Cynyddu’r Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi

Ymgynghoriad ar Bwerau Disgresiwn i Awdurdodau Lleol Gynyddu’r Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi

Croesawn yr ymgynghoriad hwn a chefnogwn yn frwd y cynnig i adael i gynghorau sir godi treth uwch ar ail dai.

Mae’r polisi hwn yn un o’r tri deg wyth o argymhellion yn ein Maniffesto Byw, dogfen bolisi fanwl a luniwyd gan ein haelodau ac yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, er mwyn cryfhau’r Gymraeg a’i chymunedau dros y blynyddoedd i ddod.

Mae barn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwbl glir: pwrpas y gyfundrefn dai yw darparu cartrefi i bobl fyw ynddynt yn eu cymunedau lleol, yn hytrach na buddsoddiad er mwyn creu elw i hapfasnachwyr.

Mae’n glir bod ail dai yn effeithio’n negyddol ar wahanol agweddau o fywyd cymunedol, megis cynaliadwyedd gwasanaethau lleol a’r Gymraeg. Dylid rhoi’r hyblygrwydd i gynghorau sir adlewyrchu’r effaith honno yn eu polisïau treth. Byddai treth gyngor uwch yn fanteisiol ar gyfer cadw gwasanaethau mewn cymunedau lleol ac i fusnesau lleol. Yn wir, rydym wedi bod yn ymgyrchu am hyn ers y saithdegau.

Credwn fod ail gartrefi yn cael effaith andwyol ar gynaliadwyedd gwasanaethau lleol, ac yn arwain at oblygiadau ehangach i gymunedau lleol gan eu bod yn chwyddo prisiau tai y tu hwnt i’r hyn sy’n fforddiadwy i bobl leol yn ogystal â thanseilio hyfywedd cymunedau a’u cyfleusterau.

Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, fe welwyd cwymp sylweddol yn nifer y cymunedau lle mae dros 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae gadael i gynghorau godi treth uwch ar ail dai yn rhan o’r pecyn o newidiadau i'r system gynllunio ac economaidd sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod pawb yn cael byw yn Gymraeg.

Ymatebion i gwestiynau penodol yr ymgynghoriad

C1: A ddylai Awdurdodau Lleol yng Nghymru gael disgresiwn i godi mwy na chyfradd lawn safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi?

Dylent, yn sicr. Credwn fod y polisi yn rhan o’r pecyn o newidiadau i'r system gynllunio ac economaidd sydd eu hangen er mwyn cryfhau cymunedau Cymru a’r Gymraeg.

C2: Beth ydych chi’n meddwl fyddai manteision neu anfanteision codi treth gyngor ychwanegol ar ail gartrefi i gymunedau lleol, neu i Gymru gyfan?

Byddai nifer o fanteision i bolisi o’r fath:

  • darparu dull o godi arian i gynghorau er mwyn lliniaru effeithiau'r farchnad rydd megis prisiau tai rhy ddrud;

  • adlewyrchu yn well y gost yn nhermau cyfleusterau cymdeithasol, busnesau lleol a diffyg tai fforddiadwy a achosir gan ail dai;

  • yn gyffredinol byddai’n ehangu cyflenwad tai fforddiadwy i bobl leol gan leihau allfudo o ardaloedd Cymraeg eu hiaith.

C3: Beth yw’r gyfradd uchaf o dreth gyngor ychwanegol y dylid ei chodi ar ail gartrefi yn eich barn chi?

Dylai fod hyblygrwydd gan gynghorau sir i godi treth cyngor i ba lefel bynnag a ddymunant, rydym wedi argymell 200% yn ein Maniffesto Byw.

C4: Ydych chi'n meddwl y dylai cyfradd uchaf y dreth gyngor fod yr un fath ar gyfer ail gartrefi ac ar gyfer eiddo gwag hirdymor?

Nid oes sylwadau gennym.

C5 Ydych chi’n meddwl y dylai’r dreth ychwanegol gael ei gosod ar yr un lefel ar draws holl ardal Awdurdod Lleol?

Dylai'r dreth gael ei gosod ar yr un lefel ar draws holl ardal Awdurdod Lleol. Os yw'r lefel ddim ond yn berthnasol mewn rhai llefydd (e.e. yn y pentrefi lle mae canran benodol o ail gartrefi) gallai pobl sydd am brynu ail gartrefi symud i bentrefi eraill lle mae'r gyfradd yn is, gan chwyddo prisiau’r tai yn y pentrefi newydd.  Fyddai hynny ddim ond yn symud y broblem o gwmpas yr ardal, heb arwain at ostyngiad yn nifer yr ail gartrefi.

C6: Ai dim ond i fathau penodol o ail gartrefi y dylai'r dreth ychwanegol fod yn berthnasol?

Nage, dylid cymryd yn ganiataol bod y dreth ychwanegol yn berthnasol i bob ail gartref, heblaw mewn rhai amgylchiadau penodol. Tasai’r drefn yn cymryd yn ganiataol nad yw'r gyfradd yn berthnasol i unrhyw ail gartref heblaw mewn rhai amgylchiadau penodol, byddai’n gadael awdurdodau lleol mewn sefyllfa lawer gwannach, gan y byddai'n creu rhagor o gyfleon i ddadlau bod ail gartef ddim yn dod o fewn un o'r categorïau penodol sy'n gorfod talu'r gyfradd uwch.  

C7: A ddylai mathau penodol o ail gartrefi gael eu heithrio o’r gyfradd ychwanegol?

