Cynnig i gau Ysgol Llanddona - gwrthwynebiad

 

YMATEB CYMDEITHAS YR IAITH I’R DDOGFEN YMGYNGHOROL AM Y CYNNIG I GAU YSGOL LLANDDONA

DATGANWN EIN GWRTHWYNEBIAD I’R CYNNIG – Y CYFEIRIR YN GYSON YN Y DDOGFEN ATO FEL “OPSIWN 3” – I GAU YSGOL LLANDDONA., A HYNNY AM Y RHESYMA CANLYNOL –

 

1)      Nid ydym yn credu fod yr ymgynghoriad statudol hwn yn ddilys, ac felly ni ddylid seilio unrhyw benderfyniad pell-gyrhaeddol ar y canlyniadau. Gwerthfawrogwn fod Cyngor Ynys Mon wedi mynd tu hwnt i’w dyletswyddau statudol trwy gynnal cyfres o gyfarfodydd anffurfiol i drafod dyfodol addysg gynradd yn neddwyrain yr ynys. Wedi cymryd penderfyniad, fodd bynnag, i ymgynghori’n statudol ar gynnig pendant, dyletswydd y Cyngor oedd crynhoi’r holl ddadleuon o blaid ac yn erbyn yn y ddogfen hon yn ymwneud a’r cynnig penodol i gau Ysgol Llanddona. Un o’r dyletswyddau a osodir ar Awdurdod Lleol (yn ol canllawiau’r llywodraeth ar ad-drefnu darpariaeth addysg mewn ardal) yw fod yn rhaid ystyried pob opsiwn arall heblaw am gau ysgol. Nid yw’n ddigonol i’r Cyngor ddadlau iddo ystyroied opsiynau eraill yn y cyfnod ymgynghori anffurfiol, oherwydd yr oedd y drafodaeth honno yng nghyd-destun trafod y ddarpariaeth addysg yn yr ardal yn gyffredinol. Yn yr ymgynghoriad statudol hwn, ar y llaw arall, yr ydym yn trafod cynnig penodol i gau ysgol benodol, a dyletswydd y Cyngor yn y ddogfen a oedd yn sail i’r ymgynghoriad oedd amlinellu pob opsiwn arall heblaw am gau’r ysgol gan esbonio paham nad oedd yn ffafrio dim o’r opsiynau hyn. Mae’r Cyngor wedi methu gwneud hyn.

2)      Mae opsiynau amgen i gau’r ysgol nad sydd wedi’u hystyried (hyd y gwyddom gan nad oes adran yn gwerthuso opsiynau amgen). Nid ystyriwyd y model a gynigiwyd yr haf diwethaf gan y cyn-Gomisiynydd Addysg yn Ynys Mon, Gareth Jones, o greu Bwrdd Dalgylch Mentr a Dysg (yn seiliedig yn yr achos hwn ar Ysgol Syr David Hughes a’r ysgolion cynradd yn ei bwydo). Amcangyfrifodd Mr Jones y byddai arbedion gweinyddol o dua £1 miliwn mewn dalgylch o wneud hyn – sef deg gwaith yn fwy na’r arian yr honnir y gellid ei arbed o gau Ysgol Llanddona a chawalu’r gymuned.

3)      Byddai cau Ysgol Llanddona’n ergyd annerbyniol i addysg y plant. Nid yn unig fod yr ysgol yn cyrraedd safonau “da” yn ol ESTYN, ond mae cynnig y Cyngor hefyd yn cyfeirio at yr angen am olwg strategol pellach ar addysg yn ne-dwyrain yr ynys. Mewn geiriau eraill, y bwriad yw torri ar draws addysg y plant trwy gau’r ysgol, ac yn fuan wedyn y byddent yn wynebu posibiliad real o orfod symud eto o ganlyniad i strategaeth newydd. Un cyfle a gaiff plentyn, ac ni ellir trin eu haddysg mewn modd anwadal fel hyn. Llawer gwell fydd disgwyl nes cwblhau’r arolwg strategol o addysg de-ddwyrain yr ynys ac WEDYN gweithredu unrhyw newidiadau angenrheidiol.

4)      Byddai effaith cau’r ysgol ar y gymuned ac ar y Gymraeg yn Llanddona mor niweidiol fel na ddylid mynd ymlaen. Mae’r asesiad effaith cymunedol cau’r ysgol – a luniwyd gan y cyngor ei hun – yn cydnabod y bydd cau ysgol yn atal teuluoedd ifainc rhag ymgartrefu yn yr ardal ond y bydd yn denu pobl sy’n dod i “chwilio am gymdogaeth dawel”. Mewn geiriau eraill, cydnabyddir y bydd cau’r ysgol yn prysuro proses o droi’r gymuned o fod yn gymuned hyfyw Gymraeg i fod yn ardal dawel ar gyfer ymfudwyr sy’n ymddeol. Ac eto, mae’r asesiad effaith iaith yn honni na bydd hyn yn niweidiol i’r Gymraeg yn yr ardal !!! Rhaid cwestiynu gwerth Asesiadau Effaith Iaith nad sydd ond yn ymarferion biwrocrataidd o dicio blychau. Gan fod llywodraethwr a rhai rhieni di-Gymraeg yn mynychu cyfarfodydd yn Llanddona, honnir mai effaith cadarnhaol ar yr iaith fyddai cau’r ysgol a symud pawb i Langoed. Dyma ymagwedd simplistaidd o dicio blychau unigol. Naill ai y byddai’r llywodraethwr a rhieni Cymraeg yn colli pob diddordeb mewn addysg o golli’r ysgol, neu fe fyddent yn symud i gyfarfodydd yn Llangoed. Mae’r asesiad yn gwbl ddi-ystyr ac mae’n amlwg mai niweidiol i’r iaith yw troi cymuned yn ardal dawel o fewnfudwyr wedi ymddeol. Ar hyn o bryd y mae’r mewnfudwyr ifainc a’r bobl frodorol yn Llanddona’n cydweithio gyda’r ysgol yn ffocws Cymraeg iddynt. Yn wyneb canlyniadau’r Cyfrifiad mae angen strategaeth holistaidd i adfer ein cymunedau Cymraeg. Yn hyn o beth, bydd eisiau ychwanegu at ddyletswyddau ysgolion, nid eu cau nhw.

Ffred Ffransis

Cymdeithas yr Iaith    25.2.13