chymunedau yn lleol.
Fel rhan o'u sylwadau am y Bil Cynllunio fe wnaeth Pwyllgor Amgylchedd, sydd yn bwyllgor trawsbleidiol, argymell bod cynghorwyr yn gallu ystyried effaith iaith ceisiadau cynllunio unigol – yn hynny o beth mae'r ffaith i gyngor Ceredigion gadw'r polisi hwn yn ategu hynny.
Yn fwy na hynny, mae'r Cyngor Sir yn cael ei roi mewn sefyllfa ble gallai wynebu costau cyfreithiol petai rhywun yn herio'r angen am asesiad effaith iaith, gan fod polisi cenedlaethol TAN20 yn dweud nad oes angen asesu effaith datblygiadau ar y Gymraeg.
Credwn felly bod angen i'r Llywodraeth ryddhau canllawiau newydd er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol yn sgil y newidiadau cyfreithiol sy'n dod i rym drwy'r Ddeddf Cynllunio diweddar. Allwn ni ddim parhau gyda'r ansicrwydd sy'n dechrau datblygu ar hyn o bryd. Credwn ei fod yn anochel, oherwydd bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol yn y gyfundrefn gynllunio, bydd angen sefydlu cyfundrefn o asesiadau effaith fel roeddem yn dadlau drosti yn ystod cyfnod pasio'r Ddeddf. Erfyniwn arnoch felly i weithredu'n gyflym er mwyn sicrhau bod y system newydd yn gweithio er lles y Gymraeg ar hyd a lled Cymru.
Yn Gywir