Gellir dadlau y byddai'n gwneud synnwyr i eithrio rhai mathau penodol o'r gyfradd ychwanegol, er, yn amlwg, byddai rhaid bod yn ofalus wrth ystyried oblygiadau creu gormod o eithriadau a bylchau yn y gyfundrefn.  Y rhai amlwg yw:

  • Tai sy'n adfeiliedig a does dim modd byw ynddyn nhw (e.e. does dim to neu dyw'r to neu'r lloriau ddim yn ddiogel) ac sy'n wag ers amser maith (e.e. 50 blynedd).  Er na fyddwch am roi rheswm i rywun i beidio cynnal a chadw tŷ er mwyn osgoi treth, ar y llaw arall, mae angen ystyried ffermydd gyda hen fwthyn ar y tir sy'n adfail ers blynyddoedd (cyn i'r teulu presennol ddechrau ffermio'r tir) a does dim digon o arian gan y perchnogion i'w atgyweirio. Teimlwn y gallai fod yn annheg eu cosbi am hyn.  Fodd bynnag, dylai fod yn bosib i'r cyngor adfeddiannu ac atgyweirio annedd sydd ddim mewn cyflwr digon da i fyw ynddi ar hyn o bryd ond y byddai'n bosib ei hatgyweirio yn weddol hawdd (h.y. fyddai dim angen ailadeiladu'r rhan fwyaf ohoni).

  • Ail gartrefi lle mae rhywun yn byw yn y ddau gartref yn barhaol, er enghraifft, mae cwpl yn berchen ar dŷ yn Aberystwyth a fflat yng Nghasnewydd oherwydd bod y gŵr yn gweithio yn Aberystwyth a'r wraig yn gweithio yng Nghasnewydd, ond mae'r wraig yn teithio'n ôl i'r cartref teuluol yn Aberystwyth i fod gyda'r gŵr a'u plant dri diwrnod yr wythnos.  Fodd bynnag, dylai pellter y daith rhwng y ddau weithle gael ei ystyried wrth benderfynu a yw'r trefniant hwn yn rhesymol - h.y. petai hi'n rhesymol i ddisgwyl i un aelod o'r cwpl deithio'n ôl o'r cartef teuluol yn ddyddiol, ni ddylai'r ail gartref gael ei eithrio o'r gyfradd ychwanegol;

  • Anecs/rhandy gwag sydd i bob pwrpas yn rhan o dŷ arall ac nid oes modd ei rentu/ei werthu fel annedd ar wahân, er enghraifft, mae teulu wedi adeiladu estyniad sy'n cynnwys fflat ar eu tŷ i fam-gu oedd rhy hen i fyw ar ei phen ei hun.  Erbyn hyn, mae'r fam-gu wedi marw ond nid oes modd rhentu/gwerthu'r fflat ar wahân oherwydd cyfyngiadau cynllunio a/neu mae systemau dŵr a thrydan y fflat yn rhan o systemau dŵr a thrydan y prif dŷ ayyb;

  • Os yw carafán sefydlog/chalet mewn maes carafannau/parc gwyliau lle nad oes modd byw yno drwy'r flwyddyn, mae yna ddadl nad oes modd ystyried y garafán/chalet yn annedd barhaol a allai gael ei defnyddio gan rywun sydd angen cartref parhaol.  Felly, gellid dadlau y dylai carafannau/chalets o'r fath gael eu heithrio o'r gyfradd ychwanegol.  Fodd bynnag, os yw'n bosib byw yn y maes carafannau/parc gwyliau drwy'r flwyddyn, yna dyw carafannau sefydlog neu chalets yno ddim yn wahanol i unrhyw fath o annedd arall lle mae'n bosib byw drwy'r flwyddyn ac felly dylid eu hystyried yn ail gartrefi fel tŷ neu fflat;

  • Tŷ oedd yn perthyn i rywun sydd wedi marw'n ddiweddar - ymddengys yn rhesymol i'r perchennog newydd sydd wedi'i etifeddu gael cyfnod o amser i wneud trefniadau i werthu neu symud i'r tŷ yn barhaol.  Fodd bynnag, os ydyn nhw'n penderfynu cadw'r tŷ fel ail gartef, mae'n gwneud synnwyr bod rhaid iddynt dalu'r gyfradd ychwanegol;

  • Adeiladau (e.e. hen ysguboriau) sydd wedi cael eu haddasu'n dai gwyliau fel busnes ac nid oes modd eu rhentu fel anheddau parhaol o dan amodau'r caniatâd cynllunio.  Ar y llaw arall, os yw cais i newid defnydd y tai hyn yn llwyddiannus ac mae'n dod yn bosib i'w defnyddio fel anheddau parhaol, ni ddylent gael eu heithrio o'r gyfradd ychwanegol wedi i hyn ddigwydd.

C8: Sut y gellid defnyddio unrhyw gyllid ychwanegol i gefnogi cymunedau lleol sydd â niferoedd uwch o ail gartrefi?

Credwn y dylai fod yn benderfyniad i gynghorau sir unigol. Fodd bynnag, credwn y dylai fod rhagor o gronfeydd i helpu pobl leol, a phobl ifanc yn benodol, i fforddio tai yn eu hardaloedd lleol.

C9 A oes gennych chi unrhyw bwyntiau eraill rydych yn dymuno eu codi nad ydynt wedi cael sylw’n barod yn y ddogfen ymgynghori hon?

Gweler y cyflwyniad uchod, yn benodol, pwysigrwydd cyflwyno polisi o’r fath o ran yr effaith ar gymunedau Cymraeg a chyflwr y Gymraeg yn ein cymunedau’n gyffredinol.

Grŵp Cymunedau Cynaliadwy

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